Dod o hyd i rif Yswiriant Gwladol sydd ar goll

Os nad ydych yn gwybod beth yw’ch rhif Yswiriant Gwladol, y ffordd hawsaf a chyflymaf o ddod o hyd iddo yw:

  • ar-lein, drwy’ch Cyfrif Treth Personol
  • yn ap CThEF
  • yn eich Apple Wallet neu’ch Google Wallet (os wnaethoch ei gadw yna o’ch Cyfrif Treth Personol)
  • ar ddogfen sydd gennych eisoes, er enghraifft slip cyflog neu P60

Os oes angen llythyr arnoch sy’n dangos eich rhif Yswiriant Gwladol, gallwch argraffi un o’ch cyfrif treth personol neu drwy’r ap.

Ni fydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn rhoi’ch rhif Yswiriant Gwladol i chi dros y ffôn. Os byddwch yn eu ffonio, gall gymryd hyd at 15 diwrnod i gael llythyr yn cadarnhau’ch rhif Yswiriant Gwladol.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg.

Dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol ar-lein

Bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif treth personol gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Dechrau nawr

Dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol ar ddogfen

Mae’n bosibl y gallwch ddod o hyd iddo ar:

  • slip cyflog
  • P60
  • llythyrau ynghylch treth, pensiynau neu fudd-daliadau

Gofyn i CThEF am eich rhif Yswiriant Gwladol

Os ydych yn dal i fethu â dod o hyd iddo, gallwch wneud y canlynol:

Bydd CThEF yn anfon eich rhif Yswiriant Gwladol atoch drwy’r post a bydd yn cyrraedd cyn pen 15 diwrnod gwaith.

Nid yw CThEF yn anfon cardiau rhif Yswiriant Gwladol mwyach.

Os nad ydych erioed wedi cael rhif Yswiriant Gwladol

Gallwch wneud cais am rif Yswiriant Gwladol os nad ydych wedi cael un o’r blaen.