Costau ffôn a rhifau ffôn

Mae’r gost o ffonio rhif ffôn yn dibynnu ar y digidau ar ddechrau’r rhif, eich darparwr ffôn ac a ydych yn defnyddio llinell daear neu ffôn symudol.

Efallai cewch alwadau am ddim i rai rhifau fel rhan o’ch pecyn galwadau. Siaradwch â’ch darparwr ffôn.

Brasamcan yw’r costau isod. Gwiriwch â’ch darparwr ffôn i gael gwybod y gost wirioneddol, yn enwedig os ydych yn ffonio o dramor. Gall galwadau o ffonau talu costio mwy.

Cysylltwch â’ch darparwr ffôn os ydych yn cael problemau gyda chostau galwadau neu filiau ffôn. Dylech gael cyngor gan Ofcom os nad yw hyn yn datrys y mater.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Rhif yn dechrau gyda Disgrifiad Cost pob munud o linellau daear (brasamcan) Cost pob munud o ffonau symudol (brasamcan)
01
02
Rhifau daearyddol ar gyfer rhannau penodol o’r DU Hyd at 16c 3c i 65c
03
0345
Rhifau ledled y DU Hyd at 16c 3c i 65c
030 Sefydliadau nid-er-elw, elusennau a chyrff cyhoeddus Hyd at 10c 3c i 40c
07 Ffonau symudol 10c i 20c 3c i 65c
070 Rhifau personol neu ‘dilynnwch fi’ a reoleiddir gan y Phone-paid Services Authority 50c 86c
0800
0808
Gwasanaeth rhadffon Am ddim Am ddim
0843
0844
0845
Rhifau cyfradd busnes hyd at 7c a chost mynediad eich cwmni ffôn hyd at 7c a chost mynediad eich cwmni ffôn
0870
0871
0872
0873
Rhifau cyfradd busnes a reoleiddir gan y Phone-paid Services Authority hyd at 13c a chost mynediad eich cwmni ffôn hyd at 13c a chost mynediad eich cwmni ffôn
09 Rhifau cyfradd premiwm a reoleiddir gan y Phone-paid Services Authority hyd at £3.60 a chost mynediad eich cwmni ffôn, a 5c i £6 yr alwad hyd at £3.60 a chost mynediad eich cwmni ffôn, a 5c i £6 yr alwad
101 Rhif yr Heddlu nad ydynt yn rhai brys Am ddim Am ddim
105 Llinell gymorth toriad pŵer ar draws y DU Am ddim Am ddim
111 Cyngor meddygol nad ydynt yn rhai brys Am ddim Am ddim
112 Gwasanaethau argyfwng Am ddim Am ddim
116 Rhifau rhadffon Am ddim Am ddim
118 Rhifau ymholiadau rhifau ffôn a reoleiddir gan y Phone-paid Services Authority hyd at £3.65 bob 90 eiliad a chost mynediad eich cwmni ffôn hyd at £3.65 bob 90 eiliad a chost mynediad eich cwmni ffôn
999 Gwasanaethau argyfwng Am ddim Am ddim