Codau treth
Pam y gallai’ch cod treth newid
Efallai y bydd CThEF yn diweddaru’ch cod treth os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn dechrau swydd newydd
- rydych yn cael budd-daliadau trethadwy’r Wladwriaeth
- rydych yn dechrau cael incwm o bensiwn neu swydd ychwanegol
- mae swm wythnosol eich Pensiwn y Wladwriaeth yn newid
- mae’ch cyflogwr yn rhoi gwybod i CThEF eich bod wedi dechrau neu stopio cael buddiannau o’ch swydd (yn agor tudalen Saesneg)
- rydych yn hawlio Lwfans Priodasol
- rydych yn hawlio treuliau rydych yn cael rhyddhad treth arnynt
- rydych yn talu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel drwy’ch cyflog neu bensiwn
Mae’n bosibl hefyd y rhoddir cod treth dros dro i chi os byddwch yn newid swydd ac os nad yw’ch manylion incwm yn cyrraedd CThEF mewn pryd.
Os yw’ch cod treth wedi newid, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Gwirio’ch Treth Incwm ar-lein er mwyn dysgu pam.