Mewngofnodi i’ch cyfrif treth busnes CThEF
Os ydych yn rheoli un neu fwy o drethi busnes ar-lein, mewngofnodwch i’ch cyfrif treth busnes i weld eich sefyllfa dreth a rheoli’ch trethi i gyd mewn un man.
Gallwch ddefnyddio’ch cyfrif treth busnes unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer treth busnes ar-lein.
Pwy all ei ddefnyddio
Gall unigolion, unig fasnachwyr, partneriaethau a chwmnïau cyfyngedig ei ddefnyddio er mwyn cael ciplun o’u sefyllfa dreth ar gyfer mwy na 40 o drethi, gan gynnwys:
- Hunanasesiad
- TAW
- TWE
- Treth Gorfforaeth
Os ydych chi’n gwybod eich bod eisoes yn rheoli’ch treth busnes ar-lein, gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif treth busnes.
Defnyddio’ch cyfrif
Gallwch ddefnyddio’ch cyfrif treth busnes CThEF i wneud y canlynol:
- gwirio’ch sefyllfa dreth ar gyfer trethi yr ydych wedi cofrestru ar eu cyfer
- cyflwyno Ffurflenni Treth a gwneud taliadau
- ychwanegu neu ddileu treth, toll neu gynllun
- rhoi caniatâd i aelod o’r tîm i gael mynediad at dreth, toll neu gynllun
- gwirio negeseuon diogel oddi wrth CThEF
- ychwanegu, newid neu fwrw golwg dros asiant treth
- cael help gyda’ch trethi
- diweddaru’ch manylion cyswllt
- cofrestru i gael hysbysiadau di-bapur
- newid eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth a’ch dewisiadau diogelwch
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen yr ID Defnyddiwr a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru treth busnes am y tro cyntaf.
Gwasanaethau y gallwch eu defnyddio drwy’r cyfrif treth busnes
Gallwch ddefnyddio’r cyfrif treth busnes ar gyfer:
- Dyfarniadau Tariffau Ymlaen Llaw
- Dyfarniadau Prisio Ymlaen Llaw
- Datganiadau Warws Alcohol a Thybaco (ATWD)
- Cynllun Cofrestru Cyfanwerthwyr Alcohol (AWRS)
- Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu (ATED)
- Cyfnewid Gwybodaeth yn Awtomatig (AEOI)
- Elusennau
- Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)
- Treth Gorfforaeth
- Datganiadau Electronig i Ohirio Tollau (DDES)
- Gwybodaeth Electronig am Dariff sy’n Rhwymo (eBTI)
- TWE i gyflogwyr
- System Symudiadau a Rheolaeth Ecséis (EMCS)
- Cynllun Diwydrwydd Dyladwy ar gyfer Busnesau Cyflawni
- Gwasanaeth Treth Hapchwarae (GTS)
- Rheoliadau Gwyngalchu Arian CThEF (MLR)
- System Rheoli Mewnforion
- Toll Peiriannau Hapchwarae (MGD)
- Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
- Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW
- System Gludo Gyfrifiadurol Newydd (NCTS)
- System Allforio Newydd (NES)
- Y Gwasanaeth Un Cam (GUC)
- Cynlluniau Pensiwn ar gyfer gweinyddwyr
- Cynlluniau Pensiwn ar gyfer ymarferwyr
- Gwasanaeth Digidol Pensiynau Ar-lein
- Ymarferydd Pensiynau Gwasanaeth Digidol Pensiynau Ar-lein
- Cyfrif treth personol
- Treth Deunydd Pacio Plastig
- Gwasanaeth Ymholiadau Olew Ad-daledig
- Hunanasesiad
- Hunanasesiad ar gyfer partneriaethau ac ymddiriedolaethau
- Gweithle sy’n cael ei Rannu
- Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn
- Treth Dir y Tollau Stamp ar-lein ar gyfer sefydliadau
- Cyflwyno adroddiad cyfryngwr cyflogaeth
- Gwasanaeth Ymholiadau Olew ‘Tied’
- Rhestr Gwerthiannau yn y GE (ECSL)
- Ad-daliadau TAW yr UE
- TAW – Gwybodaeth y Llywodraeth ac Ymddiriedolaethau Iechyd Cenedlaethol (GIANT)
- Gwasanaeth Un Cam ar gyfer TAW — busnesau y tu allan i’r UE (GUC TAW Di-undeb)
- Gwasanaeth Un Cam ar gyfer TAW — busnesau o fewn yr UE (Undeb GUC TAW)
- TAW - Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA)
Rhagor o wybodaeth
Gwyliwch fideo ynghylch sut i ychwanegu treth drwy’ch Cyfrif Treth Busnes.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 February 2024 + show all updates
-
The VAT Reverse Charge Sales List has been removed from the list of services you can use from your business tax account, as this service has been decommissioned.
-
Added 'Advance Valuation Rulings' to the list of services you can use from the business tax account.
-
The list of services you can use from the business tax account has been updated.
-
You can now access the OSS Union scheme through your HMRC business tax account.
-
Watch a video about how to add a service through your Business Tax Account has been added.
-
Added translation