Ffurflenni Treth Hunanasesiad
Sut i gael help
Dewch o hyd i’r cymorth sydd ar gael i’ch helpu chi i lenwi’ch Ffurflen Dreth ac i ddeall rhagor am Hunanasesiad. Gallwch hefyd ddod o hyd i beth i’w wneud os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi.
Help i lenwi’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad
Mae testun help ar gael drwy gydol y Ffurflen Dreth ar-lein i roi gwybodaeth ynghylch sut i lenwi pob adran.
Gallwch hefyd ddod o hyd i arweiniad i’ch helpu i ddeall ac i lenwi’r adrannau o’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Er enghraifft, mae yna adrannau ar gyfer y canlynol:
- hunangyflogaeth
- cyflogaeth
- pensiynau
- incwm arall o’r DU
- eiddo
- enillion cyfalaf
Os ydych chi’n llenwi Ffurflen Dreth ar bapur, gallwch lawrlwytho nodiadau arweiniad i’ch helpu.
Deall Hunanasesiad
Gallwch ddefnyddio diweddariadau drwy e-bost gan CThEF, fideos a gweminarau ar gyfer Hunanasesiad (yn agor tudalen Saesneg) i ddod o hyd i ragor o arweiniad ynghylch Hunanasesiad, fel:
- os ydych chi’n llenwi’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad am y tro cyntaf
- deall eich datganiad Hunanasesiad
- sut i gyllidebu ar gyfer eich bil treth Hunanasesiad
- defnyddio ap CThEF er mwyn gwneud taliad
- sefydlu trefniant Amser i Dalu
Gallwch hefyd ddefnyddio cynorthwyydd digidol CThEF os ydych am ofyn cwestiwn ynghylch Hunanasesiad.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch
Os yw’ch cyflwr iechyd neu’ch amgylchiadau personol yn ei gwneud yn anodd i chi gysylltu â CThEF, gallwch wneud y canlynol:
- penodi rhywun i lenwi ac anfon eich Ffurflen Dreth, er enghraifft cyfrifydd, ffrind neu berthynas
- cael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch
Os bydd angen i chi gysylltu â CThEF
Gallwch gael y canlynol: