Canllawiau

Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru

Ffïoedd ar gyfer ceisiadau cyffredin, ee trafodion Graddfa 1 a 2, arwystlon tir cofrestredig, prydlesi, ceisiadau graddfa fawr a ffi sefydlog.

Applies to England and Wales

Defnyddiwch ein Cyfrifiannell ffïoedd i ddarganfod cost pob math o gais.

Ffïoedd Graddfa 1

Gwerth neu swm Gwneud cais trwy’r post Gwneud cais trwy ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway, ar gyfer trosglwyddiadau neu ildiadau sy’n effeithio ar y teitl cofrestredig cyfan Gwneud cais trwy ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway, ar gyfer cofrestru pob prydles a throsglwyddiad neu ildiad sy’n effeithio ar ran o deitl cofrestredig Cofrestriad cyntaf gwirfoddol (ffi ostyngol)
0 i £80,000 £45 £20 £45 £30
£80,001 i £100,000 £95 £40 £95 £70
£100,001 i £200,000 £230 £100 £230 £170
£200,001 i £500,000 £330 £150 £330 £250
£500,001 i £1,000,000 £655 £295 £655 £495
£1,000,001 ac uwch £1,105 £500 £1,105 £830

Wrth asesu ffïoedd o dan Raddfa 1, rhaid talu ffïoedd ar y gydnabyddiaeth ar ôl cynnwys TAW neu rent.

Ffïoedd gostyngol pan ddefnyddir Graddfa 1

Ceir ffïoedd gostyngol ar gyfer:

  • ceisiadau am gofrestriad cyntaf (mae ceisiadau am gofrestriad cyntaf yn seiliedig ar feddiant gwrthgefn neu weithredoedd coll yn cael eu hystyried yn geisiadau gwirfoddol, oni bai bod y cais yn cynnwys gweithred sy’n peri cofrestriad gorfodol) (gostyngiad o 25% o leiaf)
  • trosglwyddiadau o’r cyfan ac ildiadau o’r cyfan ar gyfer teitlau cofrestredig pan ddefnyddir y porthol neu Business Gateway (gostyngiad o tua 55%)

Ni cheir ffïoedd gostyngol ar gyfer:

  • ceisiadau am gofrestriad cyntaf teitl i rent-dâl, rhydd-fraint neu broffid, neu fwynfeydd a mwynau a gedwir ar wahân i’r wyneb (oherwydd ni chânt eu trin fel ceisiadau gwirfoddol at ddibenion ffïoedd)
  • trosglwyddiadau o ran a cheisiadau eraill sy’n effeithio ar ran o deitlau cofrestredig hyd yn oed pan ddefnyddir y porthol neu Business Gateway
  • ceisiadau i gofrestru prydlesi pan ddefnyddir y porthol neu Business Gateway

Trafodion o dan Raddfa 1

Cofrestriadau cyntaf

Os yw’r cais yn cael ei wneud o fewn blwyddyn o werthu ar y farchnad agored, seiliwch y ffi ar y gydnabyddiaeth (gan gynnwys y swm sydd ar ôl i’w dalu o dan unrhyw arwystl sy’n parhau). Fodd bynnag, ar gyfer y cofrestriadau cyntaf canlynol, mae’r ffi’n daladwy ar werth marchnad agored cyfredol llawn yr eiddo sy’n cael ei gofrestru:

  • cydsyniadau
  • cyfnewidiadau
  • trosglwyddiadau rhyddhau ecwiti
  • morgeisi cyntaf
  • cofrestriadau cyntaf lle y mae trawsgludiad y gwerthiant yn fwy na blwydd oed
  • rhyddfreintiau
  • proffidiau
  • trosglwyddo trwy rodd
  • trosglwyddo cyfran mewn eiddo

Yn yr achosion hyn byddwn yn derbyn datganiad o werth wedi’i lofnodi gan y ceisydd, cynrychiolydd cyfreithiol y ceisydd neu unigolyn arall sy’n gymwys i wneud datganiad o’r fath.

Weithiau bydd y weithred sy’n peri cofrestriad (er enghraifft trosglwyddiad, cydsyniad neu arwystl) o dir cofrestredig a digofrestredig. Yn yr achosion hyn mae angen ffurflen gais AP1 ar wahân arnom ar gyfer y tir cofrestredig, a ffurflen gais FR1 ar gyfer y tir digofrestredig. Mae ffioedd ar wahân yn ofynnol ar gyfer y ddwy ran, yn seiliedig ar werth dosranedig.

Os yw Cofrestrfa Tir EF yn penderfynu bod angen archwilio’r eiddo, codir ffi ychwanegol o £40 o dan erthygl 11. Caiff y ffi ei had-dalu os na chynhelir yr archwiliad am unrhyw reswm.

Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ffïoedd Graddfa 1.

Cofrestriad cyntaf rhent-dâl

Nid yw ffïoedd Graddfa 1 yn gymwys i rent-daliadau. Y ffi yw £40, beth bynnag fo gwerth y rhent-dâl.

Trosglwyddo tir cofrestredig am gydnabyddiaeth ariannol

Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau sy’n arwain at waredu cyfrannau mewn ystadau cofrestredig. Mae’r ffi sy’n daladwy yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth, sef y pris prynu fel arfer.

Os oes pris prynu gan y trosglwyddiad, defnyddiwch hwn fel y gydnabyddiaeth i asesu’r ffi. Os yw’r trosglwyddiad yn cynnwys cydnabyddiaeth sydd heb fod mewn punnoedd (ee ewros neu gyfrannau mewn cwmni), bydd yn rhaid ichi roi’r gwerth cyfatebol inni mewn punnoedd ac asesu’r ffi yn unol â hynny.

Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ffïoedd Graddfa 1.

Enghreifftiau

  1. Mae Dewi yn prynu eiddo am £575,000. Mae’r ffi yn daladwy o dan Raddfa 1 ar y pris a dalwyd.
  2. Mae Portffolio Eiddo Cymru a Lloegr Cyfyngedig yn prynu adeilad swyddfa newydd am £900,000. Codir TAW o £180,000 ar y trafodiad. Mae’r ffi yn daladwy o dan Raddfa 1, wedi’i hasesu ar y pris o £1,080,000 ar ôl cynnwys TAW.
  3. Mae Tir Ewropa Cyfyngedig yn prynu eiddo am €900,000. Mae’r ffi yn daladwy o dan Raddfa 1 ar y swm cyfatebol mewn sterling.
  4. Mae Cynllun Datblygu Cyfyngedig yn gosod safle at ei gilydd i’w ddatblygu trwy brynu safleoedd oddi wrth dri thirfeddiannwr unigol am £1.2 miliwn, £1.7 miliwn a £850,000. Mae tair ffi Graddfa 1 yn daladwy, wedi eu hasesu ar y pris a dalwyd ym mhob gwerthiant unigol, heb ystyried a ddefnyddiwyd 1 ffurflen drosglwyddo neu 3 ffurflen drosglwyddo.
  5. Mae Yamada Taro yn prynu tŷ am £350,000. Mae’r tŷ yn gofrestredig, ond nid y modurdy. Mae’n dosrannu bod y gwerth yn £325,000 ar gyfer y tir cofrestredig a £25,000 ar gyfer y tir digofrestredig. Mae ffi Graddfa 1 ar wahân yn daladwy ar gyfer y ddwy ran (pe bai hyn yn drosglwyddiad heb fod am werth, byddai’r rhan sy’n ffurfio’r tir cofrestredig yn talu o dan raddfa 2 a’r rhan ddigofrestredig o dan raddfa 1).
  6. Mae Caroline yn cofrestru ei thŷ yn wirfoddol am £400,000. Gan ei fod yn gofrestriad cyntaf gwirfoddol mae’n talu ffi Graddfa 1 gyda gostyngiad o 25%.
  7. Mae Fitzwilliam Darcy yn trosglwyddo 2 eiddo – rhifau teitl CS1 a CS2 – am £250,000 i Elizabeth Bennett, gan ddefnyddio un ffurflen drosglwyddo. Mae ffi graddfa 1 yn daladwy ar gyfanswm y gydnabyddiaeth. Fodd bynnag, bydd gwahanol gydnabyddiaethau yn gymwys os yw’r eiddo o dan wahanol berchnogaeth. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 21.
  8. Mae Belvedere LLP yn prynu 2 eiddo, rhan o 1 teitl am £30,000 a’r llall i gyd am £300,000. Mae un ffi Graddfa 1 yn daladwy yn seiliedig ar gyfanswm y gydnabyddiaeth o £330,000 os defnyddir trosglwyddiad sengl oherwydd bod y trosglwyddiad yn effeithio ar ran o deitl cofrestredig. Byddai ffïoedd ar wahân yn daladwy pe bai trosglwyddiadau ar wahân yn cael eu defnyddio.
  9. Ar ôl i’w priodas chwalu mae’r llys yn gorchymyn bod Mr Jones yn trosglwyddo eiddo i Mrs Jones o dan Ddeddf Achosion Priodasol 1973, a bod Mrs Jones yn talu £50,000. Caiff hyn ei asesu o dan Raddfa 2: ceisiadau eraill sy’n effeithio ar ystadau cofrestredig. Mae cydnabyddiaethau tebyg yn gymwys i drosglwyddiadau gan orchmynion llys ond nid gorchmynion llys o dan unrhyw ddeddf arall.

Prydlesi ac ildiadau

Darllenwch yr adran prydlesi.

Ceisiadau graddfa fawr

Pan fydd gweithred yn effeithio ar 20 neu ragor o deitlau cofrestredig, neu pan fydd cofrestriad cyntaf yn cynnwys 20 neu ragor o unedau o dir, cyfeiriwch at ein cyfarwyddyd ‘Ceisiadau graddfa fawr (Cyfrifo Ffïoedd)’.

Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ffïoedd Graddfa 1.

Ffïoedd Graddfa 2

Gwerth neu swm Gwneud cais trwy’r post Gwneud cais trwy ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway, ar gyfer trosglwyddiadau o’r cyfan, arwystlon o’r cyfan, trosglwyddo arwystlon a cheisiadau o’r cyfan eraill ar gyfer teitlau cofrestredig Gwneud cais trwy ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway ar gyfer cofrestru trosglwyddiad o ran, a phob cais Graddfa 2 arall nad yw’n effeithio ar deitl cofrestredig cyfan
0 i £100,000 £45 £20 £45
£100,001 i £200,000 £70 £30 £70
£200,001 i £500,000 £100 £45 £100
£500,001 i £1,000,000 £145 £65 £145
£1,000,001 ac uwch £305 £140 £305

Ffïoedd gostyngol pan ddefnyddir Graddfa 2

Mae’r ffïoedd gostyngol yn y tabl uchod yn gymwys o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • trosglwyddiadau neu gydsyniadau o’r cyfan
  • arwystlon o’r cyfan
  • trosglwyddo arwystlon

a nifer o geisiadau o’r cyfan eraill ar gyfer teitlau cofrestredig pan ddefnyddir y porthol neu Business Gateway.

Ni cheir ffïoedd gostyngol ar gyfer:

  • trosglwyddiadau o ran
  • ceisiadau eraill sy’n effeithio ar ran o deitlau cofrestredig hyd yn oed pan ddefnyddir y porthol neu Business Gateway

Trafodion o dan Raddfa 2

Trosglwyddo neu gydsynio ystadau cofrestredig nad ydynt am gydnabyddiaeth ariannol

Dylid asesu’r ffi ar werth yr ystad, llai’r cyfanswm sydd ar ôl i’w dalu ar unrhyw arwystl sy’n parhau neu arwystl newydd (gweler nodyn 1). Lle bo trosglwyddiad nad yw am gydnabyddiaeth ariannol yn arwain at drosglwyddo cyfran o ystad gofrestredig, mae’r ffi yn daladwy ar werth y gyfran honno.

Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ffïoedd graddfa 2.

Enghreifftiau: Eiddo heb forgais

  1. Mae Gareth Evans yn trosglwyddo eiddo trwy rodd i Bethan Davies sy’n werth £200,000. Caiff y ffi ei hasesu ar y gwerth llawn o £200,000 ac mae’n daladwy o dan Raddfa 2.

  2. Mae Gareth Evans yn trosglwyddo eiddo trwy rodd i’w hunan ac i Bethan Davies mewn cyfrannau cyfartal. Mae’n werth £200,000. Caiff y ffi ei hasesu ar hanner gwerth yr eiddo, hynny yw £100,000, ac mae’n daladwy o dan Raddfa 2.

  3. Yn dilyn marwolaeth Gareth Evans, mae Bethan Davies yn cael profiant ac yn cael ei phenodi’n ysgutor ei ystad. Mae’n trosglwyddo’r eiddo sy’n werth £200,000 i’r buddiolwr o dan ewyllys Gareth trwy gydsyniad. Caiff y ffi ei hasesu ar y gwerth llawn o £200,000, ac mae’n daladwy o dan Raddfa 2.

  4. Mae Gareth Evans, Steffan Williams a Bethan Davies yn ymddiriedolwyr ymddiried sy’n berchen ar eiddo gwerth £200,000. Maent yn penodi Gwen Bowen yn ymddiriedolwr newydd naill ai trwy weithred neu ffurflen drosglwyddo Cofrestrfa Tir EF. Asesir y ffi o dan Raddfa 2 ar werth llawn yr eiddo.

  5. Roedd Gareth Evans, Steffan Williams a Bethan Davies yn ymddiriedolwyr ymddiried oedd yn berchen ar eiddo gwerth £200,000. Trwy gyfres o benodiadau ac ymddeoliad ymddiriedolwyr nad ydynt wedi eu cofrestru, yr ymddiriedolwyr newydd yw Gwen Bowen a Geraint James, sy’n penodi Arwel Rowlands fel ymddiriedolwr ychwanegol. Maent nawr yn gwneud cais i gofrestru’r holl newidiadau. Mae’r ffi yn daladwy o dan Raddfa 2 ar benodiad olaf Arwel Rowlands yn unig, wedi ei hasesu ar y gwerth llawn o £200,000.

Enghreifftiau: Eiddo sy’n cael ei drosglwyddo yn ddarostyngedig i forgais

  1. Mae Gareth Evans yn trosglwyddo eiddo trwy rodd i Bethan Davies. Mae’n werth £200,000 ac mae’n ddarostyngedig i forgais i Gymdeithas Adeiladu Cymru lle y mae £100,000 ar ôl i’w dalu. Caiff gwerth yr eiddo ei gyfrifo trwy gymryd y gwerth o £200,000 ac yna tynnu’r cyfanswm sydd ar ôl i’w dalu ar y morgais (gweler nodyn 1). Felly caiff y ffi ei hasesu ar y gwerth o £100,000 ac mae’n daladwy o dan Raddfa 2.

  2. Mae Gareth Evans yn trosglwyddo eiddo trwy rodd i’w hunan ac i Bethan Davies mewn cyfrannau cyfartal. Mae’n werth £200,000 ac mae’n ddarostyngedig i forgais i Gymdeithas Adeiladu Cymru lle y mae £100,000 ar ôl i’w dalu (gweler nodyn 1). Caiff gwerth y gyfran sy’n cael ei throsglwyddo ei gyfrifo trwy gymryd y gwerth o £200,000 ac yna tynnu’r cyfanswm sydd ar ôl i’w dalu ar y morgais, yna ei haneru oherwydd ei fod yn drosglwyddiad o Gareth i’w hunan a Bethan. Felly caiff y ffi ei hasesu ar werth o £50,000 ac mae’n daladwy o dan Raddfa 2.
  3. Mae Gareth Evans yn trosglwyddo eiddo trwy rodd i’w hunan a Bethan Davies mewn cyfrannau cyfartal. Mae’n werth £200,000 ac mae’n ddarostyngedig i forgais i Gymdeithas Adeiladu Cymru lle mae £100,000 ar ôl i’w dalu. Mae’r morgais presennol yn cael ei ad-dalu a morgais newydd yn cael ei gymryd allan o blaid Banc Sir Fwyn i sicrhau £120,000. Caiff gwerth y gyfran sy’n cael ei throsglwyddo ei gyfrifo trwy gymryd y gwerth o £200,000 ac yna tynnu’r swm sydd ar ôl i’w dalu ar y morgais newydd (£120,000), yna ei haneru oherwydd ei fod yn drosglwyddiad oddi wrth Gareth i’w hunan a Bethan. Felly, asesir y ffi ar werth o £40,000 ac mae’n daladwy o dan Raddfa 2.
  4. Mae Gareth Evans, Rhodri Williams a Bethan Davies yn dal eiddo mewn cyfrannau anghyfartal. Mae Gareth yn dal cyfran o 20% y mae’n ei rhoi i Rhodri a Bethan ac maen nhw’n trosglwyddo’r eiddo i gyd-enwau Rhodri a Bethan. Gwerth yr eiddo yw £200,000. Mae Rhodri a Bethan yn cymryd morgais newydd o £40,000. Caiff gwerth y gyfran sy’n cael ei throsglwyddo ei gyfrifo trwy gymryd y gwerth o £200,000 ac yna tynnu’r swm sydd ar ôl i’w dalu ar y morgais newydd (£40,000) sy’n gadael £160,000. Gwerth y gyfran yw 20% o £160,000, sef £32,000. Felly asesir y ffi ar werth o £32,000 ac mae’n daladwy o dan raddfa 2.
  5. Mae Gareth Evans a Bethan Davies yn berchen ar eiddo gwerth £300,000 mewn cyfrannau cyfartal. Mae Bethan yn trosglwyddo ei chyfran o 50% i Gareth, sy’n cymryd morgais o £170,000. Roedd gan Gareth a Bethan ddau forgais ar yr eiddo, bydd y cyntaf yn cael ei ryddhau ar ôl cwblhau’r trosglwyddiad, bydd yr ail yn aros ar y gofrestr ar ôl cwblhau, wedi ei ohirio o blaid y morgais newydd mae Gareth wedi ei drefnu. Y swm sy’n ddyledus ar yr arwystl sydd ar ôl yw £40,000. Y cyfanswm sy’n ddyledus felly fydd £210,000. Cyfrifwch werth y gyfran sy’n cael ei throsglwyddo trwy ddidynnu’r cyfanswm sy’n ddyledus ar yr arwystlon newydd a pharhaus, £210,000, o werth llawn yr eiddo, £300,000. Yna lluoswch y canlyniad, £90,000, â 50% (sef cyfran Bethan), gan adael £45,000. Felly asesir y ffi ar £45,000 ac mae’n daladwy o dan Raddfa 2.

Nodyn 1

Mae’r cyfeiriad at ‘swm sydd ar ôl i’w dalu’ yn cynnwys:

  • yr arwystlon cofrestredig neu arwystlon a nodwyd presennol ar yr amod nad ydynt wedi eu rhyddhau ar ôl cwblhau’r trosglwyddiad; ac
  • unrhyw arwystl newydd, ar yr amod bod y cais i gofrestru’r arwystl yn cael ei gyflwyno gyda’r cais i gofrestru’r trosglwyddiad (h.y. rhaid cwblhau cofrestriad yr arwystl a’r trosglwyddiad ar yr un pryd)

Trosglwyddo arwystlon cofrestredig

Mae’r ffi yn daladwy ar y gydnabyddiaeth, neu lle nad yw’r trosglwyddiad am werth, ar y swm sy’n cael ei warantu gan yr arwystl ar adeg y trosglwyddiad. Lle bo trosglwyddiad nad yw am werth yn arwain at drosglwyddo cyfran o arwystl cofrestredig, mae’r ffi yn daladwy ar werth y gyfran honno.

Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ffïoedd Graddfa 2.

Arwystlon ystadau cofrestredig

Darllenwch yr adran arwystlon.

Ceisiadau eraill sy’n effeithio ar ystadau cofrestredig

Mae’r ffi ar gyfer cofrestru’r canlynol yn daladwy ar werth yr ystad llai swm unrhyw arwystl cofrestredig sy’n parhau:

  • perchnogi
  • cydsyniadau ystadau cofrestredig (nid cofrestriad cyntaf)
  • trosglwyddiadau cartrefi priodasol neu bartneriaeth sifil o ganlyniad i orchmynion llys (o dan Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004), yn daladwy ar werth yr eiddo hyd yn oed os yw’r llys yn gorchymyn i un parti dalu cydnabyddiaeth
  • trosglwyddiadau trwy weithredu’r gyfraith ar farwolaeth neu fethdaliad
  • gorchmynion neu ddatganiadau breinio (o dan adran 27(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)

Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ffïoedd Graddfa 2.

Enghreifftiau

  1. Mae Owain Williams yn marw yn berchen ar eiddo gwerth £500,000 heb unrhyw forgais. Mae ei ysgutor, Tomos Davies, yn cymryd profiant ac yn cydsynio’r eiddo i’r buddiolwr Emyr Jones. Asesir y ffi ar werth yr eiddo ac mae’n daladwy o dan Raddfa 2.

  2. Mae John a Mari Griffiths yn berchen ar eiddo gwerth £250,000 yn ddarostyngedig i forgais i Gymdeithas Adeiladu Sir Forgannwg ac mae £100,000 yn ddyledus arno. Maen nhw’n ysgaru. Mae’r Llys yn gorchymyn i John a Mary drosglwyddo’r eiddo i Mary, ac i Mary dalu £50,000 i John. Asesir y ffi ar hanner gwerth yr eiddo llai gwerth y morgais (£75,000, hynny yw gwerth £250,000 llai morgais o £100,000, ac yna ei rannu â 2) ac mae’n daladwy o dan Raddfa 2. Diystyrir yr arian a delir at ddibenion ffïoedd.

Ildio prydlesi nad ydynt am gydnabyddiaeth ariannol

Darllenwch yr adran prydlesi.

Ceisiadau graddfa fawr

Pan fydd gweithred yn effeithio ar 20 neu ragor o deitlau cofrestredig, cyfeiriwch at ein cyfarwyddyd ‘Ceisiadau graddfa fawr (Cyfrifo Ffïoedd)’.

Arwystlon tir cofrestredig

Ffïoedd sy’n daladwy

Mae’r ffïoedd yn daladwy trwy ddefnyddio Graddfa 2, yn seiliedig ar swm yr arwystl (gweler Nid oes ffi yn daladwy am eithriadau):

  • lle bo’r arwystl yn sicrhau swm sefydlog, seiliwch y ffi ar y swm hwnnw
  • lle bo’r arwystl yn sicrhau benthyciadau pellach ac mae’r swm uchaf posibl y gellir ei fenthyg neu a all fod yn ddyledus ar unrhyw adeg benodol wedi’i gyfyngu, seiliwch y ffi ar yr uchafswm
  • lle bo’r arwystl yn sicrhau benthyciadau pellach ac nid oes cyfyngiad ar y cyfanswm y gellir ei fenthyg neu a all fod yn ddyledus ar unrhyw adeg benodol, seiliwch y ffi ar werth yr eiddo arwystledig
  • lle bo’r arwystl yn arwystl ychwanegol neu newidiol neu warant, seiliwch y ffi ar y lleiaf o’r:
    • swm a sicrhawyd neu a warantwyd
    • gwerth yr eiddo arwystledig
  • lle bo’r arwystl yn sicrhau rhwymedigaeth neu atebolrwydd sy’n dibynnu ar rywbeth yn digwydd yn y dyfodol, seiliwch y ffi ar naill ai:
    • uchafswm neu werth y rhwymedigaeth
    • os yw’r uchafswm hwnnw yn fwy na gwerth yr eiddo a arwystlwyd, neu nid yw wedi’i gyfyngu gan yr arwystl, neu ni ellir ei asesu adeg y cais, gwerth yr eiddo arwystledig
  • ar gyfer ceisiadau graddfa fawr pan fydd arwystl yn effeithio ar fwy nag 20 o deitlau cofrestredig, cyfeiriwch at geisiadau graddfa fawr

Bydd arwystlon ar wahân wedi eu cynnwys mewn dogfennau ar wahân yn denu ffi Graddfa 2 ar wahân. Mae hyn yn gymwys hyd yn oed os ydynt yn sicrhau dyled sengl ac yn cael eu cyflwyno ar yr un pryd.

Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ffïoedd Graddfa 2.

Enghreifftiau

  1. Mae Manon eisoes yn berchen ar dŷ sy’n werth £300,000 ac yn cymryd morgais. Mae’r morgais yn sicrhau £150,000 ac unrhyw fenthyciadau pellach y gall y rhoddwr benthyg eu rhoi. Yn yr achos hwn, caiff y ffi ei hasesu o dan Raddfa 2 ar £150,000 sef y swm uchaf posibl y gellir ei sicrhau.
  2. Mae Gwilym yn cynllunio tŷ hunanadeiladu. Bydd y banc yn benthyca £100,000 iddo brynu’r tir, a £150,000 pellach mewn rhandaliadau wrth i’r gwaith gael ei gwblhau. Caiff y ffi ei hasesu o dan Raddfa 2 ar £250,000 sef y swm uchaf posibl y gellir ei sicrhau.
  3. Mae Carwyn, sy’n berchen ar dŷ sy’n werth £500,000 wedi cymryd morgais i sicrhau gorddrafft yn ei fanc gyda therfyn o £70,000. Mae’r swm a sicrhawyd yn amrywio yn dibynnu ar y cyfrif gorddrafft. Yn yr achos hwn caiff y ffi ei hasesu o dan Raddfa 2 ar y terfyn o £70,000.
  4. Mae Anwen am ailforgeisio ei chartref i gael cyfradd llog well. Mae’r morgais yn sicrhau £200,000. Yn yr achos hwn, caiff y ffi ei hasesu o dan Raddfa 2 ar £200,000, sef y swm uchaf posibl y gellir ei sicrhau. Nid oes ffi i’w thalu i gofrestru rhyddhau’r benthyciad sy’n bodoli eisoes.
  5. Mae grŵp o gwmnïau cysylltiedig yn berchen ar sawl teitl – mae Teracorp 1 Limited yn berchen ar rifau teitl CS1 ac CS2, mae Teracorp 2 Limited yn berchen ar CS3, CS4 ac CS5, ac mae Teracorp 3 Cyfyngedig yn berchen ar CS6. Maent yn morgeisio pob un o’r chwe eiddo mewn un weithred morgais i sicrhau £10m. At ddibenion ffïoedd, mae hyn yn cael ei drin fel tri morgais ar wahân, un gan bob cwmni. Felly, mae tair ffi yn daladwy (un ar gyfer pob morgais) a chaiff pob ffi ei hasesu o dan Raddfa 2 ar y lleiaf o £10m neu werth yr eiddo ym mhob un o’r tri morgais.
  6. Mae cwmni’n berchen ar 10 teitl ac mae’n morgeisio’r holl deitlau hyn mewn un weithred morgais i sicrhau £10m. Gwerth yr eiddo gyda’i gilydd yw £15m. At ddibenion ffïoedd, caiff hyn ei drin fel un morgais ac mae’r ffi yn daladwy o dan Raddfa 2 ar y swm o £10m.

Nid oes ffi yn daladwy

Nid oes ffi yn daladwy ar gyfer arwystlon tir cofrestredig ar gyfer:

  • arwystl a gyflwynir gyda chais ffi ar raddfa lle daw’r arwystlwr yn berchennog cofrestredig y tir
  • arwystl a gyflwynir cyn cwblhau cais am gofrestriad cyntaf gorfodol neu i gofrestru trosglwyddiad tir cofrestredig. Nid yw cais i gofrestru arwystl nad yw’n cael ei gyflwyno gyda chais am gofrestriad cyntaf gwirfoddol ond a gyflwynir cyn ei gwblhau, wedi ei eithrio rhag ffi Graddfa 2.

Mewn achos arferol o brynu tŷ, bydd trosglwyddiad i’r prynwr ynghyd â morgais sy’n galluogi’r prynwr i brynu’r eiddo (mewn morgais, gelwir y cymerwr benthyg yn “arwystlwr”). Yn yr achos hwn, yr unig ffi i’w thalu yw ar y trosglwyddiad.

Enghreifftiau

  1. Mae Eifion yn prynu tŷ am £350,000 gyda morgais i sicrhau £150,000. Mae’n cyflwyno’r ddau ar 1 Mehefin ac mae’r cais yn cael ei gwblhau ar 8 Mehefin. Mae’r ffi yn daladwy o dan Raddfa 1 ar y pris a dalwyd am y tŷ; nid oes unrhyw ffi ychwanegol i’w thalu ar gyfer y morgais. Mae hyn yn wir hefyd os yw’r morgais yn cael ei gyflwyno’n hwyrach cyn i’r achos gael ei gwblhau.
  2. Mae Eifion yn prynu tŷ am £350,000 gyda morgais i sicrhau £150,000. Mae’n cyflwyno’r trosglwyddiad ar 1 Mehefin ac mae’r cais yn cael ei gwblhau ar 8 Mehefin. Mae’n cyflwyno’r arwystl ar 12 Mehefin. Mae’r ffi yn daladwy o dan Raddfa 1 ar y pris a dalwyd am y tŷ, ond y tro hwn asesir ffi Graddfa 2 ychwanegol sy’n cael ei hasesu ar werth y morgais oherwydd y cais am forgais fydd y cais newydd.

Prydlesi

Cofrestru

Mae’r ffi am gais gan y prydlesai gwreiddiol neu ei gynrychiolydd/chynrychiolydd personol i gofrestru teitl i brydles, neu i gofrestru rhoi prydles, yn cael ei hasesu naill ai ar:

  • swm sy’n gyfartal â chyfanswm y premiwm a’r rhent
  • os nad oes premiwm, ar swm y rhent, neu
  • os nad oes premiwm a naill ai nad oes rent neu os na ellir cyfrif y rhent, ar werth y brydles, a asesir o dan erthygl 7 o Orchymyn Ffi Cofrestru Tir 2021, yn amodol ar ffi o £40 o leiaf

Ystyr ‘rhent’ yw’r swm uchaf o rent blynyddol y mae’r brydles wedi ei neilltuo yn ystod pum mlynedd gyntaf ei chyfnod y gellir ei gyfrif ar adeg cyflwyno’r cais i gofrestru’r brydles neu, os yw cyfnod y brydles yn llai na blwyddyn, swm y rhent am y cyfnod. Sylwch: pan fydd y rhent yn rhent hedyn pupur neu rent arall heb werth ariannol, caiff y rhent ei drin fel pe bai’n ddim byd.

Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ffïoedd Graddfa 1.

Enghreifftiau

  1. Mae Glenys Lewis yn prynu fflat newydd ar brydles 99 mlynedd am £150,000. £100 yw’r rhent blynyddol, sy’n codi i £125 ym mlwyddyn 5 a £150 ym mlwyddyn 10. Byddai’r ffi yn cael ei hasesu ar £150,000 (premiwm) + £125 (rhent uchaf yn y 5 mlynedd gyntaf) = £150,125.
  2. Mae Hefin Rhys yn prynu fflat newydd ar brydles 125 mlynedd am £200,000. Y rhent yw 6.25% o gyfanswm y costau gwasanaeth. Yn yr achos hwn, byddai’r ffi yn cael ei hasesu ar y premiwm o £200,000 yn unig oherwydd ni ellir cyfrif y rhent.
  3. Mae Celfi Cymru yn caffael les-ddaliad masnachol newydd am 10 mlynedd. Nid oes unrhyw bremiwm, ond mae’r rhent yn £100,000 ym mlwyddyn 1 ac yn codi i £150,000 ym mlwyddyn 5 a £200,000 ym mlwyddyn 8. Yn yr achos hwn, caiff y ffi ei hasesu ar £150,000 (y rhent uchaf yn y 5 mlynedd gyntaf).

Ildio prydles gofrestredig am gydnabyddiaeth ariannol

Mae’r ffi yn seiliedig ar swm neu werth y gydnabyddiaeth ariannol sy’n cael ei thalu neu ei rhoi gan y landlord ar gyfer yr ildiad.

Nid oes ffi i gofrestru ildio prydles gofrestredig pan fydd ffi ar raddfa i’w thalu i gofrestru prydles newydd ac mae’r perchennog cofrestredig a’r eiddo, i raddau helaeth, yn aros yr un fath.

Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ffïoedd Graddfa 1.

Ildio prydles ac eithrio am gydnabyddiaeth ariannol

Mae hyn yn cynnwys pan fydd tenant wedi talu premiwm i’r landlord mewn perthynas â’r ildiad neu i ryddhau cyfamodau’r tenant. Mae’r ffi yn seiliedig ar werth y brydles cyn ei hildio.

Nid oes ffi yn daladwy i gofrestru ildio prydles gofrestredig pan fydd ffi ar raddfa i’w thalu i gofrestru prydles newydd ac mae’r perchennog cofrestredig a’r eiddo, i raddau helaeth, yn aros yr un fath.

Ar gyfer y math hwn o drafodiad, defnyddiwch ffïoedd Graddfa 2.

Enghreifftiau

  1. Mae Sara yn ildio prydles siop i’r landlord. Mae blwyddyn ar ôl ar y brydles ac mae’n werth £8,000. Nid oes arian yn newid dwylo. Caiff y ffi ei hasesu ar werth y brydles ar y dyddiad ildio (£8,000) ac mae’r ffi yn daladwy o dan Raddfa 2.
  2. Mae Sara yn estyn y brydles ar ei fflat o 99 mlynedd i 999 mlynedd. Yn ôl y gyfraith, caiff hyn ei drin fel ildio’r brydles sydd eisoes yn bodoli a rhoi prydles newydd. Mae’r ffi ar gyfer y brydles newydd yn daladwy fel yr amlinellir yn yr adran prydlesi. Fodd bynnag, y tro hwn nid oes unrhyw ffi ar gyfer ildio’r brydles sydd eisoes yn bodoli oherwydd caiff ei wneud i gydnabod rhoi’r brydles newydd.

Ceisiadau eraill yn ymwneud â phrydlesi

Byddwch yn talu ffi sefydlog o £40 (neu £20 os cyflwynir y cais trwy ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway) ar gyfer pob teitl cofrestredig os yw’ch cais ar gyfer:

  • terfynu prydles gofrestredig trwy dreigl amser, cyd-doddiad neu fforffediad
  • dileu cofnod am rybudd o brydles ddigofrestredig
  • nodi prydles yn nheitl y landlord

Nid oes ffi yn daladwy os yw’r cais yn cael ei gyflwyno gyda chais lle mae ffi ar raddfa yn daladwy amdano.

Nid oes ffi yn daladwy os yw cais i nodi prydles yn nheitl y landlord yn cael ei gyflwyno gyda chais i gofrestru’r hawddfreintiau sydd wedi eu cynnwys yn y brydles, lle mae ffi ychwanegol yn daladwy o dan Erthygl 12 (£40 am faint bynnag o deitlau yr effeithir arnynt, neu £20 os cyflwynir y cais yn electronig).

Ceisiadau ar raddfa fawr

Mae ceisiadau graddfa fawr yn geisiadau ffi ar raddfa sy’n cynnwys 20 uned o dir neu ragor. Ystyr ‘uned o dir’ yw:

  • parsel o dir cofrestredig o dan un rhif teitl
  • parsel o dir digofrestredig nad yw’n cyffinio â darn arall o dir digofrestredig sy’n cael ei effeithio gan yr un cais

Y ffi ar gyfer cais ar raddfa fawr yw’r uchaf o’r:

  • ffi ar raddfa sy’n daladwy ar gyfer y cais
  • ffi a gyfrifir fel a ganlyn:
    • os yw’r cais yn ymwneud â 500 uned o dir neu lai, £10 am bob uned o dir
    • os yw’r cais yn ymwneud â mwy na 500 uned o dir, £5,000 a £5 ar gyfer pob uned o dir dros 500

Enghreifftiau

  1. Mae Latifundia Cyfyngedig yn trosglwyddo portffolio o 50 teitl am £1.2 miliwn. Y ffi o dan Raddfa 1 fyddai £910, a £500 fyddai’r ffi am bob teitl o dan erthygl 6. Felly, gan ei bod yn uwch, mae’r ffi Graddfa 1 yn gymwys.
  2. Mae Latifundia Cyfyngedig yn trosglwyddo portffolio o 400 teitl am £1.2 miliwn. Y ffi o dan Raddfa 1 fyddai £910, a £4,000 fyddai’r ffi am bob teitl o dan erthygl 6. Felly, gan ei bod yn uwch, mae’r ffi erthygl 6 yn gymwys.
  3. Mae Latifundia Cyfyngedig yn gwneud cais am gofrestriad cyntaf o ddarn mawr o dir sy’n werth £1.2 miliwn. Gan ddefnyddio’r diffiniad uchod mae’n cynnwys 120 uned o dir. Y ffi o dan Raddfa 1 fyddai £1,105, a £1,200 fyddai’r ffi am bob uned o dir o dan erthygl 6. Felly, gan ei bod yn uwch, mae’r ffi erthygl 6 yn gymwys.

I gael manylion am sut i baratoi cais ar gyfer nifer fawr o eiddo a chyfrifo’r ffïoedd sy’n daladwy, darllenwch ein cyfarwyddyd: Ceisiadau graddfa fawr (cyfrifo ffïoedd).

Ceisiadau gyda ffi sefydlog

Math o gais Gwneud cais trwy ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway Gwneud cais trwy’r post neu’n bersonol
1. Y ceisiadau canlynol:
- cyfyngiadau safonol
- rhybuddion
- buddiolwyr newydd neu ychwanegol o rybudd unochrog
- ymrwymiad i wneud blaensymiau ychwanegol
- cytuno ar uchafswm sicrwydd neu newid blaenoriaeth arwystlon cofrestredig.
Sylwer: nid oes ffi i’w thalu os yw’r cais, ar gyfer pob teitl yr effeithir arno, yn cael ei gyflwyno gyda chais ffi ar raddfa neu gais arall y mae ffi yn daladwy amdano o dan y paragraff hwn.
£20 ar gyfer hyd at dri theitl
£10 ar gyfer pob teitl ychwanegol
£40 ar gyfer hyd at dri theitl
£20 ar gyfer pob teitl ychwanegol
2. Cyfyngiadau ansafonol £45 y teitl £90 y teitl
3. Rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf Ddim ar gael £40 y cais
4. Newid cofrestr rhybuddiad Ddim ar gael £40 y gofrestr
5. Cau teitl prydlesol neu rent-dâl (ddim yn achos ildio). Am ffïoedd ildio, darllenwch yr adran prydlesi.
Sylwer: nid oes ffi sefydlog i’w thalu os yw’r cais yn cael ei gyflwyno gyda chais ffi ar raddfa
£20 y teitl £40 y teitl
6. Uwchraddio teitl (er enghraifft: o brydlesol meddiannol i rydd-ddaliol llwyr)
Sylwer: nid oes ffi sefydlog i’w thalu os yw’r cais yn cael ei gyflwyno gyda chais ffi ar raddfa
£20 y teitl £40 y teitl
7. Dileu rhybudd o brydles ddigofrestredig neu rent-dâl digofrestredig (Gweler Rhybudd: dileu (CN1))
Sylwer: nid oes ffi sefydlog i’w thalu os yw’r cais yn cael ei gyflwyno gyda chais ffi ar raddfa
£20 y teitl £40 y teitl
8. Cofnodi neu ddileu cofnod o gamgymeriad mewn teitl o dan adran 64(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
Sylwer: nid oes ffi sefydlog i’w thalu os yw’r cais yn cael ei gyflwyno gyda chais ffi ar raddfa
£20 y teitl £40 y teitl
9. Gorchymyn i ddatgymhwyso neu addasu cyfyngiad o dan adran 41(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 £20 y teitl £40 y teitl
10. Meddiant gwrthgefn ystad gofrestredig (yn cynnwys ffi archwilio safle) £130 y teitl £130 y teitl
11. Hysbysiad o gais am feddiant gwrthgefn £20 y teitl £40 y teitl
12. Terfynu terfyn £90 y cais £90 y cais
13. Newid y gofrestr £20 y cais £40 y cais
14. Cofnod hawl i reoli yn y gofrestr £20 y cais £40 y cais
15. Ystad rydd-ddaliol mewn cyfunddaliad heb uned-ddalwyr Ddim ar gael £40 ar gyfer hyd at 20 uned
£10 ar gyfer hyd at 20 uned ar ôl hynny
16. Ychwanegu tir:
(a) at deitl y rhannau cyffredin
(b) at uned gyfunddaliadol
(c) ychwanegu unedau cyfunddaliadol
Ddim ar gael £40 ar gyfer hyd at 20 uned
£10 ar gyfer hyd at 20 uned ar ôl hynny
17. Mae’r tir yn peidio â bod yn dir cyfunddaliadol yn ystod y cyfnod trosiannol Ddim ar gael £40
18. Ystad rydd-ddaliol mewn tir cyfunddaliadol gydag uned-ddalwyr Ddim ar gael £40 yr uned a droswyd
19. Datganiad cymuned cyfunddaliad diwygiedig sy’n newid y stent:
(a) rhannau cyffredin
(b) unedau cyfunddaliadol.
Sylwer: nid oes ffi i’w thalu os yw’r cais, ar gyfer pob teitl yr effeithir arno, yn cael ei gyflwyno gyda chais ffi ar raddfa neu gais arall y mae ffi yn daladwy amdano o dan yr adran hon, hy adrannau 1 i 23 o’r tabl hwn
Ddim ar gael £40 ar gyfer hyd at 3 uned
£40 ar gyfer hyd at 3 uned
£20 ar gyfer pob uned ddilynol
20. Datganiad cymuned cyfunddaliad nad yw’n newid y stent.
Sylwer: nid oes ffi i’w thalu os yw’r cais, ar gyfer pob teitl yr effeithir arno, yn cael ei gyflwyno gyda chais ffi ar raddfa neu gais arall y mae ffi yn daladwy amdano o dan yr adran hon, hy adrannau 1 i 23 o’r tabl hwn
Ddim ar gael £40
21. Newid i Femorandwm neu Erthyglau Cyweithio cymdeithas cyfunddaliad Ddim ar gael £40
22. Terfynu cofrestriad cyfunddaliad Ddim ar gael £40 y teitl
23. Nodi ildio hawl i ddatblygu o dan adran 58 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Les-ddaliad 2002 Ddim ar gael £40
24. Dynodi dogfen yn ddogfen gwybodaeth eithriedig £12 y ddogfen £25 y ddogfen

Ceisiadau nas cyfeirir atynt fel arall

Mae ffi sefydlog o £40 (neu £20 os cânt eu cyflwyno trwy ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway) yn daladwy am geisiadau lle nad oes ffi arall wedi’i rhagnodi gan y Gorchymyn Ffi.

Mae’r ceisiadau hyn yn cynnwys cofrestru rhoi neu gaffael hawddfraint (ond nid nodi hawddfreintiau), cyfuno neu isrannu o dan reol 3 o Reolau Cofrestru Tir 2003 a chofrestru rhent-dâl a roddir o ystad gofrestredig. Mae’r ffi yn daladwy hyd yn oed os daw’r cais gyda cheisiadau eraill y mae ffi ar raddfa neu ffi sefydlog yn daladwy ar eu cyfer. Lle bo’n gymwys a chyflwynir y cais yn electronig, caiff y ffi sy’n daladwy ei lleihau gan hanner cant y cant.

Ceisiadau nad oes ffi yn daladwy ar eu cyfer

Nid oes ffi yn daladwy ar gyfer y ceisiadau canlynol:

  1. Newid disgrifiad yr eiddo neu enw, cyfeiriad neu ddisgrifiad unrhyw unigolyn y cyfeirir ato ar y gofrestr.

  2. Newid y perchennog cofrestredig yn dilyn breinio statudol penodol.

  3. Cofrestru ildiad prydles gofrestredig pan fydd ffi ar raddfa i’w thalu i gofrestru prydles newydd ac mae’r perchennog cofrestredig a’r eiddo, i raddau helaeth, yn aros yr un fath (darllenwch yr adran prydlesi).

  4. Rhyddhau arwystl cofrestredig.

  5. Cofrestru neu adnewyddu rhybudd hawliau cartref neu adnewyddu rhybuddiad hawliau cartref priodasol o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996.

  6. Cofrestru marwolaeth perchennog.

  7. Dileu rhybudd (ac eithrio rhybudd o brydles ddigofrestredig, neu rent-dâl digofrestredig), rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf, rhybuddiad yn erbyn deliadau, gan gynnwys tynnu rhybudd am adnau neu’r bwriad i adneuo yn ôl, gwaharddiad, cyfyngiad neu nodyn.

  8. Dileu dynodiad dogfen yn ddogfen gwybodaeth eithriedig.

  9. Cymeradwyo cynllun gosodiad ystad neu unrhyw ddogfen ddrafft gyda chynllun neu hebddo.

  10. Gweithredu gorchymyn gan y cofrestrydd (ac eithrio gorchymyn o dan adran 41(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

  11. Datgofrestru maenor.

  12. Cofnodi diddymiad corfforaeth.

  13. Cofrestru cyfyngiad cydberchnogaeth ar ffurf A yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003.

  14. Cais am wybodaeth o’r rhestr ddydd ar unrhyw un achlysur trwy ddulliau electronig.

  15. Cofnod ar y gofrestr mewn perthynas â rhybudd ymwadiad a roddir gan ymddiriedolwr mewn methdaliad, datodwr, Cyfreithiwr y Trysorlys (ar ran y Goron), neu Gyfreithiwr Dugiaeth Caerhirfryn neu Ddugiaeth Cernyw.

Sut i dalu ffïoedd

Gallwch dalu am wasanaethau a cheisiadau safonol trwy’r canlynol:

Nid yw Treth Ar Werth (TAW) yn daladwy ar ffïoedd Cofrestrfa Tir EF.

Rhagor o wybodaeth

Mae Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir 2021 yn cynnwys darpariaethau yn ymwneud â:

  • graddfa 1: o dan erthyglau 2 a 3
  • graddfa 2: o dan erthyglau 4 a 5
  • arwystlon tir cofrestredig: o dan erthyglau 5 ac 8
  • prydlesi: o dan erthygl 2
  • ceisiadau graddfa fawr: o dan erthygl 6
  • ceisiadau nas cyfeirir atynt fel arall: o dan erthygl 12
  • ceisiadau pan fydd ffi sefydlog yn gymwys: o dan atodlen 3, Rhan 1
  • ceisiadau nad oes ffi yn daladwy ar eu cyfer: o dan atodlen 4 o Orchymyn Ffi Cofrestru Tir 2021

Daeth y ffïoedd hyn i rym ar 31 Ionawr 2022 ac maent yn dal i fod yn gymwys.

Os nad ydych yn sicr o’r ffi o hyd, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i gysylltu â ni.

Cyhoeddwyd ar 7 March 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 April 2023 + show all updates
  1. We have updated information in the section 'Transactions under Scale 2' under the heading ‘Transfers or assents of registered estates not for monetary consideration’ to clarify the fees for transfer of shares subject to a mortgage.

  2. Clarified the fees payable when a transfer deed contains multiple transfers.

  3. Increase to scale 1 and scale 2 fees.

  4. Edited Scale 2 section to clarify the fees payable on a transfer as a result of an order of the court under the Matrimonial Causes Act 1973 or the Civil Partnership Act 2004. Not a change in practice.

  5. We have added an example to show the fees payable where you have a transfer of the whole of one title and part of another.

  6. We have clarified the fees payable when two or more charges are submitted together.

  7. Note 1 added to better define the term ‘amount outstanding’ in transfers subject to a mortgage, to reflect the meaning of the Fee Order.

  8. Section on first registrations has been updated to clarify the fees for inspections.

  9. Section about 'Applications not otherwise referred to' has been amended to clarify when Article 12 fees are payable.

  10. Section 'Charges of registered land': examples 5 improved and example 6 added.

  11. Two updates under 'Transaction under scale 1'. Section 'First registration': information to clarify fee when a transfer includes registered and unregistered land added. Section 'Transfers of registered land for monetary consideration': examples 5 and 6 added.

  12. Added translation