Codau treth
Os ydych wedi talu gormod o dreth neu heb dalu digon o dreth
Os ydych ar y cod treth anghywir, efallai y byddwch yn talu gormod neu rhy ychydig o dreth. Gallwch gael ad-daliad neu dalu’r dreth sydd arnoch unwaith i Gyllid a Thollau EF (CThEF) gael manylion eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth.
Os ydych am gael ad-daliad ar gyfer unrhyw beth ar wahân i swydd neu bensiwn, gwiriwch sut i hawlio ad-daliad treth.
Os ydych wedi talu gormod o dreth
Pan fydd CThEF yn diweddaru’ch cod treth, bydd yn gwirio a yw holl fanylion eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ganddo.
Os oes ganddo’r holl fanylion, bydd yn cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng faint o dreth rydych wedi’i thalu a faint o dreth y dylech fod wedi’i thalu.
Bydd CThEF yn gofyn i’ch cyflogwr neu ddarparwr pensiwn ad-dalu’r gwahaniaeth drwy eich cyflog. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd pan fydd yn defnyddio eich cod treth newydd.
Pan fydd eich cyflogwr neu ddarparwr pensiwn yn cael eich cod treth newydd, os ydych yn cael eich talu:
- yn fisol - dylai ddefnyddio’r cod ar gyfer eich cyflog nesaf neu’r un ar ôl hynny
- yn wythnosol - dylai ddefnyddio’r cod ar gyfer eich trydydd cyflog
Os nad oes gan CThEF eich manylion
Ni allwch gael ad-daliad nes bo gan CThEF fanylion eich incwm oddi wrth eich cyflogwr, darparwr pensiwn neu swyddfa budd-daliadau.
Os ydych wedi newid swydd, rhowch y P45 (yn agor tudalen Saesneg) o’ch swydd flaenorol i’ch cyflogwr newydd. Os na wnaeth eich cyflogwr blaenorol roi P45 i chi, gofynnwch iddo am un. Gall hyn roi’r manylion sydd eu hangen i CThEF.
Ar ôl diwedd y flwyddyn dreth, mae CThEF yn cael manylion incwm oddi wrth gyflogwyr, darparwyr pensiwn â’r swyddfa budd-daliadau. Yna, bydd CThEF yn gwneud y canlynol:
- gwirio faint o dreth rydych wedi’i thalu
- anfon llythyr atoch os nad ydych wedi talu’r swm cywir
- rhoi gwybod i chi sut gallwch gael ad-daliad, os ydych wedi talu gormod
- diweddaru eich cod treth, os oes angen
Os nad ydych wedi talu digon o dreth
Bydd CThEF yn gwneud y canlynol:
- amcangyfrif faint o dreth sydd arnoch, pan fydd eich cod treth wedi’i ddiweddaru
- addasu’ch cod treth i gasglu’r dreth dros un neu fwy o flynyddoedd treth, os yw’n bosibl
- gwirio’ch treth ar ôl diwedd y flwyddyn dreth ac anfon llythyr atoch os nad ydych wedi talu’r swm cywir
Byddwch yn cael cod treth dros dro tan ddiwedd y flwyddyn dreth. Yn y flwyddyn dreth newydd, cewch eich rhoi ar god treth nad yw’n un dros dro.