Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith os bydd eich amgylchiadau’n newid, er enghraifft, rydych yn dechrau gweithio neu os yw’ch incwm yn newid. Gallai hyn effeithio ar faint o Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) rydych yn ei gael.

Os ydych yn cael mwy nag un budd-dal, bydd angen i chi roi gwybod am eich newid i bob swyddfa budd-daliadau.

Nid yw’r dudalen hon yn ymdrin â phob newid y mae’n rhaid i chi roi gwybod amdano. Ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi roi gwybod am newid.

Efallai y bydd eich cais yn cael ei leihau neu ei stopio os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid ar unwaith.

JSA Dull Newydd

Os ydych yn cael JSA Dull Newydd, rhaid i chi roi gwybod os ydych yn:

  • newid eich enw, cyfeiriad, manylion banc neu rif ffôn
  • mynd yn sâl neu fynd i’r ysbyty
  • dechrau neu stopio gofalu am rywun
  • dechrau neu stopio addysg, hyfforddiant neu brentisiaeth
  • dechrau swydd, gan gynnwys hunangyflogaeth
  • gwneud unrhyw waith cyflogedig, di-dâl neu wirfoddol, hyd yn oed os mai dim ond am ychydig oriau

  • dechrau cael, stopio cael, neu’n cael swm gwahanol o fudd-daliadau neu bensiynau eraill
  • gadael Prydain Fawr (Lloegr, yr Alban a Chymru) am unrhyw gyfnod o amser
  • mynd ar wyliau, gan gynnwys gwyliau ym Mhrydain Fawr

JSA ar sail incwm

Os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, rhaid i chi roi gwybod am y newidiadau canlynol.

Newidiadau i fanylion personol

Mae angen i chi roi gwybod os:

  • ydych chi neu’ch partner yn newid enw, cyfeiriad, manylion banc neu rif ffôn
  • yw unrhyw un yn dechrau neu’n stopio byw gyda chi
  • rydych chi neu rywun sydd wedi’u cynnwys ar eich cais yn newid statws mewnfudo
  • rydych yn mynd ar wyliau, gan gynnwys gwyliau ym Mhrydain Fawr
  • rydych chi neu unrhyw un sy’n byw gyda chi yn gadael Prydain Fawr (Cymru, Lloegr neu’r Alban) am unrhyw gyfnod o amser
  • yw eich partner neu rywun rydych yn byw gyda nhw yn marw

Mae angen i chi roi gwybod hefyd os ydych chi, eich partner, neu unrhyw un sy’n byw gyda chi yn:

  • priodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil
  • ysgaru neu’n dod â phartneriaeth sifil i ben
  • cael babi neu’n beichiogi
  • mynd i’r carchar neu ddalfa gyfreithiol

Newidiadau i waith ac addysg

Mae angen i chi roi gwybod os ydych chi, eich partner, neu unrhyw un sy’n byw gyda chi yn:

  • dechrau neu stopio addysg, hyfforddiant neu brentisiaeth
  • dod o hyd i swydd neu’n ei gorffen, neu’n dechrau gweithio oriau gwahanol
  • rhan o anghydfod masnach, neu’n methu gweithio oherwydd anghydfod masnach (er enghraifft, os oes streic)

Ni fydd gwirfoddoli fel arfer yn effeithio ar eich JSA ond dylech roi gwybod amdano cyn i chi ddechrau.

Newidiadau i incwm a budd-daliadau

Mae angen i chi roi gwybod os bydd incwm eich cartref yn cynyddu neu’n gostwng. Dywedwch wrthym os ydych chi neu unrhyw un sy’n byw gyda chi:

  • yn cael newid i enillion
  • yn cael ôl-daliad (a elwir weithiau yn ‘ôl-ddyledion’) ar gyfer enillion o’r gwaith
  • yn cael swm gwahanol o fudd-daliadau neu bensiynau
  • yn cael newid i swm unrhyw arian arall sy’n dod i mewn (er enghraifft benthyciadau neu grantiau myfyrwyr, tâl salwch neu arian gan elusen)

Newidiadau i’ch cynilion neu asedau

Mae angen i chi roi gwybod os yw cyfanswm y cynilion ac asedau yn eich cartref yn fwy na £6,000.

Mae angen i chi hefyd roi gwybod os ydych chi neu unrhyw un sy’n byw gyda chi:

  • wedi newid faint o gynilion neu fuddsoddiadau y maent yn berchen arnynt
  • yn dod yn berchennog unrhyw dir, adeiladau neu eiddo neu’n gwerthu unrhyw dir, adeiladau neu eiddo
  • yn cael taliad untro fel etifeddiaeth neu gyfandaliad

Newidiadau i gyflwr meddygol neu anabledd

Mae angen i chi roi gwybod os:

  • oes gennych chi neu rywun sydd wedi’i gynnwys ar eich cais unrhyw newidiadau i gyflwr meddygol neu anabledd
  • rydych chi neu rywun sydd wedi’i gynnwys ar eich cais yn mynd i’r ysbyty, cartref gofal neu lety gwarchod
  • rydych chi neu rywun sydd wedi’u cynnwys ar eich cais yn dechrau neu’n stopio gofalu am rywun
  • unrhyw un yn dechrau neu’n stopio cael Lwfans Gofalwr, Taliad Cymorth Gofalwr neu swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer gofalu amdanoch

Efallai y cewch eich erlyn neu orfod talu cosb o £50 os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu anghyflawn, neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newidiadau ar unwaith.

Sut i roi gwybod

Gallwch roi gwybod am newid mewn amgylchiadau trwy:

  • ffonio llinell gymorth JSA
  • ysgrifennu at swyddfa’r Ganolfan Byd Gwaith sy’n talu eich JSA - mae’r cyfeiriad ar y llythyrau a gewch am eich JSA

Os yw eich partner neu rywun rydych yn byw gyda nhw wedi marw, gallwch ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith a sefydliadau eraill y llywodraeth ar yr un pryd gan ddefnyddio gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith

Llinell gymorth JSA a Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 169 0310
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol yn ogystal â Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd, mae’n rhaid i chi roi gwybod am newidiadau i’r ddau wasanaeth.

Os ydych wedi cael eich gordalu

Os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid ar unwaith neu os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu anghyflawn, efallai y cewch eich gordalu. Os ydych, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o’r arian yn ôl.