Cefnogi eich cais

Byddwch angen darparu rhywfaint o wybodaeth a thystiolaeth i gefnogi’ch cais am Fudd-dal Tai.

Byddwch yn cael Budd-dal Tai yn gyflymach os bydd hyn ar gael pan fyddwch yn gwneud eich cais.

Byddwch angen gwybod:

  • faint o rent rydych chi’n ei dalu
  • a oes unrhyw beth arall wedi’i gynnwys yn y rhent, fel taliadau dŵr, nwy neu drydan
  • os ydych chi’n talu unrhyw daliadau gwasanaeth, gan gynnwys cynnal a chadw adeiladau neu yswiriant
  • manylion eich landlord neu asiant

Mathau arbennig o denantiaeth

Os cychwynnodd eich tenantiaeth bresennol ym 1997 neu’n gynharach a’ch bod yn rhentu gan landlord preifat, bydd angen i chi wybod a oes gennych ‘denantiaeth sicr’. Gallwch wirio’ch tenantiaeth ar wefan Shelter.

Os ydych yn byw mewn ac yn talu rhent am eiddo’r llywodraeth (‘Tenant y Goron’), nid oes gennych hawl i Fudd-dal Tai. Mae hyn yn cynnwys y lluoedd arfog sy’n byw mewn llety teulu gwasanaeth (SFA).

Tystiolaeth y bydd yn rhaid i chi ei darparu

Bydd angen i chi ddarparu dogfennau gwreiddiol, nid copïau. Mae’r dystiolaeth ategol y bydd ei hangen arnoch yn cynnwys:

  • eich slipiau cyflog diweddaraf (5 os telir yn wythnosol, neu 2 os telir yn fisol)
  • cyfriflenni banc neu gymdeithas adeiladu am y 2 fis llawn diwethaf
  • prawf o incwm neu fuddsoddiadau eraill, gan gynnwys cyfranddaliadau, ISAs neu Fondiau Premiwm
  • prawf incwm ar gyfer unrhyw rai nad ydynt yn ddibynyddion sy’n byw gyda chi, fel perthnasau sy’n oedolion neu ffrindiau

Bydd angen prawf o enw a chyfeiriad eich partner arnoch chi hefyd. Ni allwch ddefnyddio’r un ddogfen i brofi eu henw a’u cyfeiriad.

Rhowch unrhyw 2 o’r canlynol:

  • trwydded gyrru cerdyn llun y DU
  • pasbort cyfredol
  • tystysgrif geni neu briodas
  • trwydded breswylio biometreg
  • tystysgrif cofrestru neu naturoli
  • cerdyn preswylio parhaol
  • llythyr gan Gyllid a Thollau EM (HMRC) neu’r Swyddfa Gartref
  • bil cyfleustodau diweddar
  • cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu ddiweddar
  • datganiadau dyfarnu budd-daliadau diweddar

Os ydych yn rhentu gan landlord preifat

Byddwch angen darparu un o’r canlynol hefyd:

  • cytundeb tenantiaeth neu lyfr rhent
  • llythyr gan eich landlord yn cadarnhau eich tenantiaeth - fel rheol darperir hwn ar ddechrau eich tenantiaeth