Gwirio’ch Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn bresennol

Mae’r gwasanaeth hwn yn cwmpasu’r flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025).

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:

  • gwirio’ch cod treth a’ch Lwfans Personol

  • gweld eich incwm amcangyfrifedig o unrhyw swyddi a phensiynau, a’r dreth y gallwch ddisgwyl ei thalu ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol

  • diweddaru manylion o unrhyw swyddi a phensiynau – mae’n bosibl y byddwch yn talu gormod o dreth neu ddim digon ohoni os nad ydyn nhw’n gyfoes

  • gweld a yw’ch cod treth wedi newid

  • rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am newidiadau sy’n effeithio ar eich cod treth

  • diweddaru manylion eich cyflogwr neu fanylion darparwr eich pensiwn

Ni allwch wirio’ch Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn bresennol os ydych yn talu Treth Incwm drwy Hunanasesiad yn unig.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Cewch wybod pan rydych yn mewngofnodi a oes angen i chi brofi pwy ydych. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.

Gwirio’ch Treth Incwm

Dechrau nawr

Gallwch hefyd ddefnyddio ap CThEF i wirio’ch Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn bresennol.

Os na allwch greu cyfrif treth personol

Cysylltwch â CThEF am gyngor os na allwch greu cyfrif treth personol.

Gallwch hefyd amcangyfrif faint o Dreth Incwm y dylech ei thalu’r flwyddyn hon (yn agor tudalen Saesneg) heb fewngofnodi.

Gwirio treth ar gyfer blynyddoedd blaenorol

Mae ffordd wahanol o wirio faint o Dreth Incwm a daloch y llynedd (6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024).

Gallwch hefyd amcangyfrif faint y dylech fod wedi’i dalu ar gyfer blwyddyn flaenorol (yn agor tudalen Saesneg) heb fewngofnodi.