Canllawiau

Lawrlwytho ap CThEF

Sut i lawrlwytho a chael mynediad at ap CThEF ar ddyfais symudol er mwyn dod o hyd i wybodaeth am eich treth, eich Yswiriant Gwladol, eich credydau treth a’ch buddiannau.

Gwyliwch ein fideo YouTube i weld y gwasanaethau sydd ar gael ar ap CThEF:

Gwneud pethau’n haws gydag ap CThEF

Cael yr ap

Gallwch lawrlwytho’r ap trwy ddilyn y cysylltiadau isod:

Yr hyn mae’r ap yn ei wneud

Mae defnyddio ap CThEF yn ffordd hawdd a chyflym i gael gwybodaeth am eich treth, Yswiriant Gwladol, credydau treth a’ch budd-daliadau.

Gallwch ei ddefnyddio i wirio’r canlynol:

  • eich cod treth
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich incwm a’ch budd-daliadau
  • hanes eich cyflogaeth a hanes eich incwm o’r 5 mlynedd flaenorol
  • y swm o gredydau treth y byddwch yn eu cael, a phryd i ddisgwyl y taliadau hyn
  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad
  • faint o dreth Hunanasesiad sydd arnoch
  • eich Budd-dal Plant
  • eich Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch hefyd ei ddefnyddio i wneud y canlynol:

  • cael amcangyfrif o’r dreth y bydd yn rhaid i chi ei thalu
  • gwneud taliad Hunanasesiad
  • gosod nodyn atgoffa i wneud taliad Hunanasesiad
  • rhoi gwybod am newidiadau o ran credydau treth a llenwi’ch adnewyddiad
  • cael mynediad at eich cyfrif Cymorth i Gynilo
  • defnyddio ein cyfrifiannell treth er mwyn cyfrifo’ch cyflog clir ar ôl didyniadau Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol
  • dilyn trywydd y ffurflenni a llythyrau rydych wedi’u hanfon atom
  • gwneud cais am ad-daliad os ydych wedi talu gormod o dreth
  • gofyn i gynorthwyydd digidol CThEF am help a gwybodaeth
  • diweddaru’ch enw
  • diweddaru’ch cyfeiriad post
  • ychwanegu’ch rhif Yswiriant Gwladol at eich waled ddigidol
  • dewis i CThEF gysylltu â chi yn electronig, yn hytrach na drwy lythyr

Sut i gael mynediad at yr ap

Agorwch yr ap a nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth er mwyn mewngofnodi am y tro cyntaf. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un yn yr ap.

Wedyn, byddwch yn gallu cael mynediad at yr ap yn hawdd ac yn gyflym gan fewngofnodi gan ddefnyddio’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • PIN 6 digid
  • ôl eich bys
  • dull adnabod wynebau

Os nad oes gennych gyfeiriad yn y DU, ac nad ydych yn gwybod beth yw’ch rhif Yswiriant Gwladol, dilynwch yr arweiniad ynghylch sut i ddod o hyd i rif Yswiriant Gwladol sydd ar goll.

Pa mor hygyrch yw’r ap

Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio ap CThEF. Mae ein datganiadau hygyrchedd yn esbonio sut mae’r ap yn gweithio gyda thechnolegau cynorthwyol:

Cyhoeddwyd ar 4 November 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 January 2024 + show all updates
  1. If you do not have a UK address and you do not know your National Insurance number, follow the guidance to find a lost National Insurance number before trying to create a Government Gateway user ID.

  2. You can now use the HMRC app to update your name, save your National Insurance number to your digital wallet and to get help from HMRC's digital assistant.

  3. This page has been updated to show you can use the HMRC app to check your Child Benefit and State Pension, set a reminder to make a Self Assessment payment and choosing to be contacted by HMRC electronically instead of by paper.

  4. Added translation.

  5. Links to the accessibility statements for the HMRC app have been added.

  6. First published.