Cyfrif treth personol: mewngofnodi neu sefydlu
Defnyddiwch eich cyfrif treth personol i wirio’ch cofnodion a rheoli’ch manylion gyda Chyllid a Thollau EM (CThEM).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae gwasanaeth gwahanol os ydych am fewngofnodi i GOV.UK Verify i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Yr hyn mae angen i chi ei wybod
Gallwch ddefnyddio’ch cyfrif treth personol i wneud y canlynol:
- gwirio’ch amcangyfrif o Dreth Incwm a’ch cod treth
- llenwi, anfon a bwrw golwg ar Ffurflen Dreth bersonol
- gwneud cais am ad-daliad treth
- gwirio a rheoli’ch credydau treth
- gwirio’ch Pensiwn y Wladwriaeth
- olrhain Ffurflenni Treth yr ydych wedi’u cyflwyno ar-lein
- gwirio neu ddiweddaru’ch Lwfans Priodasol
- rhoi gwybod i CThEM am newid cyfeiriad
- gwirio neu ddiweddaru buddiannau a gewch o’r gwaith, e.e. manylion car cwmni ac yswiriant meddygol
- dod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol
Caiff rhagor o wasanaethau eu hychwanegu yn y dyfodol.