Lwfans Gofalwr: hysbysu newidiadau

Mae’n rhaid i chi hysbysu newid mewn amgylchiadau os ydych yn hawlio neu wedi gwneud cais am Lwfans Gofalwr, er enghraifft os:

  • rydych yn newid, dechrau neu gadael eich swydd
  • rydych yn dechrau ennill mwy na £151 yr wythnos
  • rydych yn stopio bod yn ofalwr
  • rydych yn stopio darparu o leiaf 35 awr o ofal yr wythnos
  • rydych yn cymryd gwyliau neu’n mynd i’r ysbyty – hyd yn oed os ydych yn trefnu gofal tra rydych i ffwrdd
  • mae’r person rydych yn gofalu amdanynt yn mynd i’r ysbyty, i gartref gofal neu’n cymryd gwyliau

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i hysbysu am farwolaeth rhywun rydych yn gofalu amdanynt. Dylech ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn lle hynny.

Mae ffordd wahanol o roi gwybod am newidiadau yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Rhoi gwybod am newidiadau ar-lein

Gwnewch yn siwr bod gennych:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion y person rydych yn gofalu amdanynt
  • manylion eich newidiadau

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Bydd hyn yn cymryd tua 10 munud.

Ffyrdd eraill o hysbysu

Gallwch hefyd hysbysu newid mewn amgylchiadau i’r Uned Lwfans Gofalwr dros y ffôn neu drwy’r post.