Gwirio’ch bil treth Asesiad Syml

Efallai y cewch lythyr ynghylch Asesiad Syml gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) os:

  • oes arnoch Dreth Incwm nad oes modd ei thynnu oddi wrth eich incwm yn awtomatig
  • oes arnoch £3,000 neu fwy i CThEF
  • oes yn rhaid i chi dalu treth ar Bensiwn y Wladwriaeth

Bydd CThEF yn anfon eich llythyr Asesiad Syml drwy’r naill neu’r llall o’r canlynol:

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Deall eich bil treth

Bydd eich llythyr yn dangos:

  • eich incwm trethadwy (er enghraifft, incwm o gyflog, pensiynau neu fudd-daliadau’r wladwriaeth)
  • unrhyw Dreth Incwm rydych wedi’i thalu
  • y dreth sydd arnoch

Gwiriwch fod y symiau yn eich llythyr yn cyd-fynd â’r symiau yn eich cofnodion, er enghraifft yn eich P60, cyfriflenni banc neu lythyrau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Os telir budd-daliadau’r wladwriaeth i chi bob 4 wythnos, cyfrifwch y cyfanswm a gafodd ei dalu mewn blwyddyn drwy luosi eich taliad rheolaidd ag 13 (nid 12).

Efallai y byddwch yn gallu defnyddio gwiriwr treth CThEF (yn Saesneg) i amcangyfrif faint o dreth y dylech fod wedi’i thalu yn ystod y flwyddyn dreth flaenorol.

Os nad ydych yn deall eich cyfrifiad, gallwch geisio cyngor gan CThEF neu gan weithiwr proffesiynol, er enghraifft ymgynghorydd treth neu gyfrifydd.

Talu’ch bil treth

Os yw’r symiau’n gywir, mae angen i chi dalu’ch bil treth Asesiad Syml.

Mae’n rhaid i chi dalu erbyn naill ai:

  • 31 Ionawr – ar gyfer unrhyw dreth sydd arnoch o’r flwyddyn dreth flaenorol
  • cyn pen 3 mis i ddyddiad anfon y llythyr, os cawsoch hwnnw ar ôl 31 Hydref

Mae’r flwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill.

Os na allwch dalu’ch bil treth mewn pryd

Efallai y bydd CThEF yn awgrymu eich bod yn talu’r hyn sydd arnoch fesul rhandaliad.

Os ydych o’r farn bod eich cyfrifiad treth yn anghywir

Os ydych o’r farn bod y symiau a ddefnyddiwyd yn eich cyfrifiad yn anghywir, ffoniwch neu ysgrifennwch i CThEF cyn pen 60 diwrnod.

Bydd angen i chi nodi’r symiau sy’n anghywir yn eich barn chi, a beth ddylai’r rhain fod.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Os bydd CThEF yn cytuno bod eich Asesiad Syml yn anghywir, caiff llythyr newydd ynghylch Asesiad Syml ei anfon atoch.

Os bydd CThEF yn anghytuno, cewch lythyr o benderfyniad sy’n esbonio pam, sut i dalu, a sut i apelio.

Bydd angen i chi dalu’ch bil treth Asesiad Syml erbyn y dyddiad cau o hyd, oni bai bod CThEF yn rhoi gwybod i chi y bydd yn gohirio’ch dyddiad talu.

Sut i apelio

Os ydych yn anghytuno ag ateb CThEF, gallwch apelio. Bydd eich llythyr o benderfyniad yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn.

Cewch apelio cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad anfon eich llythyr o benderfyniad.

Rhowch wybod i CThEF os oes gennych unrhyw wybodaeth ychwanegol, neu os ydych o’r farn ei fod wedi methu unrhyw beth. Dylech gynnwys y ffigurau cywir yn eich barn chi, a sut yr ydych wedi’u cyfrifo.