Os ydych chi'n cael JSA yn seiliedig ar incwm

Cyn belled â’ch bod yn parhau i fod yn gymwys, byddwch yn parhau i gael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau neu incwm (JSA) tan:

Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn siarad â chi am eich opsiynau. Os ydych yn gymwys efallai y gallwch hawlio Credyd Cynhwysol.

Mae angen i chi gymryd camau rhesymol i chwilio am waith wrth gael JSA.

Rhaid i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith os yw eich amgylchiadau’n newid, er enghraifft rydych yn dechrau gweithio neu mae eich incwm yn newid.

Oriau gweithio ac incwm

Os byddwch yn dechrau gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos, efallai na fyddwch yn gymwys mwyach i gael JSA.

Efallai na fyddwch yn gymwys mwyach i gael JSA yn seiliedig ar incwm os:

  • mae’ch partner yn dechrau gweithio 24 awr neu fwy yr wythnos, neu’n cynyddu ei oriau i 16 awr neu fwy yr wythnos
  • mae eich cynilion yn cynyddu i £16,000 neu’n fwy (gan gynnwys cynilion eich partner)

Ni allwch wneud cais am JSA yn seiliedig ar gyfraniadau neu yn seiliedig ar incwm mwyach. Yn lle hynny, gwiriwch a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol a JSA Dull Newydd. Fe allech gael y ddau ar yr un pryd.