Cymhwyster

Gallech fod yn gymwys i Lwfans Gofalwr os ydych chi, y person rydych yn gofalu amdano, a’r math o ofal rydych yn ei rhoi yn bodloni meini prawf penodol.

Y person rydych yn gofalu amdano

Mae rhaid i’r person rydych yn gofalu amdano fod yn cael un o’r budd-daliadau hyn eisoes:

  • Taliad Annibyniaeth Personol - yr elfen bywyd bob dydd
  • Lwfans Byw i’r Anabl - y gyfradd ganol neu uchaf o’r elfen gofal
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gweini Cyson ar neu’n uwch na’r gyfradd mwyafswm arferol gyda Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  • Lwfans Gweini Cyson ar y gyfradd sylfaenol (diwrnod llawn) gyda Phensiwn Anabledd Rhyfel
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Taliad Anabledd Plentyn - y gyfradd ganol neu uchaf o’r elfen gofal
  • Taliad Anabledd Oedolion - elfen bywyd bob dydd ar y gyfradd safonol neu uwch

Os ydych yn gofalu am y person gydag eraill

Ni allwch gael Lwfans Gofalwr os ydych yn rhannu gofal rhywun a bod y gofalwr arall eisoes yn hawlio:

Os ydych am gael Lwfans Gofalwr, siaradwch â’r gofalwr arall ynghylch newid eu budd-daliadau.

Os nad yw’r gofalwr arall eisiau gwneud hynny, gallwch wneud cais am Lwfans Gofalwr o hyd. Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) fydd yn penderfynu pwy ddylai dderbyn y budd-dal.

Y math o ofal rydych yn ei roi

Mae’n rhaid eich bod yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun. Gall hyn gynnwys:

  • helpu â golchi a choginio
  • mynd â’r person rydych yn gofalu amdano i apwyntiad meddyg
  • helpu â thasgau yn y cartref, fel rheoli biliau a siopa

Eich cymhwyster

Mae’n rhaid i bob un o’r canlynol fod yn berthnasol:

  • rydych yn 16 oed neu drosodd
  • rydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun
  • rydych wedi bod yng Nghymru, Lloegr, neu’r Alban am o leiaf 2 o’r 3 blynedd ddiwethaf (nid yw hyn yn berthnasol os ydych yn ffoadur neu os oes gennych statws amddiffyniad dyngarol)
  • rydych fel arfer yn byw yng Nghymru, Lloegr, neu’r Alban, neu rydych yn byw dramor fel aelod o’r lluoedd arfog (efallai y byddwch yn parhau i fod yn gymwys os ydych yn symud i neu eisoes yn byw mewn gwlad o’r AEE neu’r Swistir)
  • nid ydych mewn addysg llawn amser
  • nid ydych yn astudio am 21 awr neu fwy yr wythnos
  • nid ydych yn destun i reolaeth mewnfudo
  • mae eich enillion yn £151 neu’n llai yr wythnos ar ôl treth, Yswiriant Gwladol, a threuliau

Os ydych yn byw yn Ninas Dundee, Perth a Kinross neu Ynysoedd y Gorllewin, mae angen i chi wneud cais am Daliad Cymorth i Ofalwyr yn lle Lwfans Gofalwr.

Os ydych o’r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, fel rheol mae angen statws sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog i chi a’ch teulu o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE i gael Lwfans Gofalwr. Y dyddiad cau i wneud cais i’r cynllun oedd 30 Mehefin 2021 i’r mwyafrif o bobl, ond efallai y byddwch chi’n dal i allu gwneud cais. Gwiriwch a allwch barhau i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE.

Os yw eich enillion weithiau dros £151 yr wythnos gallech fod yn gymwys i Lwfans Gofalwr o hyd. Efallai bydd eich enillion ar gyfartaledd yn cael ei gyfrifo i weithio allan a ydych yn gymwys.

Cyfrifo eich enillion

Eich enillion yw unrhyw incwm o gyflogaeth neu hunangyflogaeth ar ôl treth, yswiriant gwladol, a threuliau.

Gall treuliau gynnwys:

  • 50% o’ch cyfraniadau pensiwn
  • offer sydd ei angen arnoch i wneud eich gwaith, er enghraifft dillad arbenigol
  • costau teithio rhwng gwahanol weithleoedd nad ydynt yn cael eu talu gan eich cyflogwr, er enghraifft costau tanwydd neu drên
  • costau busnes os ydych yn hunangyflogedig, er enghraifft cyfrifiadur rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer gwaith yn unig

Os ydych yn talu gofalwr i ofalu am y person anabl neu’ch plant tra byddwch yn gweithio, gallwch drin costau gofal sy’n llai na neu’n gyfartal i 50% o’ch enillion fel treuliau. Ni ddylai’r gofalwr fod eich priod, eich partner, eich rhiant, neu’n blentyn na brawd neu chwaer i chi.

Enghraifft Rydych yn ennill £100 yr wythnos (ar ôl treth, Yswiriant Gwladol, a threuliau eraill) ac yn gwario £60 yr wythnos ar ofal tra rydych yn gweithio. Gallwch drin £50 o hyn fel treuliau.

Mae taliadau nad ydynt yn cyfrif fel enillion yn cynnwys:

  • arian a dderbynir o bensiwn galwedigaethol neu breifat
  • cyfraniadau tuag at eich costau byw neu lety gan rywun rydych yn byw gyda hwy (ni allant fod yn denant neu’n lletÿwr)
  • y £20 cyntaf yr wythnos a 50% o weddill unrhyw incwm a wnewch gan rywun sy’n lletya yn eich cartref
  • benthyciad neu daliad ymlaen llaw gan eich cyflogwr

Os ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth

Ni allwch gael swm llawn o Lwfans Gofalwr a’ch Pensiwn y Wladwriaeth ar yr un pryd.

Os yw eich pensiwn yn £81.90 yr wythnos neu’n fwy, ni chewch daliad Lwfans Gofalwr.

Os yw eich pensiwn yn llai na £81.90 yr wythnos, cewch daliad Lwfans Gofalwr i wneud y gwahaniaeth i fyny.

Os ydych yn cael Credyd Pensiwn

Os yw eich Pensiwn y Wladwriaeth yn fwy na £81.90 yr wythnos ni chewch daliad Lwfans Gofalwr ond caiff eich Credyd Pensiwn ei gynyddu yn lle.

Os nad ydych yn gymwys

Efallai y byddwch yn gymwys am Gredyd Gofalwr os nad ydych yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr.