Pan na fyddwch yn cael eich effeithio

Nid yw’r cap yn effeithio arnoch os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych yn rhan o gwpl ac mae un ohonoch o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gall y cap fod yn berthnasol.

Ni effeithir y cap arnoch os ydych chi neu’ch partner:

  • yn cael Credyd Treth Gwaith (hyd yn oed os yw’r swm a gewch yn £0)
  • yn cael Credyd Cynhwysol oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd sy’n eich rhwystro rhag gweithio (gelwir hyn yn ‘allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith’)
  • yn cael Credyd Cynhwysol oherwydd eich bod yn gofalu am rywun ag anabledd
  • yn cael Credyd Cynhwysol ac rydych chi a’ch partner yn ennill £793 neu’n fwy y mis ar y cyd, ar ôl treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol

Ni fyddwch yn cael eich effeithio gan y cap os ydych chi neu eich partner neu unrhyw blant dan 18 oed yn byw gyda chi yn cael:

  • Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
  • Taliad Annibynol y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalwr
  • Taliad Cymorth Gofalwr
  • Taliad Anabledd Plant
  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (os ydych yn cael yr elfen gymorth)
  • Lwfans Gwarcheidwad
  • Budd-dal Anafiadau Diwydiannol (a thaliadau cyfatebol fel rhan o Bensiwn Anabledd Rhyfel neu Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog)
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Pensiwn Rhyfel
  • Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Bensiwn Gŵr Gweddw

Os ydych yn cael eich effeithio, efallai na fydd y cap ar fudd-daliadau yn dechrau am 9 mis - yn dibynnu ar eich enillion.