Cysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith

Neidio i gynnwys y canllaw

Sut i gysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith

Gallwch gysylltu â‘r Ganolfan Byd Gwaith am:

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Cysylltu â‘ch Canolfan Byd Gwaith lleol

Os ydych eisiau cysylltu â‘ch swyddfa agosaf, gallwch ddod o hyd i’w manylion drwy ddefnyddio chwilio am swyddfa leol.

Gallwch ysgrifennu at eich swyddfa agosaf drwy ddefnyddio eu cyfeiriad o’r chwiliad swyddfa leol. Bydd eu cyfeiriad hefyd ar unrhyw lythyrau a anfonwyd atoch.

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon

Am Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) a Chymhorthdal Incwm, cysylltwch â’r Jobs and Benefits office. Am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), cysylltwch â’r ESA Centre.

Cwyno am y Ganolfan Byd Gwaith

Gallwch gwyno am y gwasanaeth rydych wedi ei dderbyn gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Dod o hyd i swydd

Defnyddiwch y gwasanaeth ‘Dod o hyd i swydd (Paru Swyddi Ar-lein yn flaenorol).

Cael rhif Yswiriant Gwladol

Gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol neu ddod o hyd i rhif Yswiriant Gwladol os ydych wedi ei golli.

Os ydych yn gyflogwr

Hysbysebwch swydd neu dewch o hyd i wasanaethau recriwtio o’r Ganolfan Byd Gwaith.