Sut a phryd caiff eich budd-daliadau eu talu
Mae budd-daliadau fel arfer yn cael eu talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.
Os yw’ch dyddiad talu ar benwythnos neu ŵyl y banc, byddwch fel arfer yn cael eich talu ar y diwrnod gwaith cyn hyn. Gall hyn fod yn wahanol ar gyfer Budd-dal Plant.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Taliadau dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd
Bydd rhai taliadau’n cael eu gwneud yn gynharach os ydynt yn ddyledus rhwng 24 Rhagfyr 2025 a 2 Ionawr 2026.
Dywedwch wrth y swyddfa sy’n talu’ch budd-dal os nad ydych yn cael eich taliad ar y diwrnod y mae wedi’i drefnu.
| Pryd mae eich taliad yn ddyledus | Pryd y bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu | Pryd y bydd budd-daliadau eraill yn cael eu talu (nid Credyd Cynhwysol) |
|---|---|---|
| Dydd Mercher 24 Rhagfyr | Dydd Mercher 24 Rhagfyr | Dydd Mawrth 23 Rhagfyr |
| Dydd Iau 25 Rhagfyr | Dydd Mercher 24 Rhagfyr | Dydd Mawrth 23 Rhagfyr |
| Dydd Gwener 26 Rhagfyr | Dydd Mercher 24 Rhagfyr | Dydd Mawrth 23 Rhagfyr |
| Dydd Iau 1 Ionawr | Dydd Mercher 31 Rhagfyr | Dydd Mercher 31 Rhagfyr |
| Dydd Gwener 2 Ionawr (Yr Alban yn unig) | Dydd Gwener 2 Ionawr | Dydd Mercher 31 Rhagfyr |
Mae gwahanol ddyddiadau ar gyfer taliadau Budd-dal Plant ar wyliau banc.
Pa mor aml y cewch eich talu
| Pa mor aml y caiff ei dalu | |
|---|---|
| Lwfans Gweini | Fel arfer, bob 4 wythnos |
| Lwfans Gofalwr | Yn wythnosol o flaen llaw neu bob 4 wythnos |
| Budd-dal Plant | Fel arfer bob 4 wythnos - neu’n wythnosol os ydych yn rhiant unigol neu eich bod chi neu’ch partner yn cael budd-daliadau penodol. |
| Lwfans Byw i’r Anabl | Fel arfer bob 4 wythnos |
| Lwfans Cyflogaeth a Chymorth | Fel arfer bob 2 wythnos |
| Cymhorthdal Incwm | Fel arfer bob 2 wythnos |
| Lwfans Ceisio Gwaith | Fel arfer bob 2 wythnos |
| Lwfans Mamolaeth | Bob 2 neu 4 wythnos |
| Credyd Pensiwn | Fel arfer bob 4 wythnos |
| Taliad Annibyniaeth Personol | Fel arfer bob 4 wythnos |
| Pensiwn y Wladwriaeth | Fel arfer bob 4 wythnos |
| Credydau Treth, fel Credydau Treth Gwaith | Bob 4 wythnos neu’n wythnosol. Gwiriwch eich dyddiad talu os ydych yn cael eich talu bob 4 wythnos. |
| Credyd Cynhwysol | Yn fisol |
Sut y caiff eich budd-daliadau eu talu
Byddwn yn gofyn am eich manylion cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd pan fyddwch yn gwneud cais. Dim ond os oes gennych broblemau gydag agor neu reoli cyfrif y gallech gael eich talu mewn ffordd arall.
Os na allwch agor neu reoli cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd
Cysylltwch â’r swyddfa sy’n talu eich budd-dal i ddarganfod sut i’w gael wedi’i dalu.
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, ffoniwch y Llinell gymorth Credyd Cynhwysol.
Talu budd-daliadau yn ôl
Gallwch ad-dalu budd-daliadau neu lwfansau a gewch os nad ydych yn teimlo eich bod eu hangen.
Ysgrifennwch at yr adran sydd wedi talu’r budd-dal. Bydd eu cyfeiriad ar unrhyw lythyr rydych wedi’i dderbyn ganddynt.
Dylech gynnwys siec yn daladwy i’r adran, ynghyd â:
• eich rhif Yswiriant Gwladol
• manylion y taliad, fel y dyddiad a’r swm.
Dim ond os ydych wedi cael eich gordalu y gallwch ad-dalu credydau treth neu Fudd-dal Plant.