Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr

Diweddarwyd 2 April 2024

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

Gallwch chwilio am eiriau neu ymadroddion penodol yn y cyfarwyddyd hwn trwy wasgu ‘Control’ ac ‘F’ ar eich bysellfwrdd os ydych yn edrych ar y cyfarwyddyd hwn ar-lein.

Cynnwys

Ni all atwrnai wneud cais am gyfyngiad safonol Ffurf RR. Fodd bynnag, pan fo’r rhoddwr yn unig berchennog, gall yr atwrnai wneud cais am y cyfyngiad ansafonol a ganlyn lle mae’r rhoddwr/perchennog wedi colli galluedd ond wedi cyflawni atwrneiaeth yn flaenorol:

CYFYNGIAD: Nid oes gwarediad o’r ystad gofrestredig gan berchennog yr ystad gofrestredig i’w gwblhau trwy gofrestriad heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan drawsgludwr yn cadarnhau bod y trawsgludwr yn fodlon mai’r person(au) a gyflawnodd y ddogfen a gyflwynwyd i’w chofrestru fel atwrnai/atwrneiod ar gyfer perchennog yr ystad gofrestredig yw’r un person(au) â’r atwrnai/atwrneiod a enwir yn yr atwrneiaeth arhosol/parhaus [dyddiad].

Dylai’r atwrnai wneud cais am y cyfyngiad yn enw’r perchennog cofrestredig, a dylid cynnwys tystiolaeth o’r atwrneiaeth (naill ai atwrneiaeth barhaus wedi ei chofrestru’n briodol neu atwrneiaeth arhosol gofrestredig) gyda’r cais ynghyd â thystysgrif gan drawsgludwr bod y rhoddwr/perchennog wedi colli galluedd ac nad yw’r atwrneiaeth wedi ei dirymu.

1.1 Rhybuddion a chyfyngiadau

1.2 Materion heb eu trin yn y cyfarwyddyd hwn

1.3 Blaenoriaeth buddion sy’n cystadlu â’i gilydd: pam mae angen gwarchod buddion trydydd parti

1.4 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau

1. Cyflwyniad

1.1 Rhybuddion a chyfyngiadau

Mae Deddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu 2 fath o gofnod ar gyfer gwarchod buddion trydydd parti sy’n effeithio ar ystadau ac arwystlon cofrestredig: rhybuddion a chyfyngiadau.

  • Cofnod yn y gofrestr o ran baich budd sy’n effeithio ar ystad neu arwystl cofrestredig yw rhybudd (adran 32(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
  • Cofnod yn y gofrestr yw cyfyngiad sy’n atal neu’n rheoli gwneud cofnod yn y gofrestr o ran unrhyw warediad neu warediad o fath penodedig (adran 40(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn egluro natur ac effaith rhybuddion a chyfyngiadau. Mae’n rhoi cyngor ynghylch pa bryd y cânt eu cofnodi a sut i wneud cais am gofnod. Mae hefyd yn egluro sut mae modd dileu neu newid rhybuddion a chyfyngiadau presennol.

Roedd Deddf Cofrestru Tir 1925 hefyd yn darparu ar gyfer cofnodi rhybuddion a chyfyngiadau i warchod buddion trydydd parti. Roedd modd gwarchod buddion hefyd trwy gofnodion a elwid yn rhybuddiadau yn erbyn delio a gwaharddiadau. Caiff effaith cofnodion o’r fath o dan ddarpariaethau trosiannol Deddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003 ei hegluro yn Darpariaethau trosiannol.

Cyn gwneud cais i Gofrestrfa Tir EF i warchod budd trydydd parti, dylech ofyn y cwestiynau canlynol ichi’ch hunan:

  • Pa fath o fudd sy’n cael ei warchod? (gweler Atodiad A am ragor o wybodaeth am y mathau mwyaf cyffredin o fuddion).
  • A ellir gwarchod y budd trwy rybudd, ac a fyddai hyn yn fwy priodol? Er enghraifft, bydd rhybudd yn rhoi blaenoriaeth (ar yr amod bod y budd yn ddilys) ond nid yw cyfyngiad yn gwneud hynny.
  • Ai dim ond trwy gyfyngiad y gellir gwarchod y budd? Er enghraifft, dim ond trwy gyfyngiad y gellir gwarchod budd o dan ymddiried o dir (adran 33 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Gweler Buddion nad oes modd eu gwarchod trwy rybudd am ragor o wybodaeth am y buddion na ellir eu gwarchod trwy rybudd.

Os yw’n ymddangos mai cyfyngiad yw’r math priodol o warchodaeth, dylech hefyd ystyried y cwestiynau pellach a nodir yn Pethau i’w hystyried cyn gwneud cais am gyfyngiad.

1.2 Materion heb eu trin yn y cyfarwyddyd hwn

Nid yw’r cyfarwyddyd hwn yn rhoi cyngor ynghylch buddion trydydd parti y mae’n rhaid eu cwblhau trwy gofrestru, fel arwystlon cyfreithiol, prydlesi o dir am dros 7 mlynedd, neu grant penodol hawddfreintiau cyfreithiol allan o dir cofrestredig. Mae darpariaethau gwahanol yn berthnasol i rybuddion a chyfyngiadau methdaliad, ac i rybuddion o ran hawliau cartref (priodasol); mae gwybodaeth am y rhain i’w chael mewn mannau eraill ac nid yw’n cael ei hailadrodd yn y cyfarwyddyd hwn.

Cyfeiriwch at y cyfarwyddiadau ymarfer canlynol i gael rhagor o wybodaeth am bynciau perthnasol eraill.

1.3 Blaenoriaeth buddion sy’n cystadlu – pam y mae angen gwarchod buddion trydydd parti

Amcan y gyfundrefn gofrestru teitlau a gyflwynwyd gan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yw gwneud y gofrestr yn adlewyrchiad cyflawn a manwl gywir o gyflwr teitl ystad gofrestredig ar unrhyw adeg arbennig (paragraff 1.5, Comisiwn y Gyfraith 271 – Land registration for the twenty-first century – A conveyancing revolution).

Gall perchennog ystad gofrestredig wneud bron unrhyw fath o warediad a ganiateir gan y gyfraith gyffredinol adran 23(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a gall rhywun sy’n delio â’r perchennog gymryd yn ganiataol bod eu pwerau yn ddigyfyngiad heblaw am unrhyw gyfyngiad sy’n cael ei adlewyrchu gan gofnod yn y gofrestr neu a osodwyd gan neu o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ei hun (adran 26 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Lle bo gan fwy nag un parti fudd mewn ystad neu arwystl cofrestredig, y rheol gyffredinol sy’n penderfynu blaenoriaeth hawliad pob parti yw bod safle pob budd yn unol â dyddiad ei greu. Ni fydd gwarediad diweddarach yn effeithio ar rywun sydd â budd eisoes (adran 28 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Sylwch fod rheolau cyffredinol gwahanol yn llywodraethu’r flaenoriaeth rhwng buddion a grëwyd cyn y daeth Deddf Cofrestru Tir 2002 i rym.

Fodd bynnag, mae un eithriad pwysig. Trwy gofrestru eu budd, bydd rhywun sy’n caffael gwarediad cofrestradwy am werth yn gohirio blaenoriaeth unrhyw fudd arall sydd heb ei warchod trwy gofnodi rhybudd yn y gofrestr (adran 29 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Nid yw gwarediadau na wnaed am werth neu a wnaed am gydnabyddiaeth mewn enw yn unig yn cael yr effaith hon). Mewn geiriau eraill, ni fydd buddion sydd heb eu nodi yn effeithio arnynt. Nid yw pob budd yn cael ei ohirio fel hyn (adran 29(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mae gan rai buddion ‘statws gor-redol’ a gallant ymrwymo rhywun sy’n caffael gwarediad cofrestradwy am werth hyd yn oed os nad ydynt wedi’u cofnodi yn y gofrestr. Fodd bynnag, mae gan lawer llai o fuddion statws gor-redol o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 nag oedd o dan Ddeddf Cofrestru Tir 1925. Cyfeiriwch at gyfarwyddyd ymarfer 15: buddion gor-redol a’u dadlennu

Bydd rhybudd a gofnodwyd yn y gofrestr o ran budd trydydd parti yn gwarchod ei flaenoriaeth yn erbyn gwarediad cofrestradwy dilynol am werth. Bydd cyfyngiad, trwy atal cofrestru gwarediad cofrestradwy dilynol am werth, yn atal blaenoriaeth budd trydydd parti rhag cael ei ohirio.

1.4 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau

Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau a anfonir gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF y bydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

2. Rhybuddion

Cynnwys

2.1 Natur ac effaith rhybuddion

2.2 Buddion nad oes modd eu gwarchod trwy rybudd

2.3 Cofnodi rhybuddion yn y gofrestr

2.3.1 Gwahanol fathau o rybudd

2.3.2 Rhybuddion a gytunwyd

2.3.3 Rhybuddion unochrog

2.4 Pa fath o rybudd i wneud cais amdano

2.4.1 Buddion nad oes modd eu gwarchod ond trwy rybudd a gytunwyd

2.4.2 Materion i’w hystyried wrth benderfynu pa fath o rybudd i wneud cais amdano

2.5 Gwneud cais am rybudd a gytunwyd

2.5.1 Y Ffurflen gais a’r ffïoedd

2.5.2 Gwneud ceisiadau gyda chydweithrediad y perchennog perthnasol

2.5.3 Ceisiadau ar sail tystiolaeth yn hytrach na chydsyniad

2.5.4 Manylion natur hawliad y ceisydd

2.5.5 Gwarchod cyfrinachedd y budd

2.6 Gwneud cais am rybudd unochrog

2.6.1 Y ffurflen gais a’r ffi

2.6.2 Manylion natur hawliad y ceisydd

2.6.3 Enwi buddiolwr y rhybudd

2.7 Dileu a thynnu ymaith rhybuddion o’r gofrestr

2.7.1 Dileu rhybudd (heblaw rhybudd unochrog)

2.7.2 Dileu rhybudd unochrog

2.7.3 Tynnu ymaith rhybudd unochrog

2.7.4 Rhybudd o ran arwystl sy’n cael ei gwblhau wedi hynny trwy gofrestriad

2.8 Amrywio buddion a nodwyd

2.8.1 Amrywio budd a nodwyd

2.8.2 Cofrestru buddiolwr rhybudd unochrog newydd neu ychwanegol).

2.1 Natur ac effaith rhybuddion

Cofnod yn y gofrestr yw rhybudd o ran baich budd sy’n effeithio ar ystad neu arwystl cofrestredig.

Bydd rhybuddion bron bob amser yn cael eu cofnodi yng nghofrestr arwystlon yr ystad y maent yn berthnasol iddi (rheolau 9(a) ac 84(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Caiff rhybuddion methdaliad sy’n effeithio ar berchennog ystad gofrestredig eu cofnodi yn y gofrestr perchnogaeth ond nid ydynt yn cael eu trafod yn y cyfarwyddyd hwn). Lle bo rhybudd yn cael ei gofnodi o ran budd sy’n effeithio ar arwystl cofrestredig bydd yn cyfeirio’n benodol at y cofnodion perthnasol i’r arwystl o dan sylw.

Mae effaith rhybudd yn gyfyngedig iawn. Nid yw cofnodi rhybudd yn gwarantu bod y budd y mae’n ei warchod yn un dilys na’i fod yn bodoli hyd yn oed. Bydd rhybudd dim ond yn sicrhau na fydd blaenoriaeth y budd a warchodwyd yn cael ei ohirio awtomatig ar gofrestriad gwarediad cofrestradwy dilynol am werth, os yw’r budd yn ddilys.

Os oedd gan fudd statws gor-redol cyn cael ei nodi yn y gofrestr, bydd yn colli’r statws hwnnw pan gaiff y rhybudd ei gofnodi (adran 29(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mae’r warchodaeth a ddaw trwy gofnodi rhybudd yr un fath â’r hyn ddaw gyda statws gor-redol. Fodd bynnag, dylai pwy bynnag sy’n elwa ar y budd fod yn ymwybodol, unwaith y nodwyd y budd, nad oes modd ailennill ei statws gor-redol hyd yn oed os caiff y rhybudd ei ddileu.

2.2 Buddion nad oes modd eu gwarchod trwy rybudd

Nid oes modd gwarchod rhai buddion trwy rybudd, sef:

  • buddion o dan ymddiried tir (adran 33(a)(i) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
  • buddion o dan setliad o dan Ddeddf Tir Setledig 1925 (adran 33(a)(ii) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
  • ystadau prydlesol mewn tir am gyfnod o dair blynedd neu lai, heblaw am unrhyw rai sy’n gorfod cael eu cofrestru. Adran 33(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Rhaid dal i gofrestru rhai prydlesi byrrach, fel prydlesi rifersiwn sydd i ddod i rym dros dri mis ar ôl eu rhoi ac, os cânt eu rhoi allan o dir cofrestredig, byddant yn cael eu nodi yn erbyn teitl y prydleswr
  • cyfamodau cyfyngu a wnaed rhwng prydleswr a phrydlesai sy’n berthnasol yn unig i’r eiddo ac adeiladau a brydleswyd (adran 33(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
  • buddion y gellir eu cofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 (adran 33(d) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
  • buddion arbennig mewn hawliau glo, pyllau glo a chodi glo (adran 33(e) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
  • prydlesi partneriaeth gyhoeddus breifat (Adran 90(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Prydlesi partneriaeth gyhoeddus breifat yw’r rhai sy’n berthnasol yn benodol i gludiant yn Llundain o dan Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999)
  • buddion o dan denantiaeth tai cymdeithasol perthnasol (adran 33(ba) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002

I’r graddau y mae angen gwarchod y buddion hyn trwy gofnod yn y gofrestr (bydd gan rai ohonynt statws gor-redol fel nad oes angen eu gwarchod ymhellach), yr unig warchodaeth sydd ar gael yw trwy wneud cais am gyfyngiad.

Nid yw trefniant contractiol llwyr i dalu cyfran o enillion gwerthiant teitl cofrestredig i berson yn rhoi budd perchnogol i’r person hwnnw (Lynton International Ltd v Noble [1991] 63 P & CR 452) ac felly ni ellir ei warchod trwy rybudd.

2.3 Cofnodi rhybuddion yn y gofrestr

2.3.1 Gwahanol fathau o rybudd

Mae modd cofnodi rhybuddion yn y gofrestr o dan amgylchiadau amrywiol. Er enghraifft bydd y cofrestrydd yn cofnodi rhybuddion priodol yn ystod cofrestriad cyntaf (rheol 35(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003) ac fel rhan o brosesu rhai mathau o warediad cofrestradwy (er enghraifft, prydlesi o dir – gweler paragraff 3(2)(b) Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Gall rhywun sy’n hawlio budd wneud cais i’r cofrestrydd gofnodi rhybudd hefyd.

Gall cais i gofnodi rhybudd fod naill ai am:

  • rybudd a gytunwyd
  • rybudd unochrog

Mae gwahanol drefnau ar gyfer cofnodi rhybuddion a gytunwyd a rhybuddion unochrog ac i ddileu’r cofnodion ar ôl iddynt gael eu gwneud. Mae ffurfiau’r cofnodion yn y gofrestr yn wahanol hefyd. Fodd bynnag, effaith pob math o rybudd yw gwarchod blaenoriaeth y budd y maent yn berthnasol iddo, fel y trafodwyd yn Natur ac effaith rhybuddion.

Mae’r term ‘rhybudd a gytunwyd’ dim ond yn berthnasol i rybuddion a gofnodwyd yn dilyn cais i’r cofrestrydd o dan adran 34(2)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Fodd bynnag, unwaith y bydd cofnod yn y gofrestr, bydd holl rybuddion heblaw rhybuddion unochrog yn cael eu trin yn yr un modd â rhybuddion a gytunwyd. Wrth gyfeirio at rybuddion a gofnodwyd yn y gofrestr eisoes, mae’r cyfarwyddyd hwn yn ffafrio cyfeirio at ‘rybuddion (heblaw rhybuddion unochrog)’ yn hytrach nag at ‘rybuddion a gytunwyd’, i osgoi dryswch; caiff terminoleg debyg ei mabwysiadu yn Rheolau Cofrestru Tir 2003.

2.3.2 Rhybuddion a gytunwyd

Gellir cofnodi rhybudd a gytunwyd yn y gofrestr dim ond:

Nid oes rhaid i ni gyflwyno rhybudd i’r perchennog perthnasol cyn cymeradwyo cais am rybudd a gytunwyd sydd heb ei wneud gyda chydweithrediad y perchennog. Yn y rhan fwyaf o achosion rydym yn penderfynu’r cais ar y dystiolaeth a gyflwynwyd heb gynnwys y perchennog. Fodd bynnag, os yw’r cais yn seiliedig ar dystiolaeth yn hytrach na chydweithrediad perchennog, pan fyddwn yn cwblhau’r cais rydym bob amser yn rhoi gwybod i’r perchennog y gwnaed y cofnod. Rhaid i gofnodion rhybuddion a gytunwyd roi manylion y budd maent yn ei warchod. Yn aml caiff hyn ei wneud trwy gyfeirio at ddogfen sy’n disgrifio, neu a greodd, y budd. Gellir ffeilio copi o’r ddogfen neu’r ddogfen ei hun fel ei bod ar gael i’w harchwilio. Cyfeiriwch at gyfarwyddyd ymarfer 11: archwiliad a chais am gopïau swyddogol i gael rhagor o wybodaeth am fynediad cyhoeddus at ddogfennau sy’n cael eu dal gan y cofrestrydd. Gweler hefyd Materion i’w hystyried wrth benderfynu pa fath o rybudd i wneud cais amdano.

Enghraifft o gofnod rhybudd a gytunwyd fyddai:

“(22.01.2004) Contract i werthu dyddiedig 15 Hydref 2003 o blaid James Dylan Parry.

NODYN: Copi yn y ffeil.”

Mae’r dyddiad mewn cromfachau ar ddechrau’r cofnod yn rhoi’r dyddiad pryd y tybiwyd y gwnaed y cofnod. Hwn fydd y dyddiad y derbyniwyd y cais am y rhybudd. Gweler rheol 20(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Mae rhybudd a gytunwyd yn rhoi rhybudd o’r budd y mae’n berthnasol iddo; nid adnabod buddiolwr y budd hwnnw yw ei ddiben ac nid oes modd nodi disgyniad teitl i fudd a warchodwyd trwy rybudd a gytunwyd.

Unwaith y bydd cofnod yn y gofrestr, ni fydd unrhyw rybudd heblaw rhybudd unochrog yn cael ei ddileu os nad yw’r cofrestrydd yn fodlon y daeth y budd a warchodwyd i ben, neu fod y budd sy’n cael ei hawlio yn annilys fel arall. Rhaid i rywun sy’n gwneud cais i ddileu’r rhybudd gyflwyno tystiolaeth i ddarbwyllo’r cofrestrydd mai felly y mae.

2.3.3 Rhybuddion unochrog

Mae modd cofnodi rhybudd unochrog heb gydsyniad y perchennog perthnasol. Nid yw’r ceisydd yn gorfod darbwyllo’r cofrestrydd bod eu cais yn ddilys ac nid oes angen iddynt gefnogi eu hawl i’r budd gydag unrhyw dystiolaeth. Fodd bynnag, bydd y cofrestrydd yn sicrhau bod y budd sy’n cael ei hawlio o fath all gael ei warchod trwy rybudd unochrog.

Nid yw’r perchennog perthnasol yn cael eu hysbysu o’r cais tan ar ôl i’r cofnod gael ei wneud fel na fyddant yn gallu gwrthwynebu’r cais fel arfer. Fodd bynnag, byddant bob amser yn cael eu hysbysu ar ôl cwblhau’r cais. Gallant wedyn wneud cais ar unrhyw adeg i ddileu’r rhybudd a mynnu, trwy wneud hynny, bod pwy bynnag sy’n hawlio mantais y budd gwarchodedig yn profi dilysrwydd eu hawl.

Mae dwy elfen i gofnod rhybudd unochrog: mae’r rhan gyntaf yn rhoi manylion cryno o’r budd a warchodwyd gan nodi bod y cofnod yn rhybudd unochrog; mae’r ail ran yn rhoi enw a chyfeiriad pwy bynnag a nodwyd gan y ceisydd fel buddiolwr y rhybudd. Mae’r wybodaeth hon yn angenrheidiol gan mai’r buddiolwr fydd yn cael y rhybudd ac yn gorfod profi dilysrwydd y budd os yw’r perchennog perthnasol yn gwneud cais i ddileu’r rhybudd.

Enghraifft o gofnod rhybudd unochrog fyddai:

“(22.01.2004) RHYBUDD UNOCHROG o ran contract i werthu dyddiedig 15 Hydref 2003 a wnaed rhwng (1) Sandra Jane Kemp a (2) James Dylan Parry.

(22.01.2004) BUDDIOLWR: James Dylan Parry o 23 Y Nant, Tre-don, Canolbarth XX1 3AB.”

Mae’r dyddiad mewn cromfachau ar ddechrau rhan gyntaf y cofnod yn rhoi’r dyddiad pryd yr ystyriwyd y gwnaed y cofnod.

Mae’r dyddiad mewn cromfachau ar ddechrau ail ran y cofnod yn cynrychioli’r dyddiad pryd y cofnodwyd y buddiolwr presennol o ran y rhybudd.

Os yw cofnod rhybudd unochrog i’w wneud o ran cytundeb, rhaid iddo gynnwys manylion am yr hyn y mae’r cytundeb yn ymwneud ag ef, er enghraifft:

“(22.01.2004) RHYBUDD UNOCHROG o ran Cytundeb dyddiedig 15 Hydref 2003 a wnaed rhwng (a) Sandra Jane Kemp a (2) James Dean Perry mewn perthynas â pherchnogaeth wal ar derfyn gogleddol tir yn y teitl hwn.

(22.01.2004) BUDDIOLWR: James Dean Perry o 23 Y Nant, Tre-don, Canolbarth XX1 3AB.”

2.4 Pa fath o rybudd i wneud cais amdano

2.4.1 Buddion nad oes modd eu gwarchod ond trwy rybudd a gytunwyd

Tra gall y ceisydd benderfynu a yw am wneud cais am rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog yn y rhan fwyaf o achosion, o ran unrhyw rai o’r buddion canlynol ni all ceisydd wneud cais ond am rybudd a gytunwyd (rheol 80 o Reolau Cofrestru Tir 2003), sef:

  • hawliau cartref (gweler cyfarwyddyd ymarfer 20: ceisiadau o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 i gael rhagor o fanylion)
  • arwystl Cyllid a Thollau EF o ran atebolrwydd treth etifeddiant
  • budd yn deillio yn unol â gorchymyn o dan Ddeddf Mynediad at Dir Cyfagos 1992
  • amrywiad i brydles trwy neu o dan orchymyn a wnaed o dan adran 38 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (gan gynnwys unrhyw amrywiad ar sail newidiadau trwy orchymyn o dan adran 39(4) o’r Ddeddf honno)
  • hawl gyhoeddus
  • hawl yn ôl defod (Hawl yn ôl defod yw un sy’n cael ei mwynhau gan rai neu holl drigolion bro arbennig)

2.4.2 Materion i’w hystyried wrth benderfynu pa fath o rybudd i wneud cais amdano

Nid oes unrhyw wahaniaeth rhwng blaenoriaeth rhybudd unochrog a rhybudd a gytunwyd.

Gall rhybudd a gytunwyd fod yn well gan geisydd, os gallant gael cydsyniad y perchennog neu os gallant argyhoeddi’r cofrestrydd bod eu cais yn ddilys yn absenoldeb cydsyniad.

Lle bo’r ceisydd yn methu cael cydsyniad y perchennog perthnasol ac nad yw’n amlwg y bydd y dystiolaeth yn ddigonol i argyhoeddi’r cofrestrydd o ddilysrwydd eu hawliad, gall y ceisydd ddewis gwneud cais am rybudd unochrog oherwydd bydd y budd a hawlir yn cael ei warchod o’r amser y gwneir y cais.

Gallai’r ceisydd ddewis gwneud cais am rybudd unochrog hefyd wrth geisio gwarchod budd o natur fasnachol sensitif os yw am fanteisio ar gyfrinachedd geiriad cyfyngedig cofnod y rhybudd unochrog.

Mewn rhai achosion bydd y ffaith bod enw a chyfeiriad buddiolwr rhybudd unochrog yn cael eu cofnodi yn y gofrestr yn gwneud y ffurf honno ar gofnod yn ddewis gwell. Gellir diweddaru’r manylion hyn os yw’r buddiolwr yn newid (gweler Cofrestru buddiolwr rhybudd unochrog newydd neu ychwanegol).

Fodd bynnag, dylai’r ceisydd gofio bob amser y gellir gofyn i fuddiolwr rhybudd unochrog brofi dilysrwydd eu hawliad ar unrhyw amser.

2.5 Gwneud cais am rybudd a gytunwyd

2.5.1 Y ffurflen gais a’r ffïoedd

Rhaid gwneud cais am rybudd a gytunwyd yn ffurflen AN1. Rhaid i’r cais gynnwys y ffi a bennir yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru

Rhaid llenwi panel 3 ffurflen AN1 yn gywir fel ei bod yn amlwg a yw’r budd yn effeithio ar y teitl cofrestredig cyfan neu ran ohono.

Os yw’r budd yn effeithio ar ran yn unig o’r teitl cofrestredig, dylid cynnwys cynllun yn dangos stent y tir yr effeithir arno oni bai bod y rhan honno wedi ei nodi’n glir ar y cynllun teitl ar gyfer y teitl cofrestredig (rheol 213 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Gall methu â chwblhau’r panel hwn yn gywir arwain at ymholiadau ac oedi cyn cwblhau’r cais.

2.5.2 Gwneud ceisiadau gyda chydweithrediad y perchennog perthnasol

Oni bai bod y ceisydd yn gallu argyhoeddi’r cofrestrydd o ddilysrwydd y budd sy’n cael ei hawlio, rhaid gwneud y cais trwy neu gyda chydsyniad y perchennog perthnasol, neu trwy neu gyda chydsyniad rhywun sydd â hawl i wneud cais i’w gofrestru fel y perchennog perthnasol (adran 34(3)(a) a (b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Lle bo gan y ceisydd (neu bwy bynnag sy’n cydsynio) hawl i’w gofrestru fel perchennog, rhaid cyflwyno tystiolaeth o’r hawl honno. Tair enghraifft gyffredin o bryd gall rhywun fod â hawl i’w gofrestru fel perchennog yw:

  • maent wedi derbyn trosglwyddiad o’r ystad neu arwystl yn ddiweddar ond nad ydynt eto wedi cael eu cofrestru fel perchennog. Er enghraifft, lle caiff ffurflen AN1 ei chyflwyno ar yr un pryd â’r cais am gofrestriad
  • mae’r unig berchennog perthnasol wedi marw a hwy yw’r cynrychiolydd personol
  • hwy yw ymddiriedolwr mewn methdaliad y perchennog perthnasol ac mae’r ystad neu arwystl yn ffurfio rhan o ystad y methdalwr

Lle bo cydberchnogion neu bobl sydd â hawl i’w cofrestru, ar y cyd, fel y perchennog perthnasol, rhaid i bob un gydsynio neu ymuno fel ceiswyr. Mae modd rhoi unrhyw gydsyniad sydd i’w gyflwyno gyda’r cais ym mhanel 11 ffurflen AN1 neu ei gyflwyno ar wahân.

Dylid rhoi unrhyw gydsyniad sydd i’w gyflwyno gyda’r cais ym mhanel 11 ffurflen AN1 ond gellir ei gyflwyno ar wahân.

2.5.3 Ceisiadau ar sail tystiolaeth yn hytrach na chydsyniad

Lle nad yw’r cais yn cael ei wneud trwy neu gyda chydsyniad y perchennog perthnasol, neu rywun gyda hawl i’w gofrestru fel y cyfryw, rhaid iddo ddod gyda thystiolaeth ddigonol i ddarbwyllo’r cofrestrydd o ddilysrwydd hawliad y ceisydd (rheol 81(1)(c) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Wrth gwrs, bydd y dystiolaeth sydd ei hangen i ddarbwyllo’r cofrestrydd o ddilysrwydd yr hawliad yn amrywio yn ôl yr achos. Mae enghreifftiau sy’n dangos y math o dystiolaeth all argyhoeddi’r cofrestrydd o ddilysrwydd hawliad yn cynnwys:

  • copi ardystiedig o’r offeryn gwreiddiol, wedi ei lofnodi neu ei gyflawni gan y perchennog perthnasol, lle bo’n cael ei hawlio y crëwyd y budd trwy grant penodol gan y perchennog
  • gorchymyn llys o dan sêl mewn achos y bu neu y mae’r perchennog perthnasol yn rhan ohono, lle bo’n cael ei hawlio i’r budd ddeilio o’r gorchymyn hwnnw neu lle bo’r gorchymyn yn datgan dilysrwydd y budd
  • y ffurflen hawlio a rhybudd cyhoeddi o dan sêl, lle bo’r budd sydd i gael ei warchod yn achos tir arfaethedig

Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau a anfonir gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF y bydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

2.5.4 Manylion natur hawliad y ceisydd

Pa un ai yw’r cais ar sail tystiolaeth i gefnogi’r hawliad neu gydweithrediad y perchennog perthnasol, rhaid iddo ddod gyda naill ai:

  • gorchymyn neu offeryn (os oes un) sy’n peri’r budd gaiff ei hawlio
  • manylion y gall y cofrestrydd eu defnyddio i weld natur y budd sy’n cael ei hawlio (lle nad oes unrhyw orchymyn neu offeryn i’w gyflwyno) (rheol 81(1)(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003)

Mae’r wybodaeth hon yn angenrheidiol fel y gall y cofrestrydd sicrhau bod y budd sy’n cael ei hawlio o fath all gael ei warchod trwy rybudd, ac er mwyn gallu cofnodi manylion y budd yn y gofrestr fel rhan o gofnod y rhybudd.

Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau a anfonir gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF y bydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

2.5.5 Gwarchod cyfrinachedd y budd

Gall unrhyw aelod o’r cyhoedd archwilio rhan fwyaf y dogfennau sy’n cael eu dal gan y cofrestrydd (adran 66(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Lle bo dogfen a gyflwynwyd gyda chais yn cynnwys gwybodaeth o natur bersonol neu fasnachol sensitif, dylai’r ceisydd hefyd ystyried gwneud cais i ddynodi’r ddogfen yn ‘ddogfen gwybodaeth eithriedig’.

I gael gwybodaeth am archwilio dogfennau sy’n cael eu dal gan y cofrestrydd, neu am wneud cais i ddynodi dogfen yn ddogfen gwybodaeth eithriedig, gweler cyfarwyddyd ymarfer 57: eithrio dogfennau o’r hawl gyffredinol i archwilio a chopïo.

2.6 Gwneud cais am rybudd unochrog

2.6.1 Y ffurflen gais a’r ffi

Rhaid gwneud cais am rybudd unochrog yn ffurflen UN1

Rhaid i’r cais gynnwys y ffi a bennir yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

Rhaid llenwi panel 3 ffurflen UN1 yn gywir fel ei bod yn amlwg a yw’r budd yn effeithio ar y cyfan neu ran o’r teitl cofrestredig.

Os yw’r budd yn effeithio ar ran yn unig o’r teitl cofrestredig, dylid cynnwys cynllun yn dangos stent y tir yr effeithir arno oni bai bod y rhan honno wedi ei nodi’n glir ar y cynllun teitl ar gyfer y teitl cofrestredig (rheol 213 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Gall methu â chwblhau’r panel hwn yn gywir arwain at ymholiadau ac oedi cyn cwblhau’r cais.

2.6.2 Manylion natur hawliad y ceisydd

Rhaid rhoi manylion natur y budd sy’n cael ei hawlio ym mhanel perthnasol ffurflen UN1. Mae modd rhoi’r wybodaeth hon naill ai:

  • ar ffurf datganiad gan y ceisydd
  • mewn tystysgrif gan drawsgludwr ar ran y ceisydd. (Sylwer: Os yw trawsgludwr yn cwblhau panel 12 gall ei lofnodi yn ei enw ei hunan neu yn enw ei gwmni neu gorff arall y mae’n gweithio iddo, ar yr amod, yn achos yr olaf, y mae ef, neu o leiaf un person yn y cwmni neu gorff yn “drawsgludwr” o fewn ystyr rheol 217A o Reolau Cofrestru Tir 2003. Os yw’n llofnodi yn enw’r cwmni/cyflogwr, byddwn yn cymryd ei fod wedi ei fodloni ei hunan ei fod yn cwrdd â gofynion rheol 217A a byddwn yn dibynnu ar yr ardystiad.

Os oes mwy nag un ceisydd ac os ydynt yn dewis rhoi datganiad, rhaid i’r datganiad hwnnw gael ei roi gan yr holl geiswyr. Os yw’r ceisydd yn gorfforaeth dylai’r sawl sy’n rhoi’r datganiad gadarnhau eu swyddogaeth a bod ganddynt awdurdod i roi’r datganiad ar ran y gorfforaeth.

Nid yw datganiad neu dystysgrif nad yw’n enwi unrhyw un o’r partïon lle ceir offeryn o dan yr hyn y mae’r budd yn codi yn dderbyniol.

Wrth gyfeirio at berchennog cofrestredig yr eiddo, dylech gyfeirio atynt wrth eu henw ac nid fel ‘y perchennog cofrestredig’ yn unig.

Dylid egluro unrhyw anghysondeb gyda’r enw a ddangosir yn y gofrestr, yn ogystal ag unrhyw sefyllfa lle nad yw’r perchennog cofrestredig yn barti i offeryn o dan yr hwn y cododd y budd.

Dylai’r datganiad neu dystysgrif ddatgelu budd y ceisydd; er enghraifft nid yw cyfeirio at gytundeb ysgrifenedig heb ddarparu manylion pellach yn ddigonol.

Dylid rhoi eglurhad hefyd lle y mae’r budd yn destun achosion llys arfaethedig neu orchymyn llys i’r hyn nid yw’r perchennog cofrestredig yn barti. Lle y mae’r rhybudd yn ymwneud â gorchymyn tâl, gweler adran 3.4 o gyfarwyddyd ymarfer 76: gorchmynion tâl.

Nid yw’r ceisydd yn gorfod cyflwyno unrhyw ddogfen arall i gefnogi ei hawliad. Fodd bynnag, os gwnânt hynny, bydd y cofrestrydd fel rheol yn cadw’r ddogfen neu gopi ohoni a chyfeirio ati yng nghofnod y rhybudd (gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau am wybodaeth bellach).

Os yw’r ddogfen yn cael ei chadw, bydd ar gael i’r cyhoedd ei harchwilio.

2.6.3 Enwi buddiolwr y rhybudd

Rhaid i gais am rybudd unochrog nodi pwy sydd i’w enwi yn y cofnod fel buddiolwr y rhybudd a rhaid iddynt ddarparu hyd at dri chyfeiriad ar gyfer gohebu i’w cofnodi yn y gofrestr.

Gall y cyfeiriadau fod yn gyfeiriadau post, DX neu electronig er bod un yn gorfod bod yn gyfeiriad post, er nad o reidrwydd yn gyfeiriad yn y DU. Mae rheolau 198-9 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn rhoi rhagor o wybodaeth am gyfeiriadau ar gyfer gohebu a phryd yr ystyrir bod gwasanaeth wedi digwydd.

Bydd unrhyw rybudd dileu o ran y rhybudd unochrog yn cael ei anfon at y buddiolwr yn y cyfeiriadau ar gyfer gohebu sydd yn y gofrestr. Pan fo’n briodol, gall un cyfeiriad fod ‘dan ofal’ trawsgludwr y buddiolwr i sicrhau nad yw rhybudd dileu’n cael ei anwybyddu’n anfwriadol pan ddaw i law.

Os yw’r buddiolwr yn gwmni neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wedi ei gofrestru unrhyw le yn y Deyrnas Unedig bydd rhaid ichi gynnwys ei rif cofrestru cwmni ym mhanel 6 ffurflen UN1. Os yw’r buddiolwr yn gwmni a gorfforwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig rhaid ichi gynnwys y diriogaeth lle cafodd ei gorffori ac, os yw’r cwmni yn gofrestredig yn Nhŷ’r Cwmnïau yng Nghymru neu Loegr (ond nid yr Alban neu Ogledd Iwerddon), rhaid cynnwys y rhif cofrestru a roddwyd gan Dŷ’r Cwmnïau. Mae modd cofrestru cwmnïau tramor yn Nhŷ’r Cwmnïau os oes ganddynt gangen neu fan busnes yng Nghymru a Lloegr.

2.7 Dileu a thynnu ymaith rhybuddion o’r gofrestr

2.7.1 Dileu rhybudd (heblaw rhybudd unochrog)

Rhaid gwneud cais i ddileu rhybudd (heblaw rhybudd unochrog) yn ffurflen CN1 a rhaid iddo ddod gyda thystiolaeth briodol i ddarbwyllo’r cofrestrydd y daeth y budd gwarchodedig i ben (gweler hefyd Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a anfonir atom). Dylai hyn gynnwys, lle bo’n briodol, tystiolaeth o ddisgyniad y teitl i’r budd.

Yn gyffredinol, nid oes dim i’w dalu am wneud y cais. Fodd bynnag, lle bo’n cael ei ddileu i adlewyrchu terfynu prydles ddigofrestredig, mae taliad i’w wneud fel y pennir yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru. I ddileu rhybudd o brydles ddigofrestredig, bydd y ffi yn sefydlog o dan Atodlen 3 Rhan 1(7) y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol.

Nid yw naill ai Deddf Cofrestru Tir 2002 na Rheolau Cofrestru Tir 2003 yn cyfyngu ar bwy all wneud cais i ddileu, ond ni all y cofrestrydd gymeradwyo’r cais os nad yw’n fodlon y daeth y budd a warchodwyd i ben. Os nad yw’r budd a warchodwyd gan y rhybudd ond wedi dod i ben yn rhannol, rhaid i’r cofrestrydd wneud cofnod priodol.

Os nad yw’r cofrestrydd yn fodlon bod y budd a warchodwyd gan y rhybudd wedi dod i ben, gellir cofnodi yn y gofrestr manylion o dan ba amgylchiadau y terfynwyd y budd yn ôl hawliad y ceisydd (Rheol 87(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

2.7.2 Dileu rhybudd unochrog

‘Dileu’ rhybudd unochrog yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio yn adran 36 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 i ddisgrifio’r drefn lle bo rhaid i fuddiolwr y rhybudd brofi dilysrwydd y budd a hawlir. Os na allant wneud hyn, caiff y rhybudd ei ddileu.

Dim ond perchennog cofrestredig yr ystad neu’r arwystl y mae’r nodyn yn berthnasol iddo (neu rywun gyda hawl i’w gofrestru’n berchennog) all wneud cais i ddileu rhybudd unochrog ond gallant wneud hynny ar unrhyw adeg heb roi rhesymau dros wneud hynny. Sylwch, lle bo rhybudd unochrog wedi ei gofnodi yn erbyn ystad gofrestredig, nad oes gan berchennog arwystl a gofrestrwyd yn erbyn yr un ystad hawl i wneud cais i ddileu’r rhybudd. Lle ceir cydberchnogion, neu y mae hawl gan fwy nag un person i’w gofrestru’n gydberchennog, ystyrir bod yn rhaid i’r holl gydberchnogion, neu’r holl bobl hynny wneud cais.

Os gwneir y cais gan rywun sydd â hawl i’w gofrestru fel y perchennog perthnasol, rhaid i’r ceisydd hefyd roi tystiolaeth o’i hawl. Mae tystysgrif trawsgludwyr ym mhanel 9 ffurflen UN4 yn ddigonol i gydymffurfio â’n gofynion. Os nad oes trawsgludwr yn gweithredu, rhaid cyflwyno tystiolaeth o hawl y ceisydd gyda’r cais.

Rhaid gwneud cais i ddileu rhybudd unochrog ar ffurflen UN4. Nid oes dim i’w dalu i wneud y cais.

Pan fydd y cofrestrydd yn derbyn cais i ddileu rhybudd unochrog bydd yn cyflwyno rhybudd o’r cais i’r buddiolwr sydd â chyfnod penodol o 15 diwrnod gwaith i wrthwynebu’r cais. Os nad yw’r buddiolwr yn gwrthwynebu’r cais o fewn y cyfnod hwnnw, neu unrhyw estyniad iddo, neu ar ôl gwrthwynebu, yn methu â dangos achos dadleuadwy, caiff y rhybudd ei ddileu. Os yw 2 neu ragor o bobl yn cael eu dangos yn fuddiolwr rhybudd, gall pob un ohonynt wrthwynebu (Rheol 86(8) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Bydd unrhyw anghydfod ynghylch a ddylid dileu’r rhybudd, nad oes modd ei ddatrys trwy gytundeb, yn cael ei gyfeirio at y tribiwnlys – gweler cyfarwyddyd ymarfer 37: gwrthwynebiadau ac anghydfodau: ymarferiad a threfniadaeth Cofrestrfa Tir EF i gael rhagor o wybodaeth.

2.7.3 Tynnu ymaith rhybudd unochrog

‘Tynnu ymaith’ rhybudd unochrog yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio yn adran 35(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 i ddisgrifio’r drefn ar gyfer tynnu rhybudd unochrog yn ôl ar gais y buddiolwr.

Rhaid gwneud cais i dynnu rhybudd unochrog ymaith ar ffurflen UN2. Nid oes dim i’w dalu i wneud y cais.

Dim ond y sawl a gofrestrwyd fel buddiolwr rhybudd unochrog neu, mewn achosion priodol, gynrychiolydd personol neu ymddiriedolwr mewn methdaliad y buddiolwr, all wneud cais i dynnu’r rhybudd. Lle y mae cynrychiolydd personol neu ymddiriedolwr mewn methdaliad yn gwneud cais, rhaid iddynt gyflwyno tystiolaeth o’u hawl i wneud cais, a all fod ar ffurf tystysgrif trawsgludwr ym mhanel 6 ffurflen UN2.

Os yw mantais y budd sy’n cael ei warchod wedi pasio i rywun arall, er enghraifft trwy drosglwyddiad, rhaid gwneud cais ar ffurflen UN3 i newid y rhybudd unochrog trwy gofrestru’r buddiolwr newydd neu ychwanegol cyn y gellir gwneud cais i’w dynnu ymaith.

2.7.4 Rhybudd o ran arwystl sy’n cael ei gwblhau wedi hynny trwy gofrestriad

Lle:

  • y mae arwystl A yn cael ei greu cyn arwystl B (felly mae gan arwystl A flaenoriaeth dros arwystl B, fel y cyntaf o ran amser – adran 28(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002
  • y caiff rhybudd ei gofnodi yn y gofrestr o ran arwystl A)
  • wedi hynny, y mae arwystl B yn cael ei gwblhau trwy gofrestriad – bryd hyn, effaith nodi arwystl A yw bod ei flaenoriaeth yn cael ei gwarchod fel pe bai yn erbyn arwystl B (adran 29(2)(a)(i) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
  • yn hwyrach, mae arwystl A hefyd yn cael ei gwblhau trwy gofrestriad

gall dileu’r rhybudd neu ei dynnu ymaith arwain at yr arwystl cyntaf yn colli ei flaenoriaeth i’r ail arwystl (nid oes, hyd y gwyddom, cyfraith achos ar y pwynt). Mae hyn oherwydd mai trefn arwystlon cofrestredig, rhyngddynt eu hunain, yw’r drefn y cânt eu cofnodi mewn cofrestr unigol (adran 48(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, rheol 101 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Gellir dadlau bod cadw’r rhybudd o ran arwystl A gyfwerth â “chofnod yn y gofrestr unigol i’r gwrthwyneb” at ddibenion rheol 101, ac felly’n caniatáu i’r arwystl hwnnw gadw ei flaenoriaeth dros arwystl B. Ni fyddwn yn tynnu ymaith y rhybudd o ran arwystl yn awtomatig wrth gwblhau grant arwystl trwy gofrestriad wedi hynny, ond byddai’n ddoeth, wrth wneud cais i gofrestru’r arwystl, i nodi’n glir bod y rhybudd i barhau yn y gofrestr, er mwyn i hyn ddigwydd.

Efallai yr hoffech hefyd, wrth wneud cais am gofrestriad safonol arwystl A yn y sefyllfa a roddir, wneud cais ar yr un pryd am gofnod sy’n darparu’n benodol i’r arwystl gael blaenoriaeth dros arwystl B, yn hytrach na dibynnu ar y rhybudd i sicrhau cadw’r flaenoriaeth hon – gweler cyfarwyddyd ymarfer 29: cofrestru arwystlon cyfreithiol a gweithredoedd amrywio arwystl – 4 Cais i gofrestru arwystl.

2.8 Amrywio buddion a nodwyd

2.8.1 Amrywio budd a nodwyd

Lle bo budd a nodwyd yn y gofrestr yn cael ei amrywio, mae modd gwarchod blaenoriaeth y budd, fel y’i hamrywiwyd, mewn un o 2 ffordd.

  • Trwy wneud cais i ddileu’r rhybudd presennol (neu, yn achos rhybudd unochrog, trwy wneud cais i’w dynnu ymaith) a gwneud cais am rybudd newydd o ran y budd fel y’i hamrywiwyd
  • Trwy wneud cais am rybudd ychwanegol o ran yr amrywiad

Gan y gall y dyddiad pryd y cofnodwyd y rhybudd gwreiddiol fod yn bwysig at ddiben sefydlu ei flaenoriaeth, ni fydd y cofrestrydd fel arfer yn cytuno i newid telerau rhybudd presennol i adlewyrchu amrywiad ym mudd trydydd parti a gytunwyd wedyn.

2.8.2 Cofrestru buddiolwr newydd neu ychwanegol rhybudd unochrog

Er mwyn cadw’r gofrestr yn gyfoes, gall rhywun sydd â hawl neu sydd wedi caffael hawl i fantais budd a warchodir gan rybudd unochrog, wneud cais i’w gofnodi fel y buddiolwr. Gallant wneud cais i’w cofnodi yn lle un neu ragor o’r bobl a gofnodwyd eisoes fel ‘y buddiolwr’ neu i’w hychwanegu atynt (rheol 88 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Bydd yn bwysig i rywun gyda mantais yr hawliad sicrhau eu bod yn cael eu cofnodi fel buddiolwr, gan mai dim ond y buddiolwr sydd â hawl i wrthwynebu cais i ddileu’r rhybudd (adran 73(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Rhaid gwneud y cais yn ffurflen UN3 a rhaid iddo ddod gyda’r ffi benodedig yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru

Rhaid i dystiolaeth ddigonol o hawl y ceisydd ddod gyda’r cais i’n hargyhoeddi bod y budd a hawlir sy’n cael ei warchod gan y rhybudd wedi ei freinio yn y ceisydd, naill ai yn lle un neu ragor o’r bobl a gofrestrwyd fel y buddiolwr neu’n ogystal â hwy. Mae tystysgrif trawsgludwyr ym mhanel 11 ffurflen UN3 yn ddigonol i gydymffurfio â’n gofynion.

Sylwch, am nad oedd angen ein hargyhoeddi bod yr hawliad yn ddilys i gofnodi’r rhybudd yn y lle cyntaf, mae’r dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer gwneud y cais hwn dim ond yn gorfod dangos bod gan y ceisydd hawl i fantais yr hawliad, nid bod y budd sy’n cael ei hawlio yn un dilys.

Lle bo modd, dylid gofyn i’r buddiolwr presennol lofnodi’r ffurflen UN3 neu gydsynio â’r cais. Os nad ydynt yn cyflwyno cydsyniad, bydd y cofrestrydd yn cyflwyno rhybudd i’r buddiolwr presennol os nad y ceisydd yw cynrychiolydd personol y buddiolwr ac yn cyflwyno tystiolaeth o’u hawl i weithredu.

Os oes unrhyw anghydfod ynghylch pa un ai’r hawliwr newydd neu’r buddiolwr presennol yw’r sawl sydd â hawl i fantais y budd a warchodwyd, gallai’r hawliwr newydd wneud cais am rybudd newydd yn hytrach na gwneud cais i’w gofrestru fel buddiolwr y rhybudd presennol.

3. Cyfyngiadau

Cynnwys

3.1 Natur ac effaith cyfyngiadau

3.1.1 Effaith gyffredinol cyfyngiadau

3.1.2 Cyfyngiadau’n effeithio ar ystad gofrestredig

3.1.3 Cyfyngiadau’n effeithio ar arwystl cofrestredig presennol

3.1.4 Cofnodion y gellir eu hatal gan gyfyngiad

3.1.5 Cydymffurfio â chyfyngiad

3.1.6 Cydymffurfio â chyfyngiad gan ddefnyddio ffurflen RXC

3.2 Cofnodi cyfyngiadau

3.2.1 Cyfyngiadau a gofnodwyd yn ôl disgresiwn y cofrestrydd

3.2.2 Lle mae’n rhaid inni gofnodi cyfyngiad

3.3 Ffurf cyfyngiad

3.3.1 Ffurfiau safonol o gyfyngiad

3.3.2 Cyfyngiadau nad ydynt ar ffurf safonol

3.4 Gwneud cais am gyfyngiad

3.4.1 Y rhai a all wneud cais am gyfyngiad

3.4.2 Pethau i’w hystyried cyn gwneud cais am gyfyngiad

3.4.3 Ceisiadau gorfodol

3.4.4 Gwneud ceisiadau heb gydweithrediad y perchennog perthnasol: yr angen i ddangos budd digonol

3.4.5 Buddion o dan ymddiriedau

3.4.6 Ceisiadau hysbysadwy

3.5 Sut i wneud cais am gyfyngiad

3.5.1 Y ffurflen gais a’r ffi

3.5.2 Ceisiadau am gyfyngiad sydd mewn prydles

3.5.3 Gwybodaeth y mae’n rhaid ei chyflwyno gyda’r cais

3.6 Gorchmynion llys sy’n gofyn am gofnodi cyfyngiad

3.6.1 Pŵer y llys i orchymyn cofnodi cyfyngiad

3.6.2 Y ffurflen gais a’r ffi

3.6.3 Blaenoriaeth or-redol

3.7 Tynnu ymaith cofnod cyfyngiad

3.7.1 Tynnu ymaith cyfyngiadau

3.7.2 Tynnu ymaith cyfyngiad Ffurf LL

3.7.3 Ceisiadau i ddileu cyfyngiad

3.7.4 Ceisiadau i dynnu cyfyngiad yn ôl

3.7.5 Dileu cyfyngiadau heb wneud cais

3.8 Ceisiadau i newid cyfyngiad

3.9 Ceisiadau i ddatgymhwyso neu addasu cyfyngiad

3.9.1 Datgymhwyso cyfyngiad

3.9.2 Addasu cyfyngiad

3.9.3 Y cais

3.1 Natur ac effaith cyfyngiadau

3.1.1 Effaith gyffredinol cyfyngiadau

Mae cyfyngiadau yn gwahardd gwneud cofnod o ran gwarediad neu warediad o fath penodedig. Gall y gwaharddiad fod yn amhenodol neu am gyfnod penodedig a gall fod yn ddiamod neu’n amodol ar fod rhywbeth yn digwydd (er enghraifft ar gael cydsyniad trydydd parti).

Nid yw Deddf Cofrestru Tir 2002 yn diffinio’r term ‘gwarediad’. Mae’r rhan fwyaf o gyfyngiadau yn cyfeirio at warediadau gan berchennog yr ystad gofrestredig neu arwystl cofrestredig, sy’n awgrymu bod y perchennog hwnnw wedi gwneud rhywbeth i beri’r gwarediad. Gall gwarediad ddigwydd trwy weithrediad y gyfraith hefyd, a byddai cyfyngiad sy’n cynnwys y geiriau “nid oes gwarediad” yn dal gwarediad o’r fath hefyd. Sylwch, fodd bynnag, nad yw rhyddhau arwystl cofrestredig yn warediad ac nid oes modd ei atal trwy gyfyngiad.

Mae cyfyngiad yn ei gwneud yn amlwg o’r gofrestr, bod naill ai pwerau’r perchennog perthnasol yn gyfyngedig, neu fod yn rhaid cadw at amod blaenorol cyn gallu cofrestru gwarediad.

Nid yw’r term ‘gwarediad’ wedi ei ddiffinio yn Neddf Cofrestru Tir 2002, ond mae adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn nodi’r mathau o ‘warediad’ y mae angen eu cofrestru. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • trosglwyddiad
  • rhai mathau o brydlesi
  • rhoi neu gadw hawddfraint
  • rhent-dâl/hawl mynediad wedi ei atodi i rent-dâl
  • arwystl ar ffurf morgais cyfreithiol.

Felly, bydd cyfyngiad sy’n cynnwys y geiriau “Dim gwarediad …” yn dal y mathau uchod o warediad.

Mae’r rhan fwyaf o gyfyngiadau’n cyfeirio at warediadau gan berchennog yr ystad gofrestredig neu arwystl cofrestredig, sy’n awgrymu rhyw gamau gan y perchennog hwnnw i wneud y gwarediad. Gall gwarediad ddigwydd hefyd trwy weithrediad y gyfraith, a byddai cyfyngiad sy’n cyfeirio at “dim gwarediad” yn unig hefyd yn dal gwarediad o’r fath. Sylwer, fodd bynnag, nad yw rhyddhau arwystl cofrestredig yn warediad ac ni ellir ei atal gan gyfyngiad.

Diben y cyfyngiadau yw rheoleiddio cofrestru, nid rheoleiddio gwarediadau. Felly, pan fydd angen cydsyniad ar gyfyngiad a gofnodir yn y gofrestr neu os ceir dewis sy’n gofyn am gydsyniad, rhaid i’r cydsyniad a roddir mewn perthynas â’r cyfyngiad gydsynio’n benodol â chofrestru’r gwarediad, nid cydsynio â’r gwarediad. Nid yw’r gofyniad hwn yn berthnasol i gyfyngiad sy’n gofyn am dystysgrif. Yn yr achos hwnnw, y cyfan sydd ei angen yw bod y dystysgrif yn cydymffurfio â gofynion y cyfyngiad.

Unwaith iddo gael ei gofnodi, bydd cyfyngiad yn aros yn y gofrestr nes iddo gael ei ddileu neu ei dynnu’n ôl. Nid yw cyfyngiadau’n cael eu dileu yn awtomatig yn dilyn gwarediad, er y gallwn ddileu unrhyw gyfyngiad sy’n amlwg wedi dod yn ddiangen.

Yn wyneb yr anawsterau a all godi pan fydd cyfyngiad amhriodol yn cael ei gofnodi ar y gofrestr, dylid ystyried y cwestiynau yn Pethau i’w hystyried cyn gwneud cais i Gofrestrfa Tir EF am gyfyngiad.

3.1.2 Cyfyngiadau’n effeithio ar ystad gofrestredig

Bydd cyfyngiad sy’n cael ei gofnodi i reoli gwarediadau ystad gofrestredig yn cael ei gofnodi yn y gofrestr perchnogaeth.

Nid oes gan gyfyngiadau o’r fath unrhyw effaith ar arwystlon cofrestredig presennol nac ar bwerau’r arwystlai cofrestredig. Oddi ar 10 Tachwedd 2008 mae geiriad cyfyngiadau safonol yn gwneud hyn yn glir, ond mae’r egwyddor yn gymwys i gyfyngiadau a gofnodwyd cyn y dyddiad hwnnw hefyd. Fodd bynnag, gall cyfyngiad a gofnodwyd yn y gofrestr perchnogaeth effeithio ar arwystl gaiff ei gofrestru wedyn. Mae’r dyddiad mewn cromfachau ar ddechrau cofnod yn dangos dyddiad ei gofrestru. Gallwch ddweud, trwy gymharu dyddiad cyfyngiad a dyddiad cofrestru arwystl cofrestredig, a fydd effaith ar bwerau’r arwystlai.

Wrth wneud cais i gofrestru mwy nag un trafodiad, rhaid i ni fod yn glir ynghylch trefn y ceisiadau. Er enghraifft, lle cyflwynir trosglwyddiad ac arwystl gyda’i gilydd, ac mae’r trosglwyddiad yn cynnwys cais i gofnodi cyfyngiad, ni fyddwn yn rhagdybio’n awtomatig bod gan gais yr arwystl flaenoriaeth dros gyfyngiad y gofynnir amdano mewn trosglwyddiad. Rhaid nodi trefn ceisiadau’n glir, a chyfrifoldeb y cwsmer yw hyn. Lle bo angen, rhaid cyflwyno caniatâd y cyfyngwr i gofrestru’r arwystl.

3.1.3 Cyfyngiadau’n effeithio ar arwystl cofrestredig presennol

Bydd cyfyngiad sy’n effeithio ar arwystl cofrestredig presennol yn cael ei gofnodi yn y gofrestr arwystlon a bydd yn cyfeirio’n benodol at y cofnodion perthnasol i’r arwystl o dan sylw.

Er y gall ymddangos bod cyfyngiad a gofnodwyd yn y gofrestr perchnogaeth yn cyfyngu ar warediadau gan ‘berchennog unrhyw arwystl cofrestredig’ (gweler, er enghraifft, y cyfyngiad Ffurf O), ni fydd yn cael unrhyw effaith ar arwystl a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad.

Os ydych yn bwriadu cyfyngu ar holl warediadau boed hynny gan berchennog yr ystad gofrestredig neu berchennog arwystl cofrestredig presennol, rhaid ichi wneud cais am gyfyngiadau ar wahân yn nwy ran y gofrestr.

3.1.4 Cofnodion y gellir eu hatal gan gyfyngiad

Mae pob un o’r ffurfiau safonol o gyfyngiad a bennir yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003 yn rheoli neu’n gwahardd cofrestru gwarediad. Diffiniad cofrestru yn y cyd-destun hwn yw cwblhau gwarediad cofrestradwy trwy gofrestru. Nid oes unrhyw un o’r ffurfiau safonol o gyfyngiad yn atal rhag cofnodi rhybudd yn unig.

Fodd bynnag, sylwch fod rhai cyfyngiadau a gofnodwyd o dan Ddeddf Cofrestru Tir 1925 yn atal rhag cofnodi rhybudd yn benodol. Ni fyddwn yn derbyn cais am gyfyngiad, nad yw ar ffurf safonol o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 sy’n atal cofnodi rhybudd yn benodol, gan y byddai hyn yn atal gwarchod budd trydydd parti trwy rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog.

3.1.5 Cydymffurfio â chyfyngiad

3.1.5.1 Cyffredinol

Gellir llofnodi tystysgrif neu gydsyniad sy’n ofynnol gan gyfyngiad mewn ‘inc gwlyb’ neu ddefnyddio llofnod electronig. Am y dulliau penodol o lofnodi sy’n briodol i’ch amgylchiadau gweler Tystysgrif neu gydsyniad heblaw gan drawsgludwyr, Tystysgrif neu gydsyniad gan gorfforaeth gyfansawdd neu Tystysgrif neu gydsyniad gan drawsgludwr.

Os yw tystysgrif neu gydsyniad yn cael ei ddarparu trwy ebost, gweler Tystysgrif neu gydsyniad trwy ebost.

Lle bo cyfyngiad yn dal 2 neu ragor o warediadau sy’n cael eu cyflwyno ar yr un pryd, rhaid i’r cydsyniad neu dystysgrif gydymffurfio fod i’r holl warediadau sy’n cael eu cofrestru. Er enghraifft, os yw trosglwyddiad ac arwystl yn cael eu cofrestru a bod y ddau yn cael eu dal gan gyfyngiad sy’n gofyn am gydsyniad, rhaid i’r caniatâd a roddir fod i gofrestru’r trosglwyddiad a’r arwystl.

Rhaid i gydsyniad sy’n ofynnol gan gyfyngiad nodi ei fod i gofrestru’r gwarediad, ac nid i’r gwarediad yn unig.

Os gwneir cais trwy’r post a bod y dystysgrif neu gydsyniad yn cael eu cyflwyno gyda’r cais hwnnw, rhaid cyflwyno’r dystysgrif neu gydsyniad gwreiddiol, neu gopi ardystiedig ohonynt, trwy’r post.

Os gwneir cais trwy’r porthol neu Business Gateway a bod copi o’r dystysgrif neu gydsyniad yn cael ei gyflwyno gyda’r cais hwnnw, neu os yw’r cyfyngiad yn ymwneud â chais sy’n aros i’w brosesu, dylid cyflwyno copi wedi ei sganio o’r dystysgrif neu gydsyniad trwy ei uwchlwytho trwy’r porthol neu Business Gateway. Dylai’r copi wedi ei sganio o’r dystysgrif neu gydsyniad gael ei ardystio i fod yn gopi gwir o’r gwreiddiol, gan ddefnyddio’r datganiadau ardystio sydd ar gael trwy’r porthol neu Business Gateway.

3.1.5.2 Tystysgrif neu gydsyniad heblaw gan drawsgludwyr

Gall unigolyn nad yw’n drawsgludwr lofnodi cydsyniad neu dystysgrif mewn ‘inc gwlyb’ neu ddefnyddio llofnod electronig.

Dim ond o dan yr amgylchiadau uchod byddwn yn derbyn cydsyniad neu dystysgrif wedi eu llofnodi’n electronig pan gaiff ei gyflwyno gan drawsgludwr.

Wrth wneud hynny, byddwn yn dibynnu ar y trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cydsyniad neu dystysgrif heb unrhyw reswm i amau ei ddilysrwydd.

Ni fyddwn yn derbyn tystysgrifau na chydsyniadau wedi eu llofnodi ar ran (“pp”) unigolyn arall a enwir.

3.1.5.3 Tystysgrif neu gydsyniad gan gorfforaeth gyfansawdd

Lle bo telerau cyfyngiad yn gofyn am dystysgrif neu gydsyniad wedi eu llofnodi gan gorfforaeth gyfansawdd, (sy’n cynnwys cwmnïau tramor), oni bai bod y cyfyngiad yn cynnwys bwriad i’r gwrthwyneb neu y rhoddir y dystysgrif neu gydsyniad mewn gweithred a gyflawnwyd gan y gorfforaeth o dan sylw, rhaid i’r dystysgrif neu gydsyniad gael ei llofnodi gan naill ai:

  • ei chlerc, ysgrifennydd neu swyddog parhaol arall
  • aelod o fwrdd y cyfarwyddwyr, cyngor neu gorff llywodraethol arall
  • ei thrawsgludwr
  • aelod o’i staff neu ei hasiant wedi eu hawdurdodi’n briodol (rheol 91B o Reolau Cofrestru Tir 2003)

Os yw cyfyngiad yn gofyn am dystysgrif neu gydsyniad wedi eu llofnodi ar ran corfforaeth gan ei hysgrifennydd, ond nad oes ysgrifennydd gan y gorfforaeth honno, dylid llofnodi’r dystysgrif neu gydsyniad gan un o’r bobl eraill a restrir uchod (rheol 91B(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Gall unigolyn sy’n darparu cydsyniad neu dystysgrif ar ran corfforaeth gyfansawdd lofnodi’r ddogfen gan ddefnyddio llofnod electronig, ar yr amod bod y cydsyniad neu dystysgrif yn cael eu cyflwyno gan drawsgludwr.

Wrth dderbyn cydsyniad a thystysgrifau wedi eu llofnodi’n electronig yn y sefyllfa a ddisgrifir uchod, byddwn yn dibynnu ar y trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cydsyniad neu dystysgrif heb unrhyw reswm i amau ei ddilysrwydd.

Rhaid i’r dystysgrif neu gydsyniad nodi enw llawn y llofnodwr a swyddogaeth y llofnodwr i lofnodi (rheol 91B(5) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Rhaid i’r dystysgrif neu gydsyniad gael eu llofnodi gan yr unigolyn yn ei enw ei hunan.

3.1.5.4 Tystysgrifau neu gydsyniadau gan drawsgludwr

Gall tystysgrif neu gydsyniad gan drawsgludwr, heblaw’r dystysgrif sy’n ofynnol gan gyfyngiad safonol Ffurf LL (gweler Cyfyngiad Ffurf LL) gael eu llofnodi mewn ‘inc gwlyb’ neu gan ddefnyddio llofnod electronig gan drawsgludwr unigol neu yn enw ei gwmni.

Gall tystysgrif neu gydsyniad gael eu llofnodi hefyd yn enw cwmni trawsgludo gan gyflogai i’r cwmni nad yw’n drawsgludwr ei hunan. Mae hyn yn berthnasol i gysyniadau a thystysgrifau wedi eu llofnodi mewn inc gwlyb, neu gan ddefnyddio llofnod electronig.

Pwy bynnag fydd yn llofnodi, a pha ddull bynnag o lofnodi a ddefnyddir, rhaid i’r dystysgrif neu gydsyniad nodi enw llawn yr unigolyn a’i statws yn y cwmni (megis partner, cyfreithiwr, paragyfreithiol neu ysgrifennydd yn y cwmni).

3.1.5.5 Tystysgrifau neu gydsyniadau trwy ebost

Gellir rhoi tystysgrif neu gydsyniad gan drawsgludwr, heblaw tystysgrif sy’n ofynnol gan gyfyngiad safonol Ffurf LL (gweler Cyfyngiad Ffurf LL) mewn ebost.

Gellir rhoi tystysgrif neu gydsyniad gan unigolyn (ar ei ran ei hunan neu ar ran corfforaeth gyfansawdd) mewn ebost i drawsgludwr.

Nid oes yn rhaid i’r ebost gael ei anfon at drawsgludwr yr unigolyn ei hunan, ond rhaid i’r cais sy’n cyd-fynd ag ef gael ei gyflwyno gan drawsgludwr. Byddwn yn dibynnu ar y trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cydsyniad neu dystysgrif heb unrhyw reswm i amau ei ddilysrwydd.

Ni ddylid anfon yr ebost ymlaen atom na’i anfon atom trwy ebost arall. Yn lle hynny, dylid dilyn y broses gyflwyno arferol a nodir yn Cyffredinol fel bod copi o’r ebost sy’n cynnwys y cydsyniad neu dystysgrif yn cael ei gyflwyno naill ai:

  • trwy’r post
  • trwy ei uwchlwytho trwy’r porthol neu Business Gateway
3.1.5.6 Cyfyngiad Ffurf LL neu gyfyngiad gwrth-dwyll cwmnïau

Pan gaiff cyfyngiad Ffurf LL, neu gyfyngiad gwrth-dwyll cwmnïau. ei gofnodi mewn cofrestr, rhaid i’r dystysgrif y mae’n ofynnol iddi gydymffurfio â’r cyfyngiad gael ei llofnodi gan drawsgludwr yn ei enw ei hunan ac nid yn enw ei gwmni neu gyflogwr (rheol 217A(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Nid yw tystysgrifau wedi eu llofnodi gan aelod o staff y trawsgludwr yn dderbyniol hyd yn oed os ydynt wedi eu llofnodi yn enw’r trawsgludwr unigol. Rhaid i’r dystysgrif ddatgan “Rwy’n ardystio”, nid “Rydym yn ardystio”. Rhaid i’r trawsgludwr lofnodi’r dystysgrif yn bersonol mewn ‘inc gwlyb’. Bydd y dystysgrif yn ofynnol hefyd ar gais i ddileu neu dynnu’r cyfyngiad hwn yn ôl.

Cofiwch: rhaid i’r dystysgrif gydymffurfio gael ei llofnodi yn enw’r trawsgludwr ei hunan ac nid gan un o’i staff yn enw’r cwmni. Sylwer hefyd nad yw llofnodion per pro yn dderbyniol (llofnod lle mae rhywun yn llofnodi ar ran rhywun arall yw llofnod per pro).

Er gall pob Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig gadarnhau hunaniaeth, dim ond Ymarferyddion Trawsgludo CILEX all ddarparu tystysgrifau i gydymffurfio â chyfyngiadau Ffurf LL neu gyfyngiad gwrth-dwyll cwmnïau. Sylwer nad yw’n ddigon i’r person sy’n rhoi’r dystysgrif ddisgrifio’i hunan fel Ymarferydd CILEX; rhaid nodi Ymarferydd Trawsgludo CILEX bob tro.

Mae’r cyfyngiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r trawsgludwr ardystio ei fod yn fodlon mai’r person a gyflawnodd y ddogfen a gyflwynwyd i’w chofrestru fel gwaredwr yw’r un person â’r perchennog. Felly nid yw tystysgrif sy’n nodi’n syml mai’r person a lofnododd y ddogfen yw’r perchennog cofrestredig yn dderbyniol.

Yn achos cyfyngiadau Ffurf LL, gallai tystysgrif dderbyniol, a gyflwynir gyda chais i gofrestru gwarediad, fod ar y ffurf ganlynol:

Tystiaf fy mod yn fodlon mai’r person a gyflawnodd y… (disgrifiad o’r ddogfen) a gyflwynwyd i’w gofrestru fel gwaredwr yw’r un person â pherchennog teitl cofrestredig… Llofnodwyd gan… (enw’r trawsgludwr unigol a statws)… (Llofnod mewn inc gwlyb)

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen RXC i ddangos cydymffurfiaeth hefyd. I gael manylion am ddefnyddio ffurflen RXC i gydymffurfio â Chyfyngiad Ffurf LL, gweler Cyfyngiadau Ffurf RXC a Ffurf LL neu gyfyngiadau gwrth-dwyll cwmni.

Sylwer y gall trawsgludwr godi ffi i ddarparu’r dystysgrif.

3.1.5.7 Cydymffurfio â chyfyngiad wrth drosglwyddo rhan o’r tir yn y teitl

Pan ddaw cais i law i gofrestru trosglwyddiad o ran o’r tir mewn teitl, bydd yn rhaid cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiad ar y teitl neu ei dynnu’n ôl neu ei ddileu. Os nad yw’r cyfyngiad yn un mae’n rhaid inni ei gofnodi (gweler Lle mae’n rhaid inni gofnodi cyfyngiad) ac nad oes bwriad mwyach iddo effeithio ar y tir a drosglwyddwyd, dylid gwneud cais i’w dynnu’n ôl neu ei ddileu fel y bo’n briodol, er efallai ni fyddwn yn ei roi ar deitl y trosglwyddai os yw’n amlwg ei fod bellach yn ddiangen.

3.1.5.8 Cyfyngiad Ffurf LL neu gyfyngiad gwrth-dwyll cwmni – rhywun nad yw’n berchennog cofrestredig yn llofnodi gweithred

Cawn geisiadau’n aml lle cafodd y weithred a gyflwynwyd i’w chofrestru ei llofnodi gan rywun heblaw’r perchennog cofrestredig. Mae enghreifftiau nodweddiadol o hyn yn cynnwys:

  • lle llofnodwyd y weithred gan Ymddiriedolwr mewn Methdaliad, neu gynrychiolydd personol perchennog ymadawedig, neu
  • lle llofnodwyd y weithred gan ddirprwy yn y Llys Gwarchod, atwrnai, neu dderbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo sydd â phwerau estynedig

Mae’r canlynol yn esbonio sut i fwrw ymlaen yn y sefyllfaoedd hyn, pan fo cyfyngiad Ffurf LL yn y gofrestr:

Pan fydd gweithred wedi ei llofnodi gan ymddiriedolwr mewn methdaliad neu gynrychiolydd personol

Mae cyfyngiad Ffurf LL yn gymwys i warediadau o’r ystad gofrestredig (a ddiffinnir yn adran 132 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 fel “ystad gyfreithiol y cofnodwyd y teitl iddi yn y gofrestr”), gan berchennog yr ystad gofrestredig.

Yn achos methdaliad, mae ystad y methdalwr yn breinio yn yr ymddiriedolwr yn union pan ddaw ei benodiad i rym. Pan fydd ystad y methdalwr yn cynnwys eiddo, mae’n breinio yn yr ymddiriedolwr “heb unrhyw drawsgludiad, aseiniad neu drosglwyddiad” (adran 305 o Ddeddf Ansolfedd 1986).

O’r eiliad honno, yr ymddiriedolwr mewn methdaliad yw “perchennog yr ystad gofrestredig”. Nid yr ymddiriedolwr yw’r perchennog cofrestredig, oherwydd nid oes angen cwblhau’r breinio awtomatig mewn ymddiriedolwr mewn methdaliad trwy gofrestriad (adran 27(5)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Fodd bynnag, mae gan yr ymddiriedolwr hawl i gael ei gofrestru’n berchennog os yw’n dymuno, ac mae ganddo hawl i arfer pwerau perchennog.

Mae’r uchod yn gymwys i gynrychiolydd personol unig berchennog ymadawedig hefyd. Mae’r ystad gyfreithiol yn breinio ynddo’n awtomatig mewn ysgutor ar farwolaeth y perchennog, ac mewn gweinyddwr wrth roi llythyrau gweinyddu. Yn y naill achos neu’r llall, mae hyn heb yr angen i gofrestru trosglwyddiad, ac, er nad yw wedi ei gofrestru fel y cyfryw, ef yw “perchennog yr ystad gofrestredig”.

Caiff gwarediad o’r ystad gofrestredig gan ymddiriedolwr mewn methdaliad neu gynrychiolydd personol unig berchennog ymadawedig ei ddal felly gan delerau cyfyngiad Ffurf LL.

O dan yr amgylchiadau hyn, mae’n bosibl i drawsgludwr roi tystysgrif yn y ffordd arferol i gydymffurfio â chyfyngiad Ffurf LL.

Mae hyn oherwydd bod y cyfyngiad yn gofyn am dystysgrif i’r perwyl “bod y trawsgludwr hwnnw’n fodlon mai’r person a gyflawnodd y ddogfen a gyflwynwyd i’w chofrestru fel gwaredwr yw’r un person â’r perchennog”. O dan yr amgylchiadau uchod, yr ymddiriedolwr neu gynrychiolydd personol fydd “y perchennog”.

Rhaid cyflwyno tystiolaeth o benodiad yr ymddiriedolwr mewn methdaliad neu gynrychiolydd personol gyda’r dystysgrif er mwyn iddi gael ei derbyn – gweler cyfarwyddyd ymarfer 6: datganoli marwolaeth perchennog cofrestredig, neu gyfarwyddyd ymarfer 34: ansolfedd personol fel sy’n briodol.

Pan fydd gweithred wedi ei llofnodi gan atwrnai, derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo sydd â phwerau estynedig neu ddirprwy

Yn wahanol i’r sefyllfa uchod, bydd unigolyn sy’n gweithredu yn un o’r swyddogaethau uchod (“yr asiant”) yn llofnodi gweithred ar ran y perchennog cofrestredig (“y penadur”). Ni fydd, fodd bynnag, yn berchennog yr ystad gofrestredig ei hunan.

Yn ôl y gyfraith, mae gweithred a lofnodir gan asiant sydd ag awdurdod priodol (boed yn ei enw ef neu yn enw ei benadur) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei llofnodi gan y penadur. Er enghraifft, gallai atwrnai sy’n gweithredu ar ran perchennog cofrestredig analluog lofnodi trosglwyddiad yn ei enw ei hunan, ac yn gyfreithiol, byddai’n cael ei ystyried fel petai wedi ei lofnodi gan y perchennog cofrestredig.

Mae cyfyngiad Ffurf LL neu gyfyngiad gwrth-dwyll cwmni yn effeithio ar warediadau o’r ystad gofrestredig gan berchennog yr ystad gofrestredig. Mae gwarediad gan asiant awdurdodedig y perchennog yn warediad gan y perchennog cofrestredig a chaiff ei ddal gan delerau’r cyfyngiad.

O ystyried yr uchod, er y byddwn yn derbyn tystysgrif gan drawsgludwr i gydymffurfio â chyfyngiad Ffurf LL neu gyfyngiad gwrth-dwyll cwmni o dan yr amgylchiadau hyn, cyn rhoi’r dystysgrif, rhaid i’r trawsgludwr fod yn fodlon:

  • mai X yw [atwrnai/dirprwy/derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo] y perchennog cofrestredig, ac
  • mai’r person a gyflawnodd [manylion y weithred a gyflwynwyd i’w chofrestru] ar ran perchennog y rhoddwr yw’r un person â’r [atwrnai/dirprwy/derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo]

Rhaid darparu tystiolaeth briodol o awdurdod yr unigolyn i lofnodi ar ran y perchennog cofrestredig hefyd. Gallai hyn, er enghraifft, fod ar ffurf atwrneiaeth neu orchymyn y Llys Gwarchod yn penodi dirprwy.

3.1.6 Cydymffurfio â chyfyngiad gan ddefnyddio ffurflen RXC

Ffurflen wirfoddol Cofrestrfa Tir EF yw Ffurflen RXC, a ddyluniwyd i helpu cwsmeriaid i ddarparu cydsyniadau a thystysgrifau i gydymffurfio â thelerau cyfyngiadau.

Bydd Ffurflen RXC yn eich helpu i ddarparu cydsyniadau neu dystysgrifau sy’n cwrdd â gofynion Cofrestrfa Tir EF, gyda’r nod o osgoi’r angen inni anfon ymholiadau mewn perthynas â chydsyniadau neu dystysgrifau anghyflawn neu ansicr.

Yn ogystal, mae’r ffurflen yn nodi bod unrhyw gydsyniad a roddir i gwblhau’r gwarediadau a nodir ac i’w cofrestriad.

Gellir defnyddio ffurflen RXC pryd bynnag mae geiriad cyfyngiad yn gofyn am gydsyniad neu dystysgrif. O ganlyniad, mae’n addas i’w defnyddio gyda’r mwyafrif helaeth o ffurfiau safonol o gyfyngiad a sawl ffurf ansafonol o gyfyngiad.

Er y byddwn yn dal i dderbyn cydsyniadau a thystysgrifau a gyflwynir fel y disgrifir yn Cydymffurfio â chyfyngiad, rydym yn argymell defnyddio ffurflen RXC lle bo hynny’n bosibl.

3.1.6.1 Defnyddio ffurflen RXC

Ceir nodiadau cyfarwyddyd gyda’r ffurflen a fydd yn eich helpu i lenwi’r paneli unigol. Dyma ychydig o bwyntiau ychwanegol i’w cofio. Mae canllawiau penodol ar gwblhau panel 3 i’w gweld yn Cwblhau Panel 3.

  • Dylech sicrhau eich bod yn darparu cymaint o fanylion â phosibl ym mhaneli 1 a 2 y ffurflen i’n helpu i nodi pa gyfyngiad mae’r cydsyniad neu dystysgrif a roddir yn ymwneud ag ef – efallai bydd angen inni anfon ymholiad os yw hyn yn anghyflawn neu’n aneglur.
  • Ni ellir defnyddio ffurflen RXC i ddarparu cydsyniadau neu dystysgrifau mewn perthynas â theitlau lluosog. Os oes angen ichi ddarparu cydymffurfiad neu dystysgrif mewn perthynas â nifer o deitlau, rhaid cyflwyno ffurflenni RXC ar wahân ar gyfer pob teitl. Fel arall, gellir rhoi cydsyniad neu dystysgrif ar bapur pennawd llythyr.
  • Fel rheol, ni ellir defnyddio ffurflen RXC i ddarparu cydsyniadau neu dystysgrifau mewn perthynas â mwy nag un cyfyngiad yn y gofrestr o’r un teitl lle mae’r cyfyngiadau hynny o blaid gwahanol bartïon.
  • Fodd bynnag, os oes cyfyngiadau lluosog o blaid yr un parti yng nghofrestr un teitl, gall y parti hwnnw ddefnyddio ffurflen RXC i roi cydsyniad mewn perthynas â’r holl gyfyngiadau trwy addasu panel 2 o’r ffurflen i fanylu ar yr amrywiol gofnodion cyfyngu.
  • Sylwer nad yw hyn yn gymwys i gyfyngiadau sy’n gofyn am dystysgrifau, a all, er o blaid yr un parti, gyfeirio at wahanol ddogfennau neu ddarpariaethau. Yn yr achos, hwn rhaid cyflwyno ffurflenni RXC ar wahân.
  • Gellir defnyddio ffurflen RXC i ddarparu cydsyniad neu dystysgrif swmp mewn perthynas â chyfyngiad sy’n dal trosglwyddiadau rhannol o deitl rhiant. Pan roddir cydsyniad neu dystysgrif swmp mewn perthynas â lleiniau penodol, gellir cyfeirio at y rhain ym mhanel 4 neu 5 ffurflen RXC fel sy’n briodol.
  • Os nad yw’r person sy’n rhoi’r cydsyniad neu dystysgrif wedi ei enwi’n bersonol yn y cyfyngiad – er enghraifft mae’r cyfyngiad yn gofyn am dystysgrif gan “drawsgludwr” neu “gyfarwyddwr neu ysgrifennydd…” – rhaid i fanylion y sawl sy’n rhoi’r cydsyniad neu dystysgrif ymddangos yn rhan B panel 3 bob tro.
  • Os yw’r dystysgrif neu gydsyniad a roddir ar ffurflen RXC gan gorfforaeth gyfansawdd (yn hytrach na’i thrawsgludwr) bydd y gofynion y manylir arnynt yn Tystysgrif neu gydsyniad corfforaeth gyfansawdd yn gymwys. Dylid defnyddio Rhan B o banel 3 i ddarparu enw llawn y llofnodwr a’i swyddogaeth i lofnodi er mwyn cydymffurfio â rheol 91B(5) o Reolau Cofrestru Tir 2003.
  • Os yw’r dystysgrif neu gydsyniad a roddir ar ffurflen RXC gan drawsgludwr (ac eithrio tystysgrif i gydymffurfio â chyfyngiad Ffurf LL), bydd y gofynion y manylir arnynt yn Tystysgrif neu gydsyniad gan drawsgludwr yn gymwys. Dylid defnyddio Rhan B panel 3 i nodi enw llawn yr unigolyn a’i swyddogaeth i lofnodi. Rhaid ichi nodi’r math o drawsgludwr ydych chi o dan ‘Statws’ yn rhan B – er enghraifft cyfreithiwr, trawsgludwr trwyddedig ac ati.

3.1.6.2 Cyflwyno ffurflen RXC gyda chais

Os yw cais yn cael ei wneud trwy’r post ac mae ffurflen RXC yn cael ei chyflwyno ar yr un pryd, rhaid cyflwyno’r ffurflen RXC wreiddiol, neu gopi ardystiedig ohoni, gyda’r cais.

Os yw cais yn cael ei wneud trwy’r porthol neu Business Gateway a bod copi o’r ffurflen RXC yn cael ei gyflwyno gyda’r cais hwnnw, neu os yw’r cyfyngiad yn ymwneud â chais sy’n aros i’w brosesu, dylid cyflwyno copi wedi ei sganio o ffurflen RXC trwy ei lanlwytho trwy ein porthol neu Business Gateway. Dylai’r copi wedi ei sganio o’r ffurflen RXC gael ei ardystio i fod yn gopi cywir o’r gwreiddiol gan ddefnyddio’r datganiadau ardystio sydd ar gael trwy ein porthol neu Business Gateway.

3.1.6.3 Rhoi cydsyniad gan ddefnyddio ffurflen RXC

Rhoddir cydsyniad i warediad a’i gofrestriad trwy lenwi panel 4 ffurflen RXC.

Fel y manylir yn Defnyddio ffurflen RXC, dylech sicrhau bod panel 4 wedi ei lofnodi gan y person(au) a all roi’r cydsyniad o dan delerau’r cyfyngiad, a bod eu manylion wedi eu darparu ym mhanel 3.

Gall unigolyn nad yw’n drawsgludwr lofnodi panel 4 ffurflen RXC mewn ‘inc gwlyb’ neu ddefnyddio llofnod electronig.

Byddwn yn derbyn ffurflen RXC wedi ei llofnodi’n electronig o dan yr amgylchiadau uchod dim ond pan gaiff ei chyflwyno gan drawsgludwr.

Wrth wneud hynny, byddwn yn dibynnu ar y trawsgludwr sy’n cyflwyno’r ffurflen RXC heb unrhyw reswm i amau dilysrwydd y llofnod.

Rhaid ichi hefyd sicrhau bod yr holl warediad(au) mae’r cydsyniad yn ymwneud â nhw wedi eu rhestru yn yr adran hon, er enghraifft “trosglwyddo, rhoi hawddfraint, arwystl”.

3.1.6.4 Rhoi tystysgrif gan ddefnyddio ffurflen RXC

Rhoddir tystysgrif trwy gwblhau panel 5 ffurflen RXC.

Fel y manylir yn Defnyddio ffurflen RXC, dylech sicrhau bod panel 5 wedi ei lofnodi gan y person(au) cywir a all roi’r dystysgrif o dan delerau’r cyfyngiad, a bod eu manylion wedi eu darparu ym mhanel 3.

Rhaid ichi hefyd sicrhau bod yr holl warediad(au) mae’r dystysgrif yn ymwneud â nhw wedi eu rhestru yn yr adran hon, er enghraifft “trosglwyddo, rhoi hawddfraint, arwystl”.

Gall unigolyn nad yw’n drawsgludwr lofnodi panel 5 ffurflen RXC mewn ‘inc gwlyb’ neu ddefnyddio llofnod electronig.

Byddwn yn derbyn ffurflen RXC wedi ei llofnodi’n electronig o dan yr amgylchiadau uchod dim ond pan gaiff ei chyflwyno gan drawsgludwr.

Wrth wneud hynny, byddwn yn dibynnu ar y trawsgludwr sy’n cyflwyno’r ffurflen RXC heb unrhyw reswm i amau dilysrwydd y llofnod.

Rhaid i’r dystysgrif a roddir adlewyrchu geiriad y cyfyngiad. Er enghraifft, mae modd ardystio y cydymffurfiwyd â’r darpariaethau y cyfeirir atynt mewn cyfyngiad, neu nad ydynt yn berthnasol i’r gwarediad(au), os yw’r cyfyngiad yn caniatáu tystysgrif yn y telerau hynny. Mae’n bwysig eich bod yn ticio’r blwch cywir ym mhanel 5.

Cofiwch, os yw’r cyfyngiad yn gofyn am dystysgrif heblaw un sy’n cadarnhau y cydymffurfiwyd â’r darpariaethau y cyfeirir atynt yn y cyfyngiad, neu nad ydynt yn berthnasol i’r gwarediad(au) sy’n cael eu cofrestru, rhaid ichi dicio’r blwch ‘arall’ a nodi union eiriad y dystysgrif sy’n ofynnol fel y mae’n ymddangos yn y cyfyngiad. Os na nodir union eiriad y dystysgrif sy’n ofynnol ar y ffurflen, bydd hyn yn arwain at anfon ymholiad.

3.1.6.5 Cydsyniad neu dystysgrif sy’n ofynnol gan berchennog ystad gofrestredig a nodir yn y cyfyngiad

Mae rhai cyfyngiadau’n ei gwneud yn ofynnol i berchennog cyfredol rhif teitl penodol neu ystad gofrestredig benodol roi cydsyniad neu dystysgrif – er enghraifft Cyfyngiad safonol ffurf M a’r geiriad dewisol yn Ffurfiau O a PP.

Os mai unigolyn yw perchennog y teitl a grybwyllir yn y cyfyngiad, fel rheol, dylai dicio’r blwch cyntaf yn rhan A panel 3 y ffurflen, gan gadarnhau mai ef yw’r person sydd â hawl i ddarparu’r cydsyniad neu dystysgrif, ac yna cadarnhau o dan ‘Statws’ yn rhan B panel 3 mai ef yw perchennog cofrestredig y teitl y cyfeirir ato yn y cyfyngiad.

Os mai cwmni yw perchennog y teitl a enwir yn y cyfyngiad, fel rheol, bydd y sawl sy’n rhoi’r cydsyniad neu dystysgrif yn ticio’r ail flwch yn rhan A, ac yna’n dewis o’r opsiynau perthnasol. Oherwydd nad yw wedi ei enwi’n bersonol yn y cyfyngiad, dylai hefyd gwblhau rhan B, a darparu manylion am ei safle yn y cwmni – er enghraifft ‘cyfarwyddwr’ neu ‘ysgrifennydd’.

3.1.6.6 Atwrnai neu gynrychiolydd personol yn defnyddio ffurflen RXC

Os yw’r unigolyn sy’n llofnodi ffurflen RXC yn gwneud hynny oherwydd ei fod yn gweithredu o dan atwrneiaeth, dylid cynnwys copi o’r atwrneiaeth gyda’r ffurflen.

Fel arall, gellir cyflwyno tystysgrif trawsgludwr ar wahân yn cadarnhau:

  • dyddiad, rhoddwr a rhoddai’r atwrneiaeth (‘yr atwrneiaeth’)
  • bod yr atwrneiaeth yn bodoli a’i bod yn cael ei gweithredu’n ddilys fel gweithred
  • bod yr atwrneiaeth yn awdurdodi’r atwrnai i gyflawni’r ddogfen ar ran y rhoddwr a’i
  • fod yn dal yr offeryn sy’n creu’r atwrneiaeth

Os yw ffurflen RXC yn cael ei defnyddio i roi cydsyniad neu dystysgrif gan gynrychiolydd personol, rhaid anfon copi o’r grant profiant neu lythyrau gweinyddu gyda’r ffurflen.

3.1.6.7 Cwblhau panel 3

Bydd y tabl isod yn eich helpu i benderfynu pa flychau mae angen ichi eu ticio yn Rhan A panel 3, ac a oes angen cwblhau Rhan B ai peidio. Bydd hyn fel arfer yn dibynnu ar bwy sy’n rhoi’r cydsyniad neu dystysgrif.

Rhoddir y cydsyniad neu dystysgrif gan Rhan A (Blwch cyntaf) Rhan A (Ail flwch) Rhan B
Unigolyn preifat wedi ei enwi’n bersonol Oes Nac oes Nac oes
Corfforaeth gyfansawdd Nac oes Oes Oes
Trawsgludwr Oes Nac oes Oes
Y ceisydd am gofrestriad lle mae’n:
Unigolyn preifat Oes Nac oes Oes
Corfforaeth gyfansawdd Nac oes Oes Oes
Trawsgludwr ar ran:
Unigolyn preifat Nac oes Oes Oes
Corfforaeth gyfansawdd Nac oes Oes Oes
Cynrychiolwyr personol Nac oes Oes Oes
Atwrneiod Nac oes Oes Oes
Perchennog cofrestredig rhif teitl penodol neu ystad rifersiwn – lle mae:
Unigolyn preifat Oes Nac oes Oes
Corfforaeth gyfansawdd Nac oes Oes Oes
Perchennog arwystl neu is-arwystl cofrestredig – lle mae:
Unigolyn preifat Oes Nac oes Nac oes
Corfforaeth gyfansawdd Nac oes Oes Oes

Os rhoddir cydsyniad neu dystysgrif gan drawsgludwr unigol, sylwer bod yn rhaid iddo lenwi rhan b panel 3 gyda’i enw, yn hytrach nag enw ei gwmni. Dylai hefyd nodi ei statws yn y cwmni a chyfeiriad ei gwmni.

3.1.6.8 Ffurflen RXC a Chyfyngiadau Ffurf LL neu gyfyngiad gwrth-dwyll cwmni

Gellir defnyddio ffurflen RXC a chyfyngiadau gwrth-dwyll cwmnii ddarparu tystysgrif i gydymffurfio â chyfyngiad Ffurf LL. Fodd bynnag, rhaid bodloni’r gofynion yn Cyfyngiad Ffurf LL neu’r cyfyngiad gwrth-dwyll cwmnier mwyn gwneud hynny.

I ddefnyddio ffurflen RXC i roi tystysgrif i gydymffurfio â chyfyngiad Ffurf LL neu gyfyngiad gwrth-dwyll cwmni, rhaid ichi wneud y canlynol:

Cwblhau panel 3 yn gywir – rhaid i berson o fewn diffiniad ‘trawsgludwr’ (rheol 217A o Reolau Cofrestru Tir 2003) dicio’r blwch cyntaf yn rhan A yna rhaid rhoi manylion llawn y sawl sy’n rhoi’r dystysgrif yn rhan B panel 3.

Cwblhau panel 5 yn gywir – yn ychwanegol at y gofynion cyffredinol yn Rhoi tystysgrif gan ddefnyddio ffurflen RXC, rhaid ichi dicio’r trydydd blwch ‘arall’ a nodi geiriad y dystysgrif sy’n ofynnol gan y cyfyngiad fel a ganlyn:

Cyfyngiad Ffurf LL

“mai’r person a gyflawnodd y ddogfen a gyflwynwyd i’w chofrestru fel gwaredwr yw’r un person â’r perchennog.”

Cyfyngiad gwrth-dwyll cwmni

“mai’r cwmni a gyflawnodd y ddogfen a gyflwynwyd i’w chofrestru fel gwaredwr yw’r un cwmni â’r perchennog, a bod camau rhesymol wedi eu cymryd i sefydlu bod pob person a lofnododd fel swyddog i’r cwmni yn dal y swydd a nodir ar adeg ei chyflawni.”

Yna rhaid i ffurflen RXC gael ei llofnodi gan y trawsgludwr neu Ymarferydd Trawsgludo CILEx yn ei enw ei hunan nid yn enw eu cwmni (fel sy’n ofynnol gan reol 217A (2). Yn debyg i bob tystysgrif Ffurf LL neu gyfyngiad gwrth-dwyll cwmni, rhaid llofnodi Ffurflen RXC mewn inc gwlyb bob tro.

3.2 Cofnodi cyfyngiadau

3.2.1 Cyfyngiadau a gofnodwyd yn ôl disgresiwn y cofrestrydd

Mae adran 42(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn dangos pŵer cyffredinol y cofrestrydd i gofnodi cyfyngiad fel a ganlyn.

“Gall y cofrestrydd gofnodi cyfyngiad yn y gofrestr os bydd o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol i wneud hynny at ddiben –

(a) atal rhag annilysrwydd neu anghyfreithlondeb o ran gwarediadau o ystad neu arwystl cofrestredig,

(b) sicrhau bod buddion y gellir eu gorgyrraedd ar warediad ystad neu arwystl cofrestredig yn cael eu gorgyrraedd, neu

(c) gwarchod hawl neu hawliad o ran ystad neu arwystl cofrestredig.”

Gall y cofrestrydd gofnodi cyfyngiad i gyflawni un o’r dibenion hyn boed cais yn cael ei wneud neu beidio. Fodd bynnag, bydd y cofrestrydd bob amser yn hysbysu’r perchennog perthnasol pan fydd yn cofnodi cyfyngiad heb gais i wneud hynny. Gweler Ceisiadau hysbysadwy i gael gwybodaeth am gyflwyno rhybuddion pan wnaed cais i gofnodi cyfyngiad.

Fel arfer, bydd yn amlwg a yw cyfyngiad yn angenrheidiol neu’n ddymunol ar gyfer un o’r tri diben a ganiateir, ond nid dyma sut y bydd bob amser. Sylwch nad yw’r diben yn adran 42(1)(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn caniatáu i’r cofrestrydd gofnodi cyfyngiad o ran unrhyw hawl neu hawliad ond ei fod wedi ei gyfyngu fel a ganlyn.

  • Yn gyntaf, ni all y cofrestrydd gofnodi cyfyngiad i warchod blaenoriaeth budd a warchodir neu y gellir ei warchod trwy rybudd (adran 42(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Fodd bynnag, gall cyfyngiad ddal i fod yn angenrheidiol neu’n ddymunol ar gyfer un o’r dibenion eraill a ganiateir yn adran 42(1)(a) neu (b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, er enghraifft i atal rhag torri darpariaeth mewn contract yn anghyfreithlon wedi iddo gael ei warchod trwy rybudd
  • Yn ail, mae modd gwarchod hawl neu hawliad o dan y trydydd diben a ganiateir dim ond os yw’n berthnasol i ystad neu arwystl cofrestredig. Gan mai dim ond yr ystad gyfreithiol fydd yn cael ei chofrestru, nid yw hyn yn cynnwys hawliau neu hawliadau sy’n berthnasol yn unig i fudd llesiannol mewn eiddo

Serch hynny, gall cyfyngiad a gofnodwyd o dan adran 42(1)(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, fel Ffurf K, warchod gorchymyn tâl sy’n effeithio ar fudd llesiannol o dan ymddiried gan fod hwn yn cael ei gadarnhau’n benodol yn Neddf Cofrestru Tir 2002 (adran 42(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Yn gyffredinol, fodd bynnag, dim ond o ran budd o dan ymddiried at un o’r 2 ddiben arall a ganiateir y gall cyfyngiad gael ei gofnodi. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd cyfyngiad Ffurf A yn briodol at yr ail ddiben, i sicrhau bod gorgyrraedd yn digwydd ar warediad sy’n peri arian cyfalaf. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 24: ymddiriedau tir preifat i gael rhagor o wybodaeth.

3.2.2 Lle mae’n rhaid inni gofnodi cyfyngiad

Rhaid inni gofnodi cyfyngiad o dan rai amgylchiadau, sef:

  • lle byddwn yn cofnodi 2 neu ragor o bobl fel cydberchnogion ystad gofrestredig mewn tir a’r goroeswr yn methu rhoi derbynneb ddilys am arian cyfalaf (adran 44(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) – gweler cyfarwyddyd ymarfer 24: ymddiriedau tir preifat i gael rhagor o wybodaeth
  • lle bo rhyw statud arall yn gorfodi’r cofrestrydd i gofnodi cyfyngiad (adran 44(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
  • lle bo gorchymyn methdaliad wedi ei gofrestru o dan Ddeddf Pridiannau Tir 1972 a’i bod yn ymddangos yr effeithir ar ystad neu arwystl cofrestredig (adran 86(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mae cyfarwyddyd ymarfer 34: ansolfedd personol yn rhoi rhagor o fanylion ynghylch cofnodi cyfyngiad methdaliad
  • lle bo’r llys yn gwneud gorchymyn sy’n gofyn bod y cofrestrydd yn cofnodi cyfyngiad (adran 46 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) – gweler Gorchmynion llys sy’n gofyn am gofnodi cyfyngiad i gael rhagor o fanylion ynghylch cyfyngiadau gofynnol gan y llys.

Mae rheol 95 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn pennu ffurfiau cyfyngiad y mae’n rhaid i ni eu cofnodi o dan amrywiol ddarpariaethau statudol.

3.3 Ffurf cyfyngiad

3.3.1 Ffurfiau safonol o gyfyngiad

Rhaid i effaith cyfyngiad fod yn glir o’i eiriad a rhaid i’w weinyddiad beidio â rhoi baich afresymol arnom. Mae Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003 yn pennu nifer o ffurfiau safonol o gyfyngiad sydd â’r bwriad o gwmpasu mwyafrif llethol y ceisiadau fydd yn cael eu gwneud. Mae’r rhain i’w gweld yn Atodiad B: ffurfiau safonol o gyfyngiad.

Mae geiriad y ffurfiau safonol o gyfyngiad yn glir fel y byddwn ni, a rhywun sy’n archwilio’r gofrestr, yn gallu penderfynu a fydd ei delerau yn dal cais penodol ac, os felly, pa gamau y mae angen eu cymryd i ganiatáu’r i’r cais fynd rhagddo.

Er mwyn atal cyfyngiad rhag achosi problemau nas rhagwelwyd, ac i helpu i ystyried eich cais, byddwch cystal â nodi’r cwestiynau a restrir yn Pethau i’w hystyried cyn gwneud cais am gyfyngiad wrth baratoi cais am gyfyngiad.

Cofiwch y pwyntiau canlynol wrth wneud cais am gyfyngiad safonol:

  • mae geiriau mewn [cromfachau sgwâr] mewn llythrennau cyffredin yn rhannau dewisol o’r ffurf; ni ddylid cynnwys y cromfachau yn y cyfyngiad
  • mae geiriau mewn {cromfachau cyrliog} yn gyfarwyddiadau i gwblhau’r ffurf, ac ni ddylid eu cynnwys yn y cyfyngiad
  • lle bo (cromfachau crwn) yn amgáu gair neu eiriau, mae’r cromfachau a’r holl eiriau mewn llythrennau cyffredin sy’n cael eu hamgáu yn rhan o’r ffurf ac, oni bai eu bod wedi’u hamgáu mewn [cromfachau sgwâr] hefyd, rhaid eu cynnwys yn y cyfyngiad
  • lle bo ffurf yn cynnwys cyfres o gymalau sy’n cael eu cyflwyno gan fwledi, dim ond un o’r cymalau y gellir ei ddefnyddio; ni ddylid cynnwys y bwledi yn y cyfyngiad
  • lle bo cyfyngiad Ffurf J, K, Q, S, T, BB, DD, FF HH, JJ, LL neu OO yn ymwneud ag arwystl cofrestredig, sy’n un o 2 arwystl cofrestredig neu ragor o’r un dyddiad ac yn effeithio ar yr un ystad gofrestredig, rhaid ychwanegu’r geiriau ‘o blaid’ at y cyfyngiad, i’w dilyn gan enw perchennog cofrestredig yr arwystl ar ôl dyddiad yr arwystl
  • er bod rhai cyfyngiadau safonol yn caniatáu cyfeirio at gydymffurfio â chymal penodol mewn gweithred, nid ydynt yn caniatáu geiriad sy’n cyfeirio at y weithred yn ei chyfanrwydd, “yr holl gymalau” neu debyg. Byddai cyfeiriadau o’r fath yn gwneud y cyfyngiad yn ansafonol
  • lle bo geiriad cyfyngiad yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu ar gyfer tystysgrif neu gydsyniad i’w roi gan y cyfyngwr ‘[neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]’, dylai’r geiriau ‘neu rhowch fanylion priodol’ gyfeirio at ddosbarth (neu ddosbarthiadau) o berson y gellir disgwyl iddynt weithredu ar ran y cyfyngwr yn hytrach nag at berson penodol a enwyd. Cofiwch hefyd, fel yr eglurir yn Tystysgrif neu gydsyniad gan gorfforaeth gyfansawdd, bydd rheol 91B yn berthnasol i dystysgrif neu gydsyniad a roddir gan gorfforaeth gyfansawdd – oni bai bod bwriad i’r gwrthwyneb yn ymddangos yn y cyfyngiad
  • bydd unrhyw destun disgrifiadol ychwanegol yn gwneud y cyfyngiad yn ansafonol – gweler y paragraff olaf ond un yn Addasu’r cyfyngiad i gydweddu â’ch amgylchiadau. Yn yr un modd, ni ddylid defnyddio’r opsiwn i “nodi manylion priodol” i nodi enw ail lofnodwr, neu enw ail lofnodwr ynghyd â disgrifiad.
  • ni ellir newid cyfyngiad i ddechrau â’r geiriau ‘nid oes deliad’ neu ‘nid oes gwarediad neu ddeliad’, ac ni ellir defnyddio geiriad i atal nodi (yn hytrach na chofrestru) gwarediad
  • bydd cyfyngiad sy’n cyfeirio at “Dim gwarediad…”, yn dal, ymhlith pethau eraill, trosglwyddiadau, prydlesi, arwystlon a rhoi, cadw neu amrywio hawddfreintiau
  • gallai cyfyngiad sy’n effeithio ar deitl rhydd-ddaliol sy’n gofyn am dystysgrif gan drawsgludwr fod yn well nag un sy’n gofyn am dystysgrif gan, er enghraifft, cwmni rheoli penodol oherwydd gallai anawsterau godi, er enghraifft, os caiff y cwmni ei ddiddymu neu ei newid wedi hynny.
3.3.1.1 Addasu’r cyfyngiad i gydweddu â’ch amgylchiadau

Mae Rheol 91A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn caniatáu’r newidiadau canlynol i’r cyfyngiadau safonol:

  • lle bwriedir i ffurf safonol o gyfyngiad effeithio ar ran o ystad gofrestredig dylid disodli’r geiriau ‘Nid oes [gwarediad {neu rhowch fanylion y math o warediad}] o’r ystad gofrestredig’ â’r geiriau ‘Nid oes gwarediad {neu rhowch fanylion y math o warediad} o’r rhan o’r ystad gofrestredig’ i’w dilyn gan ddisgrifiad digonol, trwy gyfeirio at gynllun neu fel arall, i adnabod y rhan berthnasol yn glir
  • gall cyfyngiad safonol Ffurf L, M, N, O, P, S, T, II, NN, OO neu PP ddechrau â’r gair ‘Hyd’ i’w ddilyn gan ddyddiad
  • gall cyfyngiad safonol Ffurf L, N, S, T, II, NN neu OO ddechrau â’r geiriau ‘Hyd farwolaeth {enw}, neu ‘Hyd farwolaeth goroeswr {enwau 2 neu ragor o bobl}’
  • os yw’r geiriau ‘nhw neu ‘eu’ yn ymddangos mewn ffurf safonol o gyfyngiad gellir eu disodli, fel y bo’n briodol gan ‘ef’ neu ‘hi’ neu ei (gwrywaidd neu fenywaidd) os yw’n cyfeirio at berson neu gorfforaeth a enwir yn y cyfyngiad
  • lle bo ffurf safonol o gyfyngiad yn caniatáu manylu ar y math penodol o gyfyngiad, gellir disodli’r gair ‘gwarediad’ gan ‘trosglwyddiad’ ‘prydles’ ‘arwystl’ ‘is-arwystl’ neu unrhyw gyfuniad o’r rhain ond ni ellir defnyddio unrhyw air arall
  • lle bo cyfyngiad y gwnaed cais amdano ar Ffurf safonol L, M, O, P, S, NN, OO neu PP, dylid ystyried cynnwys y geiriau ‘[neu nad ydynt yn berthnasol i’r gwarediad]’ o fewn y cyfyngiad oherwydd hebddynt, ni ellir rhoi tystysgrif yn y dyfodol nad yw’r cyfyngiad yn gymwys i’r trafodiad penodol a gyflwynwyd

Fel enghraifft, nodir dau amrywiad ar gyfyngiad safonol Ffurf L isod. Bydd yr enghraifft gyntaf yn dal pob gwarediad gan berchennog yr ystad gofrestredig neu berchennog unrhyw arwystl cofrestredig (ar wahân i’r rhai a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad), ond mae’n caniatáu ar gyfer tystysgrif gan unrhyw drawsgludwr. Rhaid i’r dystysgrif gadarnhau y cydymffurfiwyd â’r darpariaethau y cyfeirir atynt yn y cyfyngiad neu nad ydynt yn berthnasol i’r gwarediad. Mewn cyferbyniad, bydd yr ail enghraifft dim ond yn dal trosglwyddiadau o’r ystad gofrestredig gan y perchennog cofrestredig – ond rhaid i’r dystysgrif gael ei darparu gan berson penodol a rhaid iddi gadarnhau y cydymffurfiwyd â’r darpariaethau a nodir.

“Nid oes gwarediad o’r ystad gofrestredig gan berchennog yr ystad gofrestredig neu gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig, nad yw’n arwystl cofrestredig a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn, i’w gofrestru heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan drawsgludwr sy’n nodi y cydymffurfiwyd â darpariaethau paragraff 4.1 o Weithred ddyddiedig 22 Mehefin 2012 a wnaed rhwng (1)… a (2)… neu nad ydynt yn berthnasol i’r gwarediad.”

“Nid oes trosglwyddiad o’r ystad gofrestredig gan berchennog yr ystad gofrestredig i’w gofrestru heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan Thomas Atkins o 22 Acacia Avenue… y cydymffurfiwyd â darpariaethau paragraff 4.1 o Weithred ddyddiedig 22 Mehefin 2012 a wnaed rhwng (1)… a (2)…”

Yn ogystal â’r dewisiadau a ganiateir gan reol 91A y cyfeirir atynt uchod, sy’n cynnwys darpariaethau ar gyfer cyfyngiadau a fydd yn dod i ben ar farwolaeth rhywun neu rywrai a enwir, mae geiriad cyfyngiad safonol Ffurf L, N, S, T, NN ac OO yn caniatáu cynnwys geiriad i ddangos pwy ddylai roi’r dystysgrif neu gydsyniad os yw’r cyfyngiad i barhau mewn grym ar ôl marwolaeth y person a enwir yn y cyfyngiad. Dylech bob amser ystyried defnyddio’r opsiynau hyn pa fo’r cyfyngwr yn berson oherwydd y gallant wneud cais nes ymlaen i ddileu’r cyfyngiad, ei dynnu yn ôl neu ei addasu yn haws o lawer i’r ceisydd ac i Gofrestrfa Tir EF. Mae’r dewisiadau’n cynnwys:

  • ychwanegu’r geiriau ‘neu eu cynrychiolwyr personol’ ar ôl enw a chyfeiriad y sawl sy’n gorfod rhoi tystysgrif neu gydsyniad yn ôl y cyfyngiad
  • ychwanegu’r geiriau ‘neu ar ôl marwolaeth y person hwnnw gan {enw} o {cyfeiriad}, ar ôl enw’r cyfyngwr os yw’r cyfyngiad i barhau mewn grym ar ôl marwolaeth y cyfyngwr ond nad yw’n briodol i gynrychiolwyr personol y cyfyngwr roi’r cydsyniad neu’r dystysgrif
  • defnyddio’r geiriau ‘{enw} o {cyfeiriad} a {enw} o {cyfeiriad} neu’r goroeswr ohonynt’ os enwir mwy nag un person yn y cyfyngiad ac os oes hawl i’r budd a warchodir gan y cyfyngiad trwy oroesi
  • defnyddio’r geiriau ‘{enw} o {cyfeiriad} a {enw} o {cyfeiriad} neu’r goroeswr ohonynt neu gan gynrychiolwyr personol y goroeswr’ os yw’r cyfyngiad i barhau mewn grym ar ôl marwolaeth goroeswr y bobl a enwir

Ar ben hyn:

  • Gellir ychwanegu’r geiriau ‘neu gan {enw} o {cyfeiriad}, ar ôl enw’r cyfyngwr os ydynt am ganiatáu i ail berson gwahanol roi’r cydsyniad neu dystysgrif

Dylid defnyddio’r geiriad ychwanegol dim ond lle bo’n cael ei ddangos fel opsiwn yng ngeiriad y cyfyngiadau safonol.

Mae cyfarwyddiadau ymarfer eraill yn y gyfres hon yn cynnwys gwybodaeth am ffurfiau safonol o gyfyngiad y dylid neu y gellir gwneud cais amdanynt neu eu cofnodi mewn sefyllfaoedd penodol.

Bydd unrhyw newid nad yw’n cael ei ddarparu gan reol 91A neu sy’n mynd y tu hwnt i’r rheiny a eglurir yn Ffurfiau safonol o gyfyngiad yn gwneud y cyfyngiad yn ansafonol. Er enghraifft, nid yw’r maes {enw} yn y cyfyngiadau safonol yn caniatáu ar gyfer testun disgrifiadol ychwanegol megis manylion y swyddfa arbennig neu swyddogaeth yr un sy’n gwneud y cyfyngiad. Os oes angen cyfyngiad o blaid, er enghraifft, ‘X, goruchwyliwr…’ dylid gwneud cais am gyfyngiad ansafonol. Yn yr un modd, bydd cyfeiriad at X, ymddiriedolwr … hefyd yn gwneud geiriad y cyfyngiad yn ansafonol.

Bydd cyfyngiadau Ffurf L, M, O, P, S, NN, OO a PP lle y mae’n ofynnol iddynt gydymffurfio â’r holl ddarpariaethau mewn gweithred neu ddogfen arall (yn hytrach na rhai cymalau penodedig) hefyd yn gwneud y cyfyngiad yn ansafonol.

3.3.2 Cyfyngiadau nad ydynt ar ffurf safonol

Ni ddylech wneud cais am gyfyngiad nad yw ar ffurf safonol oni bai nad yw un o’r ffurfiau safonol o gyfyngiad yn briodol.

Lle nad oes unrhyw ffurf safonol briodol ar gael, byddwn yn cymeradwyo’r ffurf y gwnaed cais amdani dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • mae’n rhesymol
  • byddai’n rhwydd ei defnyddio
  • ni fyddai ei defnyddio yn faich afresymol arnom (adran 43(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)

Cofiwch y canlynol wrth wneud cais am gyfyngiad heblaw ar ffurf safonol.

  • rhaid iddo bob amser gynnwys y geiriau ‘i gael ei gwblhau trwy gofrestru’ yn hytrach nag ‘i gael ei gofrestru’. Bydd hyn yn gwneud effaith y cyfyngiad yn glir. Mae’r term ‘cofrestredig’, lle caiff ei ddefnyddio yn unrhyw un o’r ffurfiau safonol o gyfyngiad, yn golygu cwblhau gwarediad cofrestradwy trwy gydymffurfio â’r gofynion cofrestru perthnasol a bennir yn Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (rheol 91(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003), ond mae’r diffiniad statudol hwn yn gymwys i ffurfiau safonol o gyfyngiad yn unig. Sylwch na fyddwn yn derbyn cyfyngiadau nad ydynt ar ffurf safonol i’w cofrestru sy’n cynnwys y geiriau ‘i gael ei gofrestru’.
  • os yw’r cyfyngiad yn effeithio ar ran yn unig o stent cofrestredig, rhaid iddo gynnwys disgrifiad digonol i ddynodi’n eglur y rhan o dan sylw, trwy gyfeirio at gynllun neu fel arall.
  • peidiwch â dechrau geiriad y cyfyngiad gyda ‘Nid oes deliad’ neu ‘Nid oes gwarediad neu ddeliad’ na defnyddio geiriad i atal rhag nodi (yn hytrach na chofrestru) gwarediad.
  • cyn ichi derfynu cytundeb lle bo’r partïon yn cytuno ar wneud cais am gyfyngiad ansafonol ar ffurf benodol, cofiwch sicrhau gyda ni fod y ffurf fwriadedig yn dderbyniol. Gall fod yn anodd ail-drafod telerau cyfyngiad annerbyniol ar ôl gwneud cytundeb.

Cofiwch hefyd y bydd cyfyngiadau a gofnodwyd yn y gofrestr cyn cyflwyno Deddf Cofrestru Tir 2002 (cyn 13 Hydref 2003) yn aml yn defnyddio geiriad anarferedig. Ymhellach, ni fydd geiriad y rhan fwyaf o gyfyngiadau darfodedig yn dderbyniol i’w ddefnyddio mewn cyfyngiad ansafonol newydd. Yn ogystal, mae ein hymarfer a’n rheolau hefyd wedi newid o bryd i’w gilydd ers cyflwyno Deddf Cofrestru Tir 2002. Felly, ni ddylai ceiswyr gymryd yn ganiataol y bydd geiriad cyfyngiad sydd eisoes yn ymddangos ar gofrestr teitl yn awtomatig yn dderbyniol ar gyfer cyfyngiad newydd.

Gan fod yn rhaid i ni ystyried priodoldeb unrhyw gyfyngiad nad yw ar Ffurf safonol sy’n cael ei geisio, mae’r ffi a bennir yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol am wneud cais yn uwch na’r un am ffurf safonol o gyfyngiad, gweler Cofrestrfa Tir EF: Gwasanaethau Cofrestru.

Enghraifft gyffredin o gyfyngiad ansafonol yw un sy’n nodi prydlesi na fwriedir iddynt gael eu dal gan y cyfyngiad. Mae enghraifft o’r math hwn o gyfyngiad ansafonol wedi ei nodi isod gyda’r geiriad ansafonol mewn cromfachau sgwâr.

CYFYNGIAD: Nid yw unrhyw drosglwyddiad neu brydles o’r ystad gofrestredig (ac eithrio [prydles am gyfnod sy’n dod i ben lai nag 21 mlynedd ar ôl dyddiad y brydles]) gan berchennog yr ystad gofrestredig i’w [gwblhau trwy gofrestriad] heb dystysgrif llofnodwyd gan drawsgludwr y cydymffurfiwyd â darpariaethau cymal 13.6 o’r Trosglwyddo dyddiedig 21 Awst 2008 a wnaed rhwng (1) … a (2) ….

3.4 Gwneud cais am gyfyngiad

3.4.1 Y rhai all wneud cais am gyfyngiad

Yr unig rai sy’n gallu gwneud cais i gofnodi cyfyngiad yw:

  • y perchennog perthnasol
  • rhywun â hawl i’w gofrestru fel y perchennog perthnasol (gweler Gwneud ceisiadau gyda chydweithrediad y perchennog perthnasol)
  • rhywun sydd wedi cael cydsyniad y perchennog perthnasol neu rywun gyda hawl i’w gofrestru fel y cyfryw, neu
  • rhywun sydd â budd digonol fel arall mewn gwneud y cofnod

3.4.2 Pethau i’w hystyried cyn gwneud cais am gyfyngiad

  • Cyn gwneud cais am gyfyngiad, gofynnwch y cwestiynau canlynol ichi’ch hunan:
  • Pwy y bwriedir iddo gael ei rwymo gan y cyfyngiad? Er enghraifft, bydd yn anodd dangos y dylai’r teitl fod yn ddarostyngedig i gyfyngiad os yw’r budd yn ymwneud â pherson nad yw’n berchennog cofrestredig.
  • A yw’r perchennog cofrestredig neu rywun sydd â hawl i gael ei gofrestru fel perchennog yn cydsynio i gofnodi’r cyfyngiad ac a allwch chi ddarparu tystiolaeth i gadarnhau eu cydsyniad? Os na, a oes gennych dystiolaeth i ddangos bod gan y ceisydd fudd digonol i wneud y cyfyngiad? Darllenwch Cofnodi cyfyngiadau a Gwneud ceisiadau heb gydweithrediad y perchennog perthnasol: yr angen i ddangos budd digonol am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r pwynt hwn.
  • Pa fath o warediadau y bwriedir eu dal? Cofiwch, os bwriedir i gyfyngiad ddal pob gwarediad, byddai hyn yn cynnwys trosglwyddiad (gan gynnwys cydsynio), prydles, arwystl, a rhoi/cadw/amrywiad o hawddfraint – (gweler Effaith gyffredinol cyfyngiadau ac Addasu’r cyfyngiad i gydweddu â’ch amgylchiadau. Cofiwch, gall cyfyngiad sy’n gofyn am dystysgrif cydymffurfio hefyd ymgorffori geiriad ychwanegol i ganiatáu ar gyfer tystysgrif sy’n cadarnhau’n syml nad yw’r darpariaethau y cyfeirir atynt yn y cyfyngiad yn berthnasol i warediad. Er mwyn caniatáu ar gyfer yr opsiwn hwn, y cyfan sydd angen ei wneud yw llenwi’r cyfyngiad â’r geiriau “neu nad ydynt yn berthnasol i’r gwarediad” (gweler ffurf safonol y cyfyngiadau a nodir yn Atodiad A am ragor o fanylion).
  • A oes angen caniatâd neu dystysgrif cydymffurfio gan barti penodol ar gyfer natur y budd y bwriedir ei warchod gan y cyfyngiad? Os felly, cofiwch y bydd arnom angen cyfeiriad ar gyfer gohebu ar gyfer y parti hwnnw – ac os ydynt yn gwmni, yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu’n gorff corfforaethol, bydd angen rhif cofrestru’r cwmni neu diriogaeth ei gorffori arnom, fel y bo’n briodol. *A oes math safonol o gyfyngiad y dylid ei ddefnyddio? Cofiwch mai dim ond nifer cyfyngedig o gyfyngiadau safonol fydd yn briodol mewn llawer o achosion – gweler Atodiad A. O ran teitlau prydlesol, cofiwch hefyd y bydd cyfyngiad safonol Ffurf PP fel arfer yn well na chyfyngiad Ffurf L neu M sy’n nodi landlord penodol neu rif teitl oherwydd bydd rhif teitl y landlord a/neu’r landlord yn aml yn newid dros amser – gweler adran 2.3.1 cyfarwyddyd ymarfer 19A: cyfyngiadau ac eiddo prydlesol. Yn ogystal, ar gyfer cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â chyfamodau mewn prydles lle nad yw’r tenant wedi cytuno i gofnodi’r cyfyngiad, nodwch hefyd gynnwys adran 2.3.2 cyfarwyddyd ymarfer 19A: cyfyngiadau ac eiddo prydlesol.
  • A oes pwynt pendant yn y dyfodol pan fydd y budd a warchodir gan y cyfyngiad yn dod i ben? Os felly, efallai y bydd y cyfyngiad yn gallu nodi’r ffaith hon trwy ddechrau “Hyd at… (dyddiad) dim gwarediad o’r ystad gofrestredig…”.
  • A fydd y llog yn berthnasol i berchennog/parti penodol yn unig? Er enghraifft, a yw’n dod i ben yn awtomatig ar farwolaeth y cyfyngwr? Os felly, eto gall y cyfyngiad nodi pryd nad oes ei angen mwyach trwy ddechrau “Hyd at farwolaeth… nid oes gwarediad o’r ystad gofrestredig…” Gweler Addasu’r cyfyngiad i gydweddu â’ch amgylchiadau am ragor o wybodaeth yn ymwneud â’r ddau bwynt olaf hyn.

3.4.3 Ceisiadau gorfodol

Mae rheol 94 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn pennu rhai sefyllfaoedd lle bydd rhywun yn gorfod gwneud cais am gyfyngiad. Yn arbennig, lle caiff ymddiried newydd ei sefydlu neu os oes newid mewn ymddiried tir ac na fydd unig berchennog o ganlyniad yn gallu rhoi derbynneb ddilys am arian cyfalaf, rhaid i’r perchennog wneud cais am gyfyngiad Ffurf A (Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003). Dyma’r cyfyngiad cydberchnogaeth safonol – gweler cyfarwyddyd ymarfer 24: ymddiriedau tir preifat i gael rhagor o wybodaeth.

Lle bo 2 neu ragor o bobl o dan rwymedigaeth o dan reol 94 o Reolau Cofrestru Tir 2003 i wneud cais am gyfyngiad Ffurf A, sylwch y bydd cais gan un o’r bobl hyn yn bodloni’r rhwymedigaeth honno. Fodd bynnag, yn y sefyllfa hon dylid gwneud y cais fel pe byddai’n cael ei wneud gan rywun â budd digonol (gweler Gwneud ceisiadau heb gydweithrediad y perchennog perthnasol – yr angen i ddangos budd digonol) a bydd Cofrestrfa Tir EF yn cyflwyno rhybudd er gwybodaeth yn unig i’r perchennog arall (perchnogion eraill).

3.4.4 Gwneud ceisiadau heb gydweithrediad y perchennog perthnasol; yr angen i ddangos budd digonol

Lle nad oes gan y ceisydd gydweithrediad y perchennog perthnasol, ni allant wneud cais am gyfyngiad ond lle gallant ein hargyhoeddi bod ganddynt fudd digonol mewn gwneud y cofnod.

Mae rheol 93 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn cynnwys rhestr o sefyllfaoedd safonol lle’r ystyrir bod gan ddosbarth o bobl fudd digonol mewn gwneud cofnod. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r rheol yn dangos pa ffurfiau safonol o gyfyngiad fydd yn briodol i bob sefyllfa o dan sylw.

Rhaid i’r ceisydd fanylu ar natur eu budd a sut y cododd y budd hwnnw. Bydd angen tystiolaeth arnom i ddangos budd digonol i gefnogi cais.

Rhaid i’r dystiolaeth hon fod ar ffurf datganiad gan y ceisydd ym mhanel 12 ffurflen RX1 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13. Os yw’r budd yn deillio o ddogfen (gorchymyn llys, er enghraifft) dylai’r datganiad neu’r dystysgrif gyfeirio at y ddogfen honno a dylid amgáu copi ardystiedig a’i restru ym mhanel 5. Gallwn ofyn am dystiolaeth ychwanegol os oes angen (rheol 92(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Os oes mwy nag un ceisydd ac os ydynt yn dewis rhoi datganiad, rhaid i’r holl geiswyr roi’r datganiad hwnnw. Lle bo’r ceisydd yn gorfforaeth, rhaid i’r sawl sy’n rhoi’r datganiad gadarnhau eu swyddogaeth a bod ganddynt awdurdod i roi’r datganiad ar ran y gorfforaeth.

3.4.5 Buddion o dan ymddiriedau

Nid oes modd gwarchod budd o dan ymddiried tir trwy rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog (adran 33(a)(i) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ond mae modd ei warchod trwy gyfyngiad. Yn gyffredinol, gall buddiolwr o dan ymddiried tir wneud cais am gyfyngiad Ffurf A os na chofnodwyd un eisoes yn y gofrestr. Mae cyfyngiad Ffurf A yn sicrhau bod unrhyw arian cyfalaf yn gorfod cael ei dalu i 2 ymddiriedolwr neu gorfforaeth ymddiried. Nid oes modd cofnodi ail gyfyngiad Ffurf A gan mai diben Ffurf A yw sicrhau bod buddion tu ôl i’r ymddiried yn cael eu gorgyrraedd; nid yw’n rhoi rhybudd o fudd unigolyn o dan ymddiried.

Budd o dan ymddiried tir yw budd rhywun o dan ymddiried o’r fath sy’n sefyll un cam yn unig o’r ystad gofrestredig. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • lle bo A a B yn berchnogion yr ystad gofrestredig ac yn dal ar ymddiried drostynt eu hunain (mae gan y 2 fudd o dan ymddiried tir)
  • lle bo C a D yn berchnogion yr ystad gofrestredig ac yn dal ar ymddiried dros E am oes a thros F wedi hynny (E ac F sydd â buddion o dan ymddiried tir)
  • lle bo G yn berchennog yr ystad gofrestredig ac yn dal ar ymddiried noeth dros H (H sydd â budd o dan ymddiried tir)

Os oes angen ffurf arall ar gyfyngiad naill ai yn lle neu’n ogystal â chyfyngiad Ffurf A, bydd rhaid cyflwyno tystiolaeth yn dangos bod gan y ceisydd fudd digonol mewn gwneud y cofnod. Bydd derbyn y cais neu beidio yn dibynnu ar y cyfyngiad a geisiwyd, natur budd y ceisydd ac amgylchiadau arbennig yr achos.

Os oedd y cais am gyfyngiad cydsyniad fel Ffurf N, byddai rhaid darbwyllo’r cofrestrydd ei fod yn angenrheidiol neu (at un o’r dibenion yn adran 42(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) i’w ddymuno bod cyfyngiad o’r fath yn cael ei gofnodi. Byddai caniatáu cofnodi cyfyngiad cydsyniad (heblaw, er enghraifft, pan fo angen hynny o dan yr ymddiried) yn rhoi hawl na ddylai fod ganddynt i’r buddiolwr ac, yn ymarferol, gallai arwain at rwystro bwriad amlwg adrannau 42(1)(b) a 44(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ac adrannau 2 a 27 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 y dylai gorgyrraedd ddigwydd.

Lle caiff cyfyngiad Ffurf A ei hystyried yn annigonol i warchod budd buddiolwr o dan ymddiried tir, gallant hefyd wneud cais am gyfyngiad Ffurf II. Dylai cyfyngiad ar y ffurf hon sicrhau bod pwy bynnag a enwyd yn y cyfyngiad yn cael rhybudd o’r gwarediad, gan roi cyfle iddynt fynd ar drywydd derbyniadau gwerthiant.

Os oes angen cydsyniad y buddiolwr yn ôl telerau’r ymddiried, mae modd gwneud cais am gyfyngiad Ffurf B.

Cofiwch, fodd bynnag, fod cyfyngiad Ffurf B dim ond yn briodol os yw’r gwarediad sy’n creu’r ymddiried tir yn cynnwys darpariaethau sy’n cyfyngu ar bŵer yr ymddiriedolwr. Ni fydd datganiad ymddiried sy’n cydnabod a/neu’n meintioli’r cyfrannau llesiannol yn ecwiti eiddo yn cyfiawnhau cofnodi cyfyngiad Ffurf B. Mae gwybodaeth ychwanegol am ymddiriedau a chyfyngiadau safonol Ffurf A, B ac C ar gael yng nghyfarwyddyd ymarfer 24: ymddiriedau tir preifat

Mae rhagor o wybodaeth am warchod budd o dan ymddiried tir i’w chael yn Atodiad A: rhai dulliau gwarchod buddion trydydd parti cyffredin.

Caiff budd rhywun sydd 2 gam neu ragor oddi wrth ystad gofrestredig ag ymddiried tir arni ei alw’n ‘fudd deilliadol’ yn y cyfarwyddyd hwn. Mae enghreifftiau ohonynt yn cynnwys y canlynol:

  • mae perchnogion J a K yn dal ar ymddiried dros L ac M ac mae M yn dal ar ymddiried drosti ei hun, N ac O (bydd gan N ac O fuddion deilliadol)
  • mae perchnogion P a Q yn dal ar ymddiried dros R ac S, ac S yn dal ar ymddiried dros T ac U (mae gan T ac U fuddion deilliadol)
  • mae perchnogion V ac W yn dal ar ymddiried dros X ac Y ac mae X yn arwystlo eu budd i Z (mae gan Z fudd deilliadol)

Gall rhywun â budd deilliadol wneud cais am gyfyngiad Ffurf A oni bai bod cyfyngiad o’r fath wedi cael ei gofnodi yn y gofrestr eisoes.

Mae’n anodd gweld sut y byddai ceisydd gyda budd deilliadol yn gallu darbwyllo’r cofrestrydd bod ganddynt fudd digonol o dan adran 42(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (gweler Cyfyngiadau a gofnodwyd yn ôl disgresiwn y cofrestrydd) i gofnodi unrhyw ffurf arall ar gyfyngiad, er enghraifft cyfyngiad cydsyniad. Yn gyffredinol, ni fydd rhywun â budd deilliadol yn gallu gwneud cais am wahanol ffurf ar gyfyngiad oherwydd y canlynol:

  • ni all deiliad budd deilliadol wneud cais o dan adran 42(1)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ar y sail y gallai’r cyfyngiad atal yr ymddiriedolwyr rhag camddefnyddio derbyniadau gwerthiant yn dilyn gwarediad sy’n gorgyrraedd y buddion llesiannol, gan nad yw isadran (1)(a) yn ymwneud dim ond ag atal anghyfreithlondeb neu warediadau annilys o ystadau cofrestredig yn hytrach na delio wedyn gyda derbyniadau gwerthiant
  • nid yw budd deilliadol yn hawl neu hawliad o ran ystad neu arwystl cofrestredig o fewn adran 42(1)(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 gan ei fod yn hawl neu hawliad o ran y budd llesiannol o dan yr ymddiried tir (yn hytrach nag o ran yr ystad neu arwystl cofrestredig)

Gall rhywun â mantais gorchymyn tâl dros fudd llesiannol o dan ymddiried tir wneud cais am gyfyngiad Ffurf K, er bod y budd yn fudd deilliadol, oherwydd darpariaethau adran 42(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 93(k) o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Lle bo ganddo arwystl statudol dros fudd llesiannol o dan ymddiried tir, gall yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol wneud cais am gyfyngiad Ffurf JJ.

3.4.6 Ceisiadau hysbysadwy

Byddwn yn hysbysu’r perchennog perthnasol cyn i ni gwblhau cais am gyfyngiad oni bai ei fod naill ai:

  • yn cael ei wneud trwy neu gyda chydsyniad y perchennog perthnasol neu rywun gyda hawl i’w gofrestru fel y cyfryw
  • yn un o’r ceisiadau gorfodol sy’n cael eu rhestru yn rheol 94 o Reolau Cofrestru Tir 2003
  • yn cael ei geisio i adlewyrchu cyfyngiad o dan orchymyn llys neu orchymyn y cofrestrydd (neu ymrwymiad a roddwyd yn lle gorchymyn o’r fath) (adran 45 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)

Bydd y rhybudd yn rhoi 15 diwrnod busnes i’r perchennog perthnasol wrthwynebu’r cais. Os bydd anghydfod yn codi oherwydd gwrthwynebiad i gais o fewn y cyfnod hwnnw ac nad oes modd ei ddatrys trwy gytundeb, bydd yn cael ei gyfeirio at y tribiwnlys. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 37: gwrthwynebiadau ac anghydfodau – ymarferiad a threfniadaeth Cofrestrfa Tir EF i gael rhagor o wybodaeth am ddatrys anghydfodau gan y tribiwnlys.

3.5 Sut i wneud cais am gyfyngiad

3.5.1 Y ffurflen gais a’r ffi

Rhaid gwneud y rhan fwyaf o geisiadau am gyfyngiadau yn ffurflen RX1. Cyn gwneud cais, cofiwch feddwl yn ofalus am y gwarediad y dymunwch ei gyfyngu. Ydy hyn yn erbyn gwarediad o’r ystad gofrestredig neu yn erbyn gwarediad o arwystl cofrestredig? Dewiswch y ffurf safonol o gyfyngiad fel sy’n briodol i’ch amgylchiadau. Cofiwch y bydd ffurf safonol o gyfyngiad yn erbyn gwarediad o arwystl cofrestredig yn ymddangos yng nghofrestr arwystlon y teitl o dan sylw.

Fodd bynnag, gallwch wneud cais am unrhyw ffurf safonol o gyfyngiad trwy wneud y cais:

Sylwer 1: Rhaid ichi gynnwys geiriau cais megis “mae’r trosglwyddai’n gwneud cais i gofrestru’r cyfyngiad canlynol…”. Nid yw’n ddigonol nodi geiriad y cyfyngiad heb ddweud pwy sy’n gwneud cais amdano.

Sylwer 2: Lle cyflwynir y cais am y cyfyngiad gyda cheisiadau eraill, rheolir trefn blaenoriaeth y ceisiadau gan reol 55 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Mae hyn yn golygu y gall y cyfyngiad ddal ceisiadau eraill a gyflwynir ar yr un pryd oni bai bod y ceisydd yn nodi bod y cyfyngiad i gael ei gyfrif yn olaf yn nhrefn blaenoriaeth y ceisiadau. Gellir gwneud hyn trwy gwblhau panel 4 o ffurflen AP1 (neu banel 5 o ffurflen FR1 ar gyfer cofrestriadau cyntaf) i ddangos ‘cyfyngiad’ fel y cais olaf.

Sylwer 3: Fodd bynnag, lle gwneir cais i gofnodi cyfyngiad ar Ffurf LL ar yr un pryd â chais i gofrestru gwarediad arall, byddwn yn trin y cais i gofrestru’r gwarediad arall fel un sydd â blaenoriaeth oni bai y rhoddir gwybod fel arall. Er enghraifft, lle mae cais am gyfyngiad Ffurf LL wedi ei gynnwys o fewn trosglwyddiad, a gwneir cais ar yr un pryd i gofrestru arwystl, byddwn yn bwrw ymlaen ar y sail bod gan y cais i gofrestru’r arwystl flaenoriaeth dros y cais i gofnodi’r cyfyngiad ar Ffurf LL, oni bai bod y ffurflen gais yn nodi’n glir fel arall.

Sylwer: Rhaid i’r geiriau cais a nodir yn atodlen 1A o Reolau Cofrestru Tir 2003 ragflaenu’r cyfyngiad yng nghymal LR13. Mae’r geiriau hyn yn ffurfio rhan o’r cymal penodedig ac ni ddylid eu dileu.

Rhaid i’r cais gynnwys y ffi a bennir yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru

Gellir gwneud cais am gyfyngiad Ffurf A gan ddefnyddio ffurflen SEV hefyd.

Bwriedir Ffurflen RX1 ar gyfer gwneud cais am un cyfyngiad yn unig ond byddwn yn derbyn cais os defnyddir ffurflen RX1 unigol i wneud cais am wahanol gyfyngiadau ar yr amod (a) mai’r un yw’r ceisydd, a (b) bod y rheswm a roddir ynghylch yr hawl i wneud cais am y cyfyngiadau yr un fath. Os yw’r ceisydd neu’r hawl i wneud cais yn wahanol, rhaid defnyddio ffurflenni ar wahân bob tro.

3.5.1.1 Pryd mae’n ofynnol i gais fod ar ffurflen RX1

Sylwer bod yn rhaid gwneud unrhyw gais i gofrestru cyfyngiad nad yw yn un o’r ffurfiau uchod, neu i gofrestru cyfyngiad ansafonol, gan ddefnyddio ffurflen RX1.

Enghreifftiau cyffredin fyddai arwystlon heb eu cymeradwyo (gweler cyfarwyddyd ymarfer 30: cymeradwyo dogfennau morgais) a gweithredoedd rhoi hawddfreintiau.

Os ydym eisoes wedi cwblhau elfennau eraill cais, bydd angen ffi ychwanegol am gais newydd am gyfyngiad ar ffurflen RX1.

3.5.2 Ceisiadau am gyfyngiad sydd mewn prydles

Yn gyffredinol, ni fydd cais i gofrestru cyfyngiad sydd yng nghorff prydles yn cael ei weithredu.

Fodd bynnag, mae modd defnyddio unrhyw brydles sy’n cynnwys cymalau LR1 i LR14 Atodlen 1A i Reolau Cofrestru Tir 2003, yng nghymal LR13, i wneud cais i gofnodi ffurf safonol o gyfyngiad. Mae hyn yn cynnwys prydlesi cymalau penodedig a roddwyd ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006. Os nad yw cymal LR13 wedi ei gwblhau mewn prydles o’r fath, bydd unrhyw gais i gofrestru cyfyngiad sydd yng nghorff y brydles yn cael ei anwybyddu. I gael gwybodaeth am ddrafftio cyfyngiad lle y mae’n ymwneud â chyfamodau wedi eu cynnwys mewn prydles, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19A: cyfyngiadau ac eiddo prydlesol.

Lle caiff prydles sy’n cynnwys cymalau LR1 i LR14 Atodlen 1A i Reolau Cofrestru Tir 2003 ei chyflwyno i’w chofrestru, ac mae’r ffurf safonol o gyfyngiad i gael ei gofnodi yn erbyn teitlau heblaw un y landlord neu’r un a grëwyd trwy gofrestru’r brydles, ni fydd yn cael ei gofrestru os na chwblhawyd cymal LR2.2 hefyd (Rheol 72A(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Lle bo cais yn cael ei wneud yn erbyn teitl heblaw un y landlord neu un a grëwyd trwy gofrestru’r brydles, efallai y bydd angen tystiolaeth o gydsyniad y perchennog cofrestredig, neu’r sawl sydd â hawl i’w gofrestru fel perchennog neu fod gan y sawl sy’n gwneud cais fudd digonol mewn gwneud y cofnod. Lle caiff cymal LR13 ei ddefnyddio i wneud cais am ffurf safonol o gyfyngiad a bod angen tystiolaeth o’r fath, dylid ei chyflwyno o dan lythyr eglurhaol gyda’r cais i gofrestru’r brydles.

Nid oes modd defnyddio cymal LR13 i wneud cais am ffurf ansafonol o gyfyngiad a dylid dal i ddefnyddio ffurflen RX1.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig yn rhoi rhagor o wybodaeth am brydlesi cymalau penodedig.

3.5.3 Gwybodaeth y mae’n rhaid ei chyflwyno gyda’r cais

Rhaid i’ch cais gynnwys y canlynol (gweler hefyd Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a anfonir atom.

  • manylion llawn y cyfyngiad y gwneir cais amdano
  • cyfeiriad ar gyfer gohebu (i’w gynnwys o fewn testun y cyfyngiad y gwneir cais amdano ar unrhyw adeg briodol):
    • pawb a enwyd mewn ffurf safonol o gyfyngiad y mae angen eu cyfeiriad ar y cyfyngiad hwnnw
    • pawb a enwyd yn unrhyw gyfyngiad arall y mae angen eu cydsyniad neu dystysgrif neu sy’n gorfod cael rhybudd oddi wrth y cofrestrydd neu rywun arall
  • lle bo’r cyfyngiad yn cyfeirio at gwmni neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wedi eu cofrestru unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, rhif cofrestru’r cwmni yn y cyfyngiad yn union ar ôl yr enw (os yw’r cyfyngiad yn enwi cwmni a gorfforwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig, rhaid ichi gynnwys tiriogaeth ei gorffori ac, os yw’r cwmni wedi ei gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau yng Nghymru neu Loegr (ond nid yr Alban neu Ogledd Iwerddon), y rhif cofrestru a roddwyd gan Dŷ’r Cwmnïau. Gellir cofrestru cwmnïau tramor yn Nhŷ’r Cwmnïau os oes ganddynt gangen neu fan busnes yng Nghymru a Lloegr)

  • lle bo’r cais yn cael ei wneud gyda chydsyniad y perchennog perthnasol, naill ai:
    • y cydsyniad (y gellir ei roi ym mhanel 11 ffurflen RX1)
    • tystysgrif gan drawsgludwr yn cadarnhau ei fod yn dal y cydsyniad perthnasol (yr ail opsiwn ym mhanel 8C ffurflen RX1, neu banel darpariaethau ychwanegol y ffurflenni a grybwyllir yn Y ffurflen gais a’r ffi
  • lle bo’r cais gan rywun sydd â hawl i gael ei gofrestru’n berchennog perthnasol, naill ai:
    • tystiolaeth o’r hawl
    • tystysgrif gan drawsgludwr yn cadarnhau ei fod yn fodlon bod gan y person hwnnw hawl i gael ei gofrestru a naill ai bod y trawsgludwr yn dal y dystiolaeth ddogfennol wreiddiol o’r hawl neu fod cais sy’n aros i’w brosesu i gofrestru’r person hwnnw’n berchennog yng Nghofrestrfa Tir EF. Gallai hyn fod yr ail opsiwn ym mhanel 8B ffurflen RX1, neu banel darpariaethau ychwanegol y ffurflenni a grybwyllir yn Y ffurflen gais a’r ffi
  • lle bo’r cais yn cael ei wneud trwy neu gyda chydsyniad rhywun gyda hawl i’w gofrestru fel y perchennog perthnasol, naill ai:
    • y cydsyniad perthnasol (y gellir ei roi ym mhanel 11 ffurflen RX1) a thystiolaeth o’i hawl
    • tystysgrif gan drawsgludwr yn cadarnhau ei fod yn fodlon bod hawl gan y person hwnnw i’w gofrestru’n berchennog a, naill ai bod y trawsgludwr yn dal tystiolaeth ddogfennol wreiddiol o’r hawl, neu fod cais sy’n cael ei brosesu i gofrestru’r person hwnnw’n berchennog yng Nghofrestrfa Tir EF. Yn yr achos hwn, byddai angen tystysgrif arnom bod y cydsyniad wedi ei gynnwys gyda’r cais (yr ail opsiwn ym mhanel 8D ffurflen RX1. Gellir rhoi’r cydsyniad ym mhanel 11) neu dystysgrif ei fod yn dal y dogfennau gwreiddiol sy’n cynnwys tystiolaeth o hawl y person hwnnw, neu gais i gofrestru’r person hwnnw’n berchennog yn cael ei brosesu yng Nghofrestrfa Tir EF (y trydydd opsiwn ym mhanel 8D ffurflen RX1)
  • lle nad yw’r cais yn cael ei wneud trwy neu gyda chydsyniad y perchennog perthnasol:
    • tystiolaeth o’ch budd wrth wneud y cais (rhaid rhoi manylion natur eich budd a sut y cododd y budd hwnnw naill ai ar ffurf datganiad gan y ceisydd ym mhanel 12 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13 ffurflen RX1. Wrth gyfeirio at berchennog cofrestredig yr eiddo, dylid cyfeirio atynt wrth eu henw ac nid fel ‘y perchennog cofrestredig’ yn unig. Dylid cyflwyno tystiolaeth ddogfennol o’r budd gyda’r cais hefyd, lle bo hyn ar gael. Er efallai nad oes unrhyw dystiolaeth ddogfennol lle bo’r budd yn ymddiried sy’n dychwel neu ymddiried deongliadol byddem yn disgwyl gweld tystiolaeth ddogfennol ar gyfer pob cyfyngiad arall (heblaw cyfyngiadau Ffurf D, E neu F))

3.6 Gorchmynion llys sy’n gofyn am gofnodi cyfyngiad

3.6.1 Pŵer y llys i orchymyn cofnodi cyfyngiad

Gall y llys orchymyn i’r cofrestrydd gofnodi cyfyngiad (adran 46 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Ffurfiau AA i HH yw’r ffurfiau safonol o gyfyngiad y mae’r llys yn fwyaf tebygol o orchymyn i’r cofrestrydd eu cofnodi, ond gall hefyd orchymyn cofnodi cyfyngiad ar ffurf wahanol.

Os ydych yn bwriadu gwneud cais i’r llys am orchymyn a fydd yn gofyn bod y cofrestrydd yn cofnodi cyfyngiad nad yw ar un o’r ffurfiau safonol, cofiwch gysylltu â ni gyntaf i sicrhau y bydd y ffurf fwriadedig yn rhwydd ac na fydd yn faich afresymol arnom.

3.6.2 Y ffurflen gais a’r ffi

Er bod modd cyfeirio’r gorchymyn yn uniongyrchol at y Prif Gofrestrydd Tir, dylech wneud cais ffurfiol i gofnodi’r cyfyngiad. Bydd hyn yn sicrhau bod y cyfyngiad yn cael ei gofnodi yn erbyn y teitlau cywir.

Dylech wneud eich cais yn ffurflen AP1 (nid RX1) (rheol 92(8) o Reolau Cofrestru Tir 2003) a dylai ddod gyda’r ffi benodedig yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

3.6.3 Blaenoriaeth or-redol

Gall y llys orchymyn bod yn rhaid i delerau’r cyfyngiad gael blaenoriaeth dros yr hyn ddaw trwy unrhyw chwiliad swyddogol gyda blaenoriaeth sy’n aros i’w brosesu pan fyddwn yn prosesu’r cais am y cyfyngiad (adran 46(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Yna bydd y cyfyngiad yn cael ei gofnodi ar unwaith hyd yn oed os oes cyfnod blaenoriaeth heb ddod i ben yn deillio o chwiliad swyddogol i warchod blaenoriaeth gwarediad na chafodd ei gyflwyno eto.

Gall y cyfarwyddyd hwn fod yn briodol os oes perygl y gall rhywun wneud cais am chwiliad swyddogol ‘gyda blaenoriaeth’ cyn y bydd modd cofnodi’r cyfyngiad er mwyn iddynt allu cofrestru gwarediad o’r eiddo heb gael eu dal gan delerau’r cyfyngiad.

3.7 Tynnu ymaith cofnod cyfyngiad

3.7.1 Tynnu ymaith cyfyngiadau

Mae modd tynnu ymaith cyfyngiadau o’r gofrestr trwy.

  • gael eu tynnu’n ôl yn wirfoddol gan y bobl briodol sydd â budd yn y cyfyngiad ar ffurflen RX4 (adran 47 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 98 o Reolau Cofrestru Tir 2003)
  • cais gan unrhyw un i ddileu cyfyngiad nad oes ei angen mwyach ar ffurflen RX3 (rheol 97 o Reolau Cofrestru Tir 2003)
  • cael eu dileu gennym ni os yw’n amlwg ei fod yn ddiangen (paragraff 5 Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002)
  • cael eu dileu gennym ni os yw’n gyfyngiad a gofnodwyd o ran ymddiried tir os ydym yn fodlon nad yw’r ymddiried mwyach yn berthnasol i’r ystad o dan sylw (rheol 99 o Reolau Cofrestru Tir 2003); gweler adran 7 cyfarwyddyd ymarfer 24: ymddiriedau tir preifat i gael rhagor o wybodaeth am ddileu cyfyngiadau ymddiried

Gan ddibynnu ar ei delerau, gall cyfyngiad barhau i fod mewn grym ar waethaf newidiadau perchnogaeth niferus, gwarediadau eraill a threigl amser.

Felly, dylai rhywun sy’n bwriadu cymryd gwarediad ystad neu arwystl gyda chyfyngiad wedi ei gofrestru arni/arno ystyried:

  • a fydd y cyfyngiad yn effeithio ar y gwarediad ac, os felly, a fyddant yn gallu cydymffurfio â’i delerau
  • a allai’r cyfyngiad effeithio ar unrhyw warediad diweddarach y byddant am ei wneud. O dan amgylchiadau priodol dylent weithredu i sicrhau y bydd y cyfyngiad yn cael ei ddileu neu ei dynnu’n ôl cyn ymrwymo eu hun i gwblhau’r gwarediad

Os yw’n amlwg o’r cyfyngiad bod gan barti penodol fudd y cyfyngiad a bod y parti hwnnw’n darparu naill ai RX4 wedi ei llenwi, neu gydsyniad ysgrifenedig diamwys i ddileu’r cyfyngiad, dylai fod yn syml dileu’r cyfyngiad. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn wir, yna cyn gwneud cais i ddileu cyfyngiad, dylech ystyried a oes gennych dystiolaeth i ddangos nad oes angen y cyfyngiad mwyach oherwydd naill ai:

  • bod y budd a warchodir gan y cyfyngiad wedi dod i ben, neu
  • am nad yw’r budd y tu ôl i’r cyfyngiad bellach yn rhwymo’r ystad am reswm arall ac felly mae’r cyfyngiad yn ddiangen.

Pe baech yn gallu dangos bod y naill neu’r llall o’r pwyntiau uchod wedi eu bodloni, gallwch wneud cais i ddileu’r cyfyngiad gan ddefnyddio ffurflen RX3 − ond rhaid ichi gynnwys y dystiolaeth gefnogol briodol.

Os na ellir bodloni’r naill na’r llall o’r pwyntiau uchod, ni ellir dileu’r cyfyngiad. Fodd bynnag, efallai y gallwch wneud cais am ddatgymhwysiad gan ddefnyddio ffurflen RX2, ond bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth gefnogol i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â gofynion y cyfyngiad. Bydd cais i ddatgymhwyso, os yw’n llwyddiannus, yn caniatáu i’r gwarediad gael ei gofrestru ar yr amod bod y cyfyngiad yn parhau i rwymo’r teitl (gweler Ceisiadau i ddatgymhwyso neu addasu cyfyngiad).

3.7.2 Tynnu ymaith cyfyngiad Ffurf LL

Gallwn dynnu ymaith cyfyngiad Ffurf LL yn awtomatig pan fo’n ymddangos yn ddiangen o ganlyniad i drosglwyddiad cyfan o deitl cofrestredig i berchennog newydd ac mae’r dystysgrif sy’n ofynnol gan y cyfyngiad wedi ei chyflwyno – gweler Tynnu ymaith cyfyngiadau heb wneud cais.

Pan fydd cais i ddileu neu dynnu’r cyfyngiad yn ôl yn cyd-fynd â chais i gofrestru gwarediad heblaw trosglwyddiad cyfan, dylid cyflwyno tystiolaeth o gydymffurfiad â’r cyfyngiad er mwyn i’r cyfyngiad gael ei ddileu neu ei dynnu’n ôl – gweler Cyfyngiad Ffurf LL.

3.7.2.1 Cais i ddileu neu dynnu cyfyngiad Ffurf LL yn ôl nad yw wedi ei gynnwys gyda gwarediad i gofrestru

Gall yr holl berchnogion cofrestredig gytuno i ddileu neu dynnu cyfyngiad Ffurf LL yn ôl. Bydd tystysgrif gan drawsgludwr unigol, yn nodi ei fod yn fodlon mai’r bobl sy’n gwneud cais am y cais neu sy’n cydsynio â’r cais yw’r un bobl â’r perchnogion cofrestredig, yn ofynnol.

Os cawn gais i ddileu cyfyngiad Ffurf LL heb gyfraniad yr holl berchnogion cofrestredig, bydd angen inni ystyried yn ofalus a allwn fod yn fodlon nad oes ei angen mwyach.

Os nad ydym yn fodlon yn ôl y dystiolaeth a gyflwynwyd y dylid dileu’r cyfyngiad neu ei dynnu’n ôl, byddwn yn dileu’r cais, a bydd y cyfyngiad yn aros yn y gofrestr.

Wrth roi tystysgrif, rhaid ichi gydymffurfio â’r gofynion y manylir arnynt yn Cyfyngiad Ffurf LL.

3.7.3 Ceisiadau i ddileu cyfyngiad

Dileu yw’r term a ddefnyddir yn rheol 97 o Reolau Cofrestru Tir 2003 i gyfeirio at gais i ddileu cyfyngiad nad oes ei angen mwyach.

Gall unrhyw un wneud cais i ddileu cyfyngiad. Rhaid gwneud y cais ar ffurflen RX3 ac nid oes dim i’w dalu.

Os mai cyfyngiad Ffurf A yw’r cyfyngiad sy’n cael ei ddileu, gallwch ddefnyddio ffurflen ST5 i ddarparu’r dystiolaeth angenrheidiol i gefnogi’ch cais.

Lle bo’r cais i ddileu’r cyfyngiad yn cael ei wneud trwy neu gyda chydsyniad y bobl sy’n cael mantais y cyfyngiad, dylid gwneud cais i dynnu’r cyfyngiad yn ôl gan ddefnyddio ffurflen RX4 oni bai ei fod yn un o’r cyfyngiadau hynny y cyfeiriwyd atynt yn Ceisiadau i dynnu cyfyngiad yn ôl, nad oes modd eu tynnu’n ôl. Ni ellir dileu cyfyngiad landlord/cwmni rheoli lle penodwyd cwmni hawl i reoli heb ganiatâd y landlord, y cwmni hawl i reoli a’r tenant.

Byddwn yn dileu’r cyfyngiad os ydym yn fodlon nad oes angen y cyfyngiad mwyach. Rhaid cael tystiolaeth gyda’r cais i ddangos mai felly y mae. Os oes cyfeiriad at rywun yn y cyfyngiad ac os oes cyfeiriad ar gyfer gohebu wedi ei restru ar eu cyfer, fel arfer byddwn yn rhoi gwybod iddynt am y cais ac yn rhoi cyfle iddynt wrthwynebu’r cais cyn dileu’r cyfyngiad.

Pan fo cyfyngwr wedi marw ac nid yw telerau’r cyfyngiad yn nodi bydd y cyfyngiad yn dod i ben ar farwolaeth, neu pwy sydd i gael y budd ar ôl marwolaeth, rhaid i ffurflen RX3 gael ei chefnogi gan dystiolaeth i egluro natur y budd sy’n cael ei warchod gan y cyfyngiad ac, os yw’n briodol, dangos sut daeth y budd hwnnw i ben.

3.7.4 Ceisiadau i dynnu cyfyngiad yn ôl

Tynnu cyfyngiad yn ôl yw’r term a ddefnyddir yn adran 47 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 98 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Ar gyfer yr olaf, rhaid i gais i dynnu’n ôl gael cydsyniad pawb sydd â budd y cyfyngiad. Os ydym yn fodlon bod pawb sydd â budd y cyfyngiad wedi cydsynio i’r cais, byddwn yn tynnu’r cofnod ymaith heb orfod ymchwilio a oes unrhyw ddiben yn dal i’r cyfyngiad.

Rhaid gwneud y cais ar ffurflen RX4 ac nid oes dim i’w dalu.

Nid oes modd tynnu cyfyngiadau o’r mathau canlynol yn ôl (rheol 98(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

  • y rhai a gofnodwyd i atal gwarediad anghyfreithlon neu annilys gan berchennog gyda phwerau cyfyngedig trwy statud neu o dan y gyfraith gyffredinol
  • y rhai a gofnodwyd o ganlyniad i gais gan rywun a oedd o dan rwymedigaeth i wneud cais o dan reol 94 o Reolau Cofrestru Tir 2003
  • unrhyw rai y mae’n orfodol ar y cofrestrydd eu cofnodi
  • y rhai a gofnodwyd i adlewyrchu cyfyngiad mewn gorchymyn gan y llys neu’r cofrestrydd neu gyfyngiad mewn ymrwymiad a roddwyd yn lle gorchymyn
  • unrhyw rai y gorchmynnodd y llys i’r cofrestrydd eu cofnodi

Os yw un o’r cyfyngiadau hyn wedi peidio â bod yn berthnasol, dylid gwneud cais i ddileu’r cyfyngiad ar sail y disgrifiad yn Ceisiadau i ddileu cyfyngiad. Dylid nodi y bydd cyfyngiad ar Ffurfiau safonol U, V, W, X, Y, JJ a QQ yn dod o fewn y rhestr uchod bob tro ac yn aml bydd Ffurfiau A, B ac C yn dod o fewn rheol 98(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Mae rheol 98(1) a (2) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn gofyn bod yn rhaid i gais i dynnu cyfyngiad yn ôl ddod gyda’r cydsyniad gofynnol. Y cydsyniad gofynnol yw:

  • lle bo’r cyfyngiad yn gofyn am gydsyniad rhywun penodol, cydsyniad y person hwnnw
  • lle bo’r cyfyngiad yn gofyn am dystysgrif i’w rhoi gan rywun penodol, cydsyniad y person hwnnw
  • lle bo’r cyfyngiad yn gofyn bod rhybudd yn cael ei gyflwyno i rywun penodol, cydsyniad y person hwnnw
  • lle bo’r cyfyngiad yn gofyn am gydsyniad rhywun penodol, neu dystysgrif i’w rhoi gan rywun penodol, cydsyniad yr holl bartïon hynny
  • mewn unrhyw achos arall, cydsyniad pawb yr ymddengys i’r cofrestrydd fod ganddynt fudd yn y cyfyngiad

Lle nad y sawl y cyfeiriwyd ato yn y cyfyngiad yw’r un sy’n cydsynio, rhaid ichi ddarparu tystiolaeth briodol o ddisgyniad.

Fodd bynnag, lle bo cyfyngwr wedi marw, ac nad yw telerau’r cyfyngiad yn nodi y bydd yn darfod ar farwolaeth, neu bwy sydd i gael y budd ar ôl marwolaeth, yn ymarferol ni fydd modd tynnu’r cyfyngiad yn ôl fel rheol. Rhaid gwneud cais i’w ddileu.

Rhaid i’r ceisydd gyflwyno pob cydsyniad gofynnol wrth wneud cais, ond mae tystysgrif gan drawsgludwr yn cadarnhau ei fod yn dal y cydsyniadau gofynnol yn ddigonol i gydymffurfio â’n gofynion. Mae’r un gofynion ag sydd yn Cydymffurfio â chyfyngiad yn gymwys ar gyfer cydsyniadau.

Lle bo’r cais i dynnu rhan o’r tir o fewn ystad neu arwystl o dan sylw yn ôl o effaith y cyfyngiad (er enghraifft yn barod ar gyfer trosglwyddo’r rhan honno), rhaid i’r rhan o dan sylw fod yn amlwg o’r cais.

3.7.5 Dileu cyfyngiadau heb wneud cais

Gallwn ddileu cyfyngiad heb i unrhyw gais gael ei wneud os yw’n amlwg y daeth y cyfyngiad yn ddiangen (paragraff 5(d) Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Gallem ddileu cyfyngiad yn awtomatig:

  • lle bo’r cyfyngiad dros gyfnod cyfyngedig a’r cyfnod perthnasol wedi dod i ben
  • lle cofnodwyd y cyfyngiad mewn cysylltiad â chofrestru arwystl sydd wedi ei ryddhau erbyn hyn
  • lle cofnodwyd y cyfyngiad i warchod budd sydd ers hynny wedi ei orgyrraedd trwy dalu arian cyfalaf yn codi ar warediad cofrestradwy i’r perchnogion, sydd wedi rhoi derbynneb ddilys (er enghraifft Ffurf A)
  • lle cofnodwyd y cyfyngiad o ran cyfyngiad ar bwerau perchennog blaenorol
  • lle byddwn yn cofrestru trosglwyddiad o dan bŵer gwerthu gan berchennog arwystl cofrestredig nad oedd y cyfyngiad yn effeithio ar eu pwerau
  • lle cofnodwyd cyfyngiad Ffurf LL ar gais perchennog cofrestredig, derbynnir cais wedi hynny i gofrestru trosglwyddiad o’r teitl cofrestredig i wahanol berchnogion, ac mae’r dystiolaeth angenrheidiol o gydymffurfio â’r cyfyngiad wedi ei chyflwyno

3.8 Ceisiadau i newid cyfyngiad

Weithiau, mae angen newid geiriad cyfyngiad i ganiatáu iddo barhau i weithio yn ôl y bwriad pan fydd amgylchiadau wedi newid.

Mae enghreifftiau cyffredin yn cynnwys pan fydd cyfeiriad yr unigolyn sydd â budd y cyfyngiad wedi newid neu lle bo’r rhif teitl y cyfeirir ato mewn cyfyngiad wedi newid.

Gall cais i newid cyfyngiad fod yn briodol hefyd mewn amgylchiadau eraill gan gynnwys:

  • lle bo’r partïon wedi gwneud camgymeriad yn y weithred neu ffurflen gais sy’n cynnwys y cais i gofnodi cyfyngiad. O dan amgylchiadau o’r fath, oni bai bod gweithred neu orchymyn yn amrywio’r weithred wreiddiol, rhaid gwneud cais hefyd i’r cofrestrydd newid y ddogfen o dan reol 130 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Gweler adran 5 o gyfarwyddyd ymarfer 68: gweithredoedd newid sy’n peri gwarediadau tir cofrestredig lle gwneir cais, o dan reol 130 o Reolau Cofrestru Tir 2003, i’r cofrestrydd gywiro camgymeriad a wnaed yn y cyfyngiad y gwneir cais amdano. Yn gyffredinol, bydd angen ichi ddangos pam nad yw’n bosibl neu’n gymesur mynd i’r afael â hyn trwy ddulliau eraill – er enghraifft, trwy gais i ddileu neu dynnu’r cyfyngiad yn ôl a chais i gofnodi cyfyngiad newydd. Bydd angen ichi gyflwyno tystiolaeth i ddangos bod camgymeriad yn y ddogfen sy’n cynnwys y cais i gofnodi’r cyfyngiad hefyd

  • lle honnir bod y cofrestrydd wedi gwneud camgymeriad yn y ffurf o gyfyngiad a gofnodwyd

  • lle bo’r cyfyngiad yn gofyn am gydsyniad neu dystysgrif gan berson penodedig fel deiliad swydd (er enghraifft, datodwr) a bod y person hwnnw wedi newid

  • lle bu newid yn y sawl sy’n gyfrifol am y budd a warchodir gan y cyfyngiad (er enghraifft, os oes angen cydsyniad ymddiriedolwyr elusen penodedig o dan delerau’r cyfyngiad a lle mae’r ymddiriedolwyr elusen wedi newid)

  • lle mae’r hawl neu fudd a warchodir gan y cyfyngiad wedi ei drosglwyddo neu ei aseinio a lle’r oedd gan geisydd gwreiddiol cofnod y cyfyngiad fudd digonol o ran gwneud y cofnod – hynny yw, lle na chofnodwyd y cyfyngiad dim ond oherwydd i’r perchennog cofrestredig (neu’r person â hawl i gael ei gofrestru’n berchennog) wneud cais i gofnodi’r cyfyngiad neu oherwydd iddo gydsynio iddo

Rhaid gwneud cais i newid cyfyngiad ar ffurflen AP1, a rhaid cyflwyno tystiolaeth i gyfiawnhau’r newid y gofynnwyd amdano.

Gweler adran 5 o gyfarwyddyd ymarfer 68: Gweithredoedd newid sy’n peri gwarediadau tir cofrestredig lle gwneir cais i’r cofrestrydd gywiro o dan reol 130 o Reolau Cofrestru Tir 2003 camgymeriad a wnaed yn y cyfyngiad y gwneir cais amdano.

Dylid ymgynghori ag Atodlen 4(1) ac Atodlen 3 Rhan I (14) o’r Gorchymyn Ffïoedd cyn gwneud unrhyw gais i newid.

3.9 Ceisiadau i ddatgymhwyso neu addasu cyfyngiad

Mae cyfyngiadau lle mae cydsyniad neu dystysgrif gan landlord neu asiant rheoli penodedig yn ofynnol yn aml yn creu problemau difrifol i amrywiaeth o bartïon pan fydd y landlord neu’r asiant yn newid – i brynwr teitl prydlesol sy’n ddarostyngedig i’r cyfyngiad, i’r perchennog cofrestredig sydd am werthu’r eiddo hwnnw ac i unrhyw gyn-landlord neu asiant a enwir yn y cyfyngiad. Gweler adran 4 o gyfarwyddyd ymarfer 19A: cyfyngiadau ac eiddo prydlesol am arweiniad pellach.

3.9.1 Datgymhwyso cyfyngiad

Gall unrhyw un sydd â budd digonol mewn cyfyngiad wneud cais am orchymyn i’w ddatgymhwyso i alluogi cofrestru gwarediad neu warediadau o fath penodedig.

Er enghraifft, gallai fod cyfyngiad ar ystad gofrestredig yn gwahardd cofrestru unrhyw drosglwyddiad heb gydsyniad cwmni rheoli. Os diddymwyd y cwmni (gweler cyfarwyddyd ymarfer 35: ansolfedd corfforaethol: cyfyngiadau o blaid cwmnïau a ddiddymwyd). O dan yr amgylchiadau hynny efallai na fyddai’n briodol i ddileu’r cyfyngiad yn gyfan gwbl ond gweler cyfarwyddyd ymarfer 19a: cyfyngiadau ac eiddo prydlesol ar gyfer pryd y gallai fod yn briodol i wneud cais i ddileu cyfyngiad. Gall cais i ddatgymhwyso cyfyngiad fod yn briodol hefyd lle mae angen cydsyniad neu dystysgrif gan berson penodedig o dan delerau’r cyfyngiad a lle na ellir dod o hyd i’r person hwnnw.

Wrth ystyried cais i ddatgymhwyso, bydd angen tystiolaeth ar y cofrestrydd fod y ceisydd wedi gwneud pob ymgais i gydymffurfio â thelerau’r cyfyngiad. Er enghraifft, os yw’r cyfyngiad yn gofyn am dystysgrif gan rywun yn cadarnhau y cydymffurfiwyd â chymal X o ddogfen, bydd angen i ni weld:

  • copi ardystiedig o’r ddogfen y cyfeirir ati yn y cyfyngiad (os nad oes gennym un eisoes)
  • tystiolaeth o gydymffurfio â’r cymal perthnasol. Felly, pe bai’r cymal, dyweder, yn ei gwneud yn ofynnol i brynwr ymrwymo i weithred gyfamod, byddai angen inni gael copi ardystiedig o’r weithred berthnasol, a
  • thystiolaeth o’r camau a gymerwyd i gael y dystysgrif berthnasol. Fel arfer, byddai hyn yn cynnwys copïau o unrhyw ohebiaeth rhwng y ceisydd a buddiolwr y cyfyngiad.

Os caiff y cyfyngiad ei ddatgymhwyso, mae modd cofrestru’r trosglwyddiad ond byddai’r cyfyngiad yn aros yn y gofrestr.

3.9.2 Addasu cyfyngiad

Mae’r amgylchiadau pan wneir gorchymyn i addasu cyfyngiad yn gyfyngedig iawn.

Dim ond mewn perthynas â gwarediad penodedig neu warediad o fath penodedig y caiff y cofrestrydd addasu cyfyngiad o dan adran 41(2)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, nid mewn perthynas â phob gwarediad o bob math yn y dyfodol.

Bydd bron bob amser yn fwy priodol gwneud cais i ddatgymhwyso cyfyngiad lle ceisir gorchymyn mewn perthynas â gwarediad penodedig.

Ni all y cofrestrydd dderbyn cais i addasu cyfyngiad er mwyn estyn y mathau o warediad sy’n cael eu dal gan y cyfyngiad. I gyflawni hyn, rhaid i’r cyfyngwr wneud cais yn gyntaf ar ffurflen RX4 i’w dynnu’n ôl ac yna ar ffurflen RX1 i gael cyfyngiad newydd.

Gall person sydd â budd digonol mewn cyfyngiad am orchymyn wneud cais i’w delerau gael eu haddasu fel nad yw bellach yn ‘dal’ arwystl neu fath arall o warediad penodedig.

Fodd bynnag, mae pŵer y cofrestrydd i wneud gorchymyn yn ôl ei ddisgresiwn ac yn gyffredinol, dim ond pan fydd ceisydd yn gallu egluro ar ba sail yr ystyrir nad oedd y partïon i’r weithred berthnasol erioed wedi bwriadu i’r cyfyngiad ddal gwarediad o’r math y caiff ei ddefnyddio (oherwydd trwy wneud y gorchymyn, bydd y cofrestrydd yn newid effaith cyfyngiad y cytunodd y partïon iddo). Bydd angen i geisydd ddangos hefyd nad yw’n ymarferol i’r cyfyngiad gael ei ddileu neu ei dynnu’n ôl a chofnodi cyfyngiad newydd, neu i’r gofrestr gael ei newid o dan Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Lle caiff cyfyngiad ei ddileu neu ei dynnu’n ôl, a’i ddisodli gan gyfyngiad newydd, cofiwch na fydd cyfyngiad sy’n cael ei eirio i ddal gwarediadau gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig yn gymwys i arwystl a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwnnw. Lle bo’r cyfyngiad presennol sydd i’w ddileu neu ei dynnu’n ôl yn gymwys i warediadau gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig a bod arwystl wedi ei gofrestru ers cofnodi’r cyfyngiad, dylech ystyried a oes angen ichi hefyd wneud cais am gyfyngiad ychwanegol yn erbyn yr arwystl o dan sylw. Er enghraifft, os yw cyfyngiad Ffurf L i’w dynnu’n ôl a’i ail-gofnodi, mae’n bosibl y bydd angen cofnodi cyfyngiad Ffurf S hefyd.

3.9.3 Y cais

Rhaid gwneud cais i ddatgymhwyso neu addasu cyfyngiad ar ffurflen RX2. Rhaid i’r cais gynnwys y ffi a bennir yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru

Rhaid i’r ceisydd wneud y canlynol:

  • datgan a yw’r cais i ddatgymhwyso neu i addasu’r cyfyngiad
  • esbonio eu budd a pham ei fod yn ddigonol i wneud y cais
  • datgan pam y mae’r ceisydd yn ystyried y dylai’r cofrestrydd wneud y gorchymyn
  • rhoi manylion y gwarediad neu fath o warediadau y bydd y gorchymyn yn effeithio arnynt. Os yw’r cais i addasu’r cyfyngiad, dylid rhoi manylion y fath o addasiad a geisir

Mae modd gwneud y cais cyn, neu ar yr un pryd â, chais i gofrestru’r gwarediad sy’n cael ei ddal gan y cyfyngiad.

Wrth ystyried pa un ai i wneud y gorchymyn neu beidio, bydd y cofrestrydd hefyd yn ystyried unrhyw dystiolaeth sydd ar gael i eglurhau pa ddiben sy’n aros gan y cyfyngiad. Gall ofyn am ragor o dystiolaeth oddi wrth y ceisydd a gall gyflwyno rhybuddion priodol.

4. Gwneud cais am rybudd neu gyfyngiad heb achos rhesymol

Nid yw naill ai rhybudd na chyfyngiad yn gwarantu dilysrwydd y budd y mae’n ceisio ei warchod. Nid yw Deddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu unrhyw hawl i indemniad gan y cofrestrydd rhag colled oherwydd cofnod a wnaed.

Fodd bynnag, gall y perchennog perthnasol fod ar ei golled serch hynny. Gall eraill fod wedi eu hanfanteisio hefyd, er enghraifft perchennog arwystl cofrestredig lle gwnaed y cofnod yn erbyn yr ystad a arwystlwyd. Mae adran 77 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn sefydlu hawl i ddwyn achos am dorri dyletswydd statudol yn erbyn pawb sy’n gwneud cais am rybudd neu gyfyngiad heb achos rhesymol. Mae’r hawl o blaid unrhyw un sy’n dioddef niwed o ganlyniad ac mae hefyd yn berthnasol i wrthwynebwyr. Fodd bynnag, dylid nodi bod yn rhaid i’r hawlydd fynd ar drywydd achosion o dorri’r amodau hyn drwy’r llysoedd yn hytrach na thrwy Gofrestrfa Tir EF.

5. Darpariaethau trosiannol

Cynnwys

5.1 Y cofnodion ar gyfer gwarchod buddion trydydd parti o dan Ddeddf Cofrestru Tir 1925

5.2 Rhybuddion a gofnodwyd o dan Ddeddf Cofrestru Tir 1925

5.3 Cyfyngiadau a gofnodwyd o dan Ddeddf Cofrestru Tir 1925

5.4 Rhwystrau

5.5 Rhybuddiadau yn erbyn delio

5.1 Y cofnodion ar gyfer gwarchod buddion trydydd parti o dan Ddeddf Cofrestru Tir 1925

O dan Ddeddf Cofrestru Tir 1925 roedd pedwar peirianwaith ar gyfer gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr, sef:

  • rhybuddion
  • cyfyngiadau
  • gwaharddiadau
  • rhybuddiadau yn erbyn delio

Mae’r cofnodion hyn yn dal yn effeithiol yn ôl darpariaethau Deddf Cofrestru Tir 2002 gyda rhai newidiadau.

5.2 Rhybuddion a gofnodwyd o dan Ddeddf Cofrestru Tir 1925

Mae rhybuddion o ran baich buddion sy’n effeithio ar ystad neu arwystl cofrestredig yn cael eu trin at ddibenion Deddf Cofrestru Tir 2002 fel pe baent wedi cael eu cofnodi fel rhybuddion a gytunwyd (paragraff 2(1) Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

5.3 Cyfyngiadau a gofnodwyd o dan Ddeddf Cofrestru Tir 1925

Yn gyffredinol, mae darpariaethau Deddf Cofrestru Tir 2002 yn berthnasol i gyfyngiadau a gofnodwyd o dan Ddeddf Cofrestru Tir 1925 yn yr un modd ag y maent yn berthnasol i gyfyngiadau a gofnodwyd ar ôl hynny (paragraff 2(2) Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).”

Fodd bynnag, bydd y cofrestrydd yn dehongli cyfyngiad a gofnodwyd o dan Ddeddf Cofrestru Tir 1925 i gadw ei effaith. Mae paragraff 1 Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu na fydd diddymu Deddf Cofrestru Tir 1925 yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw gofnod a wnaed yn y gofrestr. Er enghraifft, ni fydd y cofrestrydd yn dehongli cyfyngiad a gofnodwyd o dan Ddeddf Cofrestru Tir 1925 sy’n datgan: “nid oes unrhyw warediad i’w gofrestru na’i nodi ___” fel un sy’n atal cofnodi rhybudd unochrog. Mae hyn oherwydd na fyddai’r cyfyngiad wedi atal cofnodi rhybuddiad yn erbyn delio o dan Ddeddf Cofrestru Tir 1925 ac y bydd buddion, a fyddai cyn hynny wedi cael eu gwarchod trwy rybuddiad, yn aml yn cael eu gwarchod trwy rybudd unochrog o dan ddarpariaethau Deddf Cofrestru Tir 2002.

Bydd dehongliad tebyg yn berthnasol i gais i ryddhau arwystl cofrestredig. Nid yw hyn yn ‘warediad’ ac nid yw cyfyngiad ‘nid oes gwarediad’ yn ei ddal.

5.4 Gwaharddiadau

Mae darpariaethau Deddf Cofrestru Tir 2002 sy’n berthnasol i gyfyngiadau yn berthnasol i waharddiadau yn y gofrestr hefyd. Cofnodion yw gwaharddiadau sy’n gwahardd rhag cofnodi gwarediadau yn y gofrestr a chânt eu trin, felly, fel cyfyngiadau at ddibenion Deddf Cofrestru Tir 2002 (paragraff 2(2) Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

5.5 Rhybuddiadau yn erbyn delio

5.5.1 Natur rhybuddiad yn erbyn delio

Cofnod yn y gofrestr yw rhybuddiad yn erbyn delio o ran hawliad i fudd mewn ystad neu arwystl cofrestredig. Er nad oes modd creu rhybuddiadau newydd yn erbyn delio ar ôl 13 Hydref 2003, bydd rhybuddiadau presennol yn parhau i gael effaith.

Effaith gyffredinol Deddf Cofrestru Tir 2002 yw cadw natur ac effaith rhybuddiadau presennol yn erbyn delio. Caiff hyn ei wneud trwy ddarparu bod adrannau 55 a 56 o Ddeddf Cofrestru Tir 1925 yn dal i gael effaith o ran rhybuddiadau presennol (paragraff 2(3) Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mae rheolau 218 i 223 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn gwneud darpariaethau tebyg i’r rhai hynny yn Rheolau Cofrestru Tir 1925 ar gyfer sut y bydd trefnau rhybuddiadau yn cael effaith.

Nid yw rhybuddiad yn rhoi unrhyw flaenoriaeth ar y budd mae’n ei warchod. Fodd bynnag, caiff y sawl sy’n hawlio’r budd, ‘y rhybuddiwr’, ei enwi yn y cofnod ac mae ganddynt hawl i’w hysbysu cyn gwneud unrhyw gofnod yn y gofrestr allai niweidio eu budd, gan roi cyfle iddynt wrthwynebu’r cofnod felly.

Mae rhybuddiadau yn ffurf ansefydlog ar warchod oherwydd eu bod yn debygol o gael eu dileu pryd bynnag y bydd deliad gan y perchennog neu warediad cofrestradwy yn cael ei gofnodi yn y gofrestr. Fel gyda rhybuddion unochrog, mae rhybuddiadau yn agored hefyd i’r perchennog perthnasol wneud cais i ddileu’r rhybuddiad a gorfodi’r rhybuddiwr i brofi eu hawl.

5.5.2 Cyflwyno rhybudd i’r rhybuddiwr

Bydd y cofrestrydd yn cyflwyno rhybudd i’r rhybuddiwr:

  • cyn cymeradwyo unrhyw gais i brosesu gwarediad cofrestradwy nad yw cydsyniad y rhybuddiwr ynghlwm wrtho
  • cyn cymeradwyo unrhyw gais i wneud unrhyw gofnod yn y gofrestr o ran deliad gan y perchennog perthnasol lle nad yw cydsyniad y rhybuddiwr ynghlwm wrtho, neu
  • lle bo’r perchennog perthnasol (neu rywun sydd â hawl i’w gofrestru fel y cyfryw) yn gwneud cais i ddileu’r rhybuddiad.

Rhaid gwneud cais gan y perchennog perthnasol i ddileu’r rhybuddiad ar ffurflen CCD. Nid oes dim i’w dalu.

Bydd y rhybudd yn rhoi cyfnod penodol i’r rhybuddiwr ateb (15 diwrnod gwaith i ddechrau). Yna bydd y rhybuddiad yn cael ei ddileu oni bai bod y cofrestrydd yn gwneud gorchymyn i’r gwrthwyneb.

5.5.3 Dewisiadau ar gael i’r rhybuddiwr

Os yw’r rhybuddiwr am i’r cofrestrydd wneud gorchymyn yn caniatáu i’r rhybuddiad aros yn y gofrestr:

  • gallant wrthwynebu’r cais trwy gyflwyno datganiad yn dangos achos eithaf credadwy dros i’r cofrestrydd beidio â rhoi grym i’r cais a arweiniodd at y rhybudd. Gallai eu gwrthwynebiad fod ar sail bod y cais yn ddiffygiol mewn rhyw fodd, neu, er bod y cais yn ymddangos yn dderbyniol, mai ei effaith fyddai gohirio blaenoriaeth eu budd
  • gallant gydsynio i’r cais fynd rhagddo ond gofyn bod eu rhybuddiad yn cael hawl i aros yn y gofrestr

Byddai’r ail ddewis ar gael dim ond lle na fyddai effaith y cais yn gorchfygu budd y rhybuddiwr yn gyfan gwbl. Er enghraifft, lle bo’r cais i gofrestru trosglwyddiad am werth fyddai’n gohirio blaenoriaeth y rhybuddiwr, neu i ddileu’r rhybuddiad ei hun, ni fydd y rhybuddiad yn cael aros. Byddai anghydfod ynghylch a ddylai’r cais fynd rhagddo yn cael ei gyfeirio at y tribiwnlys pe na bai modd ei ddatrys trwy gytundeb (gweler cyfarwyddyd ymarfer 37: gwrthwynebiadau ac anghydfodau: ymarferiad a threfniadaeth Cofrestrfa Tir EF i gael rhagor o wybodaeth).

5.5.4 Tynnu rhybuddiad yn ôl

Gall y rhybuddiwr neu eu cynrychiolydd personol wneud cais ar unrhyw adeg i ddileu rhybuddiad yn erbyn delio.

Rhaid gwneud y cais ar ffurflen WCT ac nid oes dim i’w dalu.

Ni chaiff rhybuddiwr wneud cais am rybudd neu gyfyngiad o ran y cais a warchodwyd ganddo trwy rybuddiad oni bai eu bod hefyd yn gwneud cais i dynnu’r rhybuddiad yn ôl (paragraff 17 Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

6. Atodiad A: rhai dulliau gwarchod buddion trydydd parti cyffredin

Cynnwys

6.1 Gorchmynion tâl

6.2 Methdaliad

6.3 Contract i werthu

6.4 Buddiolwyr o dan ymddiried tir

6.5 Hawliau cartref

6.6 Cytundebau opsiwn a hawliau rhagbrynu

6.7 Arwystlon ecwitïol

6.8 Gwarchod arwystlon yn y gofrestr pan fo cyfyngiad yn atal cofrestru

6.9 Gorchmynion rhewi

6.10 Trefniadau gwirfoddol unigol (IVA)

6.11 Buddion estopel perchnogol

6.12 Cyfamodau cyfyngu mewn prydlesi

6.13 Achosion tir arfaethedig

6.14 Gwritiau neu orchmynion yn effeithio ar dir

6.15 Partneriaethau

6.16 Gorswm

6.17 Hawlrwym gwerthwr

6.18 Gorchmynion ad-drefnu eiddo

6.19 Hollti

6.20 Cytundeb i brydlesu

6.21 Atal twyll

6.22 Arwystlon o dan adran 22 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (‘Deddf 1983’)

6.23 Arwystlon o dan adran 68 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (‘Deddf 2014’)

6.24 Arwystlon o dan adran 71 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (‘Deddf 2014’)

6.25 Landlordiaid a chwmnïau rheoli

6.26 Galluedd meddyliol

6.27 Pobl ar goll

6.28 Ewyllysiau a diewyllysedd

6.1 Gorchmynion tâl

Mae modd gwarchod gorchymyn tâl dros dro neu derfynol sy’n arwystlo’r ystad gyfreithiol trwy gofnodi rhybudd yn y gofrestr. Ni ellir gwarchod gorchymyn tâl sy’n arwystlo budd llesiannol o dan fudd tir trwy rybudd ond gellir ei warchod trwy gofnodi cyfyngiad Ffurf K. Mae cyfarwyddyd ymarfer 76: gorchmynion tâl yn cynnwys cyfarwyddyd manwl am y pwyntiau i’w cofio wrth ystyried a yw gorchymyn tâl yn gosod arwystl ar yr ystad gyfreithiol neu ar fudd llesiannol.

Mae cais i’r llys (gan gynnwys un i Ganolfan Hawliadau ariannol y Llys Sirol) am orchymyn tâl ar yr ystad gyfreithiol yn achos tir arfaethedig ac felly gellir ei warchod trwy gofnodi rhybudd – gweler Achosion tir arfaethedig. Ni ellir gwarchod cais i’r llys am orchymyn tâl o ran budd llesiannol o dan ymddiried yn unig trwy rybudd neu gyfyngiad, am fod y cais i’r llys yn ymwneud â budd llesiannol o dan ymddiried ac nid â’r ystad gyfreithiol.

Gall gorchymyn tâl gael dau ddyddiad gwahanol yn aml, ond cofiwch mai’r dyddiad cywir i’w ddefnyddio mewn cais yw’r un sydd wedi ei gynnwys yn y rhaglith i’r gorchymyn (er enghraifft “Ar [dyddiad], ystyriodd y Barnwr Rhanbarth [enw] y cais…”).

6.2 Methdaliad

Lle cyflwynwyd deiseb mewn methdaliad yn y llys yn erbyn unig berchennog cofrestredig, caiff rhybudd methdaliad ei gofnodi yn y gofrestr. Unwaith y gwnaed gorchymyn methdaliad yn erbyn unig berchennog cofrestredig, caiff cyfyngiad methdaliad ei gofnodi yn y gofrestr.

Lle bo deiseb mewn methdaliad neu orchymyn methdaliad ar un neu ragor o gydberchnogion cofrestredig, ni fydd naill ai rhybudd methdaliad na chyfyngiad methdaliad yn cael ei gofnodi. Fodd bynnag, gall yr ymddiriedolwr mewn methdaliad wneud cais yn ffurflen RX1 am gyfyngiad Ffurf J unwaith y gwnaed y gorchymyn methdaliad. Dylai copi ardystiedig o’r gorchymyn methdaliad a thystiolaeth o benodiad yr ymddiriedolwr mewn methdaliad ddod gyda’r cais.

Gall yr ymddiriedolwr mewn methdaliad wneud cais ar yr un pryd ac yn yr un ffurflen RX1 am gyfyngiad Ffurf A, oni bai y cofnodwyd cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr eisoes.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein cyfarwyddyd ymarfer 34: ansolfedd personol

6.3 Contract i werthu

Mae modd gwarchod contract i werthu trwy rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog. Os ydych yn gwneud cais am rybudd a gytunwyd, rhaid ichi gyflwyno ffurflen AN1, copi ardystiedig o’r contract, a chydsyniad y perchennog cofrestredig, os yw ar gael. Os ydych yn gwneud cais am rybudd unochrog rhaid ichi gyflwyno ffurflen UN1 wedi ei llenwi gyda naill ai datganiad, neu dystysgrif trawsgludwr yn dangos manylion y contract, gan gynnwys dyddiad y contract a’r partïon.

Yn achos iswerthiant, rhaid ichi hefyd gyflwyno copïau ardystiedig o’r 2 gontract os ydych yn ceisio rhybudd a gytunwyd. Os ydych yn ceisio rhybudd unochrog, rhaid ichi ddarparu manylion y 2 gontract, fel yr uchod, a sefydlu’r cyswllt rhwng y perchennog cofrestredig a’r ceisydd.

Os yw’r contract yn cyfyngu ar bwerau’r perchennog cofrestredig i wneud unrhyw warediad o’r eiddo mae’n bosibl y gallwch wneud cais yn ffurflen RX1 hefyd am gyfyngiad i atal torri’r ddarpariaeth hon. Byddai’r cais fel rheol am gyfyngiad Ffurf L yn cyfeirio at ddarpariaeth berthnasol y contract. Yn absenoldeb cydsyniad y perchennog cofrestredig, rhaid ichi gyflwyno copi ardystiedig o’r contract a chwblhau’r datganiad ym mhanel 12 ffurflen RX1 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13. Rhowch fanylion y contract a nodwch y ddarpariaeth yn y contract sy’n cyfyngu ar allu’r perchennog cofrestredig i wneud unrhyw warediad.

6.4 Buddiolwyr o dan ymddiried tir

Dim ond trwy gyfyngiad y mae modd gwarchod budd o dan ymddiried tir. Yn gyffredinol, dylai buddiolwr o dan ymddiried tir wneud cais am gyfyngiad Ffurf A, os na chofnodwyd cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr eisoes. Mae cyfyngiad Ffurf A yn sicrhau bod rhaid talu unrhyw arian cyfalaf i 2 ymddiriedolwr neu gorfforaeth ymddiried. Rhaid i’r cais gynnwys copi ardystiedig o’r weithred ymddiried yn tystio budd y buddiolwr sy’n gwneud y cais o dan yr ymddiried tir (peidiwch ag anfon y gwreiddiol; gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau. Rhaid cwblhau’r datganiad ym mhanel 12 ffurflen RX1 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13 yn nodi sut mae budd y buddiolwr wedi codi o dan yr ymddiried tir.

Fel arfer, ni fydd cyfyngiad cydsyniad Ffurf N yn briodol gan y byddai hyn yn rhoi hawl nad oes ganddynt i’r buddiolwr ac, yn ymarferol, gallai arwain at rwystro bwriad amlwg adrannau 42(1)(b) a 44(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ac adrannau 2 a 27 o Ddeddf Cyfraith Eiddo1925 y dylai fod gorgyrraedd. Fodd bynnag, byddai modd gwneud cais o’r fath am gyfyngiad Ffurf N yn ogystal â chyfyngiad Ffurf A, er enghraifft, gan fuddiolwr y mae angen eu cydsyniad penodol yn y weithred ymddiried i unrhyw warediad gan yr ymddiriedolwyr. Wrth gwrs, mae modd cofnodi cyfyngiad o’r fath hefyd os bydd y perchnogion cofrestredig yn gwneud cais am gyfyngiad o’r fath neu’n cydsynio â hynny.

Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, sylwer na all cais sy’n dibynnu’n llwyr ar ffaith priodas neu bartneriaeth sifil a/neu ysgariad neu ddiddymiad fynd yn ei flaen oni bai ei fod hefyd wedi ei gefnogi gan ddatganiad neu dystiolaeth sy’n cadarnhau bod y ceisydd hefyd yn fuddiolwr o dan ymddiried tir ac sy’n esbonio sut mae ei fudd wedi codi.

Mae’r sefyllfa’n debyg lle bo budd y buddiolwr o dan ymddiried tir yn codi o dan ymddiried goblygedig, ymddiried sy’n dychwel, neu ymddiried deongliadol yn hytrach na thrwy weithred. Nid oes modd gwarchod y budd heblaw trwy gyfyngiad, yn hytrach na rhybudd ac, eto, dylai’r cais ar ffurflen RX1 fod am gyfyngiad Ffurf A. Rhaid i’r datganiad ym mhanel 12 ffurflen RX1 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13 nodi sut y cododd budd y buddiolwr o dan yr ymddiried tir goblygedig, ymddiried sy’n dychwel neu ymddiried deongliadol.

Fodd bynnag, gall buddiolwr o dan ymddiried tir ddewis gwneud cais am ffurf ychwanegol o gyfyngiad a bydd yn gallu gwneud hynny o dan rai amgylchiadau. Er enghraifft, gall buddiolwr o dan ymddiried deongliadol sy’n hawlio bod y perchnogion cofrestredig yn dal ar ymddiried tir dros y buddiolwr a throstynt eu hunain wneud cais am gyfyngiad Ffurf II.

Dylid gwneud y cais ar ffurflen RX1 a rhaid i’r datganiad ym mhanel 12 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13 nodi sut y cododd budd y buddiolwr o dan yr ymddiried tir. Sylwch y bydd talu arian cyfalaf i 2 ymddiriedolwr neu gorfforaeth ymddiried yn dal i orgyrraedd budd y buddiolwr o dan yr ymddiried tir ac ni fydd cyfyngiad ar y ffurf hon yn atal gorgyrraedd.

Gwneir darpariaeth arbennig o dan Reolau Cofrestru Tir 2003 lle bo budd y buddiolwr o dan ymddiried tir yn codi o orchymyn tâl ar fudd llesiannol, lle bo gan ymddiriedolwr mewn methdaliad fudd llesiannol mewn ystad gofrestredig yn cael ei dal o dan ymddiried tir. Gweler Buddion o dan ymddiriedau, Gorchmynion tâl a Methdaliad.

Cofiwch nad yw dyled anwarantedig yn fudd mewn tir ac felly nid yw’n fudd trydydd parti y gellir ei warchod trwy rybudd neu gyfyngiad.

6.5 Hawliau cartref

Nid oes modd gwarchod hawliau cartref heblaw trwy rybudd a gytunwyd (rheol 80(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Rhaid ichi wneud cais ar ffurflen HR1. Lle bo’r cais yn cael ei wneud ar ôl i’r llys wneud gorchymyn o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996, rhaid ichi amgáu copi swyddfa o’r gorchymyn neu dystysgrif trawsgludwr yn cadarnhau eu bod yn dal gorchymyn o’r fath.

Lle bo’r llys wedi gwneud gorchymyn o dan adran 33(5) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996, rhaid gwneud cais i adnewyddu cofrestriad o ran hawliau cartref priodasol ar ffurflen HR2. Rhaid ichi amgáu copi swyddfa o’r gorchymyn neu dystysgrif trawsgludwr yn cadarnhau eu bod yn dal gorchymyn o’r fath.

6.6 Cytundebau opsiwn a hawliau rhagbrynu

Mae modd gwarchod opsiwn i brynu neu hawl rhagbrynu trwy rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog, fel gydag opsiwn i adnewyddu prydles. Os ydych yn gwneud cais am rybudd a gytunwyd, rhaid ichi gyflwyno ffurflen AN1 a chopi ardystiedig o’r weithred yn creu’r opsiwn neu hawl rhagbrynu. Dylech hefyd amgáu cydsyniad y perchennog cofrestredig, lle bo ar gael. Os ydych yn gwneud cais am rybudd unochrog rhaid ichi gyflwyno ffurflen UN1 wedi ei llenwi gyda naill ai datganiad neu dystysgrif trawsgludwr yn nodi manylion y cytundeb, gan gynnwys dyddiad y cytundeb a’r partïon.

Os yw’r cytundeb yn cyfyngu’n benodol ar bwerau’r perchennog cofrestredig i wneud gwarediad, mae’n bosibl y gallwch wneud cais yn ffurflen RX1 hefyd i gofnodi cyfyngiad i atal torri’r ddarpariaeth hon. Byddai’r cais fel rheol am gyfyngiad Ffurf L, neu Ffurf M os yw’n briodol, yn cyfeirio at ddarpariaeth berthnasol y cytundeb. Yn absenoldeb cydsyniad y perchennog cofrestredig i gofnodi’r cyfyngiad, rhaid ichi gyflwyno copi ardystiedig o’r weithred sy’n creu’r opsiwn neu hawl rhagbrynu a chwblhau’r datganiad ym mhanel 12 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13. Rhowch fanylion y cytundeb, gan gynnwys dyddiad y contract a’r partïon a nodi’r ddarpariaeth yn y contract sy’n cyfyngu ar allu’r perchennog cofrestredig i wneud unrhyw warediad.

Os gwneir cais gan neu gyda chaniatâd y perchennog cofrestredig, nid oes rhaid darparu copi o’r cytundeb. Fodd bynnag, os cyflwynir copi gyda’r cais, caiff ei gadw ac fel rheol bydd ar gael fel dogfen sydd ar gael yn gyhoeddus (Adran 66 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 135 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Mae’n bosibl y bydd hyn yn cynorthwyo gyda chydymffurfiad pellach gyda thelerau’r cyfyngiad.

6.7 Arwystlon ecwitïol

Mae modd gwarchod arwystl ecwitïol yn erbyn yr ystad gyfreithiol trwy rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog. Os ydych yn gwneud cais am rybudd a gytunwyd, rhaid ichi gyflwyno ffurflen AN1 a chopi ardystiedig o’r arwystl ecwitïol. Os ydych yn gwneud cais am rybudd unochrog, rhaid ichi gyflwyno ffurflen UN1 gan nodi mewn datganiad ym mhanel 12 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13, manylion yr arwystl, gan gynnwys dyddiad yr arwystl a’r partïon.

Nid oes modd gwarchod arwystl ecwitïol dros fudd llesiannol trwy rybudd. Dylai rhywun â budd arwystl ecwitïol o’r fath wneud cais am gyfyngiad Ffurf A, os na chofnodwyd cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr eisoes. Dylid gwneud y cais yn ffurflen RX1 gan gyflwyno copi ardystiedig o’r arwystl ecwitïol dros y budd llesiannol. Mae cyfyngiad Ffurf A yn sicrhau bod rhaid talu unrhyw arian cyfalaf i 2 ymddiriedolwr.

Os oes cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr eisoes, yna nid oes angen cyfyngiad ychwanegol ac nid oes modd cofnodi cyfyngiad pellach. Gwneir darpariaeth arbennig o ran gorchmynion tâl ar fudd llesiannol. Gweler Gorchmynion tâl.

6.8 Gwarchod arwystlon yn y gofrestr pan fo cyfyngiad yn atal cofrestru

Gall fod yn ofynnol cael cydsyniad rhywun penodol yn ôl cyfyngiad blaenorol, er enghraifft arwystlai cofrestredig, cyn bod modd cofrestru unrhyw warediad gan berchennog cofrestredig. Os nad oes modd cael y cydsyniad gofynnol a chydymffurfio â’r cyfyngiad, bydd rhywun sydd wedi cymryd arwystl pellach yn methu cofrestru’r arwystl hwnnw’n safonol. Fodd bynnag, mae modd gwarchod yr arwystl trwy rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog. Os ydych yn gwneud cais am rybudd a gytunwyd rhaid ichi gyflwyno ffurflen AN1 a chopi ardystiedig o’r arwystl. Os ydych yn gwneud cais am rybudd unochrog rhaid ichi gyflwyno ffurflen UN1 yn nodi, mewn datganiad ym mhanel 12 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13 manylion yr arwystl, gan gynnwys dyddiad yr arwystl a’r partïon.

Sylwch fod llawer o arwystlon yn cynnwys cais am gyfyngiad sy’n dilyn Ffurf cyfyngiad P safonol ac yn galw am gydsyniad perchennog yr arwystl. Nid oes modd cofnodi’r math hwn o gyfyngiad pan na chofrestrwyd yr arwystl yn safonol. Mae hyn am nad oes unrhyw berchennog arwystl cofrestredig (nid yw buddiolwr rhybudd unochrog yn berchennog at y diben hwn). Felly, os na chofrestrwyd arwystl yn safonol ac mae cais yn cael ei wneud i nodi’r arwystl yn lle hynny, rhaid gwneud cais ar wahân yn ffurflen RX1 am ffurf briodol ar gyfyngiad; bydd hyn yn gyffredinol am gyfyngiad Ffurf safonol N. Dylai cydsyniad y cymerwyr benthyg i ffurf y cyfyngiad a geisiwyd fod gyda’r cais.

6.9 Gorchmynion rhewi

Gall unrhyw un sydd wedi gwneud cais am orchymyn rhewi wneud cais yn ffurflen RX1 i gofnodi cyfyngiad Ffurf CC neu DD, yn dibynnu a yw’r cyfyngiad i atal gwarediadau o’r ystad gofrestredig neu arwystl cofrestredig. Rhaid i gopi ardystiedig o’r cais i’r llys am y gorchymyn rhewi ddod gyda’r cais.

Ar ôl rhoi’r gorchymyn rhewi, gellir ei warchod trwy gyfyngiad. Dylech wneud cais ar ffurflen RX1 am gyfyngiad Ffurf AA neu BB, yn dibynnu a yw’r cyfyngiad i atal gwarediadau o’r ystad gofrestredig neu arwystl cofrestredig. Rhaid i gopi ardystiedig o’r gorchymyn rhewi ddod gyda’r cais.

6.10 Trefniadau gwirfoddol unigol (IVA)

Os mai’r dyledwr yw unig berchennog yr ystad gofrestredig y maent yn ei dal er eu budd eu hun, mae modd gwneud cais am rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog os yw’r IVA yn cynnwys arwystl ecwitïol, contract i werthu, opsiwn neu hawl rhagbrynu o blaid y goruchwyliwr sy’n effeithio ar yr ystad gofrestredig. Rhaid i gais am rybudd a gytunwyd fod yn ffurflen AN1 a dod gyda chopi ardystiedig o’r IVA. Dylid darparu cydsyniad y perchennog cofrestredig hefyd, lle bo ar gael. Rhaid i geisiadau am rybudd unochrog fod yn ffurflen UN1 yn nodi, mewn datganiad ym mhanel 12 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13, manylion yr IVA, gan gynnwys dyddiad y cytundeb, enw’r dyledwr a manylion y darpariaethau yn yr IVA sy’n berthnasol i’r ystad gofrestredig sy’n hawlio rhoi budd i’r goruchwyliwr yn yr ystad neu arwystl cofrestredig.

Os oes gan y dyledwr fudd llesiannol o dan ymddiried tir o ystad gofrestredig ac mae’r IVA yn creu arwystl ecwitïol, contract i werthu, opsiwn neu hawl rhagbrynu o blaid y goruchwyliwr neu os mai effaith yr IVA yw creu ymddiried naill ai’n ddatganedig neu fod datganiad bod yr eiddo’n cael ei ddal er lles y credydwyr, nid oes modd gwarchod y budd yn y gofrestr trwy gofnodi rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog yn effeithio ar y budd hwnnw. Dull gwarchod budd o dan ymddiried tir yw trwy gyfyngiad.

Rhaid gwneud unrhyw gais am gyfyngiad yn ffurflen RX1 (heblaw cais a wnaed trwy neu gyda chydsyniad y perchnogion cofrestredig i gyd) a rhaid cael copi ardystiedig o’r IVA hefyd i ddangos bod yr ystad gofrestredig yn amodol ar yr ymddiried a bod gan y goruchwyliwr fudd digonol mewn cofnodi’r cyfyngiad a geisiwyd.

Os yw’r dyledwr yn unig berchennog cofrestredig oedd yn dal yr eiddo ar ymddiried er eu budd eu hun cyn yr IVA ac yn dal yr eiddo ar ymddiried ar ran y credydwyr o dan y trefniant gwirfoddol, mae modd gwneud cais am gyfyngiad Ffurf A neu Ffurf II.

Os yw’r IVA yn cynnwys darpariaeth na fydd y dyledwr yn trosglwyddo, arwystlo na delio fel arall â’r eiddo heb gydsyniad y goruchwyliwr yna, yn ogystal â chyfyngiad Ffurf A, os gwnaed cais amdano, mae modd gwneud cais am gyfyngiad Ffurf N, Ffurf NN neu Ffurf L hefyd. O dan amgylchiadau eraill lle bo angen cyfyngiad dylid darparu cydsyniad y perchennog cofrestredig i gofnodi cyfyngiad yn y ffurflen RX1 neu dystysgrif trawsgludwr bod cydsyniad o’r fath yn cael ei ddal.

Lle bo’r eiddo’n cael ei ddal gan gydberchnogion cofrestredig (y gall y dyledwr fod yn un ohonynt) ar ymddiried ar ran y dyledwr ac eraill cyn yr IVA, mae modd gwneud cais i gofnodi cyfyngiad Ffurf A, os na chofnodwyd cyfyngiad Ffurf A eisoes yn y gofrestr, os yw’r IVA yn cynnwys arwystl neu aseiniad o fudd llesiannol y dyledwr, neu’n creu ymddiried o blaid y goruchwyliwr.

Gall y goruchwyliwr hefyd wneud cais am gyfyngiad Ffurf II os yw’r IVA yn cynnwys aseiniad o fudd llesiannol y dyledwr oherwydd mai’r goruchwyliwr fydd perchennog budd yr ymddiried yn hytrach na’r dyledwr.

Os yw’r budd llesiannol yn cael ei ddal ar ymddiried gan y dyledwr ar ran y credydwyr neu’n cael ei arwystlo i’r goruchwyliwr, nid oes modd gwneud cais am ffurf ar gyfyngiad heblaw Ffurf A (ar yr amod na chafodd ei gofnodi eisoes). Mae hyn oherwydd y bydd budd y goruchwyliwr neu gredydwyr yn ddeilliadol.

6.11 Buddion estopel perchnogol

Gellir defnyddio rhybudd i warchod ecwiti trwy estopel sy’n cael ei hawlio o’r adeg yr honnwyd y cododd yr ecwiti. Rhaid gwneud y cais yn ffurflen UN1 am rybudd unochrog oni bai bod y ffeithiau yr honnir eu bod yn peri budd yn ddiamwys, pryd y bo modd gwneud cais am rybudd a gytunwyd yn ffurflen AN1. Rhaid i gais ar ffurflen UN1 nodi, mewn datganiad ym mhanel 12 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13 y ffeithiau yr honnir iddynt beri’r estopel perchnogol, gan gynnwys enw perchennog yr ystad gofrestredig yr honnir y cododd yr ecwiti yn ei erbyn.

6.12 Cyfamodau cyfyngu mewn prydlesi

Nid oes modd cofnodi rhybudd yn y gofrestr o ran cyfamod sy’n gysylltiedig â’r eiddo ac adeiladau a brydleswyd –oni bai ei fod yn gyfamod cyfyngu gan y tenant o blaid rhywun heblaw’r landlord, ac os felly, gellir gwneud cais am rybudd yn yr un modd â chyfamod cyfyngu nad yw’n effeithio ar yr anheddau a brydleswyd (gweler isod). Wrth gofrestru rhywun fel perchennog ystad brydlesol, mae’r ystad honno’n breinio ynddynt ynghyd a’r holl fuddion sy’n bodoli er lles yr ystad ond yn amodol ar holl ymrwymiadau a rhwymedigaethau, gan gynnwys cyfamodau, sy’n berthynol i’r ystad honno. Fodd bynnag, lle nad yw cyfamod cyfyngu mewn prydles yn berthnasol i’r eiddo ac adeiladau a brydleswyd, mae modd ei warchod trwy gofnodi rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog o ran yr ystad yr effeithir arni. Rhaid i gais am rybudd a gytunwyd fod ar ffurflen AN1 a rhaid iddo ddod gyda chopi ardystiedig o’r brydles yn cynnwys y cyfamod cyfyngu. Dylid darparu cydsyniad y perchennog cofrestredig, os yw ar gael. Rhaid i gais am rybudd unochrog fod yn ffurflen UN1 a chynnwys datganiad ym mhanel 12 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13 sy’n rhoi manylion y cyfamod cyfyngu a’r brydles sy’n ei gynnwys, gan gynnwys dyddiad y brydles a’r partïon. Dylid cadarnhau nad yw’r cyfamod cyfyngu yn berthnasol i’r eiddo ac adeiladau a brydleswyd.

6.13 Achosion tir arfaethedig

Achos tir arfaethedig yw achos neu weithgaredd yn y llys sy’n berthnasol i dir neu unrhyw fudd mewn neu arwystl ar dir. Nid yw achos sy’n gysylltiedig â chyfran anwahanedig o dan ymddiried tir yn achos tir arfaethedig.

Mae modd gwarchod achos tir arfaethedig trwy rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog. Os ydych yn gwneud cais am rybudd a gytunwyd rhaid ichi gyflwyno ffurflen AN1 a chopi ardystiedig o’r ffurflen hawlio o dan sêl a rhybudd cyhoeddi. Os ydych yn gwneud cais am rybudd unochrog rhaid ichi gyflwyno ffurflen UN1 gan nodi, mewn datganiad ym mhanel 11 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 12, manylion yr achos tir arfaethedig, gan gynnwys manylion y llys, cadarnhad bod yr achos yn achos tir arfaethedig, cyfeirnod llawn y llys a’r partïon.

Weithiau mae modd gwarchod achos tir arfaethedig trwy gyfyngiad pryd y byddwch yn gorfod gwneud cais yn ffurflen RX1. Bydd ffurf y cyfyngiad yn dibynnu ar natur yr hawl a wneir yn achos tir arfaethedig. Dylai’r cais ddod gyda chopi ardystiedig o’r ffurflen gais a rhybudd cyhoeddi. Rhaid cwblhau’r datganiad ym mhanel 12 ffurflen RX1 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13, gan nodi manylion yr achos tir arfaethedig fel gyda rhybudd unochrog. Yn gyffredinol, fodd bynnag, dylai cais i warchod achos tir arfaethedig fod trwy rybudd (gweler Gorchmynion ad-drefnu eiddo os yw eich cais yn ymwneud â gorchymyn ad-drefnu eiddo).

6.14 Gwritiau neu orchmynion yn effeithio ar dir

Mae modd gwarchod trwy rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog unrhyw writ neu orchymyn sy’n effeithio ar dir, neu a wnaed at ddiben gorfodi dyfarniad. Nid yw gwrit neu orchymyn sy’n gysylltiedig â chyfran anwahanedig o dan ymddiried tir yn fudd sy’n effeithio ar dir i’r diben hwn. Os ydych yn gwneud cais am rybudd a gytunwyd, rhaid ichi gyflwyno ffurflen AN1 a chopi ardystiedig o’r gwrit neu orchymyn. Os ydych yn gwneud cais am rybudd unochrog, rhaid ichi gyflwyno ffurflen UN1 sy’n cynnwys naill ai datganiad neu dystysgrif trawsgludwr yn dangos manylion y writ neu orchymyn, gan gynnwys manylion y llys, dyddiad y gorchymyn, cyfeirnod llawn y llys a’r partïon.

Mae modd gwarchod gwrit neu orchymyn o’r fath hefyd trwy gyfyngiad, pryd y byddwch yn gorfod gwneud cais yn ffurflen RX1. Bydd ffurf y cyfyngiad yn dibynnu ar natur y writ neu orchymyn. Mae rheol 93 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn manylu ar ffurf cyfyngiad y bydd gan bobl sy’n dal budd gorchmynion arbennig hawl iddo.

Os mai effaith y gorchymyn yw creu ymddiried tir, nid oes modd gwarchod y budd trwy gofnodi rhybudd. Yn gyffredinol, gallwch wneud cais ar ffurflen RX1 am gyfyngiad Ffurf A os na chofnodwyd un eisoes yn y gofrestr. Mae cyfyngiad Ffurf A yn sicrhau bod rhaid talu unrhyw arian cyfalaf i 2 ymddiriedolwr neu gorfforaeth ymddiried. Rhaid cwblhau’r datganiad ym mhanel 12 ffurflen RX1 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13 gan nodi manylion y gorchymyn.

Fodd bynnag, gall buddiolwr o dan ymddiried tir, a grëwyd trwy writ neu orchymyn o’r fath, ddymuno gwneud cais am ffurf ychwanegol ar gyfyngiad a bydd yn gallu gwneud hynny o dan rai amgylchiadau. Er enghraifft, os mai effaith y gorchymyn yw bod y perchnogion cofrestredig yn dal ar ymddiried tir dros y buddiolwr a throstynt eu hunain, gall y buddiolwr wneud cais am gyfyngiad Ffurf II.

Rhaid i gais am gyfyngiad o’r fath fod ar ffurflen RX1 a dylai ddod gyda chopi ardystiedig o’r writ neu orchymyn. Rhaid cwblhau’r datganiad ym mhanel 12 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13 gan nodi sut y cododd budd y buddiolwr o dan yr ymddiried tir trwy’r writ neu orchymyn a wnaed.

Sylwch y bydd talu arian cyfalaf i 2 ymddiriedolwr neu gorfforaeth ymddiried yn dal i orgyrraedd budd y buddiolwr o dan yr ymddiried tir ac na fydd cyfyngiad Ffurf II yn atal gorgyrraedd.

6.15 Partneriaethau

Mae cofnodi cyfyngiad Ffurf A yn orfodol wrth gofrestru’r ystad yn enwau’r partneriaid, gan y bydd y buddion llesiannol yn cael eu dal o dan denantiaeth gydradd.

Gall y partneriaid ddymuno gwneud cais yn ogystal yn ffurflen RX1 i gofnodi cyfyngiad Ffurf Q. Dylid darparu cydsyniad y perchnogion cofrestredig i gofnodi’r cyfyngiad ar ffurflen RX1 neu dystysgrif trawsgludwr bod cydsyniad o’r fath yn cael ei ddal. Mae’r cyfyngiad Ffurf Q yn mynnu bod yn rhaid i gynrychiolwyr personol y perchennog cofrestredig a enwir, yn achos marwolaeth y perchennog cofrestredig, gydsynio i gofrestriad gwarediad gan y goroeswr(wyr). Mae’n dderbyniol i enwi perchnogion lluosog yn y cyfyngiad, ond ni allwch eirio’r cyfyngiad mewn ffordd a fyddai’n arwain at warediad yn cael ei ddal ar ôl marwolaeth yr holl berchnogion cofrestredig yn unig – rhaid i’r enwau gael eu gwahanu gan ‘neu’ yn hytrach nag ‘a/ac’.

6.16 Gorswm

Mae modd sicrhau cytundeb gorswm (neu gytundeb i dalu cydnabyddiaeth ychwanegol) trwy arwystl cyfreithiol neu ecwitïol.

Os yw’n un o delerau’r cytundeb bod pwerau’r perchennog cofrestredig i wneud y gwarediad yn gyfyngedig mae’n bosibl y gallwch wneud cais yn ffurflen RX1 hefyd, neu fel dewis arall, i gofnodi cyfyngiad er mwyn atal torri’r ddarpariaeth hon. Oni bai bod y perchennog cofrestredig wedi cydsynio i gofnodi’r cyfyngiad, rhaid cyflwyno copi ardystiedig o’r cytundeb gorswm gyda’r cais. Rhaid cwblhau’r datganiad ym mhanel 12 ffurflen RX1 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13. Rhowch fanylion y cytundeb a nodwch y ddarpariaeth yn y cytundeb sy’n cyfyngu ar allu’r perchennog cofrestredig i wneud unrhyw warediad. Mae rhai cytundebau gorswm yn gosod rhwymedigaeth benodol ar barti i wneud cais am ffurf safonol benodol o gyfyngiad, ac mae’r cytundeb yn amlinellu ei delerau.

6.17 Hawlrwym gwerthwr

Hawlrwym gwerthwr yw budd yn deillio pan gaiff contract ymrwymol i werthu tir ei wneud. Gan fod y budd yn effeithio ar yr ystad cyn trosglwyddo, rhaid ei warchod cyn cofrestru’r trosglwyddiad os nad yw’r prynwr yn ei gymryd yn rhydd. Mae modd gwarchod hawlrwym gwerthwr trwy rybudd a gytunwyd neu unochrog. Os ydych yn gwneud cais am rybudd a gytunwyd rhaid ichi gyflwyno ffurflen AN1 a chopi ardystiedig o’r contract. Os ydych yn gwneud cais am rybudd unochrog rhaid ichi gyflwyno ffurflen UN1 a nodi mewn datganiad ym mhanel 12 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13 manylion y contract, gan gynnwys dyddiad y contract a’r partïon a chadarnhau bod gan y gwerthwr fudd hawlrwym yn deillio o’r contract hwnnw.

Fel rheol, ni ellir nodi hawlrwym gwerthwr ar ôl i’r gwarediad i’r prynwr gael ei gofrestru, oni bai bod y gwerthwr yn honni bod gan yr hawlrwym statws gor-redol (er enghraifft, oherwydd bod y gwerthwr mewn union feddiannaeth, o fewn Atodlen 3, paragraff 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ac felly gwarchodir ei flaenoriaeth gan adran 29(2)(a)(ii). Dylai hawliad o’r fath gael ei ddatgan yn benodol yn y cais (y dylid ei wneud ar ffurflen UN1).

6.18 Gorchmynion ad-drefnu eiddo

Mae cais am orchymyn ad-drefnu eiddo sy’n effeithio ar yr ystad gyfreithiol yn achos tir arfaethedig a gellir ei warchod trwy rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog. Os ydych yn gwneud cais am rybudd a gytunwyd rhaid ichi gyflwyno ffurflen AN1 a chopi o’r ddeiseb neu ateb sy’n hawlio rhyddhad. Os ydych yn gwneud cais am rybudd unochrog rhaid ichi gyflwyno ffurflen UN1, gan nodi mewn datganiad ym mhanel 12 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13, manylion y cais am orchymyn ad-drefnu eiddo (gan gynnwys manylion y llys, cyfeirnod llawn y llys, y ffaith bod y ceisydd yn gwneud cais am orchymyn ad-drefnu eiddo o dan Ddeddf Achosion Priodasol 1973 neu Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004 a’r partïon).

Nid yw cais am orchymyn ad-drefnu eiddo nad yw’n effeithio ar yr ystad gyfreithiol yn achos tir arfaethedig ac nid oes modd ei warchod trwy rybudd. Enghraifft fyddai cais am orchymyn dim ond o ran budd llesiannol sy’n cael ei ddal gan y priod neu bartner sifil arall o dan ymddiried tir – mewn geiriau eraill, lle nad oes unrhyw anghydfod ynghylch bodolaeth yr ymddiried, dim ond o ran pwy yw’r buddiolwr. Ar y llaw arall gellir dadlau bod cais lle bo bodolaeth yr ymddiried yn destun anghydfod (er enghraifft, cais am ddatganiad bod unig berchennog yn dal ar ymddiried goblygedig), neu gais i benodi ymddiriedolwr yn achos tir arfaethedig ac felly mae modd ei warchod trwy rybudd. Gweler Godfrey yn erbyn Torpey ac eraill [2006] EWHC 1423 (Ch) (hawliad am ddatganiad bod eiddo a gofrestrwyd un enw cwmni A yn unig yn cael ei ddal ganddo fel enwebai ar ran B yn achos tir arfaethedig).

Unwaith mae’r llys wedi gwneud gorchymyn terfynol, ni fydd unrhyw achos arfaethedig mwyach. Gellir gwarchod gorchymyn ad-drefnu eiddo sy’n effeithio ar yr ystad gyfreithiol trwy rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog, er, yn y rhan fwyaf o achosion, y bydd yn fwy priodol cwblhau a chofrestru gwarediad sy’n gweithredu ei delerau. Os ydych yn gwneud cais am rybudd a gytunwyd rhaid ichi gyflwyno ffurflen AN1 a chopi ardystiedig o’r gorchymyn. Os ydych yn gwneud cais am rybudd unochrog rhaid ichi gyflwyno ffurflen UN1 gan gynnwys datganiad statudol neu dystysgrif trawsgludwr sy’n nodi manylion y gorchymyn, gan gynnwys manylion y llys, dyddiad y gorchymyn, natur y gorchymyn a wnaed, cyfeirnod llawn y llys a’r partïon.

Nid oes modd nodi gorchymyn ad-drefnu eiddo os ei unig effaith yw creu ymddiried tir neu ddatgan y buddion llesiannol o dan ymddiried. Gellir gwarchod gorchymyn o’r fath trwy gyfyngiad, lle bo’n briodol, a rhaid gwneud y cais yn ffurflen RX1. Bydd ffurf y cyfyngiad yn dibynnu ar natur y gorchymyn.

Os mai effaith y gorchymyn yw creu ymddiried neu hollti cyd denantiaeth lesiannol sy’n bodoli, fel rheol dylid gwneud cais am gyfyngiad Ffurf A os na chofnodwyd cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr eisoes. Rhaid i’r cais fod yn ffurflen RX1. Mae cyfyngiad Ffurf A yn sicrhau bod rhaid talu unrhyw arian cyfalaf i 2 ymddiriedolwr neu gorfforaeth ymddiried. Rhaid cyflwyno copi ardystiedig o’r gorchymyn gyda’r cais. Rhaid cwblhau’r datganiad ym mhanel 12 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13 hefyd, gan nodi manylion y gorchymyn.

6.19 Hollti

Os yw ystad gofrestredig mewn tir yn cael ei throsglwyddo i 2 neu ragor o bobl, oni bai bod y trosglwyddeion yn datgan wrth wneud cais i gofrestru eu bod yn dal yr eiddo ar ymddiried drostynt eu hunain fel cyd-denantiaid llesiannol, bydd y cofrestrydd yn cofnodi cyfyngiad Ffurf A.

Lle caiff cyd denantiaeth lesiannol ei hollti, rhaid i berchennog ystad gofrestredig wneud cais ar ffurflen SEV neu ffurflen RX1 am gyfyngiad Ffurf A. Oni bai bod y perchnogion cofrestredig i gyd wedi llofnodi’r SEV neu RX1, neu y rhestrir y perchnogion cofrestredig i gyd ar y ffurflen fel y ceiswyr, neu y rhoddir cydsyniad y perchnogion cofrestredig i gyd ar ffurflen RX1, bydd angen tystiolaeth o hollti. Os oes angen tystiolaeth o hollti, dylai’r cais ddod gyda naill ai gopi ardystiedig o weithred ddatganiad yn nodi’r bwriad i hollti’r gyd-denantiaeth a dal fel tenantiaid cydradd, neu’r rhybudd hollti a gyflwynwyd o dan adran 36(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925, yn dwyn llofnod y derbynnydd yn cydnabod derbyn. Os na ellir cyflwyno cydnabyddiaeth derbyn gan y derbynnydd, dylid cwblhau’r datganiad ym mhanel 12 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13 ffurflen RX1 neu’r datganiad priodol ym mhanel 7 ffurflen SEV yn cadarnhau y rhoddwyd rhybudd yn unol ag adran 36(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 i’r cyd-denantiaid eraill. Fel arall, gall trawsgludwr ardystio eu bod yn dal tystiolaeth o hawl i wneud cais am y cyfyngiad.

Cyflwynwyd ffurflen SEV i ateb ceisiadau ein cwsmeriaid am ffurflen seml i wneud cais am gyfyngiad Ffurf A yn sgil y mathau mwyaf cyffredin o hollti cyd-denantiaeth lesiannol. Gellir defnyddio ffurflen SEV dim ond lle bo cyd-denantiaeth lesiannol wedi cael ei hollti naill ai trwy gytundeb rhwng y perchnogion neu drwy rybudd a gyflwynir gan un o’r perchnogion i’r lleill. Os oes angen cyfyngiad Ffurf A o dan amgylchiadau eraill (gan gynnwys lle mae’r hollti wedi digwydd o dan amgylchiadau eraill er enghraifft methdaliad cydberchennog) rhaid ichi wneud cais ar ffurflen RX1.

6.20 Cytundeb i brydlesu

Mae modd gwarchod cytundeb i brydlesu trwy rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog. Os ydych yn gwneud cais am rybudd a gytunwyd, rhaid ichi gyflwyno ffurflen AN1 a chopi ardystiedig o’r gorchymyn, ynghyd â chydsyniad y perchennog cofrestredig lle bo ar gael. Os ydych yn gwneud cais am rybudd unochrog, rhaid ichi gyflwyno ffurflen UN1 a datganiad statudol neu dystysgrif trawsgludwr yn nodi mewn datganiad ym mhanel 11 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 12 manylion y cytundeb, gan gynnwys dyddiad y contract a’r partïon.

Os yw’r cytundeb i brydlesu yn cyfyngu ar bwerau’r perchennog cofrestredig i wneud gwarediad, gallwch wneud cais hefyd i gofnodi cyfyngiad yn ffurflen RX1 i atal torri’r ddarpariaeth hon. Fel arfer, byddai’r cais am gyfyngiad Ffurf L yn cyfeirio at ddarpariaeth berthnasol y cytundeb. Oni bai bod y perchennog cofrestredig wedi cydsynio i gofnodi’r cyfyngiad, rhaid i’r cais ddod gyda chopi ardystiedig o’r cytundeb. Rhaid cwblhau’r datganiad ym mhanel 12 ffurflen RX1 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13 gan nodi manylion y contract a’r ddarpariaeth yn y contract sy’n cyfyngu ar allu’r perchennog cofrestredig i wneud unrhyw warediad.

6.21 Atal twyll

6.21.1 Unigolion preifat

Lle credir y gall fod ymgais i wared yn dwyllodrus yn erbyn eiddo a berchnogir gan unigolion preifat, mae modd gwneud cais i gofnodi cyfyngiad Ffurf LL. Mae hyn yn gwarchod rhag ffugio trwy fynnu bod trawsgludwr yn ardystio iddo gael ei argyhoeddi mai’r person a gyflawnodd y ddogfen a gyflwynwyd i’w chofrestru fel gwaredwr yw’r un person â’r perchennog.

Gweler Cyfyngiad Ffurf LL ar gyfer ein gofynion pan fo tystysgrif yn cael ei rhoi ar gyfer y cyfyngiad hwn.

Lle nad yw cais yn cael ei wneud trwy neu gyda chydsyniad naill ai unig berchennog cofrestredig neu un o 2 neu ragor o berchnogion cofrestredig, dylid cyflwyno tystiolaeth o hawl y ceisydd i wneud cais o dan adran 43(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Lle bo un o 2 neu ragor o berchnogion cofrestredig yn gwneud cais i gofnodi’r cyfyngiad, bydd rhybudd o’r cais yn cael ei gyflwyno i’r perchennog arall(perchnogion eraill). Gweler Ceisiadau hysbysadwy.

Mae Ffurflen RQ ar gael i wneud cais i’r cofrestrydd gofnodi cyfyngiad Ffurf LL ar gyfer eiddo ym mherchnogaeth unigolyn preifat. Rhaid gwneud y ceisiadau hyn ar wahân ac ni ddylent fod yn rhan o gais mwy (nid ydym yn trin ceisiadau ar ffurflen RQ fel ceisiadau hysbysadwy).

6.21.2 Cwmnïau

Pan fo eiddo yn eiddo i gwmni, nid oes ffurf safonol o gyfyngiad yn bodoli. Fodd bynnag, gellir gwneud cais am gyfyngiad ansafonol, sy’n ei gwneud yn ofynnol i drawsgludwr ardystio mai’r gwaredwr yw’r un cwmni â’r perchennog. Gall y cyfyngiad hefyd fynnu tystysgrif y cymerwyd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw un a gyflawnodd weithred ar ran y cwmni yn y swydd a nodwyd ar adeg y cyflawni.

Mae enghraifft o eiriad derbyniol ar gyfer cyfyngiad twyll cwmni ansafonol fel a ganlyn:

CYFYNGIAD: Nid oes gwarediad o’r ystad gofrestredig gan berchennog yr ystad gofrestredig i’w gwblhau trwy gofrestriad heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan drawsgludwr bod y trawsgludwr yn fodlon (1) mai’r cwmni a gyflawnodd y ddogfen a gyflwynwyd i’w chofrestru fel gwaredwr yw’r un cwmni â’r perchennog, a (2) bod camau rhesymol wedi ru cymryd i sefydlu bod pob person a lofnododd fel swyddog i’r cwmni yn dal y swydd a ddatganwyd ar adeg y cyflawni.

Mae Ffurflen RQ(Co) ar gael i wneud cais i’r cofrestrydd gofnodi cyfyngiad o’r fath ar gyfer eiddo ym mherchnogaeth cwmni ac mae’n gosod geiriad y cyfyngiad y gellir gwneud cais ar ei gyfer (gweler uchod). Rhaid gwneud y ceisiadau hyn ar wahân ac ni ddylent fod yn rhan o gais mwy.

6.22 Arwystlon o dan adran 22 o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (‘Deddf 1983’)

Oherwydd newidiadau a wnaed gan Ddeddf Gofal 2014, ni all awdurdodau yn Lloegr gymryd arwystlon o dan Ddeddf 1983 ar ac ar ôl 1 Ebrill 2015 waeth pryd y cododd yr atebolrwydd. Mae newidiadau a wnaed gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn golygu na all awdurdodau lleol yng Nghymru gymryd arwystlon o dan Ddeddf 1983 ar ac ar ôl 6 Ebrill 2016.

Gall awdurdod lleol sydd wedi darparu ‘llety rhan III (yn fras, llety mewn cartref gofal) i rywun (‘y preswylydd’) adennill costau yr asesir eu bod yn ddyledus iddo trwy greu arwystl o dan adran 22 o Ddeddf 1983 ar y budd sydd gan y preswylydd mewn unrhyw lain o dir. Mae’n gwneud hyn trwy wneud datganiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw.

Os mai’r preswylydd yw unig berchennog llesiannol yr eiddo sy’n destun yr arwystl, bydd yr arwystl yn dod i rym fel arwystl yr ystad gyfreithiol a, lle bo’r ystad yn gofrestredig, gellir ei gofrestru fel arwystl cofrestredig neu ei nodi o dan adran 32 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Os ydych yn gwneud cais am rybudd a gytunwyd, rhaid ichi gyflwyno ffurflen AN1 a chopi ardystiedig o’r datganiad arwystl. Yn ogystal, dylech ddarparu datganiad, naill ai yn yr arwystl ei hun neu mewn llythyr sy’n dod gydag ef, nad yw’r awdurdod wedi gwneud unrhyw ddatganiad mewn perthynas ag unrhyw lain arall o dir y mae gan y preswylydd fudd llesiannol ynddi. Os ydych yn gwneud cais am rybudd unochrog, rhaid ichi gyflwyno ffurflen UN1 gan nodi, mewn datganiad ym mhanel 12 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13, manylion yr arwystl, gan gynnwys y dyddiad, enw’r sawl y mae ei fudd yn destun yr arwystl, yr eiddo sy’n cael ei arwystlo, a chadarnhad na wnaed unrhyw ddatganiad mewn perthynas â thir arall.

Os yw’r preswylydd yn gydberchennog, mae’r arwystl yn effeithio ar ei fudd llesiannol yn unig, ac nid ar yr ystad gyfreithiol gofrestredig.

Mae arwystl ar fudd llesiannol tenant ecwitïol cydradd yn fudd deilliadol – gweler Buddion o dan ymddiriedau am eglurhad. Am y rhesymau a nodir yn yr adran honno, yr unig gyfyngiad y gall yr awdurdod lleol wneud cais amdano yn yr achos hwn yw cyfyngiad Ffurf A i sicrhau bod y budd yn cael ei orgyrraedd. Os oes cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr eisoes (fel sy’n wir fel rheol lle bo’r perchnogion yn denantiaid cydradd llesiannol), mae budd yr awdurdod lleol yn cael ei warchod eisoes ac ymddengys nad oes modd gwneud unrhyw gais pellach.

Lle bo’r preswylydd yn gyd-denant ecwitïol, bydd creu’r arwystl yn hollti’r gyd-denantiaeth fuddio. Fel yr eglurir uchod, mae’r arwystl ar fudd llesiannol tenant cydradd ecwitïol yn fudd deilliadol ac mae’n anodd gweld sut y byddai’r awdurdod lleol yn gallu bodloni’r cofrestrydd bod ganddo fudd digonol o dan adran 42(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 am unrhyw gyfyngiad ac eithrio cyfyngiad ffurf A. Mae rheol 93(x) o Reolau Cofrestru Tir 2003 (fel y’u newidiwyd gan baragraff 52 o Atodlen 3 i Reoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016) yn darparu y gall awdurdod lleol sydd ag arwystl mewn cytundeb taliad gohiriedig o fewn ystyr adran 68(2) o Ddeddf 2014 ar fudd y cyd-denant llesiannol wneud cais am gyfyngiad Ffurf MM. Fodd bynnag, oherwydd byddai creu’r arwystl wedi hollti’r denantiaeth, mae’n anodd gweld sefyllfa lle byddai cofnodi cyfyngiad Ffurf MM i warchod cytundeb taliad gohiriedig o dan adran 68(2) Deddf 2014 yn briodol.

Felly, pan fydd awdurdod lleol yn cymryd arwystl o dan adran 22 o Ddeddf 1983 ar fudd cyd-denant llesiannol, gall wneud cais am gyfyngiad Ffurf MM. Mae’r cyfyngiad yn effeithio dim ond ar warediadau a wneir ar ôl i’r preswylydd farw neu ddod yn unig berchennog. Cyn hynny, mae’r cydberchnogion yn rhydd i waredu’r eiddo, gan orgyrraedd y buddion llesiannol, gan gynnwys arwystl yr awdurdod lleol. Mae’r cyfyngiad yn caniatáu tri phosibilrwydd.

  • Os yw mwy nag un cydberchennog yn goroesi ar farwolaeth y preswylydd, gallant orgyrraedd budd yr awdurdod lleol yn y ffordd arferol

  • Os mai dim ond un perchennog sy’n goroesi, byddai’n ymddangos bod yr arwystl yn atodi i’r ystad gyfreithiol a freiniwyd yn y perchennog hwnnw, felly gellir ei nodi neu ei gofrestru

  • Gall fod modd dangos nad oes unrhyw arwystl o dan adran 22 yn bodoli

Dylid gwneud cais am gyfyngiad ar ffurflen RX1. Rhaid cyflwyno copi ardystiedig o’r datganiad o arwystl gyda’r cais. Rhaid cwblhau’r datganiad ym mhanel 12 ffurflen RX1 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13, gan nodi manylion yr arwystl. Dylid cadarnhau na wnaed unrhyw ddatganiad o ran budd y preswylydd mewn unrhyw lain arall o dir.

6.23 Arwystlon o dan adran 68 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (‘Deddf 2014’)

Gall awdurdod lleol yng Nghymru wneud cytundeb taliad gohiriedig gyda pherson y mae’n ofynnol iddo (neu y bydd yn ofynnol iddo) dalu arwystl o dan adran 59 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â gofal a chymorth.

Lle y mae’r cytundeb taliad gohiriedig yn cynnwys arwystl cyfreithiol yr ystad gyfreithiol ac mae’r ystad yn gofrestredig, gall fod yn bosibl, yn wir, disgwylir hynny gan adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 mewn rhai achosion, i’r arwystl gael ei gofrestru fel arwystl cofrestredig. Fel arall, gellir ei nodi o dan adran 32 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Os ydych yn gwneud cais am rybudd a gytunwyd, rhaid ichi gyflwyno ffurflen AN1 a chopi ardystiedig o’r cytundeb taliad gohiriedig sy’n cynnwys yr arwystl neu gopi ardystiedig ohono. Os ydych yn gwneud cais am rybudd unochrog, rhaid ichi gyflwyno ffurflen UN1 yn nodi, mewn datganiad ym mhanel 12 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13, manylion y cytundeb taliad gohiriedig sy’n cynnwys yr arwystl, gan gynnwys y dyddiad, y partïon i’r cytundeb taliad gohiriedig, yr eiddo a arwystlwyd a chadarnhad bod y cytundeb taliad gohiriedig yn cynnwys arwystl ar yr eiddo hwnnw.

Os yw’r person sy’n mynd i gytundeb taliad gohiriedig yn gydberchennog, ac nid yw ei berchnogion cyd-gofrestredig wedi ymrwymo i’r arwystl, mae’r arwystl yn effeithio ar ei fudd llesiannol yn unig, ac nid ar yr ystad gyfreithiol gofrestredig.

Mae arwystl ar fudd llesiannol tenant ecwitïol cydradd yn fudd deilliadol – gweler Buddion o dan ymddiriedau am eglurhad o hyn. Am y rhesymau a nodir yn yr adran honno, yr unig gyfyngiad y gall yr awdurdod lleol wneud cais amdano yn yr achos hwn yw cyfyngiad Ffurf A i sicrhau bod y budd yn cael ei orgyrraedd. Os oes cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr eisoes (fel sy’n wir fel rheol lle bo’r perchnogion yn denantiaid cydradd llesiannol), mae budd yr awdurdod lleol yn cael ei warchod eisoes ac ymddengys nad oes modd gwneud unrhyw gais pellach.

Lle bo’r preswylydd yn gyd-denant ecwitïol, bydd creu’r arwystl yn hollti’r gyd-denantiaeth fuddiol. Fel yr eglurir uchod, mae’r arwystl ar fudd llesiannol tenant cydradd ecwitïol yn fudd deilliadol ac mae’n anodd gweld sut y byddai’r awdurdod lleol yn gallu bodloni’r cofrestrydd bod ganddo fudd digonol o dan adran 42(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 am unrhyw gyfyngiad ac eithrio cyfyngiad ffurf A.

6.24 Arwystlon o dan adran 71 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (‘Deddf 2014’)

Mae Adran 71 o Ddeddf 2014 yn caniatáu i awdurdod lleol yng Nghymru greu arwystl o’i blaid ei hunan dros fudd person mewn tir yng Nghymru neu Loegr os yw’r person hwnnw’n methu â thalu swm y gellir ei adennill gan yr awdurdod lleol o dan Ran 5 o Ddeddf 2014 er mwyn sicrhau’r swm sy’n ddyledus.

Lle bo’r preswylydd yn unig berchennog cyfreithiol a buddiol yr eiddo a arwystlir, bydd yr arwystl yn dod i rym fel arwystl yr ystad gyfreithiol a gall fod yn bosibl, yn wir, disgwylir hynny gan adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 mewn rhai achosion, i’r arwystl gael ei gofrestru fel arwystl cofrestredig. Fe allai fel arall gael ei nodi o dan adran 32 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Os ydych yn gwneud cais am rybudd a gytunwyd, rhaid ichi gyflwyno ffurflen AN1 a datganiad yr arwystl neu gopi ardystiedig ohono. Yn ychwanegol, dylid darparu datganiad, naill ai yn yr arwystl ei hunan neu mewn llythyr atodol, nad yw’r awdurdod wedi gwneud unrhyw ddatganiad mewn perthynas ag unrhyw lain arall o dir y mae gan y preswylydd fudd llesiannol ynddo. Os ydych yn gwneud cais am rybudd unochrog, rhaid ichi gyflwyno ffurflen UN1, gan nodi mewn datganiad ym mhanel 12 neu mewn tystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13, fanylion yr arwystl, gan gynnwys y dyddiad, enw’r person y mae ei fudd wedi ei arwystlo, yr eiddo a arwystlir a chadarnhad nad oes datganiad wedi ei wneud mewn perthynas â thir arall.

Os yw’r preswylydd yn un o gydberchnogion, mae’r arwystl yn effeithio ar y buddion llesiannol yn unig, nid yr ystad gyfreithiol gofrestredig.

Mae arwystl ar fudd llesiannol tenant cydradd ecwitïol yn fudd deilliadol – gweler Buddion o dan ymddiriedau am eglurhad ar hyn. Am y rhesymau a esboniwyd yn yr adran honno, yr unig gyfyngiad y gall yr awdurdod lleol wneud cais amdano yn yr achos hwn yw cyfyngiad Ffurf A i sicrhau bod y budd yn cael ei orgyrraedd. Os oes cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr eisoes (fel y digwydd yn aml lle bo’r perchnogion yn denantiaid cydradd llesiannol), ymddengys nad oes modd gwneud cais pellach.

Lle bo’r preswylydd yn gyd-denant ecwitïol, mae adrannau 71(4), 71(5) a 71(6) o Ddeddf 2014 yn gwneud darpariaeth benodol ynghylch yr hyn sy’n digwydd. Fel rheol, byddai arwystl ar fudd llesiannol un cyd-denant yn torri’r gyd-denantiaeth yn awtomatig. Fodd bynnag, mae adran 71(4) yn darparu na chaiff y gyd-denantiaeth ei hollti, ond bydd yr arwystl am swm nad yw’n uwch na gwerth y budd y byddai’r preswylydd yn ei fwynhau pe byddai’r denantiaeth yn cael ei hollti. Mae adrannau 71(5) a 71(6) yn esbonio’r hyn sy’n digwydd pan fydd y preswylydd yn marw. Bydd arwystl y cyd-denant neu denantiaid sy’n goroesi’n ddarostyngedig i arwystl am swm nad yw’n uwch na swm yr arwystl ar fudd y preswylydd blaenorol.

Lle bo awdurdod lleol yng Nghymru’n cymryd arwystl o dan adran 71 o Ddeddf 2014 ar fudd cyd-denant llesiannol, yn dilyn y newidiadau i eiriad rheol 93(x) a Ffurf MM yn Atodlen 4 o Reolau Cofrestru Tir 2003 a wnaed gan Reoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffïoedd) (Cymru) a Rheolau Cofrestru Tir (Diwygiadau Amrywiol) 2020 ar 6 Ebrill 2020, gall wneud cais am gyfyngiad safonol Ffurf MM. Yn flaenorol, dim ond cyfyngiad ansafonol oedd yn bosibl.

Bydd y cyfyngiad Ffurf MM yn effeithio dim ond ar warediadau a wnaed ar ôl i’r preswylydd farw neu wedi iddo ddod yn unig berchennog. Cyn hynny, gall cydberchnogion waredu’r eiddo yn rhydd, gan or-gyrraedd y buddion llesiannol, gan gynnwys arwystl yr awdurdod lleol. Mae’r cyfyngiad yn caniatáu tri phosibilrwydd.

  • Os oes mwy nag un cydberchennog yn goroesi ar farwolaeth y preswylydd, gall or-gyrraedd budd yr awdurdod lleol yn y ffordd arferol

  • Os mai dim ond un perchennog sy’n goroesi, byddai’n ymddangos bod yr arwystl nawr yn atodi i’r ystad gyfreithiol a freiniwyd yn y perchennog hwnnw, felly gellir ei nodi neu ei gofrestru

  • Gall fod modd dangos nad oes unrhyw arwystl o dan adran 71 yn bodoli

Dylid gwneud cais am gyfyngiad ar ffurflen RX1. Rhaid cynnwys copi ardystiedig o’r datganiad arwystl gyda’r cais. Rhaid cwblhau’r datganiad ym mhanel 12 ffurflen RX1 neu dystysgrif trawsgludwr ym mhanel 13, gan nodi manylion yr arwystl. Dylid cadarnhau na wnaed unrhyw ddatganiad o’r fath o ran budd y preswylydd mewn unrhyw lain arall o dir.

6.25 Landlordiaid a chwmnïau rheoli

Os yw cytundeb gyda landlord neu gwmni rheoli, p’un ai mewn prydles, gweithred gyfamod, trosglwyddiad neu fel arall, yn cyfyngu’n benodol ar bwerau’r perchennog cofrestredig i wneud gwarediad, gellir cyfleu hyn trwy gofnodi cyfyngiad. Fodd bynnag, o ystyried yr anghyfleustra a chost bosibl i’r 2 barti o gydymffurfio â hyn, dylid ystyried yn ofalus a oes gwir angen cyfyngiad.

Gellir gwneud cais am y cyfyngiad ar ffurflen RX1. Lle y mae’r cyfyngiad yn ymwneud â chyfamodau wedi eu cynnwys mewn prydles, gellir gwneud cais yng nghymal LR13 prydles cymalau penodedig.

I gael gwybodaeth am ddrafftio cyfyngiad lle y mae’n ymwneud â chyfamodau wedi eu cynnwys mewn prydles, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19A: cyfyngiadau ac eiddo prydlesol.

6.26 Galluedd meddyliol

Pan mai unigolyn sy’n berchen ar eiddo, gall y dirprwy a benodir gan y llys o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (Deddf 2005) wneud cais am gyfyngiad sy’n atal gwaredu’r tir neu arwystl cofrestredig ac eithrio o dan orchymyn y llys. Dylai’r cyfyngiad y gwneir cais amdano fod ar Ffurf safonol RR a dylai’r cais gynnwys tystiolaeth o bŵer y dirprwy i wneud cais i gofnodi’r cyfyngiad. Pan fo gorchymyn o dan Ddeddf 2005 yn rhoi pŵer cyffredinol i’r dirprwy, bydd hyn hefyd yn rhoi hawl iddo wneud cais am y cyfyngiad hwn. (Ni fydd y cyfyngiad yn atal cofrestriad gwerthiant dilynol gan y dirprwy os yw penodiad y dirprwy yn awdurdodi hyn, ond bydd yn gwarchod yr eiddo fel arall).

Ni all atwrnai wneud cais am gyfyngiad safonol Ffurf RR. Fodd bynnag, pan fo’r rhoddwr yn unig berchennog, gall yr atwrnai wneud cais am y cyfyngiad ansafonol a ganlyn, lle mae’r rhoddwr/perchennog wedi colli galluedd, ond wedi cyflawni atwrneiaeth yn flaenorol:

CYFYNGIAD: Nid oes gwarediad o’r ystad gofrestredig gan berchennog yr ystad gofrestredig i’w gwblhau trwy gofrestriad heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan drawsgludwr yn cadarnhau bod y trawsgludwr yn fodlon mai’r person(au) a gyflawnodd y ddogfen a gyflwynwyd i’w chofrestru fel atwrnai/atwrneiod ar gyfer perchennog yr ystad gofrestredig yw’r un person(au) â’r atwrnai/atwrneiod a enwir yn yr atwrneiaeth arhosol/parhaus [dyddiad].

Dylai’r atwrnai wneud cais am y cyfyngiad yn enw’r perchennog cofrestredig, a dylid cynnwys tystiolaeth o’r atwrneiaeth (naill ai atwrneiaeth barhaus wedi ei chofrestru’n briodol neu atwrneiaeth arhosol gofrestredig) gyda’r cais ynghyd â thystysgrif gan drawsgludwr bod y rhoddwr/perchennog wedi colli galluedd ac nad yw’r atwrneiaeth wedi ei dirymu.

Os yw’r person sydd heb alluedd (P) yn gyd-berchennog/ymddiriedolwr, dylid ei ryddhau neu dylid penodi ymddiriedolwr newydd. Ond os oes ganddo hawl i fudd llesiannol mewn meddiant, ni all unrhyw ddirprwy nac unrhyw gyd-berchennog/ymddiriedolwr ddisodli P fel ymddiriedolwr a rhaid i’r Llys Gwarchod roi caniatâd i wneud y penodiad yn unol ag adran 36(9) o Ddeddf yr Ymddiriedolwyr 1925. Os penodir ymddiriedolwr newydd i gymryd lle P, gall yr ymddiriedolwr wneud cais am gyfyngiad ffurf safonol SS sy’n atal gwarediad yn ystod oes P heb ganiatâd y Llys Gwarchod.

6.27 Pobl ar goll

Tybir bod rhywun sy’n diflannu yn fyw hyd nes caiff y gwrthwyneb ei ddatgan. Ond er eu bod ar goll, efallai bydd eu heiddo’n cael ei adael yn ‘ddi-berchennog’, gyda goblygiadau difrifol iddynt hwy a’u dibynyddion. Er mwyn datrys y broblem hon, mae Deddf Gwarcheidiaeth (Pobl ar Goll) 2017 (‘y Ddeddf ‘) yn darparu fframwaith statudol i berson (gwarcheidwad) gael ei benodi gan yr Uchel Lys i ddelio â materion eiddo ac ariannol y person sydd ar goll. Cefnogir y Ddeddf gan Reoliadau a Chod Ymarfer. Os penodir gwarcheidwad gan yr Uchel Lys, gellir gwneud cais am y cyfyngiad ansafonol canlynol lle mae’r person sydd ar goll yn unig berchennog cofrestredig:

CYFYNGIAD: Nid oes gwarediad o’r ystad gofrestredig a gyflawnwyd yn enw ac ar ran [enw’r person ar goll] i’w gwblhau trwy gofrestriad oni bai (a) y cafodd ei wneud gan [enw’r gwarcheidwad/gwarcheidwaid a benodwyd ar gyfer y person ar goll] o [cyfeiriad y gwarcheidwad/gwarcheidwaid] a benodwyd ac a awdurdodwyd gan orchymyn yr Uchel Lys dyddiedig [Dyddiad y gorchymyn gwarcheidiaeth], cyfeirnod [cyfeirnod llys], yn unol â Deddf Gwarcheidiaeth (Personau Coll) 2017, neu trwy orchymyn dilynol, neu (b) ynghyd â thystysgrif gan drawsgludwr yn cadarnhau bod unrhyw benodiad o’r fath (gan gynnwys unrhyw amrywiad ohono) wedi dod i ben.

Gall y gwarcheidwad gynrychioli’r person sydd ar goll mewn perthynas â budd llesiannol y person sydd ar goll yn eiddo’r ymddiried (yn hytrach na gweithredu mewn perthynas â holl eiddo’r ymddiried). Fodd bynnag, gan na all gwarcheidwad “arfer pŵer a freiniwyd yn y person sydd ar goll fel ymddiriedolwr mewn perthynas ag eiddo person arall” (adran 6(6) o’r Ddeddf), yr unig geisiadau sy’n debygol o fod yn dderbyniol yw ceisiadau am gyfyngiad yn ymwneud â diogelu buddion ymddiried fel cyfyngiad Ffurf A neu gyfyngiad Ffurf II, neu’r cyfyngiad ansafonol a ddangosir uchod.

Gall gwarcheidwad, fel arall, neu’n ychwanegol at y cyfyngiad, wneud cais i wneud cofnod yn y gofrestr yn cadarnhau ei benodiad fel gwarcheidwad. Rhaid gwneud unrhyw gais ar ffurflen AP1, ac ategu copi ardystiedig o’r gorchymyn llys sy’n penodi’r gwarcheidwad.

Ni all gwarcheidwad wneud cais i gofnodi rhybudd yn y gofrestr gan nad yw ei benodiad yn creu baich y gellir ei ddiogelu trwy rybudd.

6.28 Ewyllysiau a diewyllysedd

Nid oes gan weddilliwr fudd llesiannol yn asedau ystad yr ymadawedig yn ystod adeg y gweinyddu, dim ond hawl i gael yr ystad wedi ei gweinyddu’n briodol. O ganlyniad, ni ellir cofnodi cyfyngiad o blaid y gweddilliwr (er enghraifft Ffurf N neu II) yn erbyn eiddo cofrestredig yr ymadawedig o dan adran 42(1)(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, gan nad oes gan y gweddilliwr hawl neu hawliad mewn perthynas ag ystad neu arwystl cofrestredig i’w hamddiffyn.

Fodd bynnag, efallai gall y gweddilliwr wneud cais am gyfyngiad Ffurf C mewn amgylchiadau cyfyngedig lle mae pwerau cynrychiolydd personol wedi eu cyfyngu gan adran 8 o Ddeddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996.

7. Atodiad B: ffurfiau safonol o gyfyngiad

Cynnwys

7.1 Ffurf A (Cyfyngiad ar warediadau gan unig berchennog)

7.2 Ffurf B (Gwarediadau gan ymddiriedolwyr yr ystad gyfreithiol – tystysgrifau yn ofynnol)

7.3 Ffurf C (Gwarediadau gan gynrychiolwyr personol – tystysgrif yn ofynnol)

7.4 Ffurf D (Tir persondy, clastir esgobaethol, eglwys neu fynwent eglwys)

7.5 Ffurf E (Elusen nad yw’n esempt – datganiad yn ofynnol)

7.6 Ffurf F (Tir a freiniwyd mewn gwarcheidwad swyddogol ar elusen nad yw’n esempt – awdurdod yn ofynnol)

7.7 Ffurf G (Tenant am oes fel perchennog cofrestredig tir setledig, lle bo ymddiriedolwyr y setliad)

7.8 Ffurf H (Perchnogion statudol fel ymddiriedolwyr y setliad a pherchnogion cofrestredig tir setledig)

7.9 Ffurf I (Tenant am oes fel perchennog cofrestredig tir setledig – nid oes ymddiriedolwyr y setliad

7.10 Ffurf J (Ymddiriedolwr mewn methdaliad a budd llesiannol – tystysgrif yn ofynnol)

7.11 Ffurf K (Gorchymyn tâl yn effeithio ar fudd llesiannol – tystysgrif yn ofynnol)

7.12 Ffurf L (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl – tystysgrif yn ofynnol)

7.13 Ffurf M (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl –tystysgrif perchennog cofrestredig rhif teitl penodedig tystysgrif yn ofynnol)

7.14 Ffurf N (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl – Caniatâd yn ofynnol)

7.15 Ffurf O (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl – caniatâd perchennog cofrestredig rhif teitl penodedig neu dystysgrif yn ofynnol)

7.16 Ffurf P (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl – caniatâd perchennog arwystl penodedig neu dystysgrif yn ofynnol)

7.17 Ffurf Q (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl –caniatâd cynrychiolwyr personol yn ofynnol)

7.18 Ffurf R (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl – tystiolaeth o gydymffurfio â rheolau’r clwb yn ofynnol)

7.19 Ffurf S (Gwarediad gan y perchennog arwystl –tystysgrif cydymffurfio yn ofynnol)

7.20 Ffurf T (Gwarediad gan berchennog yr arwystl – caniatâd yn ofynnol)

7.21 Ffurf U (Adran 37 o Ddeddf Tai 1985)

7.22 Ffurf V (Adran 157 o Ddeddf Tai 1985)

7.23 Ffurf W (Paragraff 4 o Atodlen 9A i Ddeddf Tai 1985)

7.24 Ffurf X (Adran 133 o Ddeddf Tai 1988 neu adran 173 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989)

7.25 Ffurf Y (Adran 13 o Ddeddf Tai 1996)

7.26 Ffurf AA (Gorchymyn rhewi ar yr ystad gofrestredig)

7.27 Ffurf BB (Gorchymyn rhewi ar arwystl)

7.28 Ffurf CC (Cais am orchymyn rhewi ar yr ystad gofrestredig)

7.29 Ffurf DD (Cais am orchymyn rhewi ar arwystl)

7.30 Ffurf EE (Gorchymyn llesteririo neu orchymyn derbyn dros dro ar yr ystad gofrestredig)

7.31 Ffurf FF (Gorchymyn llesteririo neu orchymyn derbyn dros dro ar arwystl)

7.32 Ffurf GG (Cais am orchymyn llesteririo neu orchymyn derbyn dros dro ar yr ystad gofrestredig)

7.33 Ffurf HH (Cais am orchymyn llesteririo neu orchymyn derbyn dros dro ar arwystl)

7.34 Ffurf II (Budd llesiannol sy’n hawl neu’n hawliad mewn perthynas ag ystad gofrestredig)

7.35 Ffurf JJ (Arwystl statudol o fudd llesiannol o blaid yr Arglwydd Ganghellor)

7.36 Ffurf KK (Prydles gan landlord cymdeithasol cofrestredig)

7.37 Ffurf LL (Cyfyngiad ynghylch tystiolaeth o gyflawni)

7.38 Ffurf MM ((Budd mewn cyd-denantiaeth lesiannol sy’n ddarostyngedig i arwystl o dan adran 22(1) o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983) neu adran 71 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

7.39 Ffurf NN (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl –caniatâd neu dystysgrif yn ofynnol)

7.40 Ffurf OO (Gwarediad gan berchennog arwystl –caniatâd neu dystysgrif yn ofynnol)

7.41 Ffurf PP (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl – tystysgrif landlord neu drawsgludwr yn ofynnol)

7.42 Ffurf QQ (Tir wedi ei gynnwys mewn rhestr o asedion o werth cymunedol a gedwir o dan adran 87(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011)

7.43 Ffurf RR (Dirprwy a benodwyd o dan adran 16 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 – eiddo a berchnogir gan berson

7.44 Ffurf SS (Ymddiriedolwr a benodir yn lle person sydd heb alluedd – eiddo mewn perchnogaeth ar y cyd)

Yn y ffurfiau safonol o gyfyngiad:

  • mae geiriau mewn [cromfachau sgwâr] mewn teip cyffredin yn rhannau dewisol o’r ffurf; ni ddylid cynnwys y cromfachau yn y cyfyngiad
  • mae geiriau mewn {cromfachau cyrliog} mewn llythrennau italig yn gyfarwyddiadau i gwblhau’r ffurf, ac ni ddylid eu cynnwys yn y cyfyngiad
  • lle bo (cromfachau crwn) yn amgáu un neu ragor o eiriau, mae’r cromfachau a’r holl eiriau mewn llythrennau cyffredin sy’n amgaeedig yn rhan o’r ffurf ac, oni bai eu bod wedi’u hamgáu mewn [cromfachau sgwâr] hefyd, rhaid eu cynnwys yn y cyfyngiad
  • lle bo ffurf yn cynnwys grŵp o gymalau a gyflwynir gan fwledi, dim ond un o’r cymalau y gellir ei ddefnyddio; ni ddylid cynnwys y bwledi yn y cyfyngiad.

Mae rheol 91A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn cynnwys addasiadau a ganiateir ar gyfer rhai ffurfiau eraill (gweler Ffurfiau safonol o gyfyngiad). Yn benodol:

  • gall Ffurf safonol o gyfyngiad L, M, N, O, P, S, T, II, NN, OO neu PP ddechrau â’r gair ‘Hyd’ i’w ddilyn gan ddyddiad a gall Ffurf safonol o gyfyngiad L, N, S, T, NN neu OO ddechrau â’r geiriau ‘Hyd farwolaeth [enw] neu ‘Hyd farwolaeth goroeswr [enwau 2 neu ragor o bobl]’
  • os yw cyfyngiad Ffurf J, K, Q, S, T, BB, DD, FF, HH, JJ, LL neu OO yn ymwneud ag arwystl cofrestredig, sy’n un o 2 neu ragor o arwystlon cofrestredig o’r un dyddiad sy’n effeithio ar yr un ystad gofrestredig, rhaid ychwanegu’r geiriau ‘o blaid’ i’w dilyn gan enw perchennog cofrestredig yr arwystl at y cyfyngiad ar ôl dyddiad yr arwystl.

Mae rheol 91B o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn cynnwys darpariaethau ynghylch sut y dylid llofnodi cydsyniad neu dystysgrif corfforaeth gyfansawdd sy’n ofynnol yn ôl telerau cyfyngiad, ar ran y gorfforaeth honno.

7.1 Ffurf A (Cyfyngiad ar warediadau gan unig berchennog)

Nid oes gwarediad gan unig berchennog yr ystad gofrestredig (ac eithrio corfforaeth ymddiried) o dan yr hyn y mae arian cyfalaf yn codi i’w gofrestru oni bai yr awdurdodir hynny gan orchymyn y llys.

7.2 Ffurf B (Gwarediadau gan ymddiriedolwyr yr ystad gyfreithiol – tystysgrifau yn ofynnol)

Nid oes [gwarediad neu rhowch fanylion y math o warediad] gan berchnogion yr ystad gofrestredig i’w gofrestru oni bai bod un neu ragor ohonynt yn gwneud datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd, neu fod eu trawsgludwr yn rhoi tystysgrif, bod y [gwarediad neu rhowch fanylion y math o warediad] yn unol â [enwch y gwarediad sy’n creu’r ymddiried] neu ryw amrywiad ohono y cyfeiriwyd ato yn y datganiad statudol, datganiad o wirionedd neu’r dystysgrif.

7.3 Ffurf C (Gwarediadau gan gynrychiolwyr personol – tystysgrif yn ofynnol))

Nid oes gwarediad gan gynrychiolydd personol {enw} ymadawedig, ac eithrio trosglwyddiad trwy gydsyniad, i’w gofrestru oni bai bod y cynrychiolydd personol yn gwneud datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd, neu fod eu trawsgludwr yn rhoi tystysgrif, bod y gwarediad yn unol â thelerau

{dewiswch y cymal bwled sy’n briodol}

  • ewyllys yr ymadawedig [fel y’i hamrywiwyd trwy [rhowch fanylion dyddiad a phartïon y weithred amrywio neu fanylion priodol eraill]]
  • y gyfraith sy’n ymwneud â diewyllysedd fel y’i hamrywiwyd trwy [rhowch fanylion dyddiad a phartïon y weithred amrywio neu fanylion priodol eraill]

neu ryw amrywiad [pellach] arni y cyfeiriwyd ato yn y datganiad statudol, datganiad o wirionedd neu’r dystysgrif, neu sy’n angenrheidiol at ddibenion gweinyddu.

7.4 Ffurf D (Tir persondy, clastir esgobaethol, eglwys neu fynwent eglwys)

Nid oes gwarediad o’r ystâd gofrestredig i’w gofrestru oni bai bod yr offeryn sy’n peri’r gwarediad yn cynnwys naill ai tystysgrif (a) neu dystysgrif (b):

(a) gwneir y gwarediad [dewiswch un o’r cymalau bwled]

  • {yn unol â Rhan 1 o Fesur Eiddo’r Eglwys 2018,
  • yn unol â Rhan 2 o Fesur Eiddo’r Eglwys 2018,
  • yn unol ag adran 29 o Fesur Eiddo’r Eglwys 2018,
  • yn unol ag adran 29 o Fesur Eiddo’r Eglwys 2018 yn rhinwedd adran 4(9) o Fesur y Swyddfeydd Eglwysig (Telerau Gwasanaeth) 2009,
  • yn unol ag adrannau 33 a 34 o Fesur Eiddo’r Eglwys 2018}
  • o fewn adran 117(3)(a) o Ddeddf Elusennau 2011;
  • o dan awdurdod cyfadran a roddwyd o dan bŵer cyfraith gwlad y cyfeirir ato yn In re Paddington St. Mary Magdalene 1980 Fam.99;
  • yn unol â [nodwch Ddeddf, Mesur neu awdurdod arall];

(b) bod Comisiynwyr yr Eglwys yn gysylltiedig â’r offeryn ac wedi rhoi eu sêl arno.

7.5 Ffurf E (Elusen nad yw’n esempt – datganiad yn ofynnol)

Nid oes gwarediad gan berchennog yr ystad gofrestredig y mae adrannau 117 i 121 o Ddeddf Elusennau 2011 yn gymwys iddo, neu adran 124 o’r Ddeddf honno’n gymwys iddo, i’w gofrestru oni bai bod yr offeryn yn cynnwys datganiad sy’n cydymffurfio ag adran 122(2A) neu adran 125(1A) o’r Ddeddf honno fel sy’n briodol.

7.6 Ffurf F (Tir a freiniwyd mewn gwarcheidwad swyddogol ar ymddiried i elusen nad yw’n esempt – awdurdod yn ofynnol)

Nid oes gwarediad a gyflawnwyd gan ymddiriedolwyr [enw’r elusen] yn enw ac ar ran y perchennog i’w gofrestru oni bai yr awdurdodwyd y trafodiad gan orchymyn y llys neu’r Comisiwn Elusennau, yn ôl gofynion adran 22(3) o Ddeddf Elusennau 1993.

7.7 Ffurf G (Tenant am oes fel perchennog cofrestredig tir setledig, lle bo ymddiriedolwyr y setliad)

Nid oes gwarediad i’w gofrestru oni bai yr awdurdodir hynny gan Ddeddf Tir Setledig 1925, neu gan unrhyw estyniad i’r pwerau statudol hynny yn y setliad, ac nid oes gwarediad o dan yr hyn y mae arian cyfalaf yn codi i’w gofrestru oni bai bod yr arian yn cael ei dalu i {enw} o {cyfeiriad} a {enw} o {cyfeiriad}, (ymddiriedolwyr y setliad, a all fod yn unig gorfforaeth ymddiried neu, os yw’n unigolion, rhaid bod o leiaf 2 ond nid mwy na 4 ohonynt) neu i’r llys.

{Nodyn – Os yw’n berthnasol yn ôl telerau’r setliad, mae modd ychwanegu darpariaeth bellach nad oes unrhyw drosglwyddiad o’r plasty [a ddangosir ar gynllun ynghlwm neu wedi ei ddisgrifio fel arall yn ddigonol er mwyn gallu ei adnabod yn llawn ar y map Arolwg Ordnans neu’r cynllun teitl] i’w gofrestru heb ganiatâd yr ymddiriedolwyr a enwyd neu orchymyn y llys.}

7.8 Ffurf H (Perchnogion statudol fel ymddiriedolwyr y setliad a pherchnogion cofrestredig tir setledig)

Nid oes gwarediad i’w gofrestru oni bai yr awdurdodir hynny gan Ddeddf Tir Setledig 1925, neu gan unrhyw estyniad i’r pwerau statudol hynny yn y setliad, ac, nid oes gwarediad i’w gofrestru o dan yr hyn y mae arian cyfalaf yn codi, ac eithrio lle bo’r unig berchennog yn gorfforaeth ymddiried, oni bai bod yr arian yn cael ei dalu i o leiaf 2 berchennog.

{Nodyn – Nid yw’r cyfyngiad hwn yn gymwys lle nad y perchnogion statudol yw ymddiriedolwyr y setliad.}

7.9 Ffurf I (Tenant am oes fel perchennog cofrestredig tir setledig – nid oes ymddiriedolwyr y setliad)

Nid oes gwarediad o dan yr hyn y mae arian cyfalaf yn codi, neu nad yw wedi ei awdurdodi gan Ddeddf Tir Setledig 1925 neu trwy unrhyw estyniad i’r pwerau statudol hynny yn y setliad, i’w gofrestru.

7.10 Ffurf J (Ymddiriedolwr mewn methdaliad a budd llesiannol – tystysgrif yn ofynnol)(#ymddiriedolwyr-mewn-methdaliad)

Nid oes gwarediad o’r

{dewiswch y cymal bwled sy’n briodol}

  • ystad gofrestredig, ac eithrio gwarediad gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn
  • arwystl cofrestredig dyddiedig [dyddiad] y cyfeirir ato uchod, ac eithrio gwarediad gan berchennog unrhyw is-arwystl cofrestredig o’r arwystl hwnnw a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn

i’w gofrestru heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan y ceisydd i gofrestru neu eu trawsgludwr y rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig o’r gwarediad i {enw’r ymddiriedolwr mewn methdaliad} (ymddiriedolwr mewn methdaliad {enw’r methdalwr}) yn {cyfeiriad ar gyfer gohebu}.

7.11 Ffurf K (Gorchymyn tâl yn effeithio ar fudd llesiannol – tystysgrif yn ofynnol)(#gorchymyn-tystysgrif-yn-ofynnol)

Nid oes gwarediad o’r

{dewiswch y cymal bwled sy’n briodol}

  • ystad gofrestredig, ac eithrio gwarediad gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn
  • arwystl cofrestredig dyddiedig {dyddiad} y cyfeirir ato uchod, ac eithrio gwarediad gan berchennog unrhyw is-arwystl cofrestredig o’r arwystl hwnnw a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn

i’w gofrestru heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan y ceisydd i gofrestru neu eu trawsgludwr y rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig o’r gwarediad i [enw’r sawl sydd â budd y gorchymyn tâl] yn [cyfeiriad ar gyfer gohebu], sef y person sydd â budd gorchymyn tâl [dros dro neu derfynol] ar fudd llesiannol {enw’r dyledwr dyfarniad} a wnaed gan {enw’r llys} ar [dyddiad] (Cyfeirnod y llys {rhowch y cyfeirnod}).

7.12 Ffurf L (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl – tystysgrif yn ofynnol)

Nid oes [gwarediad neu {rhowch fanylion y math o warediad}] o’r ystad gofrestredig [(ac eithrio arwystl)] gan berchennog yr ystad gofrestredig

[, neu gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig, nad yw’n arwystl a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn,] i’w gofrestru heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan

{dewiswch y cymal bwled sy’n briodol}

  • trawsgludwr
  • y ceisydd i gofrestru [neu eu trawsgludwr]
  • {enw} o {cyfeiriad} [neu eu cynrychiolwyr personol] [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]
  • {enw} o {cyfeiriad} [neu eu cynrychiolwyr personol] a {enw} o {cyfeiriad} [neu eu cynrychiolwyr personol] [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]
  • {enw} o {cyfeiriad} a {enw} o {cyfeiriad} neu’r goroeswr ohonynt [neu gan gynrychiolwyr personol y goroeswr] [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion penodol]]
  • {enw} o {cyfeiriad} neu [ar ôl marwolaeth y person hwnnw] gan {enw} o {cyfeiriad} [neu [eu trawsgludwr {neu rhowch fanylion priodol}]]

y cydymffurfiwyd â darpariaethau {rhowch fanylion y cymal, paragraff neu fanylion eraill} {rhowch fanylion} [neu nad ydynt yn gymwys i’r gwarediad].

Lle y mae’n ofynnol i’r cyfyngiad y gwneir cais amdano gydymffurfio â’r holl ddarpariaethau mewn gweithred neu ddogfen (yn hytrach na rhai cymalau penodedig) byddwn yn ei drin fel ffurf ansafonol o gyfyngiad. Rhaid gwneud cais amdano ar ffurflen RX1 a chynnwys y ffi sefydlog a bennir o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

Cofier: Defnyddir cyfyngiad safonol Ffurf L pan fo angen tystysgrif y cydymffurfiwyd â darpariaethau mewn gweithred. Os oes angen caniatâd, mae cyfyngiad Ffurf NN yn gyfyngiad safonol amgen sy’n rhoi’r dewis am naill ai caniatâd parti a enwir neu dystysgrif.

{Sylwer: Mae rheol 91A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu ar gyfer defnyddio geiriau eraill ar ddechrau’r cyfyngiad hwn. Gweler Ffurfiau safonol o gyfyngiad.}

7.13 Ffurf M (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl – tystysgrif perchennog cofrestredig rhif teitl penodol yn ofynnol)

Nid oes [gwarediad {neu rhowch fanylion y math o warediad}] o’r ystad gofrestredig [(ac eithrio arwystl)] gan berchennog yr ystad gofrestredig [, neu gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig, nad yw’n arwystl a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn,] i’w gofrestru heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan berchennog am y tro yr ystad a gofrestrwyd o dan deitl rhif {rhowch y rhif teitl} [neu [eu trawsgludwr {neu rhowch fanylion priodol}] y cydymffurfiwyd â darpariaethau [nodwch y cymal, paragraff neu fanylion eraill] [rhowch fanylion] [neu nad ydynt yn gymwys i’r gwarediad].

Lle y mae’n ofynnol i’r cyfyngiad y gwneir cais amdano gydymffurfio â’r holl ddarpariaethau mewn gweithred neu ddogfen (yn hytrach na rhai cymalau penodedig) byddwn yn ei drin fel ffurf ansafonol o gyfyngiad. Rhaid gwneud cais amdano ar ffurflen RX1 a chynnwys y ffi sefydlog a bennir o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

{Sylwer: Mae rheol 91A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu ar gyfer defnyddio geiriau eraill ar ddechrau’r cyfyngiad hwn. Gweler Ffurfiau safonol o gyfyngiad.}

7.14 Ffurf N (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl – caniatâd yn ofynnol)

Nid oes [gwarediad {neu rhowch fanylion y math o warediad}] o’r ystad gofrestredig [(ac eithrio arwystl)] gan berchennog yr ystad gofrestredig [, neu gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig, nad yw’n arwystl a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn,] i’w gofrestru heb ganiatâd ysgrifenedig wedi ei lofnodi gan {dewiswch un o’r cymalau bwled}

  • {enw} o {cyfeiriad} [neu eu cynrychiolwyr personol] [neu [eu trawsgludwr] neu rhowch fanylion priodol]]
  • {enw} o {cyfeiriad} [neu eu cynrychiolwyr personol] a {enw} o {cyfeiriad} [neu eu cynrychiolwyr personol] [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]
  • {enw} o {cyfeiriad} a [enw] o {cyfeiriad} neu’r goroeswr ohonynt [neu gan gynrychiolwyr personol y goroeswr] [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]
  • {enw} o {cyfeiriad} neu [ar ôl marwolaeth y person hwnnw] gan {enw} o {cyfeiriad} [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]].

{Sylwer: Mae rheol 91A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu ar gyfer defnyddio geiriau eraill ar ddechrau’r cyfyngiad hwn. Gweler Ffurfiau safonol o gyfyngiad.}

7.15 Ffurf O (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl – caniatâd perchennog cofrestredig rhif teitl penodol neu dystysgrif yn ofynnol)

Nid oes [gwarediad neu rhowch fanylion y math o warediad] o’r ystad gofrestredig [(ac eithrio arwystl)] gan berchennog yr ystad gofrestredig [, neu gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig, nad yw’n arwystl a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn,] i’w gofrestru heb ganiatâd ysgrifenedig wedi ei lofnodi gan berchennog am y tro yr ystad a gofrestrwyd o dan deitl rhif {rhowch y rhif teitl} [neu [eu trawsgludwr {neu rhowch fanylion priodol}].

{Gall testun y cyfyngiad barhau fel a ganlyn, i ganiatáu ar gyfer darparu tystysgrif fel dewis arall yn lle’r caniatâd.}

neu heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan

{dewiswch un o’r cymalau bwled}

  • trawsgludwr
  • y ceisydd i gofrestru [neu eu trawsgludwr]
  • {enw} o {cyfeiriad} [neu {eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol}]]

y cydymffurfiwyd â darpariaethau {rhowch fanylion y cymal, paragraff neu fanylion eraill} {rhowch fanylion} [neu nad ydynt yn gymwys i’r gwarediad].

Lle y mae’n ofynnol i’r cyfyngiad y gwneir cais amdano gydymffurfio â’r holl ddarpariaethau mewn gweithred neu ddogfen (yn hytrach na rhai cymalau penodedig) byddwn yn ei drin fel ffurf ansafonol o gyfyngiad. Rhaid gwneud cais amdano ar ffurflen RX1 a chynnwys y ffi sefydlog a bennir o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

{Sylwer: Mae rheol 91A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu ar gyfer defnyddio geiriau eraill ar ddechrau’r cyfyngiad hwn. Gweler Ffurfiau safonol o gyfyngiad.}

7.16 Ffurf P (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl – caniatâd perchennog arwystl penodol neu dystysgrif yn ofynnol)

Nid oes [gwarediad {neu rhowch fanylion y math o warediad}] o’r ystad gofrestredig [(ac eithrio arwystl)] gan berchennog yr ystad gofrestredig [, neu gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig, nad yw’n arwystl a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn,] i’w gofrestru heb ganiatâd ysgrifenedig wedi ei lofnodi gan berchennog am y tro yr arwystl dyddiedig {dyddiad}, o blaid {arwystlai} y cyfeirir ato yn y gofrestr arwystlon [neu [eu trawsgludwr {neu rhowch fanylion priodol}]].

{Gall testun y cyfyngiad barhau fel a ganlyn, i ganiatáu ar gyfer darparu tystysgrif fel dewis arall yn lle’r caniatâd.}

neu heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan

{dewiswch un o’r cymalau bwled}

  • trawsgludwr
  • y ceisydd i gofrestru [neu eu trawsgludwr]
  • {enw} o {cyfeiriad} [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]] y cydymffurfiwyd â darpariaethau [nodwch y cymal, paragraff neu fanylion eraill] {rhowch fanylion} [neu nad ydynt yn gymwys i’r gwarediad].

Lle y mae’n ofynnol i’r cyfyngiad y gwneir cais amdano gydymffurfio â’r holl ddarpariaethau mewn gweithred neu ddogfen (yn hytrach na rhai cymalau penodedig) byddwn yn ei drin fel ffurf ansafonol o gyfyngiad. Rhaid gwneud cais amdano ar ffurflen RX1 a chynnwys y ffi sefydlog a bennir o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru. .

{Sylwer: Mae rheol 91A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu ar gyfer defnyddio geiriau eraill ar ddechrau’r cyfyngiad hwn. Gweler Ffurfiau safonol o gyfyngiad.]}

7.17 Ffurf Q (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl – caniatâd cynrychiolwyr personol yn ofynnol)

Nid oes [gwarediad {neu rhowch fanylion y math o warediad}] o’r

{dewiswch y cymal bwled sy’n briodol}

  • ystad gofrestredig gan berchennog yr ystad gofrestredig
  • arwystl cofrestredig dyddiedig {dyddiad} y cyfeirir ato uchod gan berchennog yr arwystl cofrestredig hwnnw

i’w gofrestru ar ôl marwolaeth {enw’r perchennog(perchnogion) presennol y bydd angen caniatâd eu cynrychiolwyr personol} heb ganiatâd ysgrifenedig cynrychiolwyr personol yr ymadawedig.

7.18 Ffurf R (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl – tystiolaeth o gydymffurfio â rheolau clwb yn ofynnol)

Nid oes [gwarediad {neu rhowch fanylion y math o warediad}] o’r ystad gofrestredig [(ac eithrio arwystl)] gan berchennog yr ystad gofrestredig [, neu gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig, nad yw’n arwystl a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn,] i’w gofrestru oni bai yr awdurdodir hynny gan reolau {enw’r clwb} o {cyfeiriad} fel y tystiwyd trwy

{dewiswch y cymal bwled sy’n briodol}

  • penderfyniad ei aelodau
  • tystysgrif wedi ei llofnodi gan ei ysgrifennydd neu drawsgludwr
  • {rhowch fanylion priodol}.

7.19 Ffurf S (Gwarediad gan berchennog arwystl – tystysgrif cydymffurfio yn ofynnol)

Nid oes [gwarediad {neu rhowch fanylion y math o warediad}] gan berchennog yr arwystl cofrestredig dyddiedig {dyddiad} y cyfeirir ato uchod i’w gofrestru heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan

{dewiswch un o’r cymalau bwled}

  • trawsgludwr
  • y ceisydd i gofrestru [neu eu trawsgludwr]
  • {enw} o {cyfeiriad} [neu eu cynrychiolwyr personol] [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]
  • {enw} o {cyfeiriad} [neu eu cynrychiolwyr personol] a {enw} o {cyfeiriad} [neu eu cynrychiolwyr personol] [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]
  • {enw} o {cyfeiriad} a {enw} o {cyfeiriad} neu’r goroeswr ohonynt [neu gan gynrychiolwyr personol y goroeswr] [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]
  • {enw} o {cyfeiriad} neu [ar ôl marwolaeth y person hwnnw] gan {enw} o {cyfeiriad} [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]
  • perchennog am y tro yr is-arwystl dyddiedig {dyddiad} o blaid [is-arwystlai] [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]

y cydymffurfiwyd â darpariaethau {nodwch y cymal, paragraff neu fanylion eraill} {rhowch fanylion} [neu nad ydynt yn gymwys i’r gwarediad].

Lle y mae’n ofynnol i’r cyfyngiad y gwneir cais amdano gydymffurfio â’r holl ddarpariaethau mewn gweithred neu ddogfen (yn hytrach na rhai cymalau penodedig) byddwn yn ei drin fel ffurf ansafonol o gyfyngiad. Rhaid gwneud cais amdano ar ffurflen RX1 a chynnwys y ffi sefydlog a bennir o dan y y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

{Sylwer: Mae rheol 91A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu ar gyfer defnyddio geiriau eraill ar ddechrau’r cyfyngiad hwn. Gweler Ffurfiau safonol o gyfyngiad.}

7.20 Ffurf T (Gwarediad gan berchennog arwystl – caniatâd yn ofynnol)

Nid oes [gwarediad {neu rhowch fanylion y math o warediad}] gan berchennog yr arwystl cofrestredig dyddiedig {dyddiad} y cyfeirir ato uchod i’w gofrestru heb ganiatâd ysgrifenedig wedi ei lofnodi gan

{dewiswch un o’r cymalau bwled}

  • {enw} o {cyfeiriad} [neu eu cynrychiolwyr personol] [neu [eu trawsgludwr {neu rhowch fanylion priodol}]]
  • {enw} o {cyfeiriad} [neu eu cynrychiolwyr personol] a {enw} o {cyfeiriad} [neu eu cynrychiolwyr personol] [neu [eu trawsgludwr {neu rhowch fanylion priodol}]]
  • {enw} o {cyfeiriad} a {enw} o {cyfeiriad} neu’r goroeswr ohonynt [neu gan gynrychiolwyr personol y goroeswr] [neu [eu trawsgludwr {neu rhowch fanylion priodol}]]
  • {enw} o {cyfeiriad} neu [ar ôl marwolaeth y person hwnnw] gan {enw} o {cyfeiriad} [neu [eu trawsgludwr {neu rhowch fanylion priodol}]]
  • perchennog am y tro yr is-arwystl dyddiedig {dyddiad} o blaid
  • [is-arwystlai] [neu [eu trawsgludwr {neu rhowch fanylion priodol}]].

{Sylwer: Mae rheol 91A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu ar gyfer defnyddio geiriau eraill ar ddechrau’r cyfyngiad hwn. Gweler Ffurfiau safonol o gyfyngiad.}

7.21 Ffurf U (Adran 37 o Ddeddf Tai 1985)

Nid oes trosglwyddiad neu brydles gan berchennog yr ystad gofrestredig neu gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig i’w gofrestru oni bai y rhoddir tystysgrif gan {rhowch enw’r awdurdod lleol perthnasol} y gwneir y trosglwyddiad neu’r brydles yn unol ag adran 37 o Ddeddf Tai 1985.

7.22 Ffurf V (Adran 157 o Ddeddf Tai 1985)

Nid oes trosglwyddiad neu brydles gan berchennog yr ystad gofrestredig neu gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig i’w gofrestru oni bai y rhoddir tystysgrif gan {rhowch enw’r awdurdod lleol neu gymdeithas tai ayb perthnasol} y gwneir y trosglwyddiad neu’r brydles yn unol ag adran 157 o Ddeddf Tai 1985.

7.23 Ffurf W (Paragraff 4 Atodlen 9A i Ddeddf Tai 1985)

Nid oes gwarediad (ac eithrio trosglwyddiad) o dŷ annedd cymwys (ac eithrio i rywun neu rywrai cymwys) i’w gofrestru heb ganiatâd

(a) mewn perthynas â gwarediad tir yn Lloegr, yr Ysgrifennydd Gwladol, neu

(b) mewn perthynas â gwarediad tir yng Nghymru, Gweinidogion Cymru,

lle y mae caniatâd i’r gwarediad hwnnw yn ofynnol gan adran 171D(2) o Ddeddf Tai 1985 fel y mae’n gymwys trwy rinwedd Rheoliadau Tai (Cadw Hawl i Brynu) 1993.

7.24 Ffurf X (Adran 133 o Ddeddf Tai 1988 neu adran 173 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989)

Nid oes gwarediad gan berchennog yr ystad gofrestredig neu wrth arfer pŵer gwerthiant neu brydlesu mewn unrhyw arwystl cofrestredig (ac eithrio gwarediad esempt yn ôl diffiniad adran 133(11) o Ddeddf Tai 1988) i’w gofrestru heb ganiatâd

(a) mewn perthynas â gwarediad tir yn Lloegr, yr Ysgrifennydd Gwladol, a

(b) mewn perthynas â gwarediad tir yng Nghymru, Gweinidogion Cymru,

lle y mae caniatâd i’r gwarediad hwnnw yn ofynnol gan [{fel sy’n briodol} [adran 133 o’r Ddeddf honno] {neu} [adran 173 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989].

7.25 Ffurf Y (Adran 13 o Ddeddf Tai 1996

Nid oes trosglwyddiad neu brydles gan berchennog yr ystad gofrestredig neu gan berchennog arwystl cofrestredig i’w gofrestru oni bai y rhoddir tystysgrif gan {rhowch enw’r landlord cymdeithasol cofrestredig perthnasol} y gwneir y trosglwyddiad neu brydles yn unol ag adran 13 o Ddeddf Tai 1996.

7.26 Ffurf AA (Gorchymyn rhewi ar yr ystad gofrestredig)

O dan orchymyn {enw’r llys} a wnaed ar {dyddiad} (Cyfeirnod y llys {rhowch y cyfeirnod}) nid oes gwarediad gan berchennog yr ystad gofrestredig i’w gofrestru ac eithrio gyda chaniatâd {enw} o {cyfeiriad} neu o dan orchymyn pellach y Llys.

7.27 Ffurf BB (Gorchymyn rhewi ar arwystl)

O dan orchymyn {enw’r llys} a wnaed ar {dyddiad} (Cyfeirnod y llys {rhowch y cyfeirnod}) nid oes gwarediad gan berchennog yr arwystl cofrestredig dyddiedig {dyddiad} y cyfeirir ato uchod i’w gofrestru ac eithrio gyda chaniatâd {enw} o {cyfeiriad} neu o dan orchymyn pellach y Llys.

7.28 Ffurf CC (Cais am orchymyn rhewi ar yr ystad gofrestredig)

Yn unol â chais a wnaed ar {dyddiad} i {enw’r llys} am orchymyn rhewi i’w wneud o dan {darpariaeth statudol} nid oes gwarediad gan berchennog yr ystad gofrestredig i’w gofrestru ac eithrio gyda chaniatâd {enw’r sawl sy’n gwneud y cais} o {cyfeiriad} neu o dan orchymyn pellach y Llys.

7.29 Ffurf DD (Cais am orchymyn rhewi ar arwystl)

Yn unol â chais a wnaed ar {dyddiad} i {enw’r llys} am orchymyn rhewi i’w wneud o dan {darpariaeth statudol} nid oes gwarediad gan berchennog yr arwystl cofrestredig dyddiedig {dyddiad} y cyfeirir ato uchod i’w gofrestru ac eithrio gyda chaniatâd {enw’r sawl sy’n gwneud y cais} o {cyfeiriad} neu o dan orchymyn pellach y Llys.

7.30 Ffurf EE (Gorchymyn llesteirio neu orchymyn derbyn dros dro ar yr ystad gofrestredig)

O dan [gorchymyn llesteirio neu orchymyn derbyn dros dro] a wnaed o dan {darpariaeth statudol} ar {dyddiad} (Cyfeirnod y llys {rhowch y cyfeirnod}) nid oes gwarediad gan berchennog yr ystad gofrestredig i’w gofrestru ac eithrio gyda chaniatâd {enw’r erlynydd neu rywun priodol arall} o {cyfeiriad} neu o dan orchymyn pellach y Llys.

7.31 Ffurf FF (Gorchymyn llesteirio neu orchymyn derbyn dros dro ar arwystl)

O dan [gorchymyn llesteirio neu orchymyn derbyn dros dro] a wnaed o dan {darpariaeth statudol} ar {dyddiad}(Cyfeirnod y llys {rhowch y cyfeirnod}) nid oes gwarediad gan berchennog yr arwystl cofrestredig dyddiedig {dyddiad} y cyfeirir ato uchod i’w gofrestru ac eithrio gyda chaniatâd {enw’r erlynydd neu rywun priodol arall} o {cyfeiriad} neu o dan orchymyn pellach y Llys.

7.32 Ffurf GG (Cais am orchymyn llesteirio neu orchymyn derbyn dros dro ar yr ystad gofrestredig)

Yn unol â chais am {gorchymyn llesteirio neu orchymyn derbyn dros dro} i’w wneud o dan [darpariaeth statudol] a than unrhyw orchymyn a wnaed o ganlyniad i’r cais hwnnw, nid oes gwarediad gan berchennog yr ystad gofrestredig i’w gofrestru ac eithrio gyda chaniatâd [enw’r erlynydd neu rywun priodol arall] o {cyfeiriad} neu o dan orchymyn pellach y Llys.

7.33 Ffurf HH (Cais am orchymyn llesteirio neu orchymyn derbyn dros dro ar arwystl)

Yn unol â chais am {gorchymyn llesteirio neu orchymyn derbyn dros dro} i’w wneud o dan [darpariaeth statudol] a than unrhyw orchymyn a wnaed o ganlyniad i’r cais hwnnw, nid oes gwarediad gan berchennog yr arwystl cofrestredig dyddiedig {dyddiad} y cyfeirir ato uchod i’w gofrestru ac eithrio gyda chaniatâd [enw’r erlynydd neu rywun priodol arall] o {cyfeiriad} neu o dan orchymyn pellach y Llys.

7.34 Ffurf II (Budd llesiannol sy’n hawl neu’n hawliad mewn perthynas ag ystad gofrestredig)

Nid oes gwarediad o’r ystad gofrestredig, ac eithrio gwarediad gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn, i’w gofrestru heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan y ceisydd i gofrestru neu eu trawsgludwr y rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig o’r gwarediad i {enw} yn {cyfeiriad}.

{Sylwer: Mae rheol 91A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu ar gyfer defnyddio geiriau eraill ar ddechrau’r cyfyngiad hwn. Gweler Ffurfiau safonol o gyfyngiad.}

7.35 Ffurf JJ (Arwystl statudol o fudd llesiannol o blaid yr Arglwydd Ganghellor)

Nid oes gwarediad o’r

{dewiswch y cymal bwled sy’n briodol}

  • ystad gofrestredig, ac eithrio gwarediad gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn,
  • arwystl cofrestredig dyddiedig {dyddiad} y cyfeirir ato uchod, ac eithrio gwarediad gan berchennog unrhyw is-arwystl cofrestredig o’r arwystl hwnnw a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn,

i’w gofrestru heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan y ceisydd i gofrestru neu eu trawsgludwr y rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig o’r gwarediad i’r Arglwydd Ganghellor, yn [cyfeiriad a chyfeir-rif yr Arglwydd Ganghellor].

7.36 Ffurf KK (Prydles gan landlord cymdeithasol cofrestredig)

Dirymwyd y cyfyngiad hwn gan Reoliadau Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018 a ddaeth i rym ar 15 Awst 2018.

7.37 Ffurf LL (Cyfyngiad ynghylch tystiolaeth o gyflawni)

Nid oes gwarediad o’r

{dewiswch y cymal bwled sy’n briodol}

  • ystad gofrestredig gan berchennog yr ystad gofrestredig
  • arwystl cofrestredig dyddiedig {dyddiad} y cyfeirir ato uchod gan berchennog yr arwystl cofrestredig hwnnw i’w gofrestru heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan drawsgludwr bod y trawsgludwr hwnnw yn fodlon mai’r person a gyflawnodd y ddogfen a gyflwynwyd i’w chofrestru fel gwaredwr yw’r un person â’r perchennog

7.38 Ffurf MM (Budd mewn cyd-denantiaeth lesiannol sy’n ddarostyngedig i arwystl o dan adran 22(1) o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983) neu adran 71 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Nid oes gwarediad o’r ystad gofrestredig a wnaed ar ôl marwolaeth [rhowch enw’r sawl y mae eu budd llesiannol o dan gyd-denantiaeth lesiannol yn ddarostyngedig i arwystl o dan adran 22(1) o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 neu adran 71 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014], neu ar ôl i’r y person hwnnw ddod yn unig berchennog yr ystad gofrestredig, i’w gofrestru oni bai –

(1) y gwneir y gwarediad gan 2 neu ragor o bobl a gofrestrwyd fel perchnogion yr ystad gyfreithiol ar adeg marwolaeth y person hwnnw,

(2) y cofnodwyd rhybudd o arwystl o dan adran 22(1) neu (6) o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 neu adran 71(1) neu (5) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 er budd [enw a chyfeiriad yr awdurdod lleol] yn y gofrestr, neu lle bo’n briodol, y cofrestrwyd yr arwystl, neu

(3) y profir i’r cofrestrydd nad yw’r arwystl yn bodoli.

7.39 Ffurf NN (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl –caniatâd neu dystysgrif yn ofynnol)

Nid oes [gwarediad neu rhowch fanylion y math o warediad] o’r ystad gofrestredig [(ac eithrio arwystl)] gan berchennog yr ystad gofrestredig [, neu gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig, nad yw’n arwystl a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn,] i’w gofrestru heb ganiatâd ysgrifenedig wedi ei lofnodi gan

{dewiswch un o’r cymalau bwled}

  • {enw} o {cyfeiriad} [neu eu cynrychiolwyr personol] [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]
  • {enw} o {cyfeiriad} [neu eu cynrychiolwyr personol] a {enw} o {cyfeiriad} [neu eu cynrychiolwyr personol] [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]
  • {enw} o {cyfeiriad} a {enw} o {cyfeiriad} neu’r goroeswr ohonynt [neu gan gynrychiolwyr personol y goroeswr] [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]
  • {enw} o {cyfeiriad} neu [ar ôl marwolaeth y person hwnnw] gan {enw} o {cyfeiriad} [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]

neu dystysgrif wedi ei llofnodi gan

{dewiswch un o’r cymalau bwled}

  • trawsgludwr
  • y ceisydd i gofrestru [neu eu trawsgludwr]
  • {enw} o {cyfeiriad} [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]

y cydymffurfiwyd â darpariaethau [nodwch y cymal, paragraff neu fanylion eraill] [rhowch fanylion] [neu nad ydynt yn gymwys i’r gwarediad].

Lle y mae’n ofynnol i’r cyfyngiad y gwneir cais amdano gydymffurfio â’r holl ddarpariaethau mewn gweithred neu ddogfen (yn hytrach na rhai cymalau penodedig) byddwn yn ei drin fel ffurf ansafonol o gyfyngiad. Rhaid gwneud cais amdano ar ffurflen RX1 a chynnwys y ffi sefydlog a bennir o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

{Sylwer: Mae rheol 91A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu ar gyfer defnyddio geiriau eraill ar ddechrau’r cyfyngiad hwn. Gweler Ffurfiau safonol o gyfyngiad.}

7.40 Ffurf OO (Gwarediad gan berchennog arwystl – caniatâd neu dystysgrif yn ofynnol)

Nid oes [gwarediad neu rhowch fanylion y math o warediad] gan berchennog yr arwystl cofrestredig dyddiedig {dyddiad} y cyfeirir ato uchod i’w gofrestru heb ganiatâd ysgrifenedig wedi ei lofnodi gan

{dewiswch un o’r cymalau bwled}

  • {enw} o {cyfeiriad} [neu eu cynrychiolwyr personol] [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]
  • {enw} o {cyfeiriad} [neu eu cynrychiolwyr personol] a {enw} o {cyfeiriad} [neu eu cynrychiolwyr personol] [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]
  • {enw} o {cyfeiriad} a {enw} o {cyfeiriad} neu’r goroeswr ohonynt [neu gan gynrychiolwyr personol y goroeswr] [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]
  • {enw} o {cyfeiriad} neu [ar ôl marwolaeth y person hwnnw] gan {enw} o {cyfeiriad} [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]
  • perchennog am y tro yr is-arwystl dyddiedig {dyddiad} o blaid [is-arwystlai] [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]

neu dystysgrif wedi ei llofnodi gan

{dewiswch un o’r cymalau bwled}

  • trawsgludwr
  • y ceisydd i gofrestru [neu eu trawsgludwr]
  • {enw} o {cyfeiriad} [neu [eu trawsgludwr neu rhowch fanylion priodol]]

y cydymffurfiwyd â darpariaethau [nodwch y cymal, paragraff, neu fanylion eraill] [rhowch fanylion] [neu nad ydynt yn gymwys i’r gwarediad].

Lle y mae’n ofynnol i’r cyfyngiad y gwneir cais amdano gydymffurfio â’r holl ddarpariaethau mewn gweithred neu ddogfen (yn hytrach na rhai cymalau penodedig) byddwn yn ei drin fel ffurf ansafonol o gyfyngiad. Rhaid gwneud cais amdano ar ffurflen RX1 a chynnwys y ffi sefydlog a bennir o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

{Sylwer: Mae rheol 91A o Reolau Cofrestru Tir2003 yn darparu ar gyfer defnyddio geiriau eraill ar ddechrau’r cyfyngiad hwn. Gweler Ffurfiau safonol o gyfyngiad.}

7.41 Ffurf PP (Gwarediad gan berchennog cofrestredig ystad gofrestredig neu berchennog arwystl – tystysgrif landlord, neu drawsgludwr yn ofynnol)

Nid oes [gwarediad neu rhowch fanylion y math o warediad] o’r ystad gofrestredig [(ac eithrio arwystl)] gan berchennog yr ystad gofrestredig [, neu gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig, nad yw’n arwystl a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn,] i’w gofrestru heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan

{dewiswch un o’r cymalau bwled}

  • perchennog am y tro yr ystad gofrestredig sy’n ffurfio’r rifersiwn uniongyrchol a ddisgwylir ar adeg terfynu’r brydles gofrestredig
  • perchennog am y tro yr ystad gofrestredig o dan rif teitl [rhowch y rhif teitl]
  • {enw} o {cyfeiriad} [neu gan {enw} o {cyfeiriad}]

neu gan drawsgludwr, y cydymffurfiwyd â darpariaethau [nodwch y cymal, paragraff neu fanylion eraill] [rhowch fanylion] [neu nad ydynt yn gymwys i’r gwarediad].

Lle y mae’n ofynnol i’r cyfyngiad y gwneir cais amdano gydymffurfio â’r holl ddarpariaethau mewn gweithred neu ddogfen (yn hytrach na rhai cymalau penodedig) byddwn yn ei drin fel ffurf ansafonol o gyfyngiad. Rhaid gwneud cais amdano ar ffurflen RX1 a chynnwys y ffi sefydlog a bennir o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

{Sylwer: Mae rheol 91A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu ar gyfer defnyddio geiriau eraill ar ddechrau’r cyfyngiad hwn. Gweler Ffurfiau safonol o gyfyngiad.}

7.42 Ffurf QQ (Tir wedi ei gynnwys mewn rhestr o asedion o werth cymunedol a gedwir o dan adran 87(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011)

Nid oes trosglwyddiad na phrydles i’w cofrestru heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan drawsgludwr nad oedd y trosglwyddiad neu’r brydles yn mynd yn groes i adran 95(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011.

7.43 Ffurf RR (Dirprwy a benodir o dan adran 16 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 – eiddo a berchnogir gan berson)

Nid oes gwarediad yn ystod oes {enw’r person sydd heb alluedd} o’r [ystad gofrestredig] [arwystl cofrestredig dyddiedig {dyddiad}] i’w gwblhau trwy gofrestru oni bai ei fod yn cael ei wneud yn unol â gorchymyn y llys o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

7.44 Ffurf SS (Ymddiriedolwr a benodir yn lle person sydd heb alluedd – eiddo a berchnogir ar y cyd)

Nid oes gwarediad o’r [ystad gofrestredig] [arwystl cofrestredig dyddiedig {dyddiad}] a wnaed yn ystod oes {enw’r berson sydd heb alluedd} i’w gwblhau trwy gofrestru heb ganiatâd ysgrifenedig y Llys Gwarchod.

8. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.