Cymhwyster

Gall Budd-dal Tai eich helpu i dalu’ch rhent os ydych yn ddi-waith, ar incwm isel neu’n hawlio budd-daliadau. Mae’n cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Dim ond os yw’r naill neu’r llall o’r rhain yn berthnasol y gallwch wneud cais newydd am Fudd-dal Tai:

Rydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych yn sengl gallwch wneud cais newydd am Fudd-dal Tai.

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn byw gyda’ch partner

Gallwch wneud cais newydd am Fudd-dal Tai os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi a’ch partner wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • mae un ohonoch wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac wedi dechrau hawlio Credyd Pensiwn (i chi fel cwpl) cyn 15 Mai 2019
  • rydych mewn tai â chymorth, cysgodol neu dros dro

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth a bod gennych gais sy’n bodoli eisoes

Ni fydd eich cais presennol yn cael ei effeithio os oeddech, cyn 15 Mai 2019:

  • yn cael Budd-dal Tai
  • wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Does dim ots os yw’ch partner o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid a bod eich Budd-dal Tai yn cael ei stopio, ni allwch ddechrau ei gael eto oni bai eich bod chi a’ch partner yn gymwys i wneud cais newydd.

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os nad ydych yn gymwys.

Os ydych mewn tai â chymorth, cysgodol neu dros dro

Gallwch wneud cais newydd os:

  • rydych yn byw mewn llety dros dro, fel Gwely a Brecwast a drefnir gan eich cyngor
  • rydych yn byw mewn lloches i oroeswyr cam-drin domestig
  • rydych yn byw mewn tai cysgodol neu gefnogol (fel hostel) sy’n darparu ‘gofal, cefnogaeth neu oruchwyliaeth’ i chi

Os na chewch ‘ofal, cefnogaeth neu oruchwyliaeth’ trwy’ch tai â chymorth neu gysgodol, gallwch wneud cais am Credyd Cynhwysol i helpu gyda chostau tai.

Os ydych chi mewn tai â chymorth, cysgodol neu dros dro, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol i helpu gyda chostau byw eraill.

Pryd efallai na fyddwch yn gallu hawlio

Fel arfer, ni fyddwch yn cael Budd-dal Tai os:

  • mae eich cynilion dros £16,000 - oni bai eich bod yn cael Credyd Gwarantedig o Gredyd Pensiwn
  • rydych yn talu morgais ar eich cartref eich hun - efallai y gallwch chi gael Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI)
  • rydych yn byw yng nghartref perthynas agos
  • rydych eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol (oni bai eich bod mewn tai dros dro neu â chymorth)
  • rydych yn byw gyda’ch partner ac maent eisoes yn hawlio Budd-dal Tai
  • rydych yn fyfyriwr llawn amser
  • rydych yn byw yn y DU fel ceisiwr gwaith Ardal Economaidd Ewropeaidd
  • rydych yn geisiwr lloches neu wedi’ch noddi i fod yn y DU
  • rydych yn destun rheolaeth mewnfudo ac mae eich hawl i aros yn nodi na allwch hawlio arian cyhoeddus
  • rydych yn Denant y Goron
  • rydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ond nid yw’ch partner sy’n byw gyda chi wedi gwneud hynny - oni bai bod gennych gais presennol fel cwpl cyn 15 Mai 2019

Efallai y gallwch gael cymorth arall gyda chostau tai.

Os na, bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i wirio a allwch gael Budd-dal Tai cyn i chi wneud cais