Talu'ch bil treth Asesiad Syml
Trosolwg
Mae’n rhaid i chi dalu’ch bil treth Asesiad Syml os ydych wedi cael llythyr oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gwirio’ch cyfrifiad Asesiad Syml
Gallwch wirio’ch bil treth Asesiad Syml i ddeall eich cyfrifiad a sicrhau ei fod yn gywir.
Bydd hyn yn eich helpu i ddeall y canlynol:
- y rheswm pam yr anfonodd CThEF Asesiad Syml
- sut mae’ch treth wedi’i gyfrifo
- pa incwm, llog o gynilion neu fuddiannau sydd wedi’u cynnwys
Os yw’r symiau’n gywir, bydd angen i chi dalu’ch bil treth erbyn y dyddiad cau.
Os ydych o’r farn bod unrhyw wybodaeth yn anghywir, mae’n rhaid i chi gysylltu â CThEF cyn pen 60 diwrnod.
Pryd i dalu
Gallwch dalu’r swm sydd arnoch yn llawn neu wneud cyfres o daliadau llai. Os dewiswch wneud taliadau llai, mae’n rhaid i chi sicrhau bod y swm llawn yn cael ei dalu erbyn y dyddiad cau ar eich llythyr Asesiad Syml.
Os byddwch yn cael llythyr Asesiad Syml:
- cyn 31 Hydref 2026 (ar gyfer blwyddyn dreth 6 Ebrill 2025 i 5 Ebrill 2026) - bydd angen i chi dalu’r swm sydd arnoch erbyn 31 Ionawr 2027
- ar neu ar ôl 31 Hydref 2026 (ar gyfer blwyddyn dreth 6 Ebrill 2025 i 5 Ebrill 2026, neu unrhyw flwyddyn dreth gynharach) - bydd angen i chi dalu’r swm sydd arnoch cyn pen 3 mis i ddyddiad y llythyr
Gallwch gael help os na allwch dalu’ch bil treth mewn pryd.
Sut i dalu
Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Gallwch weld hwn ar eich llythyr Asesiad Syml.
Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag ymholiadau Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg) i ofyn i’ch taliad gael ei symud.
Gallwch wneud y canlynol: