Ffurflenni Treth Hunanasesiad
Dyddiadau cau
Mae’n rhaid i’ch Ffurflen Dreth ac unrhyw arian sydd arnoch ddod i law Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau.
Os nad ydych yn gwybod eich elw ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan, mae’n dal i fod angen i chi anfon Ffurflen Dreth. Gwiriwch sut i anfon Ffurflen Dreth os nad ydych yn gwybod eich elw am y flwyddyn gyfan.
Dechreuodd y flwyddyn dreth ddiwethaf ar 6 Ebrill 2024 a daeth i ben ar 5 Ebrill 2025. Mae’r dyddiad cau ar gyfer Ffurflenni Treth cynharach wedi mynd heibio ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb. Anfonwch eich Ffurflen Dreth neu daliad cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi cosbau pellach.
Rhoi gwybod i CThEF a oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF erbyn 5 Hydref os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn flaenorol ac nid ydych wedi anfon un o’r blaen.
Gallwch roi gwybod i CThEF drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad. Gwiriwch sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Os ydych yn cofrestru ar ôl 5 Hydref 2025
Bydd CThEF yn anfon llythyr neu e-bost atoch gyda dyddiad cau gwahanol i anfon eich Ffurflen Dreth erbyn – bydd hyn yn 3 mis o’r dyddiad ar y llythyr neu’r e-bost.
Mae’n dal i fod yn rhaid i chi dalu’r dreth sydd arnoch erbyn 11:59pm ar 31 Ionawr 2026 neu fe gewch chi gosb.
Anfon Ffurflen Dreth bapur
Mae’n rhaid i CThEF gael eich Ffurflen Dreth bapur erbyn 11:59pm ar 31 Hydref 2025 neu byddwch yn cael cosb am gyflwyno’n hwyr.
Gallwch ei hanfon unrhyw bryd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025 cyn belled â bod CThEF yn ei chael erbyn y dyddiad cau.
Cyflwyno Ffurflen Dreth ar-lein
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar-lein erbyn 11:59pm ar 31 Ionawr 2026 neu fe gewch gosb am gyflwyno’n hwyr.
Os ydych am dalu’ch bil Hunanasesiad drwy’ch cod treth, mae’n rhaid i chi ei gyflwyno erbyn 11:59pm ar 30 Rhagfyr 2025. Os byddwch yn methu’r dyddiad cau hwn, bydd yn rhaid i chi dalu mewn ffordd arall.
Gallwch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth unrhyw bryd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025 hyd at y dyddiad cau.
Talu’r dreth sydd arnoch
Mae angen i chi dalu’ch treth Hunanasesiad erbyn 11:59pm ar 31 Ionawr 2026 neu fe gewch gosb.
Mae ail derfyn amser ar gyfer talu sef 31 Gorffennaf os gwnewch daliadau tuag at eich bil - gelwir y rhain yn ‘taliadau ar gyfrif’.
Gallwch ‘amcangyfrif eich bil treth Hunanasesiad’ cyn anfon eich Ffurflen Dreth er mwyn:
-
rhoi syniad i chi o faint mae eich bil yn debygol o fod
-
caniatáu i chi gyllidebu a thalu mewn pryd
Chwiliwch am help ar deall y dreth sydd arnoch.
Ymddiriedolwyr cynllun pensiwn cofrestredig neu gwmnïau dibreswyl
Mae’n rhaid i CThEF gael Ffurflen Dreth bapur erbyn 31 Ionawr 2026. Ni allwch anfon Ffurflen Dreth ar-lein.
Gallwch ei anfon unrhyw bryd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025 cyn belled â bod CThEF yn ei chael erbyn y dyddiad cau.
Ffurflenni Treth Partneriaeth os oes gennych gwmni fel partner
Os yw dyddiad cyfrifyddu’ch cwmni’n syrthio rhwng 1 Chwefror a 5 Ebrill a bod un o’ch partneriaid yn gwmni cyfyngedig, mae’r dyddiadau cau fel a ganlyn:
-
Ffurflenni Treth ar-lein – 12 mis ar ôl y dyddiad cyfrifyddu
-
Ffurflenni Treth papur – 9 mis ar ôl y dyddiad cyfrifyddu