Budd-daliadau a effeithir gan y cap

Mae cap ar fudd-daliadau yn gyfyngiad ar gyfanswm y budd-daliadau y gallwch ei gael. Mae’n berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl 16 oed neu drosodd nad ydynt wedi cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae’r cap ar fudd-daliadau’n effeithio ar:

  • Lwfans Profedigaeth
  • Budd-dal Plant
  • Credyd Treth Plant
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Mamolaeth
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Rhiant Gweddw (Lwfans Mam Weddw neu Bensiwn Weddw os oeddech wedi dechrau ei gael cyn 9 Ebrill 2001)
  • Credyd Cynhwysol

Efallai na fydd y cap ar fudd-daliadau yn effeithio arnoch os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol efallai na fydd y cap ar fudd-daliadau yn dechrau am 9 mis, yn dibynnu ar eich enillion.