Deall eich bil treth Hunanasesiad

Neidio i gynnwys y canllaw

Trosolwg

Cewch fil pan fyddwch wedi cyflwyno’ch Ffurflen Dreth. Os gwnaethoch gyflwyno ar-lein, gallwch weld hwn:

  • pan fyddwch wedi gorffen llenwi’ch Ffurflen Dreth (ond cyn iddi gael ei chyflwyno) – yn yr adran ‘Bwrw golwg dros eich cyfrifiad’

  • ar eich cyfrifiad treth terfynol – gall gymryd hyd at 72 awr ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth iddo fod ar gael yn eich cyfrif

Bydd Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn anfon eich bil yn y post os gwnaethoch gyflwyno’r Ffurflen Dreth ar bapur.

Efallai y bydd angen eich cyfrifiad treth (a elwir yn ‘SA302’) arnoch, er enghraifft os ydych yn hunangyflogedig neu’n gwneud cais am forgais.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Deall eich bil

Mae’ch bil yn cynnwys y dreth sydd arnoch am y flwyddyn dreth ddiwethaf. Gelwir hwn yn ‘taliad mantoli’ ar eich bil.

Os yw hwn yn fwy na £1,000, fel arfer bydd eich bil yn cynnwys taliad ychwanegol tuag at fil y flwyddyn nesaf (a elwir yn ‘taliad ar gyfrif’).

Os gwnaethoch daliadau ar gyfrif flwyddyn ddiwethaf

Bydd angen i chi ddidynnu taliadau ar gyfrif) a wnaethoch flwyddyn ddiwethaf tuag at fil y flwyddyn hon er mwyn cyfrifo’r hyn sydd arnoch.

I wirio’r taliadau ar gyfrif a wnaethoch y flwyddyn ddiwethaf

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein.

  2. Dewiswch yr opsiwn i fwrw golwg ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad ddiweddaraf.

  3. Dewiswch ‘Bwrw golwg ar ddatganiadau’.

Talu’ch bil

Mae angen i chi dalu’ch bil treth Hunanasesiad erbyn canol nos ar 31 Ionawr (yn dilyn y flwyddyn dreth yr ydych yn talu ar ei chyfer) er mwyn osgoi cosb.