Lwfans Gofalwr
Sut mae’n gweithio
Gallwch gael £83.30 yr wythnos os ydych yn gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac maent yn cael budd-daliadau penodol.
Nid oes rhaid i chi fod yn perthyn i, neu’n byw gyda’r person rydych yn gofalu amdano.
Ni chewch fwy o dâl os ydych yn gofalu am fwy nag un person.
Os yw rhywun arall hefyd yn gofalu am yr un person â chi, dim ond un ohonoch gaiff hawlio Lwfans Gofalwr.
Gall Lwfans Gofalwr effeithio ar y budd-daliadau rydych chi a’r person rydych yn gofalu amdano yn eu cael. Mae rhaid i chi dalu treth arno os yw eich incwm dros y Lwfans Personol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn ffurf hawdd i’w ddarllen.
Sut cewch eich talu
Gallwch ddewis i gael eich talu’n wythnosol o flaen llaw neu bob 4 wythnos.
Bydd yn cael ei dalu i mewn i gyfrif, er enghraifft eich cyfrif banc.
Beth arall gallwch ei gael
Am bob wythnos rydych yn cael Lwfans Gofalwr byddwch yn cael credydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig.
Efallai y gallwch hefyd wneud cais am:
- cymorth gan eich cyngor lleol
- Gostyngiad Treth Cyngor
- Credyd Cynhwysol os ydych ar incwm isel neu allan o waith
- Credyd Pensiwn os ydych dros oedran gweithio
- grantiau a bwrsariaethau i helpu i dalu am gyrsiau a hyfforddiant
Os ydych yn byw yn yr Alban
Mae angen i chi wneud cais am Daliad Cymorth i Ofalwyr yn lle Lwfans Gofalwr.
Os ydych chi’n symud o Gymru neu Loegr i’r Alban
Os ydych chi’n cael Lwfans Gofalwr ac yn symud o Gymru neu Loegr i’r Alban, mae’n rhaid i chi:
Mae’n rhaid i chi hefyd ddweud wrth DWP a gwneud cais newydd am Daliad Cymorth i Ofalwyr os:
- rydych yn aros am ganlyniad cais am Lwfans Gofalwr
- rydych chi wedi herio penderfyniad ynghylch eich cais Lwfans Gofalwr
Bydd eich Lwfans Gofalwr yn dod i ben 13 wythnos ar ôl i chi symud – gwnewch gais am Daliad Cymorth i Ofalwyr cyn gynted â phosibl ar ôl symud neu gallai effeithio ar eich taliadau.
Os ydych yn symud o’r Alban i Gymru neu Loegr
Os ydych yn cael Taliad Cymorth i Ofalwyr, rhaid i chi:
- roi gwybod am eich symud i Nawdd Cymdeithasol yr Alban
- gwneud cais newydd am Lwfans Gofalwr
Bydd eich Taliad Cymorth i Ofalwyr yn dod i ben 13 wythnos ar ôl i chi symud - gwnewch gais am Lwfans Gofalwr cyn gynted â phosib ar ôl i chi symud neu gallai eich taliadau gael eu heffeithio.