Cosbau

Byddwch yn cael cosb os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth a bod y canlynol yn wir:

  • rydych yn anfon Ffurflen Dreth yn hwyr 

  • rydych yn talu’ch bil treth yn hwyr 

Gallwch amcangyfrif eich cosb (yn agor tudalen Saesneg) am Ffurflenni Treth a thaliadau Hunanasesiad hwyr. 

Os byddwch yn cofrestru ar gyfer Hunanasesiad yn hwyr 

Os ydych yn cofrestru ar ôl 5 Hydref ac nad ydych yn talu’ch holl fil treth erbyn 31 Ionawr, byddwch yn cael cosb ‘methu â hysbysu’.  

Mae’r gosb hon yn seiliedig ar y swm sydd ar ôl i’w dalu a byddwch yn ei gael cyn pen 12 mis ar ôl i CThEF gael eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad. 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gosbau ‘methu â hysbysu’.

Os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth yn hwyr 

Byddwch yn cael y cosbau canlynol am gyflwyno’n hwyr: 

  • cosb benodol o £100 

  • ar ôl 3 mis, cosbau ychwanegol o £10 y dydd, hyd at uchafswm o £900 

  • ar ôl 6 mis, cosb bellach sef 5% o’r dreth sy’n ddyledus neu £300, p’un bynnag sydd fwyaf 

  • ar ôl 12 mis, cosb arall sef 5% neu £300, p’un bynnag sydd fwyaf 

Er mwyn osgoi hyn, anfonwch eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad cyn gynted â phosibl. 

Bydd pob partner yn cael cosb os yw Ffurflen Dreth Partneriaeth yn hwyr.

Os byddwch yn talu’ch treth yn hwyr 

Byddwch yn cael cosbau o 5% o’r dreth heb ei thalu ar yr adegau canlynol: 

  • 30 diwrnod 

  • 6 mis 

  • 12 mis 

Byddwn hefyd yn codi llog ar y swm sy’n ddyledus. Er mwyn osgoi hyn, talwch eich bil treth Hunanasesiad cyn gynted â phosibl. 

Talu cosb 

Mae’n rhaid i chi dalu cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad o gosb. Cael gwybod sut i dalu cosb.

Os ydych yn anghytuno â chosb 

Os oes gennych esgus rhesymol, gallwch apelio yn erbyn cosb (yn agor tudalen Saesneg).