Canllawiau

Llawlyfr Taliad Annibyniaeth Personol

Diweddarwyd 7 February 2024

Mae’r llawlyfr hwn ar gyfer unigolion a sefydliadau sy’n cefnogi pobl sydd efallai â hawl i Daliad Annibyniaeth Personol (PIP). Mae’n darparu cyfarwyddyd manwl ynglŷn â PIP ac yn rhestru ffynonellau eraill o help.

Mae gwybodaeth i bobl sydd yn hawlio PIP ar hyn o bryd neu eu bod am wneud cais am PIP ar gael yn www.gov.uk/taliad-annibyniaeth-personol-pip.

Amodau o hawl

Amod cyfnod angenrheidiol

Er mwyn bod yn gymwys i PIP, rhaid i hawlwyr fodloni cyfnod cymhwyso o 3 mis a phrawf arfaethedig o 9 mis. Cyfeirir at y ddwy amod fel ‘amod cyfnod angenrheidiol’ ac mae’n helpu i sefydlu bod y cyflwr iechyd neu anabledd yn debygol o fod yn hirdymor.

Mae’r cyfnod cymhwyso yn sefydlu bod yr hawlydd wedi cael yr anghenion am gyfnod penodol o amser cyn y gall hawl ddechrau a bydd y prawf arfaethedig yn dangos eu bod yn debygol o fod gydag anghenion parhaus am gyfnod a bennir ar ôl i’r dyfarniad ddechrau.

Mae’r cyfnod cymhwyso 3 mis a’r prawf arfaethedig o 9 mis yn cysoni diffiniad PIP o gyflwr iechyd neu anabledd hirdymor â’r hyn a ddefnyddir yn gyffredinol gan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’i ganllawiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn ystod y cyfnod cymhwyso ond ni all hawl i PIP ddechrau hyd nes y bydd y cyfnod cymhwyso wedi cael ei fodloni.

Preswylio a phresenoldeb

Bydd angen i hawlwyr fod yn bresennol ym Mhrydain Fawr, yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig (DU), Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw a heb fod yn destun rheolaeth mewnfudo.

Mae’n rhaid iddynt fod wedi bod yn bresennol ym Mhrydain Fawr am o leiaf 104 wythnos allan o’r 156 wythnos diwethaf.

Rydym yn trin aelodau sy’n gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Ei Fawrhydi a’u teuluoedd fel eu bod yn preswylio’n arferol ym Mhrydain Fawr wrth wasanaethu ac wedi’u lleoli dramor.

Efallai y caniateir cyfnod o absenoldeb dros dro dramor am hyd 13 wythnos neu 26 wythnos os yw’r absenoldeb yn benodol ar gyfer triniaeth feddygol. Dylai’r hawlydd ein hysbysu os ydynt yn bwriadu mynd dramor am 4 wythnos neu fwy.

Mae amodau preswylio a phresenoldeb PIP yr un fath a’r rhai ar gyfer Lwfans Byw i’rAnabl(DLA), Lwfans Gweini a Lwfans Gofalwr.

Oed

Nid yw plant o dan 16 oed yn gymwys i wneud cais am PIP - gallant hwy wneud cais am DLA a pharhau i wneud hynny hyd nes maent yn 16 oed.

Darllenwch fwy am cymorth i bobl ifanc i wneud cais yn y canllaw hwn.

Ni ellir gwneud cais am PIP o oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig lle bu dyfarniad diweddar o fudd-dal. Gall hawl barhau ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth os yw’r hawlydd eisoes yn cael PIP pan fyddant yn cyrraedd yr oedran hwn, cyn belled eu bod yn cyrraedd yr oedran hwn i fodloni’r amodau o hawl.

Budd-daliadau sy’n gorgyffwrdd

Mae’r elfen symudedd o PIP yn gorgyffwrdd gydag Atodiad Symudedd PensiwnRhyfel. Mae’r elfen bywyd bob dydd o PIP yn gorgyffwrdd gyda Lwfans Gweini Cyson.

Mae’r budd-dal sy’n gorgyffwrdd yn cael ei dalu’n llawn bob amser a PIP yn cael ei leihau yn ôl swm y budd-dal sy’n gorgyffwrdd.

Ni fydd gan y rhai sy’n cael  Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog hawl i wneud cais am PIP.

Meini prawf asesiad

Mae gan PIP ddwy elfen – bywyd bob dydd a symudedd. Mae’r ddwy elfen yn daladwy ar gyfradd safonol neu gyfradd uwch, yn dibynnu ar anghenion yr hawlydd.

I benderfynu ar yr hawl i’r ddwy elfen a lefel y taliad, asesir unigolion ar eu gallu i gwblhau nifer o weithgareddau bob dydd allweddol. Er enghraifft, gall hyn fod yn berthnasol i’w gallu i wisgo a dadwisgo, gwneud penderfyniadau cyllidebu, cyfathrebu a symud o gwmpas.

O fewn pob gweithgaredd mae nifer o ddisgrifwyr gyda phob un yn cynrychioli lefelau gwahanol o allu i gwblhau’r gweithgaredd.

Bydd unigolion yn derbyn sgôr pwyntiau ar gyfer pob gweithgaredd, yn dibynnu ar ba mor dda y gallant eu cyflawni a’r help sydd ei angen arnynt i wneud hynny.

Bydd cyfanswm y sgoriau yn penderfynu a yw elfen yn daladwy, ac os felly, p’un ai ar y gyfradd ’safonol’ neu ’uwch’. Y trothwy o hawl ar gyfer pob elfen yw 8 pwynt am y gyfradd safonol a 12 pwynt am y gyfradd uwch.

Y gweithgareddau

Mae cyfanswm o 12 gweithgaredd.

Gweithgareddau bywyd bob dydd yw:

  • paratoi bwyd

  • cymryd maeth

  • rheoli therapi neu fonitro cyflwr iechyd

  • ymolchi a chael bath

  • rheoli anghenion toiled neu anymataliaeth

  • gwisgo a dadwisgo

  • cyfathrebu ar lafar

  • darllen a deall arwyddion, symbolau a geiriau

  • ymgysylltu â phobl eraill wyneb yn wyneb

  • gwneud penderfyniadau cyllidebu

Gweithgareddau symudedd yw:

  • cynllunio a dilyn teithiau

  • symud o gwmpas

Darllenwch fanylion llawn yn adran 2.3 a 2.4 o’r canllaw asesu PIP .

Canllawiau ar weithredu’r meini prawf

Gan y bydd yr asesiad yn ystyried gallu’r hawlydd i ymgymryd â’r gweithgareddau, mae’n rhaid i anallu i ymgymryd â gweithgareddau fod o ganlyniad i effeithiau cyflwr iechyd neu nam ac nid dim ond mater o ddewis gan yr hawlydd.

Gall cyflyrau iechyd neu anableddau fod yn gorfforol, synhwyraidd, meddyliol, deallusol neu’n wybyddol, neu unrhyw gyfuniad o’r rhain.

Gall effaith yr holl fathau o amhariadau gael eu hystyried ar draws y gweithgareddau, lle maent yn effeithio ar allu hawlydd i gwblhau’r gweithgaredd a chyflawni’r canlyniad a nodwyd.

Er enghraifft, gall hawlydd sydd â salwch iselder ysbryd difrifol allu paratoi bwyd a bwydo ei hun yn gorfforol, ond gall fod a diffyg ysgogiad i wneud hynny, i’r graddau o fod angen anogaeth gan berson arall i wneud y dasg.

Fodd bynnag, mae rhai gweithgareddau yn canolbwyntio ar elfennau penodol o swyddogaeth. Er enghraifft, mae symud o gwmpas yn ymwneud ag agweddau corfforol cerdded, tra bod ymgysylltu â phobl eraill wyneb yn wyneb yn ymwneud ag agweddau meddyliol, gwybyddol neu ddeallusol o ryngweithio gyda phobl eraill.

Gan fod yr egwyddorion asesiad yn ystyried effaith cyflwr hawlydd ar eu gallu i fyw’n annibynnol ac nid y cyflwr ei hun, gall hawlwyr sydd â’r un cyflwr gael canlyniadau gwahanol. Mae’r canlyniad yn seiliedig ar asesiad annibynnol a’r holl dystiolaeth sydd ar gael.

Gall tystiolaeth ddod o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys:

  • y ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch

  • adroddiad ffeithiol gan Feddyg Teulu’r hawlydd

  • tystiolaeth gan weithwyr iechyd proffesiynol eraill sy’n ymwneud â gofal yr hawlydd

  • unrhyw dystiolaeth arall gan weithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â chefnogi’r hawlydd e.e. gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr cefnogol.

Darllenwch fwy am gwblhau’r ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’ yn y canllaw hwn. Mae hwn yn cynnwys enghreifftiau o dystiolaeth ategol.

Weithiau gallwn wneud penderfyniad drwy ond defnyddio’r wybodaeth ysgrifenedig y mae hawlydd wedi’i rhoi i ni, ond efallai y gofynnir i rai pobl fynd am ymgynghoriad wyneb yn wyneb gyda gweithiwr iechyd proffesiynol.

Bydd y disgrifydd mwyaf priodol ar gyfer pob gweithgaredd yn cael ei ddewis, yn seiliedig ar yr asesiad ac unrhyw dystiolaeth sydd ar gael.

Bydd adolygiadau rheolaidd yn digwydd yn ystod cylch bywyd dyfarniad PIP i sicrhau bod y dyfarniad yn parhau i ddiwallu anghenion cymorth yr hawlydd.

Dibynadwyedd

Er mwyn i ddisgrifydd fod yn berthnasol i hawlydd, rhaid i’r hawlydd fod yn gallu cwblhau’r gweithgaredd yn ddibynadwy fel y disgrifir yn y disgrifydd. Mae yn ddibynadwy yn golygu a ydynt yn gallu gwneud hynny:

  • yn ddiogel – mewn modd sy’n annhebygol o achosi niwed iddynt hwy neu i berson arall, naill ai yn ystod neu ar ôl cwblhau’r gweithgaredd

  • i safon dderbyniol

  • dro ar ôl tro – mor aml ag sy’n rhesymol ofynnol, a

  • mewn cyfnod rhesymol o amser - dim mwy na dwywaith cymaint â’r cyfnod hwyaf y byddai person nad yw’n anabl fel arfer yn cymryd i gwblhau’r gweithgaredd.

Rydym yn cydnabod bod y meini prawf dibynadwyedd yn amddiffyniad allweddol ar gyfer hawlwyr. Hefyd, o ganlyniad i’r adborth a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y meini prawf PIP ‘symud o gwmpas’ (a gynhaliwyd rhwng 24 Mehefin a 5 Awst 2013), mae mesurau ar waith i sicrhau bod y meini prawf dibynadwyedd yn cael eu cymhwyso’n gywir ac yn gyson fel rhan o’r asesiad.

Cyfnodau amser, amrywiadau a dewisiadau disgrifydd

Gall effaith y rhan fwyaf o gyflyrau iechyd ac anableddau amrywio. Mae edrych ar allu dros gyfnod hwy o amser yn helpu i esmwytho unrhyw elfen o amrywiadau ac mae’n cyflwyno darlun mwy cydlynol o effeithiau anablu. Dylai’r dewis o ddisgrifydd fod yn seiliedig ar ystyriaeth o gyfnod o 12 mis. Dylai hyn gyd-fynd â’r cyfnod cymhwyso â’r prawf arfaethedig ar gyfer y budd-dal – felly yn y 3 mis cyn yr asesiad ac yn y 9 mis ar ei ôl.

Gall disgrifydd sgorio fod yn berthnasol i hawlwyr mewn gweithgaredd lle mae eu hamhariadau yn effeithio ar eu gallu i gwblhau’r gweithgaredd, ar ryw adeg yn ystod y dydd, ar fwy na 50 y cant o’r diwrnodau yn y cyfnod o 12 mis. Mae’r rheolau canlynol yn berthnasol.

Os yw un disgrifydd mewn gweithgaredd yn debygol o fod yn berthnasol ar fwy na 50% o’r diwrnodau yn y cyfnod o 12 mis - gall y gweithgaredd gael ei gwblhau yn y modd a ddisgrifir ar fwy na 50% o ddiwrnodau - yna dylai’r disgrifydd yna gael ei ddewis.

Os oes mwy nag un disgrifydd mewn gweithgaredd yn debygol o fod yn berthnasol ar fwy na 50% o’r diwrnodau yn y cyfnod, yna dylai’r disgrifydd a ddewiswyd fod yr un sydd yn sgorio uchaf. Er enghraifft, os yw D yn berthnasol ar 100% o ddiwrnodau ac E ar 70% ddiwrnodau, mae E yn cael ei ddewis.

Lle mae un disgrifydd sengl mewn gweithgaredd yn debygol o beidio cael ei fodloni ar fwy na 50% o ddiwrnodau, ond mae nifer o ddisgrifyddion sy’n sgorio’n wahanol yn y gweithgaredd hwnnw gyda’i gilydd yn debygol o gael ei fodloni ar fwy na 50% o ddiwrnodau, y disgrifydd fuasai yn debygol o gael ei fodloni ar gyfer y gyfran uchaf o’r amser ddylai gael ei ddewis. Er enghraifft, os yw B yn berthnasol ar 20% o ddiwrnodau, D ar 30% o ddiwrnodau ac E ar 5% ddiwrnodau, mae D yn cael ei ddewis.

Os yw rhywun yn aros am driniaeth neu ymyrraeth bellach, gall fod yn anodd rhagweld yn gywir ei lefel o lwyddiant neu a fydd hyd yn oed yn digwydd. Dylai dewisiadau disgrifydd felly fod yn seiliedig ar effaith debygol barhaus y cyflwr iechyd neu nam fel pe na bai unrhyw driniaeth neu ymyriad pellach wedi digwydd.

Dylai amseriad y gweithgaredd gael ei ystyried, ac a all yr hawlydd wneud y gweithgaredd pan fydd angen iddynt wneud hynny. Er enghraifft, os bydd yn cymryd meddyginiaeth yn y bore (fel cyffuriau lleddfu poen) yn caniatáu i’r unigolyn gyflawni gweithgareddau dibynadwy pan fyddant angen drwy gydol y dydd, er na fyddent yn gallu gwneud y gweithgaredd am ran o’r dydd (cyn iddynt gymryd y cyffuriau lleddfu poen), gall yr unigolyn barhau i gwblhau’r gweithgaredd yn ddibynadwy pan fo angen ac felly dylent dderbyn y disgrifydd priodol.

Risg a Diogelwch

Wrth ystyried a ellir cynnal gweithgaredd yn ddiogel, mae’n bwysig ystyried y tebygrwydd y bydd y niwed yn digwydd a difrifoldeb y canlyniadau.

Er enghraifft, gellid tybio bod gweithgaredd yn anniogel pe byddai’r niwed a achosir yn ddifrifol iawn, er bod y tebygolrwydd y bydd y niwed yn digwydd yn isel.

Pe byddai’r niwed a achosir yn llai difrifol, yna byddai’n rhaid i’r tebygrwydd y byddai’r niwed hwnnw’n digwydd fod yn uwch er mwyn i’r gweithgaredd gael ei ystyried yn anniogel.

Cymorth gan bobl eraill

Mae’r asesiad yn ystyried lle mae hawlwyr angen cymorth gan berson neu bersonau arall i gynnal gweithgaredd - gan gynnwys lle mae’n rhaid i’r person hwnnw gwneud y gweithgaredd ar eu rhan yn ei gyfanrwydd. Mae’r meini prawf yn cyfeirio at wahanol fathau o gymorth.

Goruchwyliaeth yw’r angen i gael presenoldeb parhaus person arall i sicrhau diogelwch yr hawlydd i osgoi newid sy’n digwydd i’r hawlydd neu berson arall. Byddwn yn ystyried y tebygrwydd y bydd y niwed yn digwydd a difrifoldeb y newid petai’n digwydd yn absenoldeb goruchwyliaeth o’r fath. Er enghraifft, gellid tybio bod gweithgaredd heb oruchwyliaeth yn anniogel pe byddai’r newid a achosir yn difrifol iawn, er bod y tebygolrwydd y bydd y newid yn digwydd yn isel. Pe byddai’r newid a achosir yn llai difrifol, yna byddai’n rhaid i’r tebygrwydd y byddai’r newid hwnnw’n digwydd fod yn uwch er mwyn i’r gweithgaredd gael ei ystyried yn anniogel heb oruchwyliaeth. I fod yn berthnasol, mae’n rhaid bod angen yr oruchwyliaeth am gyfnod llawn y gweithgaredd.

Annogaeth yw cymorth a ddarperir gan berson arall drwy atgoffa neu annog hawlydd i gynnal neu gwblhau tasg neu ei egluro iddynt, ond nid eu helpu’n gorfforol. I fod yn berthnasol, mae’n rhaid bod angen hyn am ran o’r gweithgaredd yn unig.

Cymorth yw cefnogaeth sy’n gofyn am bresenoldeb ac ymyrraeth gorfforol person arall i helpu’r hawlydd gwblhau’r gweithgaredd - gan gynnwys gwneud rhywfaint ond nid popeth o’r gweithgaredd dan sylw. I fod yn berthnasol, mae’n rhaid bod angen y cymorth am ran o’r gweithgaredd yn unig.

Mae nifer o ddisgrifyddion hefyd yn cyfeirio at fod angen person arall i gwblhau’r gweithgaredd yn ei gyfanrwydd. Byddai’r disgrifyddion yn gymwys lle mae hawlydd yn methu ymgymryd ag unrhyw weithgaredd yn ddibynadwy eu hunain, hyd yn oed gyda help.

Mae gweithgareddau 7 a 9 yn cyfeirio at gymorth cyfathrebu a chymorth cymdeithasol, sy’n cael eu diffinio yn rhan 2 o’r canllaw asesiad PIP.

Nid yw’r asesiad yn edrych ar argaeledd help gan berson arall, ond yn hytrach ar yr angen sylfaenol. Felly gall hawlwyr gael eu dyfarnu gyda disgrifyddion ar gyfer angen help hyd yn oed os nad yw ar hyn o bryd ar gael iddynt – er enghraifft, os ydynt ar hyn o bryd yn ymdopi mewn ffordd nad yw’n ddibynadwy, ond gallant wneud hynny gyda rhywfaint o help.

Cymhorthion ac offer

Mae’r asesiad yn ystyried pan fo unigolion angen cymhorthion ac offer i gwblhau gweithgareddau. Yn y cyd-destun hwn:

  • cymhorthion yw dyfeisiadau sy’n helpu perfformiad o weithred, er enghraifft, ffyn cerdded neu chwyddwydrau.

  • offer yw dyfeisiadau sy’n darparu neu ailosod gweithrediad coll, er enghraifft, coesau neu freichiau artiffisial, dyfeisiau casglu (stomata) a chadeiriau olwyn.

Bydd yr asesiad yn ystyried cymhorthion ac offer mae unigolion fel arfer yn eu defnyddio, a rhai cyffredin cost isel, a allai fod yn rhesymol i ddisgwyl i rywun sydd â’u hamhariad eu defnyddio, hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu defnyddio fel arfer.

Gall hyn gynnwys eitemau prif ffrwd a ddefnyddir gan bobl heb amhariad, os yw’r hawlydd yn hollol ddibynnol arnynt i gwblhau’r gweithgaredd. Er enghraifft, byddai hyn yn cynnwys teclyn trydan agor tuniau lle na allai’r hawlydd agor tun heb un, dim os yw’n well ganddynt ddefnyddio un.

Mae gweithgaredd 11 yn cyfeirio’n benodol ar ‘gymhorthion dangos ffordd’, a ddiffinnir fel cymhorthion arbenigol sydd wedi’u cynllunio i help pobl anabl i ddilyn llwybr.

Bydd hawlwyr sy’n defnyddio neu byddai’n rhesymol disgwyl iddynt ddefnyddio cymhorthion i gyflawni gweithgaredd yn gyffredinol yn derbyn disgrifydd sgorio uwch na’r rhai sy’n gallu gwneud y gweithgaredd heb gymorth.

Wrth ystyried a yw’n rhesymol i ddisgwyl i hawlydd i ddefnyddio cymorth neu offer nad ydynt fel arfer yn defnyddio, bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn ystyried os:

  • yw’r hawlydd yn meddu ar y cymorth neu’r offer

  • mae’r cymorth neu offer ar gael yn eang

  • mae’r cymorth neu offer ar gael am gost isel neu am ddim

  • mae’n feddygol rhesymol iddynt ddefnyddio cymorth neu offer

  • mae’r hawlydd wedi cael cyngor meddygol penodol am reoli eu cyflwr, ac mae’n rhesymol iddynt barhau i ddilyn y cyngor hwnnw

  • byddai’r hawlydd wedi cael eu cynghori i ddefnyddio cymorth neu offer os ydynt wedi gofyn am gyngor gan weithiwr proffesiynol fel meddyg teulu neu therapydd galwedigaethol

  • mae’r hawlydd yn gallu defnyddio a storio’r cymorth neu offer

  • mae’r hawlydd yn methu â defnyddio cymorth neu offer oherwydd eu cyflwr iechyd corfforol neu feddyliol - er enghraifft, maent yn methu â defnyddio ffon gerdded neu gadair olwyn â llaw o ganlyniad i gyflwr iechyd y galon, anadlu, rhan uchaf y corff neu iechyd meddwl

Cŵn cymorth

Rydym yn cydnabod nad yw cŵn tywys, clyw a deuol synhwyraidd yn ‘gymhorthion’ ond wedi ceisio sicrhau bod y disgrifyddion yn nodi’r rhwystrau a chostau ychwanegol o fod angen y fath gi lle mae eu hangen i alluogi hawlwyr i ddilyn llwybr yn ddiogel. Felly mae gweithgaredd 11 yn cyfeirio’n benodol at y defnydd o ‘gi cymorth’. Mae cŵn cymorth yn cael eu diffinio fel cŵn wedi’u hyfforddi i helpu pobl sydd ag amhariad ar y synhwyrau.

‘Heb gymorth’

O fewn y meini prawf asesu, mae’r gallu i berfformio gweithgaredd ‘heb gymorth’ yn golygu naill ai heb y defnydd o gymhorthion neu offer neu gymorth gan berson arall.

Symud o gwmpas

Mae gweithgaredd 12 yn ystyried gallu corfforol hawlydd i symud o gwmpas heb anesmwythder difrifol, fel diffyg anadl, poen neu flinder. Mae hyn yn cynnwys y gallu i sefyll ac yna symud hyd at 20 metr, hyd at 50 metr, hyd at 200 metr a thros 200 metr.

Dylai’r gweithgaredd hwn gael ei ddyfarnu mewn perthynas â’r math o arwyneb fel rheol y disgwylir yn yr awyr agored fel palmentydd ac mae’n cynnwys cymryd cyrbau i ystyriaeth.

Mae sefyll yn golygu i sefyll yn syth gydag o leiaf un droed fiolegol ar y ddaear gyda neu heb gymorth ac offer addas. Mae prosthesis yn cael ei ystyried yn gyfarpar fel y gall hawlydd gyda choes prosthetig unochrog yn gallu sefyll tra y buasai rhywun sydd wedi colli’i ddwy goes yn methu â sefyll o dan y diffiniad hwn.

Mae “Sefyll ac yna symud” angen i unigolyn sefyll ac yna symud yn annibynnol wrth barhau i sefyll. Nid yw’n cynnwys hawlydd sy’n sefyll ac yna trosglwyddo i mewn i gadair olwyn neu ddyfais debyg. Ni ddylai unigolion sydd angen cadair olwyn neu ddyfais debyg i symud pellter gael eu hystyried i fod yn gallu sefyll a symud y pellter hwnnw.

Gall cymhorthion neu gyfarpar y mae person yn eu defnyddio i gefnogi eu symudedd corfforol gynnwys ffyn cerdded, baglau a phrosthesis.

Wrth asesu a oes modd i’r gweithgaredd gael ei gynnal yn ddibynadwy, dylid rhoi ystyriaeth i’r modd y maent yn gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw’n gyfyngedig i, eu cerddediad, eu cyflymder, perygl o gwympiadau a symptomau neu sgîl-effeithiau a allai effeithio ar eu gallu i gwblhau’r gweithgaredd, fel diffyg anadl, poen a blinder. Fodd bynnag, ar gyfer y gweithgaredd hwn, mae ond yn cyfeirio at y weithred gorfforol o symud. Er enghraifft, mae ymwybyddiaeth o berygl yn cael ei ystyried fel rhan o weithgaredd 11.

Egwyddorion gweithgaredd symud o gwmpas

Ar gyfer unigolion nad ydynt yn gallu sefyll ac yna symud 20 metr byddant yn derbyn 12 pwynt ac felly’r gyfradd uwch o’r elfen symudedd p’un a ydynt angen cymorth neu offer neu beidio.

Fodd bynnag, fel gyda’r holl weithgareddau yn yr asesiad, er mwyn i ddisgrifydd fod yn berthnasol, mae’n rhaid i ystyriaeth gael ei rhoi i’r modd y gall yr hawlydd gwblhau’r gweithgaredd.

Mae hyn yn golygu, os gall unigolion sefyll ac yna symud mwy na 20 metr ond ni allant wneud hynny mewn ffordd ddiogel a dibynadwy, dylent dderbyn 12 pwynt a’r gyfradd uwch.

Mynediad at fudd-daliadau a gwasanaethau eraill

Mae hawl i PIP yn darparu porth neu basbort i fudd-daliadau eraill, fel Lwfans Gofalwr a chynlluniau a noddir gan Adrannau eraill fel y cynllun Bathodyn Glas.

Ar gyfer llawer o fudd-daliadau a chynlluniau mae amodau cymhwyso ychwanegol. Ar gyfer rhai cynlluniau, fel y Bathodyn Glas, mae yna ffyrdd eraill o gael mynediad at y budd-dal nad ydynt yn dibynnu ar gyfradd neu elfen benodol o PIP.

Ar gyfer budd-daliadau DWP, Budd-dal Tai a Gostyngiadau yn y Dreth Cyngor, rydym yn rhannu gwybodaeth i alluogi hawlwyr i gael mynediad awtomatig at fudd- daliadau anabledd a gwasanaethau eraill. Fodd bynnag, dylai hawlwyr hysbysu swyddfeydd budd-daliadau eraill am eu hawl i sicrhau eu bod yn cael y symiau cywir wedi’i talu iddynt, yn enwedig os oes unrhyw newidiadau yn eu hamgylchiadau a dyfarniadau. Yn y mwyafrif o achosion bydd angen i hawlwyr ddefnyddio eu llythyr o ddyfarniad PIP fel prawf o hawl.

Mae pob cyfeiriad at blentyn anabl neu blant anabl at ddibenion pasbortau yn berthnasol yn unig i berson ifanc sy’n gymwys sy’n 16 oed neu drosodd gan nad yw PIP ar gael i blant o dan 16 oed.

Efallai bydd gofalwyr yn gallu gwneud cais am Gymhorthdal Incwm (yn cynnwys am hyd at 26 wythnos tra mae’r cais am PIP yn cael ei asesu). A gall nifer o ofalwyr barhau i wneud cais am Gymhorthdal Incwm ar ôl i PIP gael ei ddyfarnu.

Efallai bydd dyfarniad o PIP yn galluogi hawlwyr i gael mynediad at fudd-daliadau prawf modd hyd yn oed os dywedwyd wrthynt hwy yn flaenorol nad oedd ganddynt hawl i wneud hynny. Dylai hawlwyr ofyn am gyngor os nad ydynt yn sicr.

Efallai y bydd yn bosib ôl-ddyddio budd-daliadau passport i ddechrau dyfarniad PIP.

Budd-daliadau

Darllenwch am:

Gostyngiadau TAW

Ar gyfer gostyngiadau TAW ar gyfer gosod offer gwresogi, offer diogelwch neu gysylltu cyflenwad nwy wedi’i ariannu gan grant ewch i:

Cytundebau cyflogaeth ac oriau gweithio

Darllenwch am weithio hyblyg.

Gofal plant a bod yn rhiant

Darllenwch am absenoldeb rhiant heb thâl.

Iechyd

Yn Lloegr, bydd derbyn PIP hefyd yn cael ei ystyried yn yr un modd â DLA wrth gyfrifo hawl i gael help gyda chostau iechyd o dan y Cynllun Incwm Isel GIG.

Gofal cymdeithasol i oedolion

Darllenwch am anwybyddiadau incwm mewn ariannu cartref gofal.

Ysgolion a chyllid

Darllenwch am:

Pleidleisio

Darllenwch am sut i wneud cais i bleidleisio trwy ddiprwy.

Trafnidiaeth

Cerbydau

Darllenwch am:

Teithio consesiynol a’r cynllun Bathodyn Glas

Darllenwch am:

Bydd Awdurdodau Lleol yn gallu penderfynu ar hawl awtomatig i’r cynlluniau hyn o hysbysiad dyfarniad yr hawlydd. Os nad yw hawlwyr sydd â phroblemau symudedd yn cwrdd â’r meini prawf hawl awtomatig, dylent gysylltu â’u hawdurdod lleol oherwydd efallai eu bod yn dal i fod yn gymwys o dan y categori asesiad pellach.

Mwy o wybodaeth am help a chymorth ariannol i bobl anabl

Darllenwch am:

PIP a hawlwyr DLA presennol

Mae PIP ar gyfer pobl rhwng 16 ac o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae DLA yn dod i ben ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 oed ar 8 Ebrill 2013 (y diwrnod y cyflwynwyd PIP). Mae hefyd yn dod i ben ar gyfer pobl sy’n cyrraedd 16 ar ôl y dyddiad hwn.

O fis Hydref 2013

Dechreuodd DWP gwahodd rhai hawlwyr presennol DLA i wneud cais am PIP os:

  • mae eu dyfarniad DLA yn dod i ben

  • ydynt yn agosau at 16 oed

  • rydym yn derbyn gwybodaeth am newid yn eu hanghenion gofal neu symudedd - ni fyddwn yn gofyn i hawlwyr wneud cais am PIP os na fydd gan y newid maent yn ei hysbysu unrhyw effaith ar eu hawl, er enghraifft rhywun yn mynd i gartref gofal neu ysbyty

  • mae unigolyn yn dewis gwneud cais am PIP yn lle eu DLA

Darllenwch fwy am gefnogi pobl ifanc i wneud cais yn y canllaw hwn.

O fis Gorffennaf 2015

Dechreuom wahodd y bobl roedd yn weddill sydd â dyfarniad DLA hirdymor neu amhenodol ar hyn o bryd i wneud cais am PIP. Mae hyn yn golygu os bydd eu DLA yn dod i ben ar ôl Medi 2017 neu os nad oes gan eu dyfarniad dyddiad dod i ben.

Gwybodaeth bwysig am hawlwyr DLA presennol a PIP

Nid oes yn rhaid i hawlwyr DLA presennol wneud unrhyw beth hyd nes i ni gysylltu â hwy.

Byddwn yn ysgrifennu i hawlwyr yn unigol ac mewn da bryd i egluro pa gamau sydd yn rhaid iddynt eu cymryd ac erbyn pryd os ydynt am wneud cais am PIP.

Bydd yr holl hawlwyr DLA presennol sy’n cael gwahoddiad i wneud cais am PIP angen penderfynu os ydynt yn dymuno gwneud cais am PIP. Mae’r llythyr gwahoddiad yn esbonio i’r hawlydd beth sydd angen iddynt eu gwneud, sut i wneud cais a’r terfynau amser ar gyfer gwneud y rhain.

Ni fydd yn opsiwn i aros ar DLA.

Nid oes unrhyw hawl awtomatig i PIP hyd yn oed pan mae dyfarniad DLA amhenodol neu am oes wedi ei wneud.

Byddwn yn sicrhau y bydd DLA yn dal i gael ei dalu ar gyfer yr holl hawlwyr sy’n cydymffurfio â’r broses gwneud cais newydd, hyd nes bydd y penderfyniad ar PIP wedi cael ei gyfleu iddynt.

Os bydd angen cymorth ychwanegol ar hawlydd, byddwn yn gwneud ymholiadau pellach cyn y byddwn yn cymryd unrhyw gamau i ohirio beu ddileu DLA.

Pan fydd DLA yn dod i ben

Ni all pobl gael PIP a DLA ar yr un pryd. Bydd penderfyniad PIP yn dod â chais DLA i ben yn awtomatig. Os na ddyfarnir PIP neu nid oes cais yn cael ei wneud amdano yna bydd DLA yn dod i ben.

Bydd gan yr hawlydd 28 diwrnod i wneud cais am PIP pan fyddant yn cael gwahoddiad i wneud cais. Os byddant yn methu â gwneud hyn, efallai y bydd eu DLA cael ei atal ar ôl 4 wythnos ac ar ôl 4 wythnos arall gall gael ei derfynu. Os nad ydynt yn cydymffurfio gyda’r broses gwneud cais am PIP newydd efallai na chânt ddyfarniad o PIP a bydd eu dyfarniad DLA presennol yn cael ei derfynu. Yn yr amgylchiadau hyn bydd DLA yn parhau i gael ei dalu am 13 diwrnod arall yn dilyn eu diwrnod talu nesaf.

Os yw hawlydd yn dweud wrthym nad ydynt yn dymuno gwneud cais, neu eu bod yn tynnu eu cais am PIP yn ôl, bydd ei DLA yn dod i ben.

Bydd y dyfarniad DLA yn cael ei ymestyn os yw’r hawlydd wedi gwneud cais am PIP o fewn y terfynau amser penodedig; mae disgwyl i’w dyfarniad DLA ddod i ben, ond nid oes penderfyniad wedi’i wneud eto ar gais am PIP.

Unwaith y gwneir penderfyniad ar y cais PIP, p’un ai os yw’r penderfyniad yn ffafriol neu anffafriol, bydd DLA yn aros yn daladwy am 28 diwrnod ar ôl eu diwrnod talu nesaf, tan fydd y penderfyniad PIP yn dod i rym. Bydd y rheolau hyn hefyd yn berthnasol os yw’r hawlydd yn cael dyfarniad o PIP ar gyfradd uwch neu is na’u cyfradd flaenorol o DLA neu hyd yn oed os yw wedi’i wrthod yn gyfan gwbl.

Ni fydd unrhyw hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i derfynu hawl i DLA oni bai bod yr Adran wedi gwneud gweithredu’r gofynion deddfwriaethol yn anghywir (er enghraifft, os ydym wedi gwahodd rhywun sydd y tu allan i’r meini prawf oedran cymhwyso i wneud cais am PIP). Fodd bynnag, bydd gan yr hawlydd yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad PIP.

Ni fydd unrhyw hawl i apelio yn erbyn y dyddiad pan fydd yr hawlydd yn cael ei ddewis ar gyfer ailasesiad.

Darllenwch fwy am y broses anghydfodau yn y canllaw hwn.

Hawlwyr DLA sydd wedi cyrraedd 65 oed ar ôl 8 Ebrill 2013

Bydd pob hawlydd DLA presennol sydd rhwng 16 a 64 oed ar 8 Ebrill 2013 yn cael gwahoddiad i wneud cais am PIP, hyd yn oed os ydynt nawr wedi cyrraedd 65 oed.

Mae hyn yn golygu y bydd hawlwyr DLA sydd â phen-blwydd 65 oed ar ôl 8 Ebrill 2013 yn cael gwahoddiad i hawlio PIP. Dim ond hawlwyr sydd â’u pen-blwydd 65 oed ar neu ar ôl 8 Ebrill 2013 bydd yn parhau i fod ar DLA.

Bydd hawlwyr sy’n cyrraedd 65 oed ar ôl 8 Ebrill 2013 yn cael eu trin fel eu bod o dan 65 oed o hyd ar gyfer PIP. Mae hyn yn golygu efallai y byddant yn gymwys i’r elfen symudedd o PIP os ydynt yn cwrdd â’r meini prawf.

Os yw hawlydd DLA presennol yn gwneud cais am PIP ar ôl iddynt droi’n 65 oed ac yn derbyn dyfarniad o ddim, bydd eu cais am PIP yn cael ei drin yn awtomatig fel cais am Lwfans Gweini. Ni fydd yn rhaid iddynt wneud cais ar wahân er efallai y bydd gofyn iddynt ddarparu mwy o wybodaeth.

Dewis gwneud cais am PIP cyn cael gwahoddiad i wneud hynny gan DWP

Os bydd hawlydd DLA presennol yn cysylltu â ni i wneud cais am PIP yn wirfoddol, gallant wneud hynny. Fodd bynnag, os ydynt yn cael y gyfradd uwch o’r elfen symudedd ar gyfradd uchaf o’r elfen gofal o DLA, byddwn yn eu cynghori i beidio parhau. Mae hyn oherwydd nad oes tebygrwydd iddynt gael cynnydd yn eu budd- dal. Byddai gofyn i’r hawlwyr hyn ond gwneud cais am PIP os ydynt yn dweud wrthym bod eu cyflwr neu anghenion wedi gwella.

Sut i wneud cais

I ddechrau cais am PIP, dylai’r hawlydd cysylltu â ni trwy ddefnyddio’r manylion ar y dudalen ‘Sut i wneud cais’ o’r canllaw PIP i hawlwyr.

Mae’r manylion hyn ar gyfer ceisiadau newydd i PIP yn unig.

Dylai unrhyw un sydd eisoes wedi gwneud cais am PIP neu sydd ag ymholiad cyffredinol am PIP ffonio’r Canolfan Gwasanaethau Anabledd.

Gall yr alwad cael ei gwneud gan rywun sy’n cefnogi’r hawlydd. Rhaid i’r hawlydd fod yn bresennol er mwyn iddynt allu cadarnhau fod y person sy’n eu cefnogi gyda’u caniatâd i wneud yr alwad.

Paratoi am yr alwad ffôn

Mae’n bwysig bod gan yr hawlydd yr holl wybodaeth sylfaenol wrth law pan fyddant yn ffonio’r llinell gwneud cais am PIP. Gall fethu a chael y wybodaeth hon arwain at oedi wrth brosesu’r cais.

Byddant angen eu:

  • enw llawn

  • dyddiad geni

  • cyfeiriad llawn yn cynnwys cod post

  • rhif cyswllt yn ystod y dydd

  • eich rhif Yswiriant Gwladol – os oes gennych un (mae’r rhif ar lythyrau am dreth, pensiynau a budd-daliadau)

  • statws cenedligrwydd neu fewnfudo

  • manylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu (er mwyn i ni drefnu unrhyw daliadau os yw’r hawlydd yn gymwys ar gyfer y budd-dal)

  • manylion Meddyg Teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall

Byddant hefyd angen:

  • manylion unrhyw arosiadau diweddar mewn ysbytai, cartrefi gofal neu hosbis

  • manylion am amser a dreuliwyd dramor os ydynt wedi bod dramor am fwy na pedair wythnos ar y tro dros y 3 blynedd diwethaf

  • manylion am unrhyw bensiynau neu fudd-daliadau efallai mai hwy neu aelod o’r teulu yn ei gael gan wlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir

  • manylion os ydynt yn gweithio neu’n talu yswiriant mewn gwladwriaeth AEE arall neu’r Swistir

Yr alwad ffôn - beth i’w ddisgwyl

Ar ddechrau’r alwad ffôn bydd yr asiant yn gofyn cyfres o gwestiynau i’r hawlydd i wirio pwy ydynt.

Os yw’r hawlydd yn methu ag ateb y cwestiynau hyn, bydd yr asiant yn parhau i fynd trwy weddill y cwestiynau ar y cais i gasglu cymaint o fanylion â phosibl, ond bydd angen i DWP gymryd camau pellach i wirio hunaniaeth yr hawlydd.

Bydd yr asiant yn mynd trwy’r cais gyda’r hawlydd.

Mae gan rhai o’r cwestiynau’r opsiwn ‘ddim yn gwybod’.

Ni fydd yn rhaid i’r hawlydd ateb cwestiynau manwl am eu cyflwr iechyd neu anabledd, dim ond rhai cwestiynau i weld os oes ganddynt amhariad meddwl, gwybyddol neu ddysgu. Bydd hyn yn ein helpu i ganfod os yw’r hawlydd angen cymorth ychwanegol drwy’r broses gwneud cais.

Bydd gan yr hawlydd y cyfle i ddweud mwy wrthym am eu cyflwr iechyd neu anabledd a sut mae’n effeithio ar eu bywyd bob dydd yn y cam nesaf o’r broses gwneud cais.

Ar ddiwedd yr alwad ffôn cychwynnol, gofynnir i’r hawlydd i gytuno ar ddatganiad y bydd yr asiant yn ei ddarllen allan. Pan fydd yr hawlydd yn cydnabod hyn, bydd yr asiant yn cyflwyno’r cais a bydd dyddiad y cais yn cael ei osod ar y pwynt hwn.

Eithriadau o fewn y broses gwneud cais

Pobl nad Cymraeg neu Saesneg yw eu hiaith gyntaf

Rydym yn defnyddio gwasanaeth dehongli iaith a elwir yn ‘thebigword’. Bydd yr asiant teleffoni yn ei ddefnyddio ar unrhyw alwad lle nad Cymraeg neu Saesneg yw iaith gyntaf yr hawlydd neu le nad yw’r galwr yn gyfforddus i barhau yn Gymraeg neu Saesneg.

Bydd yr asiant yn cysylltu â’r gwasanaeth cyfieithu tra bod yr hawlydd ar y llinell ac yn y rhan fwyaf o achosion byddant yn cael eu rhoi drwodd ar unwaith i gyfieithydd ar gyfer yr iaith briodol. Yna bydd sgwrs tair ffordd yn galluogi cwblhau’r cais am PIP.

Bydd hawlwyr sy’n ffonio o linell daear yng Nghymru yn gallu dewis yr opsiwn i siarad yn y Gymraeg o’r gwasanaeth teleffoni awtomatig ac yn cael eu cysylltu â siaradwr Cymraeg mewn canolfan gyswllt DWP.

Hawlwyr sy’n methu â rheoli eu materion eu hunain

Pan fydd gan yr hawlydd benodai, penodai corfforaethol, pŵer atwrnai neu guradur bonis, rhaid i’r person a benodir i weithredu ar ran yr hawlydd ffonio i wneud y cais, nid oes rhaid i’r hawlydd fod yn bresennol.

Ceisiadau ar Bapur

Lle mae hawlydd yn methu â delio â ni dros y ffôn, neu maent angen cymorth ychwanegol ac nid oes ganddynt neb i’w cefnogi i wneud cais dros y ffôn gallant ofyn i ni bostio ffurflen gais papur iddynt.

Gall hawlwyr sy’n methu â delio â ni dros y ffôn ysgrifennu i ni i ofyn am ffurflen gais papur yn y cyfeiriad canlynol.


Personal Independence Payment New Claims

Post Handling Site B

Wolverhampton

WV99 1AH

Bydd y ffurflen hon yn unigryw i’r hawlydd ac ni ellir ei defnyddio gan unrhyw un arall.

Gallwn ond derbyn ceisiadau ar ffurflen awdurdodedig maent hwy wedi’i hanfon. Nid yw cyflenwadau o ffurflenni papur ar gael i’w archebu.

Bydd ffurflen gais papur hefyd yn cael ei dosbarthu i’r hawlwyr hynny sydd heb rif Yswiriant Gwladol.

Mae’r hawlydd yn cael mis o’r dyddiad y derbyniwyd y cais am ffurflen i ddychwelyd y ffurflen gais papur. Os derbynnir o fewn mis, yna bydd dyddiad y cais yn cael ei gyfrifo o’r dyddiad y dosbarthwyd y ffurflen.

Yn ystod yr alwad ffôn, os yw’r asiant teleffoni yn nodi bod yr hawlydd angen cymorth ychwanegol i gwblhau’r cais, gallant drefnu i swyddog ymweld DWP i gynorthwyo’r hawlydd.

Beth sy’n digwydd nesaf

Unwaith y byddwn wedi sefydlu bod yr hawlydd wedi bodloni’r amodau hawl sylfaenol mewn perthynas ag oedran a phreswylio, bydd ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’ a llyfryn gwybodaeth yn cael ei hanfon drwy’r post.

Gall yr hawlydd ddefnyddio’r ffurflen i egluro sut mae eu cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio eu bywyd bob dydd, ar ddiwrnod da a diwrnod drwg a dros ystod o weithgareddau.

Cwblhau’r ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’

Bydd cod-bar personol ar y ffurflen a bydd yn cynnwys manylion sylfaenol yr hawlydd ac felly dim ond y person yr anfonir y ffurflen iddynt dylai ei ddefnyddio.

Bydd llyfryn gwybodaeth yn cael ei anfon gyda’r ffurflen y dylai hawlwyr ei ddarllen cyn iddynt ddechrau llenwi’r ffurflen i mewn.

Mae gan yr hawlydd mis calendar i ddychwelyd y ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’ wedi’i chwblhau. Rhoddir amlen iddynt i ddychwelyd y ffurflen. Os nad yw’r hawlydd wedi dychwelyd y ffurflen ar ôl 20 diwrnod, bydd llythyr atgoffa yn cael ei anfon i’r hawlydd.

Os nad yw’r ffurflen wedi cael ei dychwelyd ar ôl mis calendr, bydd yr achos yn cael ei anfon at swyddog gwneud penderfyniadau DWP ac efallai bydd y cais yn cael ei wrthod neu ei derfynu oni bai bod rhesymau da am pam nad yw wedi cael ei anfon yn ôl ar amser.

Ni fydd yn rhaid i hawlwyr sy’n gwneud cais am PIP oherwydd bod meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud efallai bod ganddynt 12 mis neu lai i fyw gwblhau’r ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’. Byddwn yn cael y wybodaeth sydd ei hangen am anghenion symudedd ar gyfnod cychwynnol y cais a bydd yr hawlydd yn cael eu hannog i anfon adroddiad SR1W i mewn.

Lle mae hawlydd mewn sefyllfa fregus yn methu dychwelyd eu ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’ byddwn yn trefnu cyfeiriad uniongyrchol i ddarparwr asesiadau.

Os yw’r hawlydd yn methu â chwblhau’r ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’ o fewn y terfyn amser a roddwyd dylent gysylltu â’r Ganolfan Gwasanaethau Anabledd i ofyn am estyniad. Yn y lle cyntaf bydd yr asiant yn gallu caniatáu hyn.

Gellir caniatáu estyniadau pellach ond ar ddisgresiwn swyddog penderfyniadau DWP yn unig, a fydd yn ystyried os oes rheswm da dros ddychwelyd y ffurflen yn hwyr.

Os yw’r hawlydd yn colli’r ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’, bydd angen iddynt gysylltu â ni i ofyn am ffurflen arall.

Am y cwestiynau ar y ffurflen

Wrth lenwi’r ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’ gall yr hawlydd ei weld yn ddefnyddiol i gael wrth law:

  • manylion eu meddyginiaeth neu restr bresgripsiwn diweddaraf wedi’i argraffu (os oes ganddynt un)

  • enw a manylion cyswllt unrhyw weithwyr proffesiynol a allai fod yn eu cefnogi yn rheolaidd

Mae’r ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’ yn cynnwys nifer o gwestiynau am allu’r hawlydd i wneud nifer o weithgareddau allweddol bob dydd. Bydd yr atebion yn ein helpu i ddeall yr effaith a gaiff cyflwr iechyd neu anabledd yr hawlydd ar eu bywyd bob dydd ac i asesu eu hawl am y budd-dal.

Ym mhob adran ac ar gyfer pob cwestiwn, mae blwch ticio i’r hawliwr i nodi ‘ie’, ‘na’ neu ‘weithiau’.

Gofynnir i hawlwyr i ddarparu mwy o fanylion yn y blwch “gwybodaeth ychwanegol” er mwyn iddynt allu egluro sut y mae eu cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eu gallu i gyflawni’r gweithgareddau, yr anawsterau maent yn eu hwynebu a’r cymorth maent ei angen. Lle maent angen help gan berson arall gallant ddweud wrthym pa fath o help sydd ei angen a phryd y maent ei angen.

Darllenwch fwy am y meini prawf asesiad yn y canllaw hwn. Mae hwn yn cynnwys enghreifftiau o dystiolaeth ategol.

Help gyda chwblhau’r ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’

Os yw’r hawlydd yn cael anhawster cwblhau’r ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’, gallant ofyn i ffrind, perthynas, darparwr gofal neu sefydliad allanol i’w cynorthwyo gyda’i chwblhau.

Rydym yn darparu cyngor a gwybodaeth i sefydliadau allanol er mwyn sicrhau eu bod yn deall proses PIP. Bydd hyn yn eu galluogi i ddarparu cymorth a chefnogaeth i hawlwyr drwy gydol y broses gwneud cais.

Gall yr hawlydd hefyd gysylltu â’r Ganolfan Gwasanaethau Anabledd i gael help.

Bydd yr asiant teleffoni DWP yn gallu cynorthwyo gydag ymholiadau sylfaenol a bydd hefyd yn darganfod pa lefel o gefnogaeth mae’r hawlydd ei angen i gwblhau’r ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’. Yn dibynnu ar lefel y gefnogaeth mae’r hawlydd ei angen, gall yr asiant drefnu galwad yn ôl i gynorthwyo’r hawlydd wrth gwblhau’r ffurflen.

Efallai y byddant yn cyfeirio’r achosion mwyaf bregus i staff ymweliadau DWP ar gyfer cymorth wyneb yn wyneb.

Os oes swyddog ymweld DWP yng nghartref yr hawlydd pan maent yn penderfynu eu bod eisiau gwneud cais am PIP, bydd y swyddog ymweld yn gallu cynorthwyo’r halwydd i wneud yr alwad ffôn gychwynnol i wneud cais am PIP ac i gwblhau’r ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’ os bydd hefyd angen help i wneud hyn.

Anfon tystiolaeth ategol ychwanegol

Rydym am ddefnyddio’r ystod ehangaf o dystiolaeth pan fyddwn yn asesu eich cais er mwyn sicrhau bod eich dyfarniad PIP yn cael ei wneud yn gywir a’ch bod yn cael eich talu’n brydlon.

Mae’n bwysig iawn bod hawlwyr yn ein darparu gydag unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth berthnasol sydd ganddynt yn barod sy’n esbonio sut mae eu cyflwr yn effeithio arnynt.

Nid ydym angen gweld gwybodaeth gyffredinol am eich cyflwr - rydym angen gwybod sut rydych yn cael eich effeithio yn bersonol.

Nid oes angen i’r dystiolaeth gefnogol fod yn ddiweddar, ond dylai fod yn berthnasol i’w cyflwr presennol.

Dylai hawlwyr anfon unrhyw ddogfennau cyn gynted â phosibl yn yr un amlen â’r ffurflen ‘’Sut mae’ch anabledd yn effeithio arnoch’ sydd wedi’i chwblhau. Gall unrhyw oedi wrth anfon tystiolaeth olygu:

  • bydd yn cymryd mwy o amser i wneud penderfyniad ar yr hawliad PIP, neu

  • efallai y bydd yn rhaid iddynt fynychu ymgynghoriad wyneb yn wyneb gyda gweithiwr iechyd proffesiynol pan na fyddai’n angenrheidiol, neu efallai na fyddwn yn gallu cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i wneud y penderfyniad cywir ar yr hawliad

Dylai hawlwyr anfon llungopïau o unrhyw ddogfennau sydd ganddynt cyn gynted ag y bo modd. Nid oes yn rhaid iddynt ofyn am ddogfennau eraill bydd efallai yn arafu’r cais neu y codir ffi amdanynt – er enghraifft, gan Feddyg Teulu. Os oes angen hwn arnom, byddwn yn gofyn amdano ein hunain trwy ddefnyddio’r manylion cyswllt mae’r hawlydd yn darparu ar y ffurflen.

Gwybodaeth a fydd yn ein helpu i asesu cais am PIP

Bydd o help i ni gael adroddiadau am yr hawlydd gan :

  • nyrsys arbenigol

  • nyrsys seiciatrig cymunedol

  • gweithwyr cymdeithasol

  • therapyddion galwadigaethol

  • Meddygon Teulu

  • doctoriaid ysbyty

  • ffysiotherapyddion

  • gweithiwr cymorth

Bydd hefyd o help i ni gael cynlluniau gofal neu driniaeth gan:

  • therapyddion galwadigaethol

  • gweithwyr cymdeithasol

  • nyrsys seiciatrig cymunedol

  • tîmau cefnogol dysgu i’r anabl

Ffynonellau o wybodaeth pellach gallai ein helpu yw :

  • llythyrau gadael yr ysbyty neu glinig cleifion allanol

  • datganiad o anghenion addysg arbennig

  • tystysgrif o nam ar y llygaid

  • rhestr ailadrodd presgripsiynau presennol

  • lluniau neu belydrau-x

  • llythyrau am fudd-daliadau eraill

  • canlyniadau profion fel:

  * sganiau

  * profion diagnostig

  * awdioleg

Mae llythyrau gan bobl sy’n adnabod yr hawlydd dim ond yn ddefnyddiol os ydynt yn darparu gwybodaeth i ni am sut mae cyflwr yr hawlydd yn effeithio arnynt nad yw’r hawlydd ei hun eisoes wedi dweud wrthym.

Gwybodaeth na fydd yn ein helpu i asesu cais am PIP

Nid yw’n ddefnyddiol i ni gael:

  • gwybodaeth cyffredinol neu ffeithlenni ynglŷn â chyflyrau’r hawlydd nad sydd

amdanynt hwy yn bersonol

  • cerdiau apwyntiad neu lythyrau am apwyntiadau meddygol fel amserau, dyddiadau a chyfeiriadau

  • gwybodaeth am brofion maent yn mynd i’w cael

  • feithlenni am feddyginiaeth

Y broses asesu a darparwyr asesiadau

Bydd yr asesiad PIP yn cael ei gyflenwi gan ddarparwyr asesiad yn gweithio mewn partneriaeth â DWP.

Weithiau gallwn wneud penderfyniad drwy ond defnyddio’r wybodaeth ysgrifenedig mae hawlydd wedi’i rhoi i ni, ond efallai gofynir i rai pobl fynd am ymgynghoriad wyneb yn wyneb gyda gweithiwr iechyd proffesiynol

Bydd yr ymgynghoriad wyneb yn wyneb yn cael ei gynnal gan weithiwr iechyd proffesiynol sy’n ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd gan yr hawlydd, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth bellach y maent yn credu sydd ei angen.

Mae’r asesiad yn edrych ar bobl fel unigolion, ac yn canolbwyntio ar yr effaith a gaiff eu cyflwr ar eu bywydau bob dydd a thros ystod o wahanol weithgareddau.

Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn cwblhau’r asesiad a bydd yn anfon adroddiad yn ôl i ni. Bydd swyddog penderfyniadau DWP wedyn yn defnyddio’r holl wybodaeth yma i benderfynu ar hawl i PIP. Ni fydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwneud penderfyniad ar hawl i PIP.

Ymgynghoriad wyneb yn wyneb

Gall yr ymgynghoriad wyneb yn wyneb gymryd lle mewn canolfan asesu penodol neu yng nghartref yr hawlydd.

Bydd yr hawlydd yn cael eu hannog i fynd â rhywun i’r ymgynghoriad i’w cefnogi os byddant yn gweld hyn yn ddefnyddiol. Gall y person gymryd rhan yn y drafodaeth. Mae’r person a ddewisir yn ôl disgresiwn yr hawlydd a gallai fod, ond nid yw’n gyfyngedig i, rhiant, aelod o’r teulu, ffrind, gofalwr neu eiriolwr.

Os yw’n glir bod yr hawlydd angen mwy nag un person i fod gyda hwy er mwyn eu galluogi i fynychu ymgynghoriad wyneb yn wyneb, dylid nodi hyn fel rhan o’r broses trefnu. Gall y darparwr asesiad benderfynu y byddai hawlydd yn cael budd o ymweliad cartref yn hytrach nag ymgynghoriad mewn canolfan feddygol os byddant yn gofyn i nifer o bobl i’w cynorthwyo i fynd i’r ymgynghoriad wyneb yn wyneb.

Rydym wedi gofyn i’r darparwyr asesiad i sicrhau nad yw hawlwyr yn teithio dim mwy na 90 munud (taith sengl) drwy gludiant cyhoeddus i’w asesiadau.

Mae’r ffigwr hwn yn uchafswm absoliwt ac mae disgwyl y bydd amser teithio yn llawer llai ar gyfer y rhan fwyaf o achosion.

Gall ymgynghoriadau cartref cymryd lle:

  • ar gais yr hawlydd, os cânt eu cefnogi gan gyflwr iechyd neu anabledd priodol, fel y pennir gan yr asesydd, neu

  • os yw’r hawlydd yn darparu cadarnhad yn wirfoddol drwy eu gweithiwr gofal iechyd proffesiynol bod yr hawlydd yn methu â theithio ar sail iechyd (nodwch nad yw hyn yn ofyniad gorfodol), neu

  • yn ôl disgresiwn y darparwr asesiad am reswm busnes

Yr ymgynghoriad

Yn yr ymgynghoriad, bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gofyn cwestiynau am amgylchiadau’r hawlydd, eu cyflwr iechyd neu anabledd a sut mae hyn yn effeithio ar eu bywyd bob dydd.

Efallai y bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol hefyd yn cynnal archwiliad corfforol byr, ond ni fydd hawlwyr yn cael eu gorfodi i wneud unrhyw beth sy’n achosi poen, embaras neu anesmwythder iddynt.

Bydd y darparwyr asesiad yn sicrhau bod gan y gweithwyr iechyd proffesiynol y sgiliau cywir a’r profiad i asesu unrhyw hawlydd y cyfeirir atynt.

Rydym yn credu yn y rhan fwyaf o achosion y dylai pob gweithwyr iechyd proffesiynol allu asesu’r unigolyn, hyd yn oed os nad ydynt yn arbenigwyr yn eu cyflwr.

Os yw’r gweithiwr iechyd proffesiynol yn teimlo eu bod angen mwy o gefnogaeth cyn asesu rhywun, er enghraifft oherwydd bod gan yr hawlydd gyflwr y maent yn anghyfarwydd ag ef, bydd y darparwr asesiad yn darparu rhywun gyda’r sgiliau priodol i naill ai gynorthwyo’r gweithiwr iechyd proffesiynol gwreiddiol neu gynnal yr asesiad eu hunain.

Nid oes unrhyw derfyn amser ar gyfer ymgynghoriadau wyneb yn wyneb. Bydd ymgynghoriadau mor hir ag sy’n angenrheidiol i gyrraedd y casgliadau yn seiliedig ar dystiolaeth ar achosion unigol.

Y darparwyr asesiad: Independent Assessment Services a Capita Health and Wellbeing

Bydd proses asesiadau PIP yn cael ei rheoli gan 2 ddarparwr asesiadau sydd wedi cael eu penodi i weld os gall darparwyr gwahanol gyflwyno arloesder – ac eithrio’r asesiad ei hun sy’n gorfod cydymffurfio gyda rheoliadau a chanllawiau. Golyga cael mwy nag un darparwr y gallwn ddysgu o’r modelau gwahanol hyn.

Mae tri o gytundebau rhanbarthol mewn lle ar dir mawr y DU, a chytundeb pellach ar gyfer Gogledd Iwerddon:

  • Yn yr Alban, Gogledd Ddwyrain a Gogledd Orllewin Lloegr, ac yn Llundain a De Lloegr y darparwr asesiadau fydd Independent Assessment Services.

  • Yng Nghymru a Chanolbarth Lloegr, ac yng Ngogledd Iwerddon y darparwr asesiadau fydd Capita Health and Wellbeing.

Gweler dadansoddiad llawn o’r ardaloedd cod post o ddarparwyr asesiad PIP.

Os bydd hawlydd yn hysbysu newid cyfeiriad a allai gynnwys newid darparwr asesiad

Os yw hawlydd yn hysbysu newid cyfeiriad i mewn i ardal a gwmpesir gan ddarparwr asesu gwahanol, byddwn yn edrych i weld a yw’r achos wedi cael ei gyfeirio at y darparwr asesu.

Os nad yw’r achos wedi cael ei anfon at y darparwr asesu eto, bydd y newid cyfeiriad yn cael ei gofnodi a bydd yr achos yn mynd ymlaen fel arfer, gyda’r darparwr asesu sy’n cynnwys y cyfeiriad newydd.

Os yw’r achos eisoes gyda’r darparwr asesu, byddwn yn sefydlu at ba ddarparwr asesiad fydd yr achos yn perthyn.

Os na fydd y darparwr asesu presennol yn cwmpasu cyfeiriad newydd yr hawlydd, byddwn yn sefydlu os gall y darparwr asesu gynnal asesiad heb ymgynghoriad wyneb yn wyneb. Os ydynt yn gallu, bydd yr achos yn mynd yn ei flaen heb yr angen i newid y darparwr asesiad.

Os oes angen ymgynghoriad wyneb yn wyneb, bydd y darparwr asesu cyfredol yn dychwelyd yr achos i ble bydd yr achos yn cael ei ail-anfon i’r darparwr asesiad sy’n cynnwys yr ardal y mae’r hawlydd wedi symud iddi.

Rôl y darparwyr asesiad

Caiff sut mae’r darparwyr asesiad yn cynnal asesiadau eu rheoli gan reoliadau a chanllawiau.

Unwaith y bydd yr hawlydd yn eistedd gyda’r asesydd, bydd y profiad yn debyg iawn lle bynnag rydych yn y wlad. Bydd pawb yn gallu dod â chydymaith, gweld asesydd o’r un rhyw, hawlio’n ôl eu treuliau teithio ac yn y blaen. P’un a yw rhywun yn hawlio yn Lerpwl (Independent Assessment Services) neu Abertawe (Capita Health and Wellbeing) bydd yr asesydd wedi cael eu recriwtio am eu hempathi yn ogystal â chymwysterau meddygol.

Bydd yr aseswyr yn annog hawlwyr i esbonio sut maent yn teimlo ar ddiwrnod gwael yn ogystal ag ar ddiwrnod da. Bydd yr aseswyr yn darparu cyngor i ni - ni fydd yn gwneud y penderfyniad am yr hawl i PIP.

Anogwyd y darparwyr i ddatblygu atebion arloesol ar gyfer rhai agweddau o’r broses fel sut mae apwyntiadau yn cael eu trefnu, lle mae asesiadau yn digwydd a sut y maent yn cyfathrebu gyda hawlwyr (er enghraifft, llythyrau, negeseuon testun, e-bost ac yn y blaen). Mae gan y ddau ddarparwr fodelau cyflenwi gwahanol.

Independent Assessment Services

Bydd eu gwasanaeth hwy yn seiliedig ar weithio gyda phartneriaid lleol, gan gynnwys canolfannau iechyd preifat, cyfleusterau ffisiotherapyddion a’r GIG, gan ddefnyddio eu hadeiladau a staff i ymgymryd ag ymgynghoriadau wyneb yn wyneb. Drwy weithio gyda’r partneriaid lleol hyn mae Independent Assessment Services yn gallu cynnig amgylchedd cyfarwydd â gweithwyr iechyd proffesiynol profiadol i hawlwyr PIP.

Y rheswm pam fod Independent Assessment Services wedi mabwysiadu’r dull hwn yw bod:

  • staff profiadol a lleoliadau addas eisoes mewn lle

  • mae canolfannau asesu yn aml yng nghanol cysylltiadau trafnidiaeth sefydlog, gan leihau’r anghenion teithio ar gyfer llawer o hawlwyr

  • mae’n darparu rhwydwaith hyblyg, gydag opsiynau canolfan ymgynghori wrth gefn os oes angen

Bydd y partneriaid cadwyn gyflenwi yn cynnal yr ymgynghoriadau wyneb yn wyneb - gan gynnwys ysgrifennu’r adroddiadau.

Bydd Independent Assessment Services eu hunain yn ymgymryd â phob agwedd arall o’r gwasanaeth, gan gynnwys:

  • asesiadau ar bapur

  • ymgynghoriadau cartref

  • trefnu apwyntiadau

  • ymdrin â chwynion

  • talu treuliau hawlwyr

Mae Independent Assessment Services yn bwriadu cynnal y rhan fwyaf o’r ymgynghoriadau mewn canolfannau asesu. Bydd ymgynghoriadau cartref yn cael eu cynnig i hawlwyr ble y bo’n briodol.

Os yw’r gweithiwr iechyd proffesiynol Independent Assessment Services yn penderfynu bod angen ymgynghoriad wyneb yn wyneb, byddant yn cysylltu â’r hawlydd i drefnu apwyntiad.

Capita Health and Wellbeing

Mae Capita Health and Wellbeing yn cynllunio i ymgymryd â 60% o ymgynghoriadau yng nghartref yr hawlydd. Bydd y gweddill yn cymryd lle mewn canolfannau asesu.

Mae eu gwaith ymchwil gyda phobl anabl a’u sefydliadau wedi dangos y byddai well gan y rhan fwyaf o hawlwyr i’w ymgynghoriad gymryd lle yn y cartref. Fodd bynnag, i rai pobl mae mynd i ganolfan asesu yn ddewis gwell.

Mae ymagwedd Capita Health and Wellbeing hefyd yn cynnig modd i hawlwyr ddewis eu hoff ddull o gysylltu (ar gyfer nodyn atgoffa o apwyntiad ac ati) ac, unwaith mae’r gweithiwr iechyd proffesiynol wedi penderfynu bod angen ymgynghoriad wyneb yn wyneb, dewis amser eu hapwyntiad o ystod darged.

Bydd Capita Health and Wellbeing yn gwneud cyswllt cychwynnol â’r hawlydd drwy’r post, bydd y pecyn post yn cynnwys llythyr, llyfryn a DVD, arolwg boddhad ac amlen dreuliau.

Bydd Capita Health and Wellbeing yn darparu hawlwyr gyda mynediad at borth ar- lein diogel (yn ogystal â chanolfan ymholiad ffôn) a fydd yn caniatáu i hawlwyr drefnu a gwneud diwygiadau i’w hapwyntiadau ymgynghori.

Mae canolfannau asesu Capita Health and Wellbeing wedi cael eu dewis yn ofalus, yn agos at gludiant cyhoeddus a pharcio hygyrch.

Rheoli perfformiad

Byddwn yn monitro perfformiad y darparwyr asesiad er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r manylebau manwl ar gyfer yr asesiad a nodir yn eu cytundeb gyda ni.

Rydym wedi gosod cytundebau lefel gwasanaeth clir sy’n nodi disgwyliadau ar gyfer darparu gwasanaethau, gan gynnwys ansawdd yr asesiadau, y nifer o ddiwrnodau i ddarparu cyngor i DWP a thystiolaeth o foddhad hawlydd. Nid ydym wedi gosod unrhyw dargedau mewn perthynas â chanlyniad yr asesiadau PIP. Bydd hyn yn sicrhau bod yr holl asesiadau, waeth ble ydynt yn y wlad, yn gyson, yn deg, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael eu cyflwyno i’r safon ansawdd sy’n ofynnol.

Penderfyniad a thaliad

Penderfyniad PIP

Bydd swyddog penderfyniadau DWP yn gwneud penderfyniad rhesymegol ar hawl. Os bydd gan yr hawlydd hawl i gael PIP byddant hefyd yn penderfynu lefel y dyfarniad a hyd unrhyw ddyfarniad. Ym mhob achos, bydd y swyddog penderfyniadau yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael, fel:

  • yr adroddiad gan y darparwr asesiad

  • y ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’

  • unrhyw dystiolaeth ychwanegol y mae’r hawlydd wedi’i darparu, neu

  • tystiolaeth bellach mae’r darparwr asesiad wedi’i darparu

Os nad yw’r swyddog penderfyniadau yn fodlon ar yr adroddiad gan y darparwr asesiad neu os oes ganddynt ymholiadau ynghylch yr adroddiad neu’r dystiolaeth, byddant yn gallu trafod y mater gyda’r darparwr asesiad.

Dyfarniad ac adolygiadau PIP

Bydd y swyddog penderfyniadau yn gwneud dyfarniad o PIP yn seiliedig ar effaith cyflwr iechyd neu anabledd yr hawlydd ar eu bywyd bob dydd a’u gallu i fyw’n annibynnol. Bydd hyd y dyfarniad PIP yn seiliedig ar amgylchiadau unigol pob hawlydd.

Gall dyfarniadau PIP amrywio mewn hyd. Y dyfarniad byraf yw 9 mis. Yr hiraf yw dyfarniad parhaus gyda adolygiad ‘ysgafn’ ar 10 mlynedd.

Bydd y rhan fwyaf o hawlwyr yn cael eu dyfarniad wedi’i hadolygu’n rheolaidd, waeth pa mor hir yw’r dyfarniad. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb yn parhau i gael y lefel fwyaf priodol o gymorth.

Bydd rhai hawlwyr yn cael dyfarniad tymor cyfyngedig am gyfnod penodol o hyd at 2 flynedd. Ni fydd eu dyfarniad yn cael ei adolygu. Rhoddir dyfarniadau cyfyngedig heb ddyddiad adolygu lle gellir disgwyl yn rhesymol i gyflwr iechyd yr hawlydd wella.

Bydd dyfarniadau a wneir o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes am 3 blynedd. Bydd yr elfen bywyd bob dydd yn cael ei thalu ar y gyfradd uwch ym mhob achos. Bydd talu’r elfen symudedd yn dibynnu a oes angen help ar yr hawlydd i fynd o gwmpas ac, os ydynt, faint o help maent ei angen.

Dyfarniadau parhaus gydag adolygiad ‘cyffyrddiad ysgafn’

Mae hyn ar gyfer hawlwyr sydd gyda:

  • anghenion sefydlog iawn sy’n annhebygol o newid dros amser

  • anghenion lefel uchel a fydd naill ai’n aros yr un fath neu’n gwaethygu

  • dyddiad adolygu dyfarniad wedi’i gynllunio sydd i’w gynnal ar oedran Pensiwn y Wladwriaeth

  • cais rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes i’w gynnal ar oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Fel arfer, ni fyddai disgwyl i’r hawlwyr hyn gael asesiad wyneb yn wyneb ar adolygiad.

Dweud wrth yr hawlydd am benderfyniad PIP

Byddwn yn anfon llythyr i’r hawlydd yn rhoi penderfyniad ar y cais am PIP ac esboniad rhesymegol clir o sut y daethpwyd i’r penderfyniad hwnnw.

Os dyfarnwyd PIP i’r hawlydd, bydd y llythyr yn manylu ar swm y dyfarniad, hyd y dyfarniad a’r rhesymau dros wneud y penderfyniad hwnnw. Bydd y sgôr pwyntiau ar gyfer pob disgrifydd yn cael ei gynnwys yn y llythyr. Bydd y llythyr hefyd yn dangos sut y gwnaeth y dystiolaeth lywio dewis disgrifyddion a’r penderfyniad a wnaed. Bydd yn rhoi manylion am sut a phryd y mae angen i’r hawlydd ddweud wrth DWP am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau. Bydd hefyd yn cyfeirio’r hawlydd at fudd-daliadau a gwasanaethau eraill DWP a sefydliadau cymorth lleol. Bydd y llythyr dyfarniad yn cynnwys datganiad llawn o’r rhesymau dros y penderfyniad.

Os nad yw’r hawlydd wedi cael dyfarniad o PIP, bydd y llythyr yn rhoi’r un wybodaeth â’r llythyr dyfarnu a bydd yn ddatganiad llawn o’r rhesymau dros y penderfyniad. Bydd y llythyr hefyd yn egluro beth sydd angen i’r hawlydd ei wneud os nad ydynt yn hapus gyda’r penderfyniad ac yn egluro sut y gallant ofyn am ailystyriaeth orfodol.

Bydd y llythyr penderfyniad yn rhoi gwybod i’r cwsmer y gallant gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau os ydynt am drafod y penderfyniad ymhellach. Os nad yw’r hawlydd yn dal yn hapus gyda’r penderfyniad ar ôl ei drafod gyda’r swyddog gwneud penderfyniadau, gall yr hawlydd ofyn am ailystyriaeth orfodol.

Taliadau PIP

Bydd manylion penodol am daliadau PIP, gan gynnwys y dyddiad bydd taliadau yn dechrau a’u hamlder hefyd yn cael ei gynnwys yn y llythyr a anfonwyd at yr hawlydd. Gellir talu PIP i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd. Gofynnir i’r hawlydd i ddarparu’r manylion hyn pan fyddant yn gwneud cais am PIP.

Bydd taliadau fel arfer yn cael eu gwneud bob 4 wythnos mewn ôl-ddyledion. Bydd dyfarndaliadau o PIP o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd bywyd yn cael eu gwneud ymlaen llaw yn wythnosol.

Newid mewn amgylchiadau

Mae’r llythyr dyfarnu PIP yn rhoi manylion am sut a phryd y mae angen i’r hawlydd ddweud wrth DWP am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau.

Rydym angen gwybod os yw cyflwr yr hawlydd, faint o gymorth sydd ei angen arnynt neu eu hamgylchiadau yn newid. Mae hyn oherwydd y gallai newid faint o PIP y gallant ei gael.

Mae’n bwysig bod yr hawlydd yn dweud wrth DWP ar unwaith am unrhyw newidiadau yn eu bywyd a allai effeithio ar eu budd-dal. Yn seiliedig ar y newidiadau hyn efallai y bydd eu budd-dal yn cynyddu, yn gostwng, yn aros yr un fath neu’n dod i ben. Os caiff yr hawlydd eu gordalu, fel arfer, bydd yn rhaid iddynt ad-dalu’r arian. Gall methu â dweud wrth y DWP am unrhyw un o’r newidiadau hyn arwain at erlyniad.

Sut i hysbysu newid

Dylai’r hawlydd gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt yn y dudalen ‘Newid mewn amgylchiadau’ o’r canllaw PIP i hawlwyr.

Newidiadau y mae angen i’r hawlydd eu hysbysu

Newidiadau i anghenion bywyd bob dydd neu symudedd

Dylai’r hawlydd ddweud wrth DWP os, er enghraifft, mae angen mwy neu lai o help neu gymorth neu bydd y cyflwr yn para am gyfnod hirach neu fyrrach na’r hyn yr hysbysodd yr hawlydd yr Adran amdano’n flaenorol.

Gall y newid hwn effeithio ar hawl i PIP. Gall swm a chyfnod y dyfarniad PIP newid. Gall y newidiadau canlynol effeithio’r swm y PIP y gellir ei dalu i’r hawlydd:

  • mynd i’r ysbyty, cartref gofal neu hosbis

  • mynd i ysgol breswyl neu goleg

  • mynediad at ofal maeth, gofal awdurdod lleol, tai gwarchod neu ymddiriedolaeth gofal cymdeithasol

Mae DWP angen gwybod enw a chyfeiriad y lleoliad y mae’r hawlydd wedi mynd iddo, a’r dyddiad yr aethant yno. Rydym angen y wybodaeth cyn gynted ag y maent yn mynd yno. Gallai methu â dweud wrth DWP ar unwaith arwain at ordaliad. Rydym hefyd angen gwybod os yw’r hawlydd yn treulio unrhyw nosweithiau gartref a’r dyddiad y mae’r hawlydd yn gadael y lleoliad hwn cyn gynted ag y bydd hynny’n digwydd. Mae hyn oherwydd efallai y byddwn yn gallu talu PIP am unrhyw nosweithiau a dreuliwyd gartref a chyn gynted ag y byddant yn gadael y lleoliad hwn.

Ysbytai neu sefydliadau tebyg

Caiff y ddwy elfen o PIP eu hatal o fod yn daladwy 28 diwrnod wedi i’r hawlydd fynd i mewn i ysbyty GIG. Ni fydd cleifion a ariennir yn breifat yn cael eu heffeithio gan y rheolau a gallant barhau i gael eu talu’r naill elfen neu’r llall o PIP.

Os yw hawlydd yn yr ysbyty neu sefydliad tebyg ar y dyddiad y mae eu hawl i PIP yn dechrau, nid yw PIP yn daladwy hyd nes iddynt adael.

Cartrefi Gofal

Mae’r elfen bywyd bob dydd o PIP yn stopio â bod yn daladwy ar ôl 28 diwrnod o breswyliad mewn cartref gofal lle mae’r costau llety yn cael eu talu o gronfeydd cyhoeddus neu leol.

Gall yr elfen symudedd o PIP barhau i gael ei dalu. Nid yw pobl sy’n ariannu eu hunain yn llawn yn cael eu heffeithio gan y rheolau hyn. Os yw hawlydd mewn cartref gofal ar y dyddiad mae eu hawl i PIP yn dechrau, nid yw’r elfen bywyd bob dydd o PIP yn daladwy hyd nes iddynt adael.

Cyfnodau cysylltiol mewn ysbyty a chartref gofal

Mae cyfnodau yn yr ysbyty yn cael eu cysylltu os yw’r cyfnod rhyngddynt ddim mwy na 28 diwrnod. Mae’r elfen bywyd bob dydd ar gyfer cyfnodau mewn cartref gofal hefyd yn cysylltu os yw’r cyfnod rhyngddynt ddim mwy na 28 diwrnod. Nid oes cyswllt ar gyfer yr elfen symudedd oherwydd nid yw taliad yn cael ei effeithio mewn cartref gofal.

Bydd y ddwy elfen o PIP yn cael eu hatal ar ôl cyfanswm o 28 diwrnod mewn ysbyty. Bydd yr elfen bywyd bob dydd o PIP yn cael ei atal ar ôl cyfanswm o 28 diwrnod mewn cartref gofal. Os bydd hawlydd yn symud rhwng ysbyty a chartref gofal, neu fel arall, bydd y cyfnodau hyn hefyd yn cysylltu.

Carcharu neu fod hawlydd yn cael eu cadw yn y ddalfa

Gallai’r newid hwn effeithio’r swm o PIP y gellir ei dalu i’r hawlydd.

Rydym angen gwybod y dyddiad y cafodd yr hawlydd eu carcharu neu eu cadw yn y ddalfa ac am faint o amser y disgwylir iddynt fod yno, os yw’n hysbys.

Cadw yn y ddalfa

Caiff PIP ei atal o fod yn daladwy ar ôl 28 diwrnod lle mae rhywun yn cael ei gadw yn y ddalfa. Mae hyn yn berthnasol p’un ai yw’r drosedd yn un sifil neu droseddol a p’un ai ydynt wedi eu cael yn euog neu yn disgwyl yr achos.

Ni fydd taliadau o fudd-dal sydd wedi’u hatal yn cael eu had-dalu beth bynnag fo canlyniad yr achos yn erbyn yr unigolyn. Mae dau neu fwy o gyfnodau ar wahân yn y ddalfa yn cysylltu os ydynt o fewn blwyddyn i’w gilydd.

Yn bwriadu mynd dramor am fwy na 4 wythnos, hyd yn oed os yw hyn yn wyliau

Gallai’r newid hwn effeithio hawl yr hawlydd i PIP. Byddwn angen gwybod y dyddiad y mae’r hawlydd yn gadael y wlad, pa mor hir maent yn bwriadu bod allan o’r wlad, i ba wlad maent yn mynd a pham eu bod yn mynd dramor.

Newid enw

Ni fydd y newid hwn yn effeithio taliad neu hawl i PIP, ond mae’n bwysig bod gennym y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer yr hawlydd.

Bydd angen rhoi gwybod am y newid hwn yn ysgrifenedig - os bydd yr hawlydd yn ffonio i roi’r manylion hyn, byddwn yn gofyn am y manylion hyn yn ysgrifenedig.

Rhaid i’r hysbysiad ysgrifenedig gynnwys:

  • manylion llawn eu henw blaenorol

  • eu henw newydd

  • manylion am unrhyw newidiadau a wnaed i’r cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu y caiff PIP ei dalu, fel enw’r cyfrif neu rif y cyfrif

  • eu llofnod ar y llythyr

Newid i’r cyfrif y caiff PIP ei dalu iddo

Rydym angen manylion llawn o enw a chyfeiriad y banc neu gymdeithas adeiladu newydd ynghyd â manylion y cyfrif newydd gan gynnwys enw’r cyfrif, rhif y cyfrif a’r cod didoli neu rif rôl.

Newid i’r person sy’n gweithredu ar ran yr hawlydd, hynny yw, penodai neu rywun sydd â phŵer atwrnai ar gyfer yr hawlydd

Mae’r newid hwn yn bwysig er mwyn i ni allu gwneud taliadau i’r person cywir ar yr amser cywir. Rydym angen enw llawn, cyfeiriad a manylion cyswllt y person newydd sy’n gweithredu ar ran yr hawlydd. Os yw’r person sy’n gweithredu ar ran yr hawlydd wedi symud neu os oes ganddynt fanylion cyswllt gwahanol, bydd ond angen y manylion newydd arnom.

Newid cyfeiriad

Ni fydd y newid hwn yn effeithio ar hawl neu daliad o PIP cyn belled nad yw’n ysbyty neu gartref nyrsio. Mae’n bwysig bod gennym y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer yr hawlydd.

Rydym angen manylion llawn am gyfeiriad newydd yr hawlydd, gan gynnwys y cod post a dyddiad y gwnaethant symud.

Newid meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol

Ni fydd y newid hwn yn effeithio ar hawl neu daliad o PIP ac nid yw’n orfodol unwaith mae penderfyniad wedi’i wneud ar y cais am PIP. Fodd bynnag, os yw’r newid yn digwydd yn ystod y cyfnod o wneud cais mae’n hanfodol bod gennym y wybodaeth ddiweddaraf. Bydd hyn yn sicrhau bod gan y darparwr asesiad y manylion cyswllt cywir i gasglu unrhyw fanylion pellach maent eu hangen. Byddwn angen enw llawn, cyfeiriad a manylion cyswllt y meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol newydd.

Newidiadau nad oes angen i’r hawlydd eu hysbysu

Nid yw PIP yn seiliedig ar brawf modd a gellir ei dalu p’un a yw’r hawlydd yn gweithio ai peidio. Nid oes angen hysbysu bod yr hawlydd wedi dechrau neu orffen gwaith neu os yw natur eu cyflogaeth bresennol wedi newid, oni bai bod y swm o gymorth sydd ei angen arnynt wedi newid.

Darllenwch y ganllaw PIP i hawlwyr.

Os bydd gan hawlydd 12 mis neu lai i fyw

Mae rheolau arbennig sy’n caniatáu i bobl sy’n agosáu at ddiwedd eu bywyd gael help yn gyflym pan fyddant yn hawlio PIP. Dyma pryd mae eu meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud efallai bod ganddynt 12 mis neu lai i fyw.

Mae ceisiadau a wneir o dan y rheolau arbennig ar gyfer meini prawf diwedd bywyd yn dilyn proses wahanol, felly ymdrinnir â hwy’n gyflymach na cheisiadau PIP safonol.

Bydd hawlwyr sydd yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer gwneud cais o dan y rheolau arbennig:

  • ddim yn gorfod cwblhau’r ffurflen ’Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’

  • ddim angen ymgynghoriad wyneb yn wyneb, ac

  • sydd â hawl, yn derbyn dyfarniad o’r gyfradd uwch o’r elfen bywyd bob dydd o PIP heb orfod disgwyl nes y byddant yn bodloni’r cyfnod cymhwyso arferol.

Bydd yr elfen bywyd bob dydd, a chyn belled â bod yr amodau cymhwyso yn cael eu bodloni, yr elfen symudedd yn cael eu talu ar unwaith.

Sut i wneud cais o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd bywyd

Defnyddiwch y manylion cyswllt ar y dudalen ‘Sut i wneud cais‘ o’r canllaw hawlydd  PIP. Bydd tîm ymroddedig yn cymryd eu galwad ac yn cwblhau’r broses o wneud cais.

Os yw cais yn cael ei wneud o dan y rheolau hyn, gall yr alwad ffôn gael ei wneud gan rywun sy’n cefnogi’r hawlydd (fel sefydliad cymorth neu aelod o’r teulu) heb yr angen i’r hawlydd fod yn bresennol.

Fodd bynnag, dylai’r hawlydd gael gwybod bod cais am PIP wedi cael ei wneud oherwydd efallai byddwn angen cysylltu â hwy i ddilysu eu manylion a byddwn yn anfon unrhyw hysbysiadau neu daliadau iddynt hwy.

Nid oes yn rhaid i’r hawlydd wybod bod cais wedi cael ei wneud o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd bywyd, a na chaiff hwn ei grybwyll gennym mewn unrhyw gysylltiad â’r hawlydd.

Paratoi am yr alwad ffôn

Mae’n bwysig bod gan yr hawlydd (neu’r person sy’n ffonio ar eu rhan) gymaint o wybodaeth wrth law cyn ffonio DWP neu gall fod oedi gyda’r cais.

Gellir cymryd y cais hyd yn oed os nad oes gan y person sy’n galw’r holl wybodaeth ond mae angen manylion penodol er mwyn cofrestru’r cais. Os yw’r person sy’n ffonio yn methu ag ateb rhywfaint o’r cwestiynau gallai’r cais gael ei oedi oherwydd bydd angen i ni cael y manylion cyn y gellir talu ar y cais.

Ni anfonir y ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’ i’r hawlydd os ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer dyfarniad o dan y rheolau arbennig. Yn lle hynny, gofynnir ychydig o gwestiynau ychwanegol iddynt hwy, neu’r person sy’n gwneud cais ar eu rhan, tra maent ar y ffôn, am eu cyflwr a sut mae’n effeithio ar eu gallu i symud o gwmpas.

Y cwestiynau yma yw:

  • ydych chi angen i rywun arall gynllunio unrhyw daith rydych yn dymuno ei chymryd?

  • ydych chi’n cael anawsterau dilyn llwybr taith gyfarwydd? Er enghraifft ydych angen:

  * person arall gyda chi

  * ci cymorth, neu

  * cymorthyddion, fel ffon wen?

  • ydych chi’n cael problem cerdded pellter byr hyd at 50 metr?

  • ydych chi’n cael problem cerdded pellter byr hyd at 20 metr?

Yr alwad ffôn - beth i’w ddisgwyl

Ar ddechrau’r alwad ffôn gyda DWP bydd yr asiant yn gofyn cyfres o gwestiynau i’r hawlydd i wirio pwy ydynt.

Bydd yr asiant DWP yn egluro beth mae’r rheolau arbennig ar gyfer diwedd bywyd yn ei olygu a chadarnhau eu bod eisiau gwneud cais o dan y rheolau arbennig.

Os ydych yn gwneud cais ar ran rhywun arall gofynnir hefyd i chi am eich enw a chyfeiriad.

Bydd yr alwad yn gyflymach os bydd gan y person sy’n ffonio y cod post ar gyfer pob cyfeiriad maent yn ei roi.

Adroddiad SR1W

Gofynnir i hawlwyr gael ac anfon adroddiad meddygol SR1 i gefnogi’r cais. Mae’r SR1 yn adroddiad am eu cyflwr meddygol, nid eu prognosis, a gall yr hawlydd gael un gan eu meddyg teulu, ymgynghorydd neu rai gweithwyr proffesiynol eraill, gan gynnwys nyrsys Macmillan. Ni fydd yn rhaid i’r hawlydd dalu am adroddiad SR1.

Y broses asesu

Bydd y wybodaeth o’r cais a‘r adroddiad SR1W yn cael eu hanfon i ddarparwr asesiadau – naill ai Independent Assessment Services neu Capita Health and Wellbeing – sy’n gweithio mewn partneriaeth â DWP.

Bydd gweithiwr iechyd proffesiynol sy’n gweithio i’r darparwr asesiadau yn gallu cwblhau’r asesiad drwy ddefnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd yn ystod y broses gwneud cais, yr adroddiad SR1W ac unrhyw dystiolaeth bellach a gasglwyd.

Ni fydd angen i’r hawlwyr hynny sy’n cael eu trin i fod yn gymwys o dan y rheolau arbennig angen ymgynghoriad wyneb yn wyneb.

Efallai bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol angen cysylltu â’r person sydd wedi cwblhau’r adroddiad SR1W am ragor o wybodaeth.

Darllenwch fwy am y darparwyr asesiadau a’r broses asesu yn y canllaw hwn.

PIP a hawlwyr presennol DLA o dan y rheolau arbennig

Bydd yr hawlwyr hynny sydd eisoes yn cael DLA o dan y rheolau arbennig ond yn cael gwahoddiad i wneud cais am PIP pan fydd eu dyfarniad DLA yn dod i ben. Mae hyn yn cynnwys plant sy’n cyrraedd 16 oed a fyddai fel arall yn gorfod gwneud cais am PIP.

Os bydd hawlydd DLA presennol yn cysylltu â ni i ddweud bod eu cyflwr wedi dirywio a bod eu meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud wrthynt efallai bod ganddynt 12 mis neu lai i fyw, byddant yn cael eu gwahodd i wneud cais am PIP o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd bywyd.

Cefnogi pobl ifanc i wneud cais

Bydd DLA yn parhau ar gyfer plant o dan 16 oed. Ni fydd pobl ifanc yn cael gwahoddiad i wneud cais am PIP hyd nes maent yn o leiaf 16 oed.

Paratoi pobl ifanc i wneud cais am PIP

Byddwn yn ysgrifennu at rieni neu warcheidwaid pobl ifanc, sydd ar hyn o bryd yn cael DLA ac sy’n byw mewn ardaloedd ailasesu wrth iddynt nesáu at 16 oed.

Pan yn 15 mlynedd a 7 mis oed, bydd llythyr yn cael ei anfon at y rhiant neu warcheidwad i egluro:

  • bod PIP yn disodli DLA fel y budd-dal cywir ar gyfer unrhyw un dros 16 oed

  • bydd angen i’r person ifanc wneud cais am PIP pan fyddant yn cyrraedd 16 oed

  • byddwn yn ysgrifennu at y person ifanc am hyn ac i egluro sut i wneud cais am PIP pan fyddant yn 16 oed

  • os bydd y person ifanc yn gwneud cais am PIP pan fyddant yn cyrraedd 16 oed, byddwn yn sicrhau bod eu DLA yn parhau i gael ei dalu hyd nes y byddwn yn gwneud penderfyniad am eu cais PIP

  • mae angen iddynt roi gwybod i ni i bwy mae angen talu’r DLA unwaith mae’r person ifanc yn cyrraedd 16 oed ac os ydynt yn gwneud cais am PIP, tra rydym yn gwneud penderfyniad am eu cais

  • dylent drafod y llythyr gyda’r person ifanc

Bydd y llythyr hefyd yn gofyn a fydd y person ifanc angen penodai pan fyddant yn cyrraedd 16 oed.

Pan yn 15 mlynedd a 10 mis oed bydd llythyr yn cael ei anfon at y rhiant neu warcheidwad i egluro y bydd y person ifanc cyn bo hir yn cael gwahoddiad i wneud cais am PIP yn 16 oed. Mae amrywiad o’r llythyr hefyd yn ailadrodd y cwestiynau yn y llythyr blaenorol os nad yw ateb wedi ei dderbyn.

Pan yn 16 oed bydd llythyr yn cael ei anfon at y person ifanc, neu eu penodai, i’w gwahodd i wneud cais am PIP. Bydd yn egluro:

  • sut i wneud cais am PIP ac erbyn pryd

  • os nad ydynt yn gwneud cais am PIP erbyn y dyddiad a roddir ar eu llythyr, bydd eu DLA yn dod i ben

  • y bydd eu DLA yn parhau i gael ei dalu (hyd yn oed os oedd disgwyl i’w dyfarniad DLA i ddod i ben) cyn belled â’u bod yn anfon unrhyw wybodaeth rydym yn gofyn amdani ac yn mynd i ymgynghoriad asesiad, os oes angen

Pan fydd person ifanc yn gwneud cais

Os bydd person ifanc yn gwneud cais am PIP, bydd eu DLA yn parhau i gael ei dalu hyd nes bydd DWP yn gwneud penderfyniad ar eu cais am PIP.

Pan fydd y penderfyniad ar eu cais am PIP yn cael ei wneud bydd eu DLA yn dod i ben hyd yn oed os oes ganddynt ddyfarniad hirdymor neu amhenodol ar hyn o bryd.

Os yw PIP yn cael ei ddyfarnu i’r person ifanc gall fod yr un faint neu’n fwy neu’n llai na’u DLA presennol. Gallai hyn effeithio ar fudd-daliadau eraill y gall y person ifanc, neu eraill yn eu cartref eu cael.

Penodai

Os na all person ifanc wneud pethau fel dweud wrthym os bydd eu cyflwr yn gwella neu’n gwaethygu, neu am newidiadau mewn cyfeiriad neu fanylion banc ac ati, efallai bydd angen i berson arall weithredu ar eu rhan, fel eu ‘penodai’. Rhaid i hyn fod oherwydd eu salwch neu anabledd ac nid yn unig oherwydd eu bod yn dal i fod yn berson ifanc.

Anghydfodau

Mae’r Ddeddf Diwygio Lles 2012 yn cynnwys cyflwyno newidiadau i’r broses apelio er mwyn sicrhau bod mwy o anghydfodau yn erbyn penderfyniadau DWP yn cael eu datrys heb gael eu cyfeirio at Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (HMCTS).

Y newid i’r broses apelio ar gyfer DWP yw:

  • ailystyriaeth orfodol o benderfyniadau cyn mynd i apêl

  • cyflwyno apeliadau’n uniongyrchol gyda HMCTS, a

  • terfynau amser i DWP ddychwelyd ymatebion apêl i HMCTS

Rydym wedi cyflwyno ailystyriaeth orfodol a chyflwyno uniongyrchol ar gyfer PIP o fis Ebrill 2013.

Anghydfodau PIP

Unwaith bydd penderfyniad wedi’i wneud ar gais bydd, hysbysiad o benderfyniad yn cael ei anfon i’r hawlydd i’w hysbysu o’r dyfarniad neu wrthod y cais, yn rhoi’r rhesymau dros y penderfyniad ac yn cynghori’r hawlydd beth yw’r camau maent angen eu cymryd os ydynt yn anghytuno gyda’r penderfyniad.

Bydd gan hawlwyr fis calendar i ddyddiad anfon y llythyr penderfyniad i ofyn am ailystyriaeth orfodol.

Bydd y llythyr penderfyniad yn cynghori’r hawlydd y gallant gysylltu â DWP os ydynt am drafod y penderfyniad ymhellach. Os yw’r hawlydd yn dal i gwestiynu’r penderfyniad a wnaed ar ôl i’r swyddog penderfyniadau drafod y penderfyniad ac yn dymuno i ni i edrych ar y penderfyniad eto, gallant ofyn am ailystyriaeth orfodol.

Gofynnir i’r hawlydd fod yn benodol am y pwyntiau mewn sylw neu’r digrifwyr maent yn anhapus a hwy a byddant yn cael eu hannog i ddarparu tystiolaeth neu wybodaeth ychwanegol sydd ganddynt i ni ar y pwynt hwn.

Rydym yn disgwyl y bydd gostyngiad yn y nifer o anghydfodau os yw’r penderfyniad yn cael ei gyfathrebu’n hyderus ac effeithiol.

Pan fydd cais am ailystyriaeth orfodol yn cael ei dderbyn, bydd ail swyddog penderfyniadau DWP yn edrych ar y penderfyniad, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth ychwanegol sydd wedi ei darparu i benderfynu a yw’r penderfyniad gwreiddiol yn deg ac yn gyson â’r dystiolaeth.

Bydd llythyr a elwir yn ‘hysbysiad ailystyriaeth orfodol’ yn cael ei anfon i’r hawlydd yn ymateb i unrhyw faterion a oedd ganddynt am y penderfyniad ac yn rhoi gwybod iddynt am ganlyniad eu cais am ailystyriaeth gorfodol. Bydd hefyd yn cynnwys hawl yr hawlydd i apelio yn erbyn y penderfyniad ac yn eu cynghori sut i wneud apêl i HMCTS a ble y gallant gael ffurflen apêl (SSCS1W).

Darllenwch y cyfarwyddyd hawlwyr am sut i herio penderfyniad budd-dal.

Os, wedi i ni ailystyried y penderfyniad, mae’r hawlydd yn dal i gwestiynu’r penderfyniad, gallant gyflwyno apêl yn uniongyrchol gyda HMCTS. Wrth gyflwyno apêl mae gan yr hawlydd mis calendr o ddyddiad yr hysbysiad ailystyriaeth orfodol i apelio’n uniongyrchol i HMCTS.

Os bydd yr hawlydd yn anfon yr apêl i ni mewn camgymeriad, ni fyddwn yn anfon y cais am apêl ymlaen i HMCTS. Byddwn yn gyntaf yn gwirio fod ailystyriaeth orfodol wedi cael ei gynnal, ac os na yn trin unrhyw apeliadau maent yn eu derbyn fel cais am ailystyriaeth orfodol. Os yw’r hawlydd wedi cael ailystyriaeth orfodol byddwn yn dychwelyd yr apêl i’r hawlydd.

Ni all apêl gael ei chyflwyno gyda HMCTS hyd nes y bydd DWP wedi ailystyried y penderfyniad. Bydd yr hawlydd angen cynnwys copi o’r hysbysiad ailystyriaeth orfodol gan DWP gyda’u hapêl.

Pan fydd HMCTS yn derbyn yr apêl, byddant yn ei dilysu a’i hanfon i DWP ar gyfer ymateb. Byddwn yn anfon ein hymateb yn ôl i HMCTS o fewn 28 diwrnod i dderbyn y cais am ymateb i’r apêl.

Bydd HMCTS yn gweinyddu ac yn prosesu’r apêl, gan gynghori pob parti am ddyddiadau gwrando os cynhelir gwrandawiad llafar.

Darllenwch y cyfarwyddyd hawlwyr am sut i apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal.