Sut mae eich cyflog yn effeithio eich taliadau

Os ydych chi neu’ch partner yn gweithio, bydd faint o Gredyd Cynhwysol a gewch yn dibynnu ar faint rydych yn ei ennill. Nid oes terfyn ar faint o oriau y gallwch weithio a pharhau i gael Credyd Cynhwysol.

Os bydd eich cyflog yn mynd i fyny, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn lleihau. Os byddwch yn rhoi’r gorau i weithio neu os bydd eich cyflog yn gostwng, bydd eich taliad yn cynyddu.

Mae rheolau gwahanol os ydych yn hunangyflogedig.

Am bob £1 rydych yn ei ennill drwy weithio, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn mynd i lawr 55c. Eich incwm fydd eich cyflog a’ch taliad Credyd Cynhwysol newydd.

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i weld sut mae eich Credyd Cynhwysol yn newid os yw eich cyflog yn mynd i fyny.

Bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn rhoi gwybod am eich enillion ar eich cyfer. Fel arfer bydd ond rhaid i chi roi gwybod am eich enillion misol os ydych yn hunangyflogedig.

Os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd neu blant

Gallwch ennill swm penodol cyn mae eich Credyd Cynhwysol yn dechrau cael ei leihau os ydych chi neu’ch partner naill ai:

Gelwir hyn yn ‘lwfans gwaith’. Mae faint y gallwch ei ennill cyn i’ch taliad Credyd Cynhwysol gael ei leihau yn dibynnu a ydych yn cael costau tai.

Os ydych yn cael help gyda chostau tai, bydd eich taliad yn dechrau lleihau pan fydd eich cyflog misol yn cyrraedd £404.

Os nad ydych yn cael help gyda chostau tai, bydd eich taliad yn dechrau lleihau pan fydd eich cyflog misol yn cyrraedd £673.

Pa mor aml a faint rydych yn cael eich talu

Cyfrifir swm y Credyd Cynhwysol a gewch bob mis. Gelwir hyn yn ‘cyfnod asesu misol’.

Dylai eich swm Credyd Cynhwysol aros yr un fath os:

  • yw eich cyflogwr yn talu’r un swm i chi bob mis

  • yw eich cyflogwr yn eich talu ar yr un dyddiad

  • nad yw eich amgylchiadau personol yn newid

Bydd eich swm Credyd Cynhwysol yn cael ei effeithio os:

  • nad ydych yn cael eich talu yn ystod cyfnod asesu misol

  • ydych yn cael eich talu fwy nag unwaith mewn cyfnod asesu misol

  • ydych yn ennill swm gwahanol ym mhob cyfnod asesu misol

Gallwch wirio faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn cael eich talu drwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein.

Darllenwch fwy am Gredyd Cynhwysol ac enillion.

Os yw eich taliad Credyd Cynhwysol yn dod i ben oherwydd bod eich cyflog wedi cynyddu

Wrth i’ch cyflogau chi neu eich partner gynyddu, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn lleihau nes eich bod yn ennill digon i beidio â chael Credyd Cynhwysol mwyach. Yna bydd eich taliadau yn cael eu stopio. Cewch eich hysbysu pan fydd hyn yn digwydd.

Os bydd eich cyflog yn gostwng ar ôl hyn, gallech ddod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol eto.

Os yw wedi bod yn 6 mis neu lai ers eich taliad Credyd Cynhwysol diwethaf, byddwch yn dechrau cael taliadau eto’n awtomatig. Os yw wedi bod yn fwy na 6 mis, bydd angen i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol.