Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Mae’n rhaid rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau os ydych yn hawlio neu wedi gwneud cais am Lwfans Gofalwr.

Gall newidiadau gynnwys:

  • dechrau swydd
  • dechrau neu orffen addysg llawn amser
  • newidiadau i’ch incwm
  • stopio bod yn ofalwr
  • nid yw’r person rydych yn gofalu amdanynt bellach yn cael eu budd-dal anabledd
  • rhywun arall sy’n gofalu am yr un person yn hawlio Lwfans Gofalwr yn eich lle
  • rhywun arall sy’n gofalu am yr un person yn hawlio’r elfen ofal o Gredyd Cynhwysol
  • newidiadau i’ch statws mewnfudo, os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os yw’r person rydych yn gofalu amdanynt yn marw.

Gallech gael eich erlyn neu’n gorfod talu cost ariannol os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu beidio â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.

Os ydych yn stopio rhoi gofal i rywun am gyfnod dros dro

Gallwch gael Lwfans Gofalwr o hyd os ydych yn stopio rhoi gofal am gyfnod dros dro. Mae hyn yn golygu unrhyw gyfnod pan rydych yn treulio llai na 35 awr yn gofalu ar gyfer y person arall.

Mae’n rhaid i’r person rydych yn gofalu amdanynt barhau i fod yn cael ei budd-dal anabledd.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i DWP os ydych yn stopio rhoi gofal am gyfnod dros dro a:

  • byddwch chi neu’r person rydych yn gofalu amdanynt mewn ysbyty, cartref gofal neu ofal seibiant am fwy na 12 wythnos
  • rydych yn stopio gofalu amdanynt am fwy na 28 diwrnod am unrhyw reswm arall

Os ydych wedi cael eich gordalu

Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian os ydych:

  • ddim wedi rhoi gwybod am newid ar unwaith
  • wedi rhoi gwybodaeth anghywir
  • wedi eich gordalu mewn camgymeriad

Gwybodaeth am sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.