Canllawiau

Lwfans Ceisio Gwaith: sut i gadw eich taliad budd-dal

Diweddarwyd 26 October 2021

Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am sancsiynau. Gall pa mor hir y mae sancsiwn yn para a sut mae’ch taliad yn cael ei effeithio newid yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Os cewch sancsiwn, dywedir wrthych beth mae hyn yn golygu i chi.

1. Sut mae Lwfans Ceisio Gwaith yn gweithio

Mae Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) yn fudd-dal i’ch helpu chi pan fyddwch yn ddi-waith ac yn chwilio am waith.

Pan fyddwch yn hawlio JSA, byddwch yn cyfarfod ag un o’n anogwyr gwaith yn y Ganolfan Gwaith a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i waith. Byddant yn cael gwybod am eich sefyllfa a:

  • helpu i nodi beth sy’n rhaid i chi ei wneud i ddod o hyd i waith a chadarnhau hynny yn eich Ymrwymiad Hawlydd - weithiau gelwir hyn yn Cytundeb Ceisio Gwaith
  • eich cyfarfod yn rheolaidd i adolygu eich cynnydd

Efallai y bydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych i gymryd rhan mewn cynllun cyflogaeth. Mae cynlluniau cyflogaeth yn cael eu darparu gan sefydliadau arbenigol i’ch helpu i ddod o hyd i ac aros mewn gwaith. Efallai y bydd eich darparwr cynllun hefyd yn nodi pethau y mae’n rhaid i chi ei wneud i ddod o hyd i waith.

Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud popeth o fewn eich gallu i ddod o hyd i waith. Yn gyfnewid, byddwch yn cael eich taliad budd-dal a’n cefnogaeth. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud popeth o fewn eu gallu. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallai eich taliad budd-dal gael ei atal neu gallai eich cais gael ei gau. Gelwir hyn yn ‘sancsiwn’.

2. Beth sydd rhaid i chi ei wneud i gadw’ch taliad budd-dal

Bydd y rheswm pam wnaeth eich swydd ddiwethaf ddod i ben bob amser yn cael ei wirio, a gall budd-dal gael ei atal os cawsoch eich diswyddo am gamymddwyn, neu eich bod wedi gadael heb reswm da. Unwaith y byddwch yn dechrau cael taliad budd-dal, bydd hyn yn parhau cyn belled eich bod:

  • ar gael i weithio ac yn cytuno i wneud y pethau yn eich Ymrwymiad Hawlydd (Cytundeb Ceisio Gwaith)
  • mynd i gyfarfodydd ar amser gyda’ch anogwr gwaith a chymryd rhan mewn cyfweliadau
  • gwneud cais am swyddi addas mae eich anogwr gwaith yn dweud wrthych amdanynt
  • gwneud popeth mae eich anogwr gwaith yn dweud wrthych i’w wneud i ddod o hyd i waith, fel mynychu cwrs hyfforddiant neu ddiweddaru eich CV
  • cymryd rhan mewn cynlluniau cyflogaeth pan fydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych i wneud hynny - bydd angen i chi:
    • gyfarfod â’ch darparwr cynllun cyflogaeth ar amser a gwneud y pethau y maent yn dweud wrthych ei wneud i ddod o hyd i waith
    • parhau i gyfarfod â’ch anogwr gwaith a gwneud yr hyn y maent yn dweud wrthych i’w wneud
  • gwneud popeth y gallwch i ddod o hyd i waith

Os nad ydych yn gallu gwneud, neu heb wneud y pethau hyn, dywedwch wrth eich anogwr gwaith neu ddarparwr cynllun cyflogaeth pam ar unwaith.

Byddwch yn cael eich taliad budd-dal os gallwch ddangos bod gennych reswm da dros beidio â gwneud yr hyn y dywedwyd wrthych i’w wneud. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch, cyn gynted ag y bo modd. Er enghraifft, ffoniwch eich anogwr gwaith cyn gynted â phosibl cyn cyfweliad os nad ydych yn gallu bod yn bresennol. Dywedwch wrthynt pam. Gall eich anogwr gwaith ddefnyddio’r amser hwn i helpu eraill i ddod o hyd i waith, a byddwch yn dal i gael eich taliad budd-dal os byddwn yn penderfynu bod gennych reswm da dros beidio â mynd.

Os na wnewch y pethau hyn, ac nid oes gennych reswm da, gellid stopio neu leihau’ch taliad budd-dal neu gellid dod â’ch hawl i ben.

Mae’n bwysig eich bod yn deall popeth y mae angen i chi ei wneud i gael eich taliad budd-dal a beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn ei wneud. Gofynnwch i’ch anogwr gwaith i egluro os nad ydych yn siwr.

Mae’r rheswm y gallai eich taliad budd-dal gael ei atal neu ei leihau yn dibynnu a ydych chi’n cael JSA Dull Newydd neu JSA yn seiliedig ar incwm.

Byddwch yn cael JSA Dull Newydd os gwnaethoch gais ar neu ar ôl 27 Ionawr 2021.

Byddwch yn cael JSA yn seiliedig ar incwm os gwnaethoch gais cyn 27 Ionawr 2021 ac wedi bod yn cael JSA ers hynny heb seibiant.

3. Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd

Gellid stopio neu leihau’ch Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd gan ddibynnu ar sut daeth eich swydd ddiwethaf i ben. Gellid ei stopio neu ei leihau os na wnewch rywbeth mae eich anogwr gwaith wedi dweud wrthych am ei wneud neu’r hyn rydych wedi ei gytuno arno yn eich Ymrwymiad Hawlydd, heb fod gennych reswm da. Gelwir hyn yn sancsiwn.

Mae 3 gwahanol lefel o sancsiynau a phenderfynir arnynt yn seiliedig ar beth a wnaethoch a pha mor aml.

Sancsiynau lefel isel i Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd

Efallai cewch sancsiwn lefel isel os:

  • nad ydych yn cymryd rhan mewn cyfarfod â’ch anogwr gwaith
  • nad ydych yn cymryd rhan mewn rhaglen cyflogaeth
  • nad ydych yn gwneud rhywbeth gwnaethoch ei gytuno â’ch anogwr gwaith i’ch helpu i symud i neu’n nes at waith
  • nad ydych yn gwneud rhywbeth i edrych am waith gwnaethoch ei gytuno â’ch anogwr gwaith

Gellir stopio neu leihau’ch taliad budd-dal am gyhyd â nad ydych yn gwneud yr hyn mae eich anogwr gwaith yn gofyn i chi ei wneud. Felly cyn cynted y gwnewch hyn, cyn lleied o arian y collwch. Ar ôl hyn, caiff ei stopio am 7 diwrnod ychwanegol, neu am hyd at 28 diwnrod os ydych wedi cael sancsiwn lefel isel arall yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Efallai na chaiff eich budd-dal ei stopio na’i leihau os gallwch ddangos bod gennych reswm da am beidio â gwneud unrhyw rai o’r pethau hyn.

Sancsiynau lefel canol am Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd

Efallai cewch sancsiwn lefel canol os:

  • nad ydych yn gwneud popeth a allwch i chwilio am waith
  • nad ydych ar gael i ddechrau gwaith yn syth

Efallai na chaiff eich budd-dal ei stopio na’i leihau os gallwch ddangos bod gennych reswm da am beidio â gwneud unrhyw rai o’r pethau hyn.

Sancsiwn Am faint caiff eich taliad budd-dal ei stopio
1. Sancsiwn lefel canol cyntaf 28 diwrnod
2. Os ydych wedi cael sancsiwn lefel canol arall yn y flwyddyn ddiwethaf 91 diwrnod

Sancsiynau lefel uchel am Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd

Efallai cewch sancsiwn lefel uchel os:

  • ydych yn gadael swydd heb reswm da
  • ydych yn colli swydd oherwydd eich ymddygiad
  • ydych yn colli tâl heb reswm da
  • ydych yn colli tâl oherwydd eich ymddygiad
  • nad ydych yn gwneud gaid cais am swydd
  • nad ydych yn cymryd swydd

Efallai na chaiff eich budd-dal ei stopio na’i leihau os gallwch ddangos bod gennych reswm da am beidio â gwneud unrhyw rai o’r pethau hyn.

Sancsiwn Am faint caiff eich taliad budd-dal ei stopio
1. Sancsiwn lefel uchel cyntaf Hyd at 91 diwrnod
2. Os ydych wedi cael sancsiwn lefel uchel arall yn y flwyddyn ddiwethaf Hyd at 182 diwrnod

4. Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm

Efallai y gall atal eich taliad budd-dal am rhwng 4 wythnos a 26 wythnos (tua 6 mis). Gelwir hyn yn sancsiwn. Mae 3 lefel o sancsiwn; lefel is, canolradd neu uwch. Mae lefel a hyd eich cosb yn dibynnu ar:

  • y rheswm rydych yn hawlio JSA - er enghraifft, os cawsoch eich diswyddo am gamymddwyn o’ch swydd ddiwethaf, neu ei adael heb reswm da
  • beth nad ydych wedi’i wneud i ddod o hyd i waith
  • p’un a ydych wedi derbyn sancsiwn cynharach yn y flwyddyn ddiwethaf, neu bod eich cais wedi cael ei gau, a’r rheswm(rhesymau) dros hynny

Sancsiynau lefel isel a chanol ar gyfer Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm

Efallai y byddwch yn cael sancsiwn lefel isel (4 neu 13 wythnos) os:

  • nad ydych yn mynd i gyfarfodydd ar amser gyda’ch anogwr gwaith neu gymryd rhan mewn cyfweliadau
  • nad ydych yn gwneud yr hyn mae eich anogwr gwaith yn dweud wrthych i’w wneud i ddod o hyd i waith, fel mynychu cwrs hyfforddi neu ddiweddaru eich CV
  • nad ydych yn cymryd rhan mewn cynlluniau cyflogaeth pan fydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych i wneud hynny
  • nad ydych yn cyfarfod eich darparwr cynllun cyflogaeth ar amser neu gymryd y camau maent yn dweud wrthych i’w cymryd
  • rydych yn colli lle ar gynllun cyflogaeth trwy camymddygiad neu roi’r gorau i lle ar gynllun yn wirfoddol.

Efallai y byddwch yn cael cosb lefel canolradd (4 neu 13 wythnos), ac efallai y bydd eich cais yn cael ei gau, os:

  • nad ydych ar gael i weithio ac wrthi’n chwilio am waith
Sancsiwn Am faint o amser fydd eich taliad budd-dal yn cael ei atal
1. Y sancsiwn lefel is neu ganolradd cyntaf ym mhob cyfnod o 52 wythnos 4 wythnos
2. Pob sancsiwn ar yr un lefel yn y 2 wythnos nesaf 4 wythnos
3. Unrhyw sancsiwn pellach ar yr un lefel o fewn 52 wythnos o’r un olaf 13 wythnos (tua 3 mis)

Sancsiynau lefel uchel ar gyfer Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm

Byddwch yn cael sancsiwn lefel uwch (13 i 26 wythnos) os:

  • cawsoch eich diswyddo am gamymddwyn o’ch swydd ddiwethaf
  • gadawsoch eich swydd ddiwethaf heb reswm da
  • nad ydych yn gwneud cais am swyddi addas mae eich anogwr gwaith neu ymgynghorydd cynllun cyflogaeth yn dweud wrthych amdanynt
  • nad ydych yn cymryd swydd y mae eich anogwr gwaith neu ymgynghorydd cynllun cyflogaeth wedi dweud wrthych amdano os caiff ei gynnig i chi
Sancsiwn Am faint o amser fydd eich taliad budd-dal yn cael ei atal
1. Sancsiwn lefel uwch cyntaf ym mhob cyfnod o 52 wythnos 13 wythnos (tua 3 mis)
2. Pob sancsiwn lefel uwch yn y 2 wythnos nesaf 13 wythnos (tua 3 mis)
3. Sancsiwn lefel uwch arall yn y 52 wythnos nesaf 26 wythnos (tua 6 mis)
4. Pob sancsiwn lefel uwch yn y 2 wythnos nesaf 26 wythnos (tua 6 mis)
5. Sancsiwn lefel uwch arall o fewn 52 wythnos o’ch un olaf 26 wythnos (tua 6 mis)

Beth i’w wneud os caiff eich Lwfans Ceisio Gwaith ei stopio neu ddaw eich hawl i ben

Gwnewch popeth y gallwch i ddod o hyd i waith

Os bydd eich taliad budd-dal yn cael ei atal, dylech barhau i wneud popeth o fewn eich gallu i ddod o hyd i waith, gan gynnwys mynychu cyfweliadau gyda’ch anogwr gwaith. Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallai eich taliad budd-dal gael ei atal am gyfnod hirach neu gallai eich cais gael ei gau.

Os daw eich hawl i ben

Ni allwch wneud cais eto am Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm. Bydd rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Budd-dal Tai a threth cyngor

Efallai y bydd eich cyngor lleol angen gwybodaeth gennych er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich gostyngiad Budd-dal Tai a threth y cyngor. Os bydd eich taliad budd-dal yn cael ei atal, neu bod eich cais yn cael ei gau, dylech gysylltu â hwy ar unwaith.

Taliadau caledi

Os yw eich Lwfans Ceisio Gwaith yn cael ei stopio, ac nid oes gennych ddigon o arian i fyw arno, efallai gallwch gael taliad caledi. Mae hwn yn swm gostyngedig o Lwfans Ceisio Gwaith.

Ffoniwch 0800 328 1744 os ydych eisiau deall mwy am daliadau caledi a ph’un a allwch chi wneud cais. Byddwch ond yn gallu cael taliad caledi os nad yw eich cais wedi’i gau ac rydych chi’n gwneud popeth y gallwch i ddod o hyd i waith.

5. Beth i’w wneud os ydych yn anghytuno â phenderfyniad i stopio’ch taliad budd-dal neu i ddod â’ch hawl i ben

Cam 1: Rhowch y wybodaeth llawn i ni

Os dywedir wrthych efallai y bydd eich taliad budd-dal yn cael ei atal, neu efallai y bydd eich cais yn cael ei gau, dylech ddarparu gwybodaeth newydd ar unwaith am pam nad ydych wedi gwneud y pethau y dywedwyd wrthych i’w gwneud.

Bydd swyddog penderfyniadau o’r Adran Gwaith a Phensiynau, yn hytrach na’ch anogwr gwaith neu ddarparwr cynllun cyflogaeth, yn penderfynnu os oes gennych reswm da. Os byddant yn penderfynu nad oes gennych reswm da, byddant yn penderfynu am faint o amser i atal eich taliad budd-dal, neu i gau eich cais.

Gallwch gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith i ofyn pam mae penderfyniad wedi ei wneud.

Cam 2: Gofyn i ni ailystyried y penderfyniad

Os ydych yn credu bod penderfyniad yn anghywir, gallwch ofyn i ni edrych arno eto o fewn 1 mis iddo gael ei wneud.

Os ydych wedi gofyn i ni am ddatganiad ysgrifenedig o resymau bydd gennych 14 diwrnod ychwanegol i ofyn i ni edrych ar y penderfyniad eto.

Eglurwch pam fod y penderfyniad yn anghywir a dangoswch unrhyw dystiolaeth sydd gennych. Pan fyddwn wedi edrych ar yr hyn rydych wedi’i ddweud wrthym, byddwn yn anfon llythyr i ddweud wrthych yr hyn sydd wedi’i benderfynu a pham.

Rydym yn galw’r llythyr hwn yn ‘Hysbysiad Ailystyriaeth Orfodol’.

Cam 3: Apêl

Os ydych yn anghytuno â’r Hysbysiad Ailystyriaeth Orfodol, gallwch apelio i dribiwnlysv. Mae’n rhaid i chi aros am yr Hysbysiad Ailystyriaeth Orfodol cyn i chi ddechrau apêl.