Eich ymrwymiad hawlydd

I gael taliadau Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi dderbyn cytundeb o’r enw ‘ymrwymiad hawlydd’.

Dyma gofnod o’r hyn yr ydych yn cytuno i’w wneud:

  • paratoi ac edrych am waith
  • cynyddu eich enillion, os ydych eisoes yn gweithio.

Os ydych yn byw gyda’ch partner, mae’n rhaid i’r ddau ohonoch hawlio Credyd Cynhwysol. Bydd gennych eich ymrwymiad hawlydd eich hun.

Rhaid i chi wneud popeth rydych yn cytuno iddo yn eich ymrwymiad neu gallai eich taliad gael ei ostwng neu ei stopio. Gelwir hyn yn sancsiwn.

Os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud efallai y bydd gennych 12 mis neu lai i fyw, ni fydd angen ymrwymiad hawlydd arnoch ac ni fyddwch yn cael cosb.

Cytuno ar eich ymrwymiadau

Bydd gennych gyfarfod i drafod eich ymrwymiad hawlydd, fel arfer yn y ganolfan waith. Yn y cyfarfod hwn byddwch yn trafod eich amgylchiadau ac yn siarad am unrhyw beth a allai ei gwneud hi’n anodd i chi wneud yr hyn sydd yn eich ymrwymiad. Er enghraifft, os oes gennych gyflwr iechyd meddwl, neu os ydych yn gofalu am rywun.

Rhaid i chi dderbyn eich ymrwymiad hawlydd yn eich cyfrif ar-lein neu bydd eich cais am Gredyd Cynhwysol yn cael ei stopio.

Mae eich ymrwymiad hawlydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd a bydd yn newid os bydd eich amgylchiadau’n newid. Er enghraifft, os ydych yn mynd yn sâl, mae’ch partner yn dechrau swydd neu os oes gennych blentyn.

Os oes angen i chi chwilio am waith

Efallai bydd angen chwilio am swydd. Os oes gennych swydd, efallai y bydd angen i chi chwilio am swydd sy’n talu’n well neu weithio mwy o oriau.

Mae’r hyn sydd angen i chi ei wneud yn dibynnu ar os ydych :

  • â chyflwr iechyd neu’n anabl
  • yn gofalu am rywun
  • â phlentyn o dan 13 oed
  • yn ennill uwchben swm penodol

Os nad ydych yn gallu gweithio nawr ond byddwch yn gallu yn y dyfodol, efallai bydd angen i chi baratoi ar gyfer gwaith. Gallai hyn gynnwys pethau fel ysgrifennu CV neu fynychu cwrs hyfforddiant.

Eich anogwr gwaith

Os oes angen i chi chwilio am waith, fe gewch gymorth gan ‘anogwr gwaith’. Gall eich anogwr gwaith helpu gyda phethau fel ymgeisio am swyddi, cael mynediad at hyfforddiant neu chwilio am waith yn eich ardal.

Mynychu apwyntiadau

Efallai y bydd angen i chi fynychu apwyntiadau rheolaidd. Mae’r rhain fel arfer yn y ganolfan waith, ond gallai hefyd fod dros y ffôn.

Os ydych yn colli apwyntiad, bydd angen i chi ddarparu rheswm da dros beidio â mynychu. Os na dderbynnir eich rheswm, gallech gael cosb a bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng.

Rheoli eich cais ar-lein

Bydd yn rhaid i chi reoli eich cais yn eich cyfrif ar-lein. Efallai bydd rhaid i chi ateb negeseuon, cofnodi costau gofal plant, neu ddweud wrthym beth rydych wedi’i wneud i chwilio am waith.

Cewch neges destun neu e-bost pan fydd angen i chi wneud rhywbeth yn eich cyfrif ar-lein.

Bydd yn rhaid i chi hefyd roi gwybod am newidiadau i’ch amgylchiadau.

Cael cymorth a chefnogaeth

Dylech gysylltu â’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol am gymorth yn syth os ydych:

  • yn methu gwneud cais ar-lein ac angen gwneud cais dros y ffôn
  • methu gwneud y pethau rydych wedi cytuno i’w gwneud yn eich ymrwymiad hawlydd
  • yn methu ymateb i neges na gwneud rhywbeth y gofynnir i chi yn eich cyfrif ar-lein
  • am golli apwyntiad

Efallai y byddwch yn gallu cael saib byr neu newid eich ymrwymiad hawlydd mewn argyfwng. Er enghraifft, os oes gennych farwolaeth yn y teulu neu’n wynebu perygl o fod yn ddigartref.

Help os bydd eich taliad yn cael ei stopio neu ei ostwng

Os nad ydych yn gwneud yr hyn sydd yn eich ymrwymiad hawlydd, gallech gael cosb.

Os na allwch dalu am eich anghenion rhent, gwresogi, bwyd neu hylendid oherwydd bod gennych gosb gallwch ofyn i Gredyd Cynhwysol am daliad caledi.