Gwirio faint o Dreth Incwm a daloch y llynedd
Ar ôl i’ch Treth Incwm gael ei chyfrifo, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i gyfrifo faint a daloch o 6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cyfrifo Treth Incwm pawb rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd.
Ni allwch wirio’ch Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf os gwnaethoch dalu rhan o’ch Treth Incwm y llynedd drwy Hunanasesiad.
Cyn i chi ddechrau
I wirio’ch Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf, bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif treth personol gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.
Os nad oes gennych gyfrif treth personol
Mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch er mwyn creu cyfrif treth personol. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID) eisoes, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.
Bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol neu’ch cod post arnoch, a dau o’r canlynol:
- pasbort dilys y DU
- trwydded yrru cerdyn-llun y DU a gyhoeddwyd gan y DVLA (neu’r DVA yng Ngogledd Iwerddon)
- slip cyflog o’r tri mis diwethaf, neu ffurflen P60 gan eich cyflogwr ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf
- manylion hawliad am gredyd treth, os gwnaethoch un
- manylion Ffurflen Dreth Hunanasesiad, os gwnaethoch un
- gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar eich cofnod credyd, os oes gennych un (megis benthyciadau, cardiau credyd, neu forgeisi)
Gwirio’ch Treth Incwm
Os na allwch greu cyfrif treth personol
Cysylltwch â CThEF am gyngor os na allwch greu cyfrif treth personol.
Gallwch hefyd amcangyfrif eich Treth Incwm (yn Saesneg) ar gyfer blynyddoedd blaenorol heb fewngofnodi.
Gwirio treth ar gyfer y flwyddyn bresennol
Mae ffordd wahanol o wirio faint o Dreth Incwm rydych yn ei thalu yn ystod y flwyddyn dreth hon.
Cael ad-daliad neu dalu’r dreth sydd arnoch
Mae hefyd yn bosibl y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i gael ad-daliad treth neu dalu’r dreth sydd arnoch. Bydd angen llythyr cyfrifiad treth arnoch (a elwir yn ‘P800’) sy’n nodi eich bod yn gallu gwneud hyn ar-lein.
Gallwch ond talu â cherdyn credyd os yw’n gysylltiedig â chyfrif banc busnes. Codir ffi.