Beth fyddwch yn ei gael

Efallai y cewch help gyda’ch rhent cyfan neu ran ohono. Nid oes unrhyw swm penodol o Fudd-dal Tai a bydd yr hyn a gewch yn dibynnu a ydych chi’n rhentu’n breifat neu gan gyngor.

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i weithio allan yr hyn y gallech ei gael neu i wirio pa gymorth ychwanegol sydd ar gael.

Rhent cyngor a thai cymdeithasol

Mae faint rydych yn ei gael yn dibynnu ar:

  • eich rhent ‘cymwys’
  • os oes gennych ystafell sbâr
  • incwm eich cartref - gan gynnwys budd-daliadau, pensiynau a chynilion (dros £6,000)
  • eich amgylchiadau, er enghraifft oedran pobl yn y tŷ neu os oes gan rywun anabledd

Rhent cymwys

Eich rhent cymwys yw’r swm a ddefnyddir i gyfrifo’ch cais am Fudd-dal Tai. Eich rhent go iawn ydyw ynghyd ag unrhyw daliadau gwasanaeth y mae’n rhaid i chi eu talu (fel ar gyfer cynnal a chadw lifft neu olchfa gymunedol) ond nid pethau fel costau gwresogi neu ddŵr ar gyfer eich cartref.

Ystafelloedd gwely sbâr

Gellir lleihau eich Budd-dal Tai os ydych chi’n byw mewn tŷ cyngor neu dai cymdeithasol a bod gennych ystafell wely sbâr. Y gostyngiad yw:

  • 14% o’r ‘rhent cymwys’ ar gyfer 1 ystafell wely sbâr
  • 25% o’r ‘rhent cymwys’ ar gyfer 2 ystafell wely sbâr neu fwy

Enghraifft

Eich rhent cymwys yw £100 yr wythnos, ond mae gennych 1 ystafell wely sbâr. Mae hynny’n golygu bod eich rhent cymwys yn cael ei ostwng gan14%, i £86 yr wythnos. Bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio’r ffigwr hwnnw.

Rhannu ystafelloedd gwely

Disgwylir i’r canlynol rannu:

  • cwpl sy’n oedolion
  • 2 blentyn o dan 16 oed o’r un rhyw
  • 2 blentyn o dan 10 oed (waeth beth fo’u rhyw)

Gall y canlynol gael eu hystafell wely eu hunain:

  • oedolyn sengl (16 oed neu’n hŷn)
  • plentyn a fyddai fel arfer yn rhannu ond mae ystafelloedd gwely a rennir eisoes yn cael eu defnyddio, er enghraifft mae gennych chi 3 phlentyn a 2 eisoes yn rhannu
  • cwpl neu blant na allant rannu oherwydd anabledd neu gyflwr meddygol
  • gofalwr dros nos i chi, eich partner, eich plentyn neu oedolyn arall - dim ond os nad yw’r gofalwr yn byw gyda chi y mae hyn ond weithiau’n gorfod aros dros nos

Caniateir un ystafell wely sbâr ar gyfer:

  • gofalwr maeth cymeradwy sydd rhwng lleoliadau ond dim ond am hyd at 52 wythnos o ddiwedd y lleoliad diwethaf
  • gofalwr maeth newydd ei gymeradwyo am hyd at 52 wythnos o ddyddiad y gymeradwyaeth os na roddir plentyn gyda nhw yn ystod yr amser hwnnw

Ni fydd ystafelloedd a ddefnyddir gan fyfyrwyr ac aelodau o’r lluoedd arfog neu wrth gefn yn cael eu cyfrif fel rhai ‘sbâr’ os ydyn nhw i ffwrdd ac yn bwriadu dychwelyd adref.

Rhent preifat

Os ydych yn rhentu’n breifat, eich swm rhent cymwys yw naill ai’ch cyfradd Lwfans Tai Lleol (LHA) neu’ch rhent gwirioneddol, p’un bynnag sydd isaf. Mae’r gyfradd LHA yn seiliedig ar:

Faint allwch ei gael

Mae faint rydych yn ei gael yn dibynnu ar:

  • ffigwr isaf eich rhent ‘cymwys’ neu gyfradd LHA
  • incwm eich cartref gan gynnwys budd-daliadau, pensiynau a chynilion (dros £6,000)
  • eich amgylchiadau (er enghraifft eich oedran neu a oes gennych anabledd)

Cysylltwch â’ch cyngor lleol os ydych yn byw mewn:

  • cwch tŷ neu angorfa
  • safle carafanau
  • ystafell gydag unrhyw brydau bwyd wedi’u cynnwys yn y rhent (a elwir weithiau’n gartref preswyl)
  • hostel
  • eiddo a ddiogelir gan y Ddeddf Rhent

Eithriad

Os ydych wedi bod yn cael Budd-dal Tai ers cyn 7 Ebrill 2008, mae’r cyfyngiadau hyn ond yn berthnasol os ydych yn:

  • newid cyfeiriad
  • cael seibiant yn eich cais am Fudd-dal Tai

Sut rydych yn cael eich talu

Mae’r ffordd rydych yn cael Budd-dal Tai wedi’i ddalu gan eich cyngor yn dibynnu ar y math o denant ydych chi.

Os ydych yn:

  • tenant y cyngor, mae’n cael ei dalu i’ch cyfrif rhent (ni fyddwch yn derbyn yr arian)
  • tenant preifat neu gymdeithas dai, mae’n cael ei dalu i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu (anaml gyda siec)

Y cap ar fudd-daliadau

Mae’r cap ar fudd-dal yn cyfyngu ar gyfanswm y budd-dal y gallwch ei gael. Mae’n berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl 16 oed neu drosodd nad ydynt wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych wedi’ch effeithio, bydd eich Budd-dal Tai yn gostwng i sicrhau nad yw cyfanswm y budd-dal a gewch yn fwy na lefel y cap. Defnyddiwch y cyfrifiannell cap budd-daliadau i ddarganfod sut mae’r cap ar fudd-dal yn effeithio arnoch chi.

Apelio yn erbyn penderfyniad Budd-dal Tai

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i apelio yn erbyn penderfyniad Budd-dal Tai.