Trosolwg

Mae Hunanasesiad yn system y mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ei defnyddio i gasglu Treth Incwm.

Fel arfer, didynnir treth yn awtomatig oddi wrth gyflogau, pensiynau a chynilion. Mae’n rhaid i bobl a busnesau sydd ag incwm arall (gan gynnwys grantiau COVID-19 a thaliadau cymorth) roi gwybod amdano mewn Ffurflen Dreth.

Os oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad, llenwch hi ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) y mae’n berthnasol iddi.

Mae’n rhaid i chi anfon Ffurflen Dreth os bydd CThEF yn gofyn i chi wneud hynny.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosb os na fyddwch yn cyflwyno a thalu mewn pryd.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Anfon eich Ffurflen Dreth

Cyflwynwch eich Ffurflen Dreth ar-lein, neu anfonwch ffurflen bapur.

Dyddiadau cau

Anfonwch eich Ffurflen Dreth erbyn y dyddiad cau.

Gallant roi gwybod i CThEF drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Os na wnaethoch anfon Ffurflen Dreth ar-lein y llynedd, dylech ganiatáu amser ychwanegol (hyd at 20 diwrnod gwaith) gan y bydd angen i chi gofrestru yn gyntaf. Mae ffyrdd gwahanol o gofrestru os yw un o’r canlynol yn wir amdanoch:

Llenwi’ch Ffurflen Dreth

Mae angen i chi gadw cofnodion (yn agor tudalen Saesneg) (er enghraifft cyfriflenni banc neu dderbynebau) fel eich bod yn gallu llenwi’ch Ffurflen Dreth yn gywir.

Gallwch gael help i lenwi’ch Ffurflen Dreth.

Talu’ch bil

Bydd CThEF yn cyfrifo’r hyn sydd arnoch yn seiliedig ar yr hyn yr ydych yn rhoi gwybod amdano.

Talwch eich bil Hunanasesiad erbyn 31 Ionawr.

Bydd faint o dreth a dalwch yn dibynnu ar eich haen Treth Incwm. Mae cyfradd wahanol ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf (yn Saesneg) os oes angen i chi ei thalu, er enghraifft os ydych yn gwerthu cyfranddaliadau neu ail gartref.