Trosolwg

Mae’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn yn defnyddio’ch cod treth i gyfrifo faint o Dreth Incwm i’w chasglu o’ch cyflog neu’ch pensiwn. Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn rhoi gwybod iddo pa god i’w ddefnyddio.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Dod o hyd i’ch cod treth

Gallwch ddod o hyd i’ch cod treth:

Os byddwch yn gwirio’ch cod treth ar-lein neu ar ap CThEF, gallwch hefyd wneud y canlynol:

  • dod o hyd i’ch cod treth ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol 
  • cofrestru i gael hysbysiadau di-bapur – mae hyn yn golygu y bydd CThEF yn anfon e-bost atoch pan fydd eich cod treth yn newid