Sut i wneud cais

Pan fyddwch yn gwneud cais am fudd-dal cymwys, gofynnir cwestiynau ychwanegol i chi am eich costau tai i ddarganfod a ydych yn gymwys i gael Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI).

Os fyddwch wedyn eisiau gwneud cais am SMI, bydd angen i chi lenwi ac arwyddo ffurflen. Nid oes angen i chi dalu ffi i wneud cais.

Cyn llenwi’r ffurflen, bydd angen i chi:

  • ddarganfod faint o fenthyciadau morgais neu welliannau’r cartref sydd gennych ar ôl i’w dalu
  • darganfod faint o log rydych yn talu ar eich benthyciadau morgais neu welliannau’r cartref
  • cael eich partner i gytuno i arwyddo’r ffurflen, os oes gennych bartner

Yna bydd angen i chi anfon y ffurflen i’ch benthyciwr i’w gwblhau. Bydd eich benthyciwr yn anfon y ffurflen wedi’i chwblhau i’r swyddfa sy’n talu eich budd-dal.

Os ydych yn gymwys ar gyfer SMI, byddwch yn cael cynnig benthyciad. Gallwch ddewis ei wrthod neu ei dderbyn.

Os byddwch yn gwrthod y cynnig i ddechrau, gallwch ei dderbyn ar unrhyw adeg cyn belled â’ch bod yn gymwys i SMI. Gall y taliadau i’ch benthyciwr gael eu hôl-ddyddio hyd at pan oedd gennych hawl gyntaf i’r benthyciad. Cysylltwch â’r swyddfa sy’n talu’ch budd-dal.

Os ydych yn cael budd-dal cymwys yn barod

Cysylltwch â’r swyddfa sy’n talu’ch budd-dal i ddarganfod a allech gael SMI.

Gall y taliadau i’ch benthyciwr gael eu hôl-ddyddio hyd at pan oedd gennych hawl gyntaf i’r benthyciad.

Os ydych cyn cael neu wedi gwneud cais am Gymhorthdal Incwm, JSA yn seiliedig ar incwm neu ESA yn seiliedig ar incwm, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith.

Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 169 0314
Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 169 0314
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 169 0310
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau

Os ydych yn cael neu wedi gwneud cais am Gredyd Pensiwn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn.

Gwasanaeth Pensiwn
Ffôn: 0800 731 0453
Ffôn testun: 0800 731 0456
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 then 0800 731 0453
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 731 0469
Ffôn testun Saesneg: 0800 731 0464
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus) Darganfyddwch fwy am gostau galwadau

Os ydych yn cael neu wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, gallwch naill ai:

  • ychwanegu neges at eich dyddlyfr ar eich cyfrif Credyd Cynhwysol
  • cysylltu â’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 1744
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch afwy m daliadau galwadau