Canllawiau

Rheoli aelodau o’r tîm gan ddefnyddio’ch cyfrif treth busnes CThEF

Dysgwch sut i ychwanegu aelod o’r tîm at eich cyfrif treth busnes a sut i roi mynediad i’r aelod hwnnw at dreth, toll neu gynllun.

Gallwch ddefnyddio’ch cyfrif treth busnes i’ch helpu i reoli’ch holl drethi busnes ar-lein.

Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut y gallwch ychwanegu aelodau newydd o’r tîm at eich cyfrif treth busnes a newid pa wasanaethau y gallant gael mynediad atynt.

Ychwanegu aelod o’r tîm

Gallwch ychwanegu aelodau newydd o’r tîm at eich cyfrif treth busnes drwy ddilyn y camau hyn.

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif treth busnes fel gweinyddwr, a dewiswch ‘Rheoli’r cyfrif’.

  2. Ychwanegwch yr aelod o’r tîm drwy ddewis ‘Gallwch roi caniatâd i eraill gael mynediad at eich cyfrif treth busnes’.

  3. Dewiswch ‘Ychwanegu aelod o’r tîm’, a nodwch fanylion yr aelod. Ar ôl i chi ychwanegu’r aelod o’r tîm, cewch neges i gadarnhau hyn.

  4. Ewch yn ôl i’r rhestr o aelodau’r tîm lle y byddwch yn dod o hyd i’r aelod o’r tîm sydd newydd ei ychwanegu.

  5. Dewiswch ‘Yn ôl i CThEF’.

Rhoi mynediad i aelod o’r tîm at eich gwasanaethau

Gallwch roi mynediad i aelodau newydd neu bresennol o’r tîm at eich cyfrif treth busnes drwy ddilyn y camau hyn.

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif treth busnes fel gweinyddwr, a dewiswch ‘Rheoli’r cyfrif’.

  2. Dewiswch ‘Rhoi’r gallu i aelod o’r tîm gael mynediad at dreth, toll neu gynllun’.

  3. Ar y dudalen ‘Rheoli pwy all gael mynediad at eich trethi a’ch cynlluniau’, dewiswch y tab ‘trethi a chynlluniau’.

  4. Ar y rhes ar gyfer eich gwasanaeth, dewiswch ‘rheoli aelodau o’r tîm’.

  5. Dewiswch yr aelodau o’r tîm yr hoffech iddynt gael mynediad at y gwasanaeth, wedyn pwyswch ‘Cadw’ i gadw’ch dewisiadau.

Cyhoeddwyd ar 29 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 March 2023 + show all updates
  1. The wording in step 2 of adding a team member has been amended to you can give permission to others to access your business tax account.

  2. Added translation.

  3. First published.