Credyd Cynhwysol
Beth yw Credyd Cynhwysol
Mae Credyd Cynhwysol yn daliad i’ch helpu gyda’ch costau byw. Mae’n cael ei dalu’n fisol – neu ddwywaith y mis i rai pobl yn yr Alban.
Efallai y gallwch ei gael os ydych ar incwm isel, allan o waith neu ni allwch weithio.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ewch I Credyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon.
Os ydych yn cael budd-daliadau’n barod
Bydd Credyd Cynhwysol yn disodli’r budd-daliadau canlynol:
- Credyd Treth Plant
- Budd-dal Tai
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
- Credyd Treth Gwaith
Os ydych yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau hyn ar hyn o bryd, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth oni bai:
- bod gennych newid mewn amgylchiadau y mae’n rhaid i chi roi gwybod amdanynt
- mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu â chi ynglŷn â symud i Gredyd Cynhwysol
Os ydych yn cael Credydau Treth, byddant yn dod i ben pan fyddwch chi neu’ch partner yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Gwiriwch sut mae Credydau Treth a Chredyd Cynhwysol yn effeithio ar ei gilydd.
Premiwm anabledd difrifol
Ni allwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os naill ai:
- rydych yn cael y premiwm anabledd difrifol, neu rydych yn gymwys iddo
- rydych wedi cael neu yn gymwys i gael y premiwm anabledd difrifol yn y mis diwethaf ac rydych yn dal yn gymwys iddo
Os oes gennych newid mewn amgylchiadau sy’n effeithio’r premiwm anabledd difrifol neu eich budd-daliadau eraill, rhowch wybod amdano a dywedir wrthych beth i’w wneud nesaf.
Mewngofnodi
Mewngofnodwch i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol os oes gennych un yn barod.