Cymhwysedd

I fod yn gymwys i gael benthyciad Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI), mae angen i chi fod yn cael un o’r budd-daliadau cymwys canlynol:

Cysylltwch â’r swyddfa berthnasol i weld a ydych yn gymwys am SMI.

Gallwch ddechrau cael y benthyciad:

  • o’r dyddiad y byddwch yn dechrau cael Credyd Pensiwn
  • ar ôl i chi hawlio Cymhorthdal Incwm, JSA yn seiliedig ar incwm neu ESA yn seiliedig ar incwm am 39 wythnos yn olynol
  • ar ôl i chi gael Credyd Cynhwysol am 3 mis yn olynol neu symud i Gredyd Cynhwysol o fewn mis i fudd-dal arall ddod i ben ac rydych chi wedi treulio cyfanswm o 3 mis yn cael y budd-daliadau hyn

Os gwnaethoch stopio cael SMI oherwydd gwnaethoch stopio cael budd-dal cymwys

Byddwch yn dechrau cael SMI eto yn syth os:

  • gwnaethoch stopio cael Credyd Cynhwysol ond wnaethoch ddechrau ei gael eto o fewn 6 mis
  • gwnaethoch stopio cael Credyd Pensiwn a gwnaethoch symud i Gredyd Cynhwysol
  • gwnaethoch stopio cael Cymhorthdal Incwm, JSA yn seiliedig ar incwm neu ESA yn seiliedig ar incwm, a gwnaethoch gais am Gredyd Cynhwysol o fewn mis

Fel arall, bydd rhaid i chi aros y cyfnod arferol cyn cael SMI eto.