Os nad ydych wedi talu’r swm cywir o dreth

Os ydych wedi talu naill ai gormod neu dim digon o dreth erbyn diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill), bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) yn anfon y naill neu’r llall o’r canlynol atoch:

  • llythyr cyfrifiad treth (a elwir hefyd yn P800)
  • llythyr Asesiad Syml

Bydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut i gael ad-daliad neu dalu’r dreth sydd arnoch.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Byddwch yn cael llythyr dim ond os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gyflogedig
  • rydych yn cael pensiwn

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad, bydd eich bil yn cael ei addasu’n awtomatig os ydych wedi tandalu neu ordalu treth. Ni fyddwch yn cael llythyr cyfrifiad treth na llythyr Asesiad Syml.

Pryd bydd y llythyrau’n cael eu hanfon

Bydd y llythyrau yn cael eu hanfon rhwng Mehefin a diwedd Tachwedd.

Pam y gallech gael llythyr cyfrifiad treth

Mae’n bosibl y cewch lythyr cyfrifiad treth naill ai os oes arnoch dreth neu os oes ad-daliad yn ddyledus i chi oherwydd eich bod:

  • ar y cod treth anghywir, er enghraifft oherwydd bod gan CThEF yr wybodaeth anghywir am eich incwm
  • wedi gorffen un swydd, dechrau un newydd a’ch bod wedi cael eich talu gan y naill a’r llall yn yr un mis
  • wedi dechrau cael pensiwn yn y gwaith
  • wedi cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Lwfans Ceisio Gwaith

Pam y gallech gael llythyr Asesiad Syml

Efallai y cewch lythyr Asesiad Syml os:

  • oes arnoch dreth nad oes modd ei thynnu o’ch incwm yn awtomatig
  • oes arnoch dros £3,000 i CThEF
  • oes yn rhaid i chi dalu treth ar eich Pensiwn y Wladwriaeth

Dysgwch sut i dalu eich bil Asesiad Syml.

Bydd angen i chi dalu’r dreth sydd arnoch erbyn dyddiad cau penodol.

Os na anfonwyd llythyr cyfrifiad treth na llythyr Asesiad Syml atoch

Os ydych yn credu eich bod wedi talu gormod o dreth ac nad yw CThEF wedi anfon llythyr cyfrifiad treth atoch, dysgwch sut i hawlio ad-daliad.

Os ydych yn meddwl bod arnoch dreth ac nad ydych wedi cael llythyr, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.