Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
Sut mae’n gweithio
Gallwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd (JSA) i’ch helpu pan fyddwch chi’n chwilio am waith.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gallech gael Credyd Cynhwysol ar yr un pryd neu’n lle JSA Dull Newydd. Gwiriwch a ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol.
Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
Ni allwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm mwyach. Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.
Beth sydd angen i chi ei wneud
-
Gwnewch gais am JSA Dull Newydd ac ewch i gyfweliad yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith lleol.
-
Cadwch at eich cytundeb i chwilio am waith. Gelwir y cytundeb hwn yn ‘Ymrwymiad Hawlydd’ a byddwch yn ei greu yn eich apwyntiad.
Bydd eich taliadau JSA yn cael eu lleihau neu eu stopio os nad ydych yn cadw i’ch cytundeb i chwilio am waith ac yn methu rhoi rheswm da.
Beth fyddwch yn ei gael
Mae uchafswm y gallech ei gael – ond mae faint a gewch yn ddibynnol ar bethau fel eich oedran.
Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i wirio faint o JSA y gallwch ei gael, a sut caiff eich budd-daliadau eraill eu heffeithio.
| Oedran | Swm Wythnosol JSA |
|---|---|
| Hyd at 24 oed | hyd at £72.90 |
| 25 oed neu drosodd | hyd at £92.05 |
Gallwch gael JSA am hyd at 182 diwrnod (tua 6 mis). Ar ôl hyn gallwch siarad â’ch anogwr gwaith am eich opsiynau.
Sut y cewch eich talu
Mae pob budd-dal, pensiwn a lwfans fel arfer yn cael eu talu i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.
Eich taliad cyntaf
Efallai bydd angen i chi aros hyd at 7 diwrnod ar ôl gwneud cais i’ch JSA ddechrau, a hyd at 2 wythnos ar ôl hynny i dderbyn eich taliad cyntaf.
Efallai na fydd eich taliad y swm llawn.
Ar ôl eich taliad cyntaf
Fel arfer bydd y taliadau’n cael eu gwneud bob 2 wythnos ac mi fyddant y swm llawn.