Eich cais JSA

Pan fyddwch yn gwneud cais am JSA, bydd eich anogwr gwaith yn gwneud cytundeb gyda chi i chwilio am waith. Gelwir y cytundeb hwn yn ‘Ymrwymiad Hawlydd’.

Gallai eich Ymrwymiad Hawlydd gynnwys:

  • beth sydd angen i chi ei wneud i chwilio am waith - er enghraifft cofrestru gydag asiantaethau recriwtio neu ysgrifennu CV
  • sawl awr yr wythnos mae angen i chi dreulio yn chwilio am waith bob wythnos

Dylech barhau i wneud popeth rydych wedi’i gytuno i’w gwneud os allwch eu gwneud yn ddiogel.

Gallwch chwilio am a gwneud cais am waith trwy ddefnyddio’r gwasanaeth ‘Dod o hyd i swydd’.

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith os yw eich amgylchiadau yn newid, er enghraifft rydych yn dechrau gweithio neu mae eich incwm yn newid.

Mynychu apwyntiadau rheolaidd

Bydd eich anogwr gwaith yn trefnu apwyntiadau gyda chi bob 1 i 2 wythnos.

Yn yr apwyntiadau hyn, rhaid i chi ddangos i’ch anogwr gwaith beth rydych wedi bod yn ei wneud i chwilio am waith, er enghraifft prawf o geisiadau am swyddi a chyfweliadau.

Os ydych wedi dioddef cam-drin domestig efallai y gallwch gael seibiant o hyd at 13 wythnos o chwilio am swydd - siaradwch â’ch anogwr gwaith os ydych angen y gefnogaeth hon.

Pryd gall eich taliad gael ei leihau neu stopio

Gall eich taliadau JSA gael eu lleihau neu eu stopio am gyfnod os nad ydych yn gwneud rhywbeth mae eich anogwr gwaith yn gofyn i chi ei wneud. Gelwir hyn yn cael ‘sancsiwn’. Er enghraifft, os:

  • nad ydych yn cymryd rhan mewn apwyntiad gyda’ch anogwr gwaith
  • nad ydych yn derbyn neu’n cadw i’ch cytundeb i chwilio am waith
  • rydych yn gwrthod swydd neu gwrs hyfforddiant
  • nad ydych yn gwneud cais am swyddi y dywedir wrthych amdanynt
  • nad ydych yn cymryd rhan mewn unrhyw gyfweliadau y cewch wahoddiad iddynt
  • nad ydych yn mynd i unrhyw hyfforddiant sydd wedi’i drefnu i chi neu gymryd rhan mewn cynlluniau cyflogaeth

Efallai y cewch sancsiwn hefyd os:

  • nad ydych ar gael i ddechrau gweithio ar unwaith
  • rydych yn dewis cymryd toriad cyflog yn eich swydd bresennol heb reswm da
  • rydych yn cael eich cyflog wedi’i dorri yn eich swydd bresennol oherwydd rhywbeth a wnaethoch, fel eich ymddygiad
  • rydych yn gadael eich swydd ddiwethaf neu hyfforddiant heb reswm da neu oherwydd eich ymddygiad

Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith cyn gynted â phosibl os oes unrhyw un o’r rhain yn berthnasol i chi. Efallai y gallwch gadw eich taliad os oes gennych reswm da.

Dywedir wrthych am ba hyd y bydd eich taliad yn cael ei leihau neu ei stopio. Gallai fod am hyd at 26 wythnos (tua 6 mis).

Os ydych eisiau gwybod am faint o amser gall eich taliad JSA gael ei leihau neu ei stopio, darllenwch rhan 3 neu ran 4 o’r canllaw ar sancsiynau JSA.

Os yw eich taliad JSA yn cael ei leihau neu ei stopio

Os bydd eich taliad yn cael ei leihau neu ei stopio, dylech chwilio am waith o hyd. Gellid atal eich taliad budd-dal yn hirach os na wnewch hynny.

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad i stopio talu, gallwch ofyn i’r penderfyniad gael ei edrych arno eto – gelwir hyn yn ‘ailystyriaeth orfodol’.

Os ydych yn anghytuno gyda chanlyniad yr ailystyriaeth orfodol, gallwch apelio i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynhaliaeth Plant.

Dylech barhau gyda unrhyw gais JSA nes bydd yr anghydfod wedi’i ddatrys.

Os ydych yn hawlio Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor

Dylech gysylltu â’ch cyngor lleol ar unwaith. Byddant yn dweud wrthych beth i’w wneud i barhau i gael cymorth.

Os yw eich cais yn cael ei gau

Os ydych yn cael JSA yn seiliedig ar incwm, efallai y bydd eich cais yn dod i ben os nad ydych ar gael am waith neu’n weithredol yn chwilio am waith.

Ni allwch wneud cais am JSA ar sail incwm eto. Yn lle, gwiriwch a ydych chi yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol ac yn gymwys ar gyfer Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd. Fe allech gael y ddau ar yr un pryd.

Taliadau caledi

Os oeddech yn hawlio JSA yn seiliedig ar incwm, efallai y gallwch gael taliad caledi os yw’ch taliadau JSA wedi’u stopio. Nid oes rhaid i chi ei dalu’n ôl.

Mae taliad caledi yn swm llai (fel arfer 60%) o’ch JSA.

Os oeddech yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd, ni allwch gael taliad caledi.

Cymhwyster

Gallwch gael taliad caledi os na allwch dalu am rent, gwres, bwyd neu anghenion hanfodol eraill i chi neu eich plentyn.

Mae’n rhaid i chi fod yn 18 neu drosodd.

Bydd yn rhaid i chi ddangos eich bod wedi ceisio dod o hyd i’r arian o rywle arall, fel benthyca gan ffrind neu weithio oriau ychwanegol.

Sut i wneud cais

Siaradwch â’ch ymgyngorydd neu anogwr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith i ddarganfod sut i wneud cais am daliad caledi.

Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau