Anghytuno â phenderfyniad treth
Apelio yn erbyn penderfyniad treth
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ysgrifennu atoch i roi gwybod a allwch apelio yn erbyn penderfyniad treth.
Mae’r modd yr ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad yn amrywio, yn dibynnu a yw’n dreth uniongyrchol neu anuniongyrchol.
Mae treth uniongyrchol yn cynnwys:
- Treth Incwm
- Treth TWE
- Treth Gorfforaeth
- Treth Enillion Cyfalaf
- Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
- Treth Etifeddiant
Mae treth anuniongyrchol yn cynnwys:
- TAW
- Toll Ecséis
- Toll Dramor
- trethi amgylcheddol fel y Dreth Deunydd Pacio Plastig, y Dreth Dirlenwi neu’r Ardoll Newid Hinsawdd
Apelio yn erbyn penderfyniad treth uniongyrchol
Bydd eich llythyr o benderfyniad yn rhoi gwybod i chi sut i wneud apêl ac erbyn pryd y mae’n rhaid i chi apelio. Mae’r dyddiad cau fel arfer cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad y llythyr.
Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- defnyddio’r ffurflen apelio a gawsoch gyda’ch llythyr o benderfyniad
- ysgrifennu at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad yn y llythyr
Os nad oes gennych lythyr, gallwch ysgrifennu at swyddfa CThEF sy’n gysylltiedig â’ch ffurflen.
Mae’n rhaid i chi gynnwys:
- eich enw neu enw’ch busnes
- eich cyfeirnod treth (bydd hwn ar y llythyr o benderfyniad)
- yr hyn yr ydych yn anghytuno ag ef, a’ch rheswm dros anghytuno
Gallwch hefyd gynnwys y ffigurau sy’n gywir yn eich barn chi, a sut rydych wedi’u cyfrifo, os dymunwch wneud hynny.
Dylech roi gwybod i CThEF hefyd os oes gennych wybodaeth ychwanegol, neu os ydych yn meddwl bod CThEF wedi methu rhywbeth.
Ar ôl i chi anfon eich apêl
Bydd y gweithiwr achos a wnaeth y penderfyniad yn edrych ar eich achos eto ac yn ystyried eich apêl.
Os nad yw’n newid ei benderfyniad ar ôl hyn, bydd adolygiad yn cael ei gynnig i chi. Mae hyn yn golygu y bydd y penderfyniad yn cael ei adolygu gan rywun yn CThEF nad oedd yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol.
Gallwch dderbyn y cynnig o adolygiad neu apelio ar y tribiwnlys treth.
Fel arfer, mae adolygiadau’n gynt nag apeliadau i’r tribiwnlys treth.
Bydd gennych 30 diwrnod o ddyddiad y cynnig o adolygiad i dderbyn y cynnig o adolygiad.
Apelio yn erbyn penderfyniad treth anuniongyrchol
Bydd adolygiad yn cael ei gynnig i chi gan CThEF yn ei lythyr o benderfyniad. Gallwch naill ai dderbyn y cynnig o adolygiad neu apelio ar y tribiwnlys treth.
Bydd gennych 30 diwrnod o ddyddiad y penderfyniad i dderbyn y cynnig.
Os yw’r tollau wedi cymryd eich pethau, gallwch ofyn am eu cael yn ôl (yn agor tudalen Saesneg).