Help gyda chostau tai eraill

Ni fydd Budd-dal Tai yn cwmpasu gwresogi, dŵr poeth, ynni neu fwyd. Os ydych angen help, defnyddiwch cyfrifiannell budd-daliadau i weld beth arall y gallai fod gennych hawl iddo.

Cymorth ychwanegol i dalu’r rhent

Efallai y byddwch chi’n gallu cael arian ychwanegol gan eich cyngor lleol i helpu gyda’ch rhent a chostau tai eraill.

Gallwch wneud cais am gymorth o ‘Crisis and Resilience Fund’ eich cyngor yn Lloegr neu am ‘Daliad Tai Dewisol’ yn yr Alban neu yng Nghymru.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i wneud cais.

Help gyda chostau gwresogi

Gwiriwch pa help y gallwch ei gael gyda chostau gwresogi ac ynni.