Anghytuno â phenderfyniad treth
Esgusodion rhesymol
Gallwch apelio yn erbyn rhai cosbau os oes gennych esgus rhesymol, er enghraifft dros gyflwyno’ch ffurflen yn hwyr neu dalu’n hwyr.
Yr hyn a all gyfrif fel esgus rhesymol
Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth eich rhwystro rhag bodloni ymrwymiad treth y gwnaethoch gymryd gofal rhesymol i’w fodloni, er enghraifft:
- bu farw eich partner neu berthynas agos arall ychydig cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch ffurflen dreth neu wneud taliad
- bu’n rhaid i chi aros yn yr ysbyty’n annisgwyl, a gwnaeth hynny eich atal rhag delio â’ch materion treth
- roedd gennych salwch difrifol neu salwch a oedd yn bygwth eich bywyd
- methodd eich cyfrifiadur neu’ch meddalwedd yn union cyn i chi baratoi’ch ffurflen ar-lein, neu tra oeddech yn gwneud hynny
- roedd problemau gyda gwasanaethau (yn agor tudalen Saesneg) ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF)
- gwnaeth tân, llifogydd neu ladrad eich atal rhag llenwi’ch ffurflen dreth
- roedd oedi gyda’r post na allech fod wedi’i ragweld
- oedi yn ymwneud ag anabledd neu salwch meddwl sydd gennych
- nid oeddech yn ymwybodol o’ch ymrwymiad cyfreithiol neu roeddech wedi’i gamddeall
- gwnaethoch ddibynnu ar rywun arall (yn agor tudalen Saesneg) i anfon eich ffurflen atom, ac ni wnaeth hynny
Mae’n rhaid i chi anfon eich ffurflen neu’ch taliad cyn gynted â phosibl ar ôl i’ch esgus rhesymol gael ei ddatrys.
Yr hyn na fydd yn cyfrif fel esgus rhesymol
Ni fydd y canlynol yn cael eu derbyn fel esgusodion rhesymol:
- gwrthodwyd eich siec neu methodd eich taliad gan nad oedd gennych ddigon o arian
- gwnaethoch ei chael hi’n rhy anodd defnyddio system ar-lein CThEF
- ni chawsoch nodyn atgoffa gan CThEF
- gwnaethoch gamgymeriad yn eich ffurflen dreth