Ad-dalu'ch benthyciad

Bydd angen i chi ad-dalu’ch benthyciad SMI fel cyfandaliad gyda llog os ydych yn gwerthu neu’n trosglwyddo perchnogaeth o’ch cartref.

Gall y llog rydych yn ei dalu gynyddu neu ostwng, ond ni fydd y gyfradd yn newid mwy na dwywaith y flwyddyn. Y gyfradd gyfredol yw 4.5%. Byddwch yn cael gwybod os yw hyn yn mynd i newid.

Bydd llog yn cael ei ychwanegu bob blwyddyn nes bod y benthyciad wedi’i ad-dalu’n llwyr neu ei ddileu.

Os byddwch yn marw cyn i chi ad-dalu’ch benthyciad SMI, ni fydd angen ei ad-dalu os gadewir eich cartref i bartner sy’n goroesi. Bydd angen ad-dalu’r benthyciad os caiff eich cartref ei adael i unrhyw un arall neu os caiff ei werthu.

Os byddwch yn gorffen talu eich morgais, ni fydd angen i chi ad-dalu eich benthyciad SMI oni bai eich bod yn gwerthu neu’n trosglwyddo perchnogaeth o’ch cartref.

Gwerthu’ch cartref

Ni ofynnir i chi werthu eich cartref er mwyn ad-dalu’ch benthyciad SMI.

Os byddwch yn gwerthu’ch cartref, byddwch yn ad-dalu’r benthyciad SMI o’r hyn sydd ar ôl ar ôl i chi dalu:

  • eich morgais
  • unrhyw fenthyciadau gwelliannau i’r cartref
  • unrhyw fenthyciadau eraill a ddiogelwyd yn erbyn eich cartref cyn i chi ddechrau cael SMI, gan gynnwys benthyciadau gwelliannau’r cartref.

Os nad oes gennych ddigon ar ôl i ad-dalu’r holl fenthyciad SMI, bydd yn rhaid i chi dalu’r hyn y gallwch yn ôl. Bydd gweddill y benthyciad yn cael ei ddileu.

Enghraifft 1 Rydych yn gwerthu eich eiddo am £95,000. Mae gennych £35,000 o’ch morgais ar ôl i’w dalu ac mae £4,500 yn ddyledus gennych am eich benthyciad SMI. Byddwch yn cael eich gadael gyda £55,500 ar ôl ad-dalu’ch benthyciad morgais a benthyciad SMI.

Enghraifft 2 Rydych yn gwerthu eich eiddo am £80,000. Mae gennych £71,000 ar ôl i dalu eich morgais ac mae £9,600 yn ddyledus gennych ar gyfer eich benthyciad SMI. Ar ôl ad-dalu’ch morgais dim ond digon o arian sydd gennych i ad-dalu £9,000 o’ch benthyciad SMI. Bydd y £600 sy’n weddill yn cael ei ddileu ac nid oes rhaid i chi ei ad-dalu.

Os ydych yn prynu cartref newydd

Efallai y gallwch drosglwyddo’r benthyciad i’ch cartref newydd. Cysylltwch â Rheoli Benthyciadau DWP cyn gynted ag y byddwch yn gwynod eich bod yn bwriadu symud, a chyn i chi gwblhau eich gwerthiant.

Rheoli Benthyciadau DWP
Ffôn: 0800 916 0567
Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 916 0567
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Dargnfyddwch fwy am gostau galwadau

SMI Loan Management
Post Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2DS

Bydd angen i chi roi manylion cyswllt eich cyfreithiwr i Reoli Benthyciadau DWP. Byddant yn gweithio gyda’ch cyfreithiwr i drefnu i’r benthyciad gael ei symud i’ch cartref newydd.

Bydd y swyddfa sy’n talu eich budd-dal cymwys hefyd yn gwrio ps ydych yn dal i fod yn gymwys.

Ad-daliadau gwirfoddol

Os ydych am dalu’r benthyciad yn ôl yn gyflymach, gallwch hefyd wneud ad-daliadau gwirfoddol. Yr ad-daliad gwirfoddol lleiaf yw £100 neu’r balans sy’n weddill os yw’n llai na £100.

Sut i ad-dalu

Cysylltwch ag Ad-daliad Benthyciad DWP i ofyn am ‘lythyr setliad’ - bydd hyn yn dweud wrthych faint sydd angen i chi ei dalu.

Mae’r llythyr setliad ond yn para am 30 diwrnod. Os ydych chi’n gwerthu’ch cartref, arhoswch nes bod eich gwerthiant bron wedi’i gwblhau cyn gofyn am un.

Gallwch dalu dros y ffôn neu fancio ar-lein gan ddefnyddio manylion y cyfrif banc yn eich llythyr setliad.

Ad-daliad Benthyciad DWP
Ffôn: 0800 916 0567
Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 916 0567
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau