Beth fyddwch yn ei gael

Os ydych yn gymwys i gael Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI), byddwch fel arfer yn cael help i dalu’r llog am hyd at £200,000 o’ch benthyciad neu forgais.

Fodd bynnag, gallwch dim ond cael hyd at £100,000 os byddwch naill ai’n:

Os ydych yn cael SMI yn barod ac yn symud i Gredyd Pensiwn o fewn 12 wythnos ar ôl stopio eich budd-daliadau eraill, byddwch yn dal i gael help gyda llog ar hyd at £200,000.

Y gyfradd llog a ddefnyddir i gyfrifo’r swm SMI a gewch ar hyn o bryd yw 3.16%.

Enghraifft

Mae gennych £250,000 o’ch morgais ar ôl i’w dalu ac rydych yn gymwys am SMI hyd at £200,000.

Ar y gyfradd llog SMI gyfredol, byddwch yn cael benthyciad o 3.16% o £200,000 ar draws blwyddyn. Mae hyn yn £6,320 y flwyddyn neu £526.66 y mis.

Beth fyddwch yn ei dalu’n ôl

Mae SMI yn cael ei dalu fel benthyciad. Bydd angen i chi ad-dalu’r arian a gewch gyda llog pan fyddwch yn gwerthu neu’n trosglwyddo perchnogaeth o’ch cartref (oni bai eich bod yn [symud y benthyciad i eiddo arall).

Os ydych eisiau ad-dalu’r benthyciad yn gynt, gallwch hefyd wneud ad-daliadau gwirfoddol.

Darganfyddwch fwy am sut i ad-dalu eich benthyciad SMI

Sut y telir SMI

Mae SMI fel arfer yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch benthyciwr.

Gallwch ofyn i roi’r gorau i gael SMI ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r swyddfa sy’n talu eich budd-dal.

Mae pryd y gall taliadau ddechrau yn dibynnu ar ba budd-dal rydych yn ei hawlio.

Os ydych yn cael Credyd Pensiwn

Gall taliadau ddechrau o’r dyddiad rydych yn dechrau cael Credyd Pensiwn.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol

Gall taliadau ddechrau os oes gennych Gredyd Cynhwysol am 3 mis yn olynol.

Os byddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol o fewn mis i fudd-dal arall ddod i ben, gall taliadau ddechrau pan fyddwch wedi treulio cyfanswm o 3 mis yn cael y budd-dal blaenorol hwnnw a Chredyd Cynhwysol.

Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, JSA yn seiliedig ar incwm neu ESA yn seiliedig ar incwm

Gall taliadau ddechrau pan fyddwch wedi hawlio am 39 wythnos yn olynol.