Mewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol
Mewngofnodwch i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol i:
- gwneud cais am daliad ymlaen llaw o’ch taliad cyntaf
- gweld eich datganiad
- rhoi gwybod am newid i’ch amgylchiadau
- gweld pryd fydd eich taliad nesaf
- gweld eich ymrwymiad hawlydd
- gwirio eich rhestr o bethau i’w gwneud (er enghraifft, os yw eich anogwr gwaith wedi trefnu apwyntiad gyda chi)
- anfon negeseuon at eich rheolwr achos neu’ch anogwr gwaith gan ddefnyddio eich dyddlyfr
Efallai y bydd yn cymryd ychydig ddyddiau i’ch rheolwr achos neu’ch anogwr gwaith ateb. Fel arfer, byddwch yn cael neges destun neu e-bost os yw’ch dyddlyfr neu’ch rhestr o bethau i’w gwneud wedi’i diweddaru.
Defnyddiwch yr enw defnyddiwr a chyfrinair a ddefnyddiwyd gennych pan wnaethoch gais am Gredyd Cynhwysol. Gallwch ofyn i gael eich atgoffa os nad ydych yn siŵr.
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).