Skip to main content

Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI)

Sgipio cynnwys

Trosolwg

Efallai y gallwch gael help tuag at daliadau llog ar:

  • y morgais ar gyfer y cartref rydych yn byw ynddo
  • unrhyw fenthyciad a ddiogelwyd yn erbyn eich cartref, os ydych yn cael Credyd Cynhwysol
  • benthyciadau a ddefnyddiwyd gennych ar gyfer gwelliannau neu atgyweiriadau i’ch cartref, os ydych yn cael Credyd Pensiwn

Enw’r help hwn yw Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI). Fel arfer, caiff SMI ei dalu’n uniongyrchol i’ch benthyciwr.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) a fformat hawdd ei ddarllen.

Mae’n cael ei dalu fel benthyciad, y bydd angen i chi ei ad-dalu gyda llog pan fyddwch yn gwerthu neu’n trosglwyddo perchnogaeth o’ch cartref. Efallai y byddwch yn gallu trosglwyddo’r benthyciad os ydych yn prynu cartref newydd.

Mae angen eich bod yn cael, budd-dal cymwys i gael SMI.

Nid oes unrhyw sicrwydd y byddwch yn cael SMI am forgais neu fenthyciad a gymerwch.

Beth na allwch ddefnyddio SMI ar ei gyfer

Ni all SMI eich help i dalu:

  • unrhyw beth tuag at bolisïau yswiriant sydd gennych
  • methu taliadau morgais (ôl-ddyledion)

Siaradwch â’ch benthyciwr

Gallech siarad â’ch benthyciwr morgais cyn i chi wneud cais am SMI.

Gall rhai benthycwyr gynnig ffyrdd eraill o helpu, fel gwyliau talu dros dro, taliadau llog yn unig neu ymestyn tymor eich morgais i leihau taliadau misol.

Cymorth a chefnogaeth

Gwiriwch a allwch gael cymorth costau byw.

Gallwch gael gwybodaeth am ddim am gymorth tai gan: